Y Sêr: Channing Tatum, Alex Pettyfer, Cody Horn a Matthew McConaughey
Y Cyfarwyddo: Steven Soderbergh
Y Sgrifennu: Reid Carolin
Hyd: 110mun
Am yr eilwaith yr wythnos hon hoeliwyd fy sylw gan berfformiad trydanol gan yr actor o Texas, Matthew McConaughey, mewn ffilm feiddgar tu hwnt.
Yn ogystal â chipio’r cynhyrchiad Magic Mike dan drwynau’r prif sêr, mae e hefyd yn chwarae’r brif ran yn y thriller tywyll Killer Joe, gan bortreadu ditectif a llofrudd sydd yn bresenoldeb sinistr iawn ym mywyd merch fach ddiniwed sy’n ddeuddeg mlwydd oed.
Er mai comedi ysgafn yw’r naill, a drama seicolegol yw’r llall, mae na debygrwydd rhwng y ddau gymeriad carismataidd, Dallas a Joe, wrth iddynt arwain y cymeriadau eraill ar gyfeiliorn gan fygwth dinistrio’u bywydau bregus nhw am byth.
Os gofiwch chi, dyma’r dyn a ddisgrifiwyd ar ganol y 1990au- ar ôl cael ei gastio yn A Time To Kill gyda Sandra Bullock- fel darganfyddiad y ddegawd, ac fe’i benodwyd yn syth bin i glawr cylchgrawn Vanity Fair. Dewisodd rannau anrhydeddus mewn ffilmiau anffodus gan gyfarwyddwr o bwys, tan iddo setlo am chwarae rhestr faith o hyncs hynod hamddenol mewn cyfres o rom-coms di-ddim.
Roedd y ffilmiau hyn, gyferbyn â Kate Hudson, Sarah Jessica Parker a Jennifer Lopez, yn sicr o gymorth wrth iddo enill teitl World’s Sexiest Man yn 2005 gan gylchgrawn People yr Unol Daleithiau (a eglurodd ei apêl i’w ddilynwyr gyda’r disgrifiad “one-man endorphin rush”) ond wnaethon nhw ddim byd i hyrwyddo ei hygrededd artistig yn Hollywood.
Yn ddiweddar, fodd bynnag, ymddengys iddo ail-afael yn awennau ei yrfa wrth ddethol rhannau cwbl wahanol a chryn dipyn mwy diddorol, a synnwn i ddim na chaiff McConaughey enwebiad neu ddau yn 2013 am fod mor barod i archwilio’r ochr dywyll i ddelfryd y Duw Rhyw.
Dyna yn sicr yw prif thema Magic Mike, sydd- ar yr arwyneb o leiaf- yn gomedi ysgafn am griw o ddynion sy’n dawnsio a dinoethi am ddoleri di-ri.
Ond, yn wahanol iawn i’r hysbysebion- sy’n gaddo Full Monty mwy glitzy a lot mwy o hyncs- mae’r ffilm yn rhyfeddol o naturiol ac annisgwyl o drist.
Seren y ffilm yw Channing Tatum, ac efe sydd yn chwarae Magic Mike; dyn ifanc dri deg oed sy’n crafu bywoliaeth fel cynllunydd dodrefn, ac sy’n ariannu ei ddiddordeb angerddol mewn adfer hen bethau wrth lafurio fel tô-wr . Yn anffodus, dydy gosod teils terracotta Tampa, Florida, ddim yn talu’r rhent chwaith, ond yn ffodus i ferched eiddgar y ddinas mae ganddo gyhyrau ar ei gyhyrau a swydd arall nosweithiol yng nghlwb Xquisite.
Pan ddaw tôwr ifanc arall o’r enw Adam (Alex Pettyfer) i ymuno â’r criw, caiff yntau ei ddrafftio i’r strip-club, a’i gyflwyno i Dallas- rheolwr a meistr seremonïau Xquisite- sy’n ei fedyddio’n “The Kid”.
Trwy lygaid y gwyryf cawn gipolwg ar realaeth cefn-llwyfan y clwb, o’r lliw haul ffug ac eillio’r coesau, hyd at ffyrdd hynod ddyfeisgar o or-lenwi’r trôns. Ond yn naturiol, pan gaiff aelod gor-flewog o’r enw Tarzan ei daro’n wael, rhaid i’r Kid gamu i’r adwy, perfformio am y tro cyntaf, a gyrru’r merched yn benwan â nwyd.
Ar ôl sefydlu’r bramant rhwng y mentor annwyl a’r disgybl disglair, cyflwynir hefyd ramant rwystredig rhwng Magic Mike a Paige, sef chwaer The Kid.
Mae Paige (Cody Horn) yn nyrs benstiff a deallus sydd ddim yn ymateb i goreograffi hanner-porcyn a Hi-NRG, a’r peth ola mae hi am brofi yw bochau tîn ei brawd. Pa obaith felly sydd gan Mike i’w hatynnu yn ei chaps lledr tynn?
Yn ychwanegol, daw rhyw rhad a chyffuriau i demtio ambell un- gan daenu cysgod dros gynlluniau uchelgeisiol rhai eraill i dorri yn rhydd.
Er fod yr amlinelliad uchod yn awgrymu sebon sgleiniog ac arwynebol tu hwnt, caiff y cyfan ei fframio mewn arddull andros o naturiolaidd, gan gynnwys deialog ag iddi naws fyrfyfyr, a gwaith camera arbennig iawn.
Ceir yn y stori hefyd is-haen hollbresennol sy’n archwilio caethiwed cynifer o bobol i yrfa arbennig neu ffordd o fyw, pan fo’r system gyfalafol yn mynnu eu llethu yn llwyr.
Dyw Magic Mike ddim yn glasur pum seren o bell ffordd, ond mae iddi elfennau gwerth chweil, diolch i arweiniad cadarn gan y cyfarwyddwr profiadol Steven Soderbergh (Sex, Lies and Videotape, Out Of Sight, Ocean’s Eleven, Traffic a Contagion), sy’n parhau â’i ymchwil i gyflwyno ffilmiau genre o bob math.
Yn sicr, mae perfformiadau’r dynion i gyd yn llwyddianus tu hwnt, gan gydio’n gadarn yng nghomedi naturiol eu sefyllfa swreal. Ac mae’r coreograffi caboledig- gan hyfforddwraig dawnsio Madonna, Alison Faulk- yn sicrhau fod pob golygfa o lwyfan y clwb yn yn siwr o blesio dilynwyr dawns yn ogystal ag annog gwichian a gweiddi gan ambell voyeur- yn enwedig pan ddaw McConaughey ei hun i arddangos ei stwff ar ddiwedd y ffilm.
Fel Boogie Nights (1997) gan Paul Thomas Anderson gynt, a archwiliodd ddiwydiant pornograffi y 1970au yn LA, mae na elfen o dristwch mawr yn perthyn i’r ffilm, sydd yn ei gwneud yn gynhyrchiad credadwy, a diddorol dros ben.
*Mae’r sgôr yn seiliedig ar y system sêr, gyda 5 Cookie yn cynrhychioli’r marc gorau ac 1 Cookie yn cynrhychioli’r gwaethaf. Mae 4 Cookie yn cyfateb i 8 allan o 10.


Hysbysiad: Adolygiadau Ffilm: Side Effects (15) Robot and Frank (12) Oz The Great and Powerful (PG) Stoker (18) The Guilt Trip (12) | Lowri Haf Cooke
Hysbysiad: Adolygiadau Ffilm: Vinyl (15) The Paperboy (15) Welcome To The Punch (15) To The Wonder (12) | Lowri Haf Cooke