Dihangfa o’r Ddinas: Bwyd a Diod Bro Morgannwg

Gyda dyddiau’n unig i fynd tan Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Bro Morgannwg, dyma restr o argymhellion ar gyfer y rheiny ohonoch sydd am deithio y tu hwnt i’r Maes yn Llandŵ i wlychu’ch pig ac i fwynhau tamaid i fwyta.

Coffi

20120728-184802.jpg

Os am gychwyn eich diwrnod ag Espresso o safon, ystyriwch ymweliad â Chaffi Oriel Washington ym Mhenarth, sy’n gweini Coffi Ferrari’s o Fro Ogwr. Yn ogystal â chynnig gofod arddangos i artistiaid lleol a chenedlaethol, mae gan yr oriel hon gaffi dymunol iawn ar lawr gwaelod adeilad Art Deco hardd ar Heol Stanwell.

Nepell i ffwrdd ar Heol Windsor y mae cwmni lleol Coffee #1 (sydd â changhennau yn y Rhath, Pontcanna a chanol dinas Caerdydd), sydd wedi enill gwobrau lu am safon eu coffi. Ac os am ddychwelyd i’r ardal yn hwyrach mlaen ym mis Awst, mae Van Goffi gyda’u coffi arbennig o dda gan James’ Gourmet Coffee yn ymweld â marchnad ffermwyr Penarth ar fore Sadwrn olaf pob mis.

20120801-153637.jpg

Brecwast

20120728-184926.jpg

Ceir sawl caffi o safon ym Mro Morgannwg, ac un o’r llefydd gorau am frecwast hamddenol yw Oscar’s ar Heol Fawr y Bontfaen; ceir yno ddewis helaeth i blesio pawb, gan gynnwys bwydlen “Brunch” tan hanner dydd os am bryd bwyd bach mwy swmpus. Mwynheais Cappuccino arbennig a wnaed o ffa James’ Gourmet Coffee o Rosan-ar-Wy gyda phlatiad o dost sinamwn Ffrengig a jam mafon. I goroni’r cyfan, Bloody Mary bendigedig, fyddai’n berffaith ar gyfer unrhywun fu’n mwynhau Stomp nos Wener rhyw fymryn yn ormod.

Cinio

Wedi bore prysur ar y Maes , mae’n bosib y byddwch awydd dihangfa dros dro a thamaid o ginio. Ar brom Penarth, mae The Fig Tree yn fwyty o safon eithriadol ac ar agor am ginio rhwng dydd Mawrth a dydd Sul. Yn ogystal â dewis da i blesio’r cig-garwyr, ceir yno ddetholiad difyr o seigiau llysieuol; beth am gychwyn gyda salad Groegaidd a Tzatziki’r cartre cyn mwynhau risotto cnau cashiw gyda garlleg gwyllt Penarth fel prif gwrs, a posset lemwn a chompot aeron i bwdin- pris dau gwrs yw £11 a phris tri chwrs yw £13.50. Mae’n werth nodi hefyd mai The Fig Tree ym Mhenarth a gipiodd y Wobr Aur ar gyfer Bwyty Gorau Gwobrau Bwyd ‘Dewis y Bobol’, sy’n rhan o Wobrau Bwyd a Diod Cymru y Gwir Flas 2012.

20120728-190559.jpg

Mae gan Café des Amis, nesaf at Gaffi Oriel Washington ar Heol Stanwell, deras dymunol a bwydlen sy’n pwysleisio seigiau bistro Ffrengig, gan gynnwys Moules Marinières a sglodion garlleg.

20120728-195733.jpg

Neu, os am ginio tipyn ysgafnach ym Mhenarth, beth am ymweld â Foxy’s Deli sydd i’w ganfod ar deras braf Heol Fictoria, ac sy’n cyfuno caffi a delicatessen llawn cynnyrch lleol? Gewch chi groeso Cymraeg gan y perchennog, Siân Fox, sydd wedi cynnal sawl digwyddiad er budd yr Eisteddfod dros y misoedd dwethaf.

