Y Sêr: Tom Cruise, Alec Baldwin, Russell Brand, Mary J. Blige, Julianne Hough a Diego Boneta
Y Cyfarwyddo: Adam Shankman
Y Sgrifennu: Justin Theroux, Chris D’Arienzo ac Allan Loeb
Hyd: 123mun
Mae’n sbel go faith ers i mi weld cynhyrchiad hollol ddrewllyd, ond gallaf ddweud â’m llaw ar fy nghalon, dwi heb weld ffilm cynddrwg â Rock of Ages ers oes pys.
Ystyriwch fandiau roc amlycaf yr 80au canol, fel Def Leppard, Guns N’ Roses a Mötley Crüe. Hyd yn oed os nad ydych wedi darllen yr hunangofiant The Dirt, am helyntion honco bost y sêr roc Tommy Lee a Nikki Sixx a’r criw, mae na siawns go dda y byddech yn disgwyl i’r adeg euraidd honno yng ngyrfa rhai o fandiau mwyaf Los Angeles y cyfnod gynnwys llond trol o ryw, cyffuriau, a roc a rôl.
Yn anffodus, mae’r addasiad ffilm o’r “jukebox musical” Rock of Ages- sy’ di denu miloedd o bobol lenwi i theatrau o Broadway i’r West End- mor benderfynol o gynnig fersiwn PG o’r cyfnod hynny o wallt mawr, jîns tynn ac oferedd llwyr, nes fod hyd yn oed yr erchyllbeth Mamma Mia yn cynnig mwy o “edge” na hon.
Gan nad oeddwn i’n un a brofodd y sioe gerdd wreiddiol ar lwyfan, ces fy nenu i weld y ffilm gan hys-bys arbennig o effeithiol, yn gaddo perfformiadau cryfion gan Alec Baldwin a Catherine Zeta Jones, a “comeback” o fath yng ngyrfa’r seren a syrthiodd am seientoleg, Tom Cruise.
Mae gen i ofn mai actorion cynorthwyol yw’r rhain oll mewn cymhariaeth â dau berfformiwr ifanc anioddefol o a arwynebol, sy’n meddianu’r prif stori am y rhan fywyaf o’r ffilm.
Yn fras, mae’r stori’n dilyn dau freuddwydiwr ifanc, Drew (Diego Boneta) a Sherrie (Julianne Hough), sy’n glanio fel gweinyddion yng nghlwb roc ffuglennol The Bourbon Room ar y Sunset Strip ym 1987. Yno, cynhelir gigs mwyaf sîn roc y cyfnod, ac yn gyfrifol am drefnu’r cyngherddau i gyd y mae’r rheolwr Dennis (Alec Baldwin), a’i lefftenant ffyddlon Lonny (Russell Brand).
Ar gychwyn y cynhyrchiad, cynhelir y gyngerdd fwyaf yn hanes y clwb, sef gig ola’r seren anferthol Stacee Jaxx (Tom Cruise) fel aelod o grwp roc Arsenal- noson sy’n llywio ffawd pob un o’r cymeriadau, gan gynnwys gwraig geidwadol darpar-faer LA, Patricia Whitmore (Catherine Zeta Jones), sy’n benderfynol o gau’r clwb i lawr.
O fewn eiliadau i ddechrau’r ffilm, daw’n amlwg mai Grease i Gleeks yw’r ffilm hon, wrth i beirnianydd vocoder y cynhyrchiad enill pob ceiniog o’i gyflog pan ddechreua cymeriad Sherrie ganu fersiwn lân o Paradise City gan Guns N’ Roses ar y bws i LA yng nghwmni corws o gyd-deithwyr.
Erbyn iddi gwrdd â Drew yn y clwb- a syrthio mewn cariad ag e yn syth bin- caiff y ddau eu taro gan yr ysfa i ganu fersiwn siwgwrllyd o Waiting For a Girl Like You gan Foreigner- cân ganol y ffordd a glywyd ddiwethaf ar y Red Dragon Love Hour tua 1991.
Pe bai’r actorion eraill yn cael eu hesgusodi o’r canu cawslyd hyn , mae na bosibilrwydd y bydde na ryw fath o obaith i’r ffilm , ond does neb yn saff. Yn waeth byth, os nad yw’r cymeriadau’n canu caneuon gan fandiau eilradd fel Journey, Starship ac Extreme , mae nhw’n perfformio caneuon gwreiddiol sydd mor druenus nes y tybiaf y bydd Joe Elliott, Axl Rose a Jon Bon Jovi am waed y cyafarwyddwr Adam Shankman am gyfosod eu hanthemau brwnt â’r fath sothach di-ddim.
Yn wir, mae’r cyfarwyddo cyffredinol yn ddiflas tu hwnt, wrth i’r ffilm lynnu at lwyfaniadau gwreiddiol y cynhyrchiad theatrig gan ei wneud yn gynhyrchiad siomedig o statig a saff.
Os oes na lygedyn o oleni yn perthyn i’r cynhyrchiad, yna ymdrechion arwrol Tom Cruise i ddod â bach o swrealaeth i’r ffilm yw hynny , diolch i’w berfformiad didwyll o’r eicon roc Stacee Jaxx. Mae e’n edrych yn wych yn ei gyhyrau, cot ffwr coyote a chaps lledr du, ac yn dwyn fersiwn Val Kilmer o Jim Morrisson o ffilm Oliver Stone, The Doors i gôf, wedi’i groesbeillio â Steven Tyler ac Axl Rose.
Yn gwmni i Stacee Jaxx y mae ei reolwr seimllyd Paul (Paul Giamatti) a’r babŵn bygythiol Hey Man (Mickey y mwnci), sy’n edrych gystal â Stacee yn ei siaced ledr ddu. Y mae’r triawd trawiadol yn brwydro’n ofer yn erbyn perfformiadau di-fflach gan Alec Baldwin-sydd fel arfer mor wych yn 30 Rock- a Russell Brand, sy’n gwyro rhwng acen Cockney a Brummie trwy gydol y ffilm.
Mae’r Gymraes Catherine Zeta Jones yn mynd amdani go iawn fel anghenfiles adain-dde, ac yn rhoi cant y cant i’r dawnsio a chanu, gan wybod yn iawn y caiff wneud fel y mynnai fyth ers ennill yr Oscar am Chicago.
*Mae’r sgôr yn seiliedig ar y system sêr, gyda 5 Cookie yn cynrhychioli’r marc gorau ac 1 Cookie yn cynrhychioli’r gwaethaf. Mae 2 Cookie yn cyfateb i 4 allan o 10.
