Gyda’r Eisteddfod Genedlaethol ar ben am flwyddyn arall, beth arall sy′ ′na i ddenu’r sylw, i lenwi’r gwacter, ac i’n cadw ni fynd dros wythnosau olaf yr haf? Wel, os y chi’n darllen y blog hwn yr eilad hon, efallai y bydde ganddoch chi ddiddordeb i glywed am Wobrau Blogiau Cymru 2012.
Dyma’r drydedd waith i’r gwobrau blynyddol hyn gael eu cynnal ers eu sefydlu’n wreiddiol yn 2010, ac am y tro cyntaf does na ddim categori penodol ar gyfer Blog Gorau yn yr Iaith Gymraeg, sy’n golygu y gall rhywun enwebu unrhyw flog Cymraeg yn un o’r 11 categori, sy’n amrywio o Ysgrifennu Gorau ar Flog hyd at y Blog Gorau.
Ymhlith y beirniaid y mae’r cyn-enillydd Ruthie Davies; Lorna Doran a Jessica Best, sy’n newyddiadurwyr ar-lein gyda Wales Online; yr awdur a’r blogiwr Ifan Morgan Jones, a Katie Chapelle, sy’n cynrhychioli trefnwyr y gwobrau, sef cwmni Warwick Emanuel PR.
Byddai’n grêt gweld y Gymraeg yn cael cynrhychiolaeth deg ymysg y blogiau gaiff eu henwebu eleni- a ceir dewis helaeth ohonynt ar wefan Blogiadur- ond i sicrhau hynny, rhaid i chi, y darllenwyr, enwebu’r blogiau hynny sydd orau ganddoch chi.
Os ydych chi’n cael cymaint o hwyl ar ddarllen fy mlog i ag yr ydw i’n cael ar yr ysgrifennu, mi fydden i’n ddiolchgar tu hwnt pe baech yn fodlon ystyried enwebu blog Merch y Ddinas yn y categori ry chi’n teimlo sydd fwyaf addas. Gallwch wneud hynny yma.
Dyddiad cau yr enwebiadau yw dydd Gwener, Awst 17- felly siapwch hi!