20120728-201211.jpg

Peint

Os am beint o gwrw, neu ginio mewn tafarn, mae na ddewis gwych o dafarndai gwledig ym Mro Morgannwg, i gyd yn gwerthu detholiad da o gwrw go iawn. Un o’r goreuon yw’r Plough and Harrow- Tafarn Seidr Orau CAMRA ar gyfer 2012- ym mhentre’s Ar Fawr (Monk Nash) yng ngorllewin y Fro, dafliad carreg o un o draethau mwyaf trawiadol Arfordir Treftadaeth Morgannwg. Mae’r ardd gwrw yn hynod boblogaidd, yn enwedig pan gynhelir farbeciw i gwsmeriaid gyda’r hwyr gydol yr haf.

20120728-200114.jpg

Ystyriwch hefyd dafarn y Blue Anchor yn Nwyrain Aberddawan (Aberthaw), a sefydlwyd yn 1380, pan oedd Aberddawan yn borthladd prysurach o lawer na Chaerdydd a’r Barri. Mae gan y dafarn dô gwellt hynod drawiadol, a dewis ardderchog o gwrw gan gynnwys Wadworth 6X, HPA a Chwerw Brains, yn ogystal â chwrw gwadd gan fragdai Felinfoel, Newmans o Gaerffili a Bryncelyn o Bort Talbot. Os am damaid i fwyta, yna mae’r fwydlen yn amrwio o brydau bar cyfarwydd i seigiau arbennig fel paupiette ysguthan, mingrwn coch wedi’i ffrio, a chregyn gleision o’r afon Exe yn Nyfnaint.

20120728-200506.jpg

Bydd nifer yn siwr o heidio i Lanilltud Fawr sydd ychydig filltiroedd i ffwrdd o Landŵ, lle ceir llond llaw o dafarndai o safon ger sgwâr y dre ac Eglwys Illtud Sant, gan gynnwys tafarn hynafol The Old White Hart .

Yn ogystal, y mae’r Old Swann Inn yn dafarn sy’n dyddio o’r 12ed Ganrif, ac mae bellach ym meddiant cwmni Knife and Fork Food, sy’n gyfrifol am lywio Woods Brasserie Bae Caerdydd, tafarn The New Conway, Pontcanna a Deli Knife and Fork ar Heol Fawr y Bontfaen i lwyddiant. Ceir yno fwydlen ddymunol iawn, a chwrw gan fragdai Dyffryn Gwy ac Otley o Bontypridd.

20120801-153423.jpg

Bum milltir o Lanilltud Fawr, heibio pentre Llandŵ, y mae dewis helaeth o dafarndai ar Heol Fawr y Bontfaen, gan gynnwys y Vale of Glamorgan Inn, TheDuke of Wellington, Horse & Groom, a’r Bear Hotel, sy’n hynod boblogaidd.

20120728-201007.jpg

′Sgod a Sglods

20120728-191153.jpg

Pan fydd arnoch awydd gwynt y môr a phlatiad o fwyd am llai na phumpunt, anelwch am hoff sglodfan Gavin a Stacey, sef Boofy’s ar Ynys y Barri.

20120728-191341.jpg

Anfarwolwyd Boofy’s yn y benod olaf o’r gyfres gomedi boblogaidd, ac mae wedi’i leoli rhwng neuadd adloniant Nessa’s Slots, a chaffi Mario’s, lle roedd cymeriad Stacey yn weinyddes.

20120728-191954.jpg

Hufen Iâ

20120728-190355.jpg

Lle gwell i fwynhau hufen iâ, na ger Pier Penarth, sydd ar agor ers 1895? Ym 1930, ychwanegwyd pafiliwn Art Deco mewn lliwiau pastel hardd at y pier sy’n 230metr o hyd, ac mae’n dal i fod yn atyniad poblogaidd.

Er mai hufen iâ Thayers o Gaerdydd fu ar werth yn y Pier Cafe am genedlaethau lawer, hufen iâ Mario Dallavalle o Sir Gâr sydd ar werth yno ar hyn o bryd, tra fod David Thayer yn ceisio datgymalu ei gwmni o broblemau ariannol y perchnogion.

Tê P’nawn

20120728-194150.jpg

Tra fod paned o dê ar gynnig ym mhob caffi y fro, mae seremoni Tê Prynhawn yn brofiad tra gwahanol. Os oes plant gyda chi, neu os fyddwch awydd brêc o’r Brifwyl, ewch am dro i Erddi Dyffryn, lle gewch chi baned a sgonsen digon pleserus. Yng nghanol Llanilltud Fawr, nid nepell o’r sgwâr, mae gan Ystafelloedd Tê Elaine’s fwydlen sy’n cynnig pob math o ddanteithion. Ond os am awren arbennig a thipyn o ffys, a hynny am lai nag wythbunt, rwy’n awgrymu eich bod chi’n archebu bwrdd yn The Quarter Penny Café ar Heol Fawr y Bontfaen, i chi gael mwynhau Tê P’nawn tip-top.

20120728-185627.jpg

Am £7.95 cewch debotaid o dê, pedair brechdan agored , sgonsen a thafell o deisen foron; am £4 ychwanegol cewch lasied o Pimms, neu am bumpunt cewch lasied o win pefriog Prosecco.

Glasied o Win

Os byddwch wedi cael blas ar y gwin yn y Quarter Penny Café beth am ofyn yn garedig i’ch cymar eich tywys i Winllan Llanerch, nid nepell o gyffordd 34 yr M4 ar gyrion pentre Hensol.

20120728-185747.jpg

Y mae’r dewis o winoedd sydd ar fwydlen y bar braf yn cynnwys enghreifftiau o gynnyrch lleol Llanerch. Mwynheais wydryn amheuthun o win gwyn canolig Cariad am £3.15, gyda blas ysgafn mandarin a phersawr o flodau’r winllan.

Swper

Yn dilyn diwrnod cyfan o hob-nobio ar y Maes, byddwch yn barod am wledd pum seren i swper. Hoffwn argymell dri lle gwahanol sy’n cynnig pryd bwyd o safon eithriadol, sy’n siwr o greu argraff fawr arnoch.

Illtud’s 216 yn Llanilltud Fawr

20120728-194330.jpg

Ar ôl blynyddoedd wrth y llyw yn rhai o fwytai gorau Ewrop (gan gynnwys y Langham a’r Savoy yn Llundain), daeth Georg Fuchs i Gymru fel prif gogydd St David’s Hotel & Spa ym Mae Caerdydd, cyn penderfynu sefydlu ei fwyty ei hun ym Mro Morgannwg.

20120728-195038.jpg

Mae ei fwyty dymunol ef a’i wraig Einar yn llawn cymeriad a hanesion hynod; fe’i sefydlwyd fel tafarn yn ystod y 16ed Ganrif, ac mae’r enw’n cyfeirio at y nifer o alwyni sy’n llenwi casgen gymysgu. Mae’r fwydlen yn gwneud defnydd helaeth o gynhwysion Cymreig, a ces i flas da ar y darten gaws gafr Pant Ysgawn gyda llugaeron, nionyn coch wedi’i garameleiddio, dail roced a finegr Balsamig.

20120728-194520.jpg

Pan glywais mai un o Graz yn Awstria yw Georg Fuchs, bu’n rhaid profi ei Strüdel Afal a hufen, oedd yn wirioneddol ardderchog.

20120728-194803.jpg

Pier 64, Marina Penarth

20120728-192149.jpg

Tristhawyd nifer o foodies Caerdydd pan gaewyd Le Gallois Pontcanna yng Ngwanwyn 2011. O fewn wythnosau, fodd bynnag, roedd y perchennog Francis Dupuy wedi agor steakhouse ar stilts ym marina Penarth, felly bu’n rhaid archebu bwrdd ar unwaith. Es i yno yn gyntaf yng nghwmni criw mawr, a cafwyd prynhawn bendigedig ar y teras tu fas yn mwynhau diodydd ac awyrgylch ardderchog. Rai misoedd yn ddiweddarach, dychwelais ar liwt fy hun am stecen eidion o lygad yr asen a sglodion perffaith, gyda glasied o Pinot Noir Ffrengig.

20120728-192735.jpg

Arboreal ar Heol Fawr y Bontfaen

20120728-193304.jpg

Ganol gaeaf, ces fy nghomisiynu i brofi bwyty newydd Arboreal, ar gyfer adolygiad i gylchgrawn Red Handed. Es i a fy chwiorydd yno ar noson rewllyd o Ragfyr a chanfod croeso cynnes mewn llecyn chwaethus ond hamddenol, sy’n gyfuniad o Scandi-chic a cŵl Cymreig. Ceir yno far braf yn yr ystafell flaen, lle gweinir amrywiaeth o goctêls, ac yno y buom yn eistedd tan gawson ni ein harwain at yr ystafell gefn, sydd yn fwrlwm o weithgaredd oherwydd presenoldeb y gegin agored.

Yno’n arwain y tîm o gogyddion y mae’r chef Joe Wright o Le Gallois gynt, a gwneir defnydd helaeth o gynhwysion lleol a thymhorol. Roedd y dair ohonom wrth ein bodd gyda’r seigiau cyntaf, sef terin coes mochyn a phicalilli blasus iawn, a chowder corbenfras wedi’i fygu oedd yn hyfryd o hufennog. Ond yr uchafbwynt, heb os, oedd y platiad i rannu o gaws Cenarth Aur, wedi’i bobi â garlleg a’i weini a bara ffres a detholiad amryliw o lysiau lleol.

20120728-193513.jpg

Dilywnyd hynny gan gyw iâr wedi’i rostio mewn saws taragon; cyri llyffant y môr gyda chardamom a chlof, a pizza ham Serrano- i gyd wedi’u paratoi yn y popty agored- ac i orffen, gellyg wedi’u potsio mewn gwin poeth, a brownies Gower Cottage a hufen iâ fanila cwmni lleol Wild Fig, oedd yn hollol fendigedig.

Allai ddim canmol y lle ddigon, ac yn wir, pan ddychwelais ym mis Mawrth , ces fy nghyflwyno i gwpwl o Gaerffili oedd wedi teithio yno’r prynhawn hwnnw ar ôl darllen fy adolygiad. Efallai mai’r prawf gorau i Arboreal fy hudo i’n llwyr yw y byddaf yno eto i ddathlu fy mhen blwydd ar Awst 7ed, sy’ wastad yn glanio yn ystod wythnos yr Eisteddfod.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Bwyd, Dihangfa o'r Ddinas, Tafarn/ Bar. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

8 Ymateb i Dihangfa o’r Ddinas: Bwyd a Diod Bro Morgannwg

  1. Linda Brown yn dweud:

    Wow da ti ….digon o ddewis yn fan hyn does. nai brintio fo allan yn gwaith fory fel bod o gen i yn y garafan ar faes y steddfod waaaah!!!! Gobeithio dy weld yn rhywle xx

  2. Hysbysiad Cyfeirio: Lowri Cooke: ‘Dihangfa o’r Ddinas: Bwyd a Diod Bro Morgannwg’ | Blogwyr Bro

  3. huwwaters yn dweud:

    Defnyddiol iawn. Diolch!

    Byswn i’n disgwyl i boblogrwydd y llefydd ma godi achos y wefan ma, nid yn unig yr Eisteddfod.

  4. Hysbysiad Cyfeirio: Awgrymiadau am lefydd i fwyta ym mro’r Eisteddfod | Blogwyr Bro

  5. Richard Nosworthy yn dweud:

    Jiw jiw – lot o ddewisiadau fanna! Es i’r Plough and Harrow yn ddiweddar a joio’r selsig Morgannwg yn fawr (gyda sglods, wrth gwrs).

  6. Hysbysiad Cyfeirio: Bwyty Cariad, Gwinllan Llanerch | Lowri Haf Cooke

  7. Hysbysiad Cyfeirio: Canllaw Bach Caerdydd: Mis Gorffennaf | Lowri Haf Cooke

  8. Hysbysiad Cyfeirio: Canllaw Bach Caerdydd: Mis Awst a Mis Medi | Lowri Haf Cooke

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s