Dydd Gwener diwethaf oedd fy niwrnod olaf yn gweithio yn BBC Radio Cymru, a diolch i’m cydweithwyr ffantastic, gadewais fy swydd mewn cryn dipyn o steil.
Y tro cyntaf i mi fyned adeilad trawiadol y Ganolfan Ddarlledu yn Llandaf oedd ′nol yn 2001. Ro’n i’n gweithio gydag Arwel Ellis Owen a John Hefin yng nghwmni Cambrensis ar raglen ddogfen Cofio Gwenlyn ar y pryd, a trefnwyd ymweliad i gael pori trwy’r archif ar gyfer rhaglen deyrnged arbennig iawn.
Dwi’n cofio teimlo gwefr arbennig wrth esgyn y grisiau i’r adeilad eiconig- a gynlluniwyd gan gwmni pensaerniol Syr Percy Thomas a’i Fab cyn agor yn swyddogol ym 1967- a meddwl tybed sut brofiad fyddai gweithio yn y fath le. O fewn ychydig fisoedd, ces i fy ateb ar ôl ennill swydd Ymchwilydd gyda BBC Radio Cymru, ac yn dilyn ychydig dros 11 mlynedd yno, fedra i ddweud â’m llaw ar fy nghalon, roedd yn brofiad bythgofiadwy, a hapus dros ben.
Ges i’r cyfle i deithio Cymru benbaladr a gweithio ar raglenni hollol amrywiol dros y blynyddoedd, o strands dyddiol fel rhaglen Nia, Eleri a Dafydd, Dafydd a Caryl, Hywel a Nia ac C2, i gyfresi dogfen tu hwnt o ddirdynnol fel Pawb â’i Brofiad a Môr o Gariad- yn ogystal â dwy gyfres o O Flaen Dy Lygaid yn adran Ffeithiol BBC Cymru ar gyfer S4C. Ymysg dwsinau o raglenni eraill, ces i hefyd y pleser o weithio ar ragleni wythnosol Stiwdio gyda’r hyfryd Kate Crockett ac Y Celfyddydau a Beti a’i Phobol gyda brenhines darlledu Cymru, Beti George.
Fel un sydd wrth ei bodd yn holi ac- efallai’n bwysicach- yn gwrando ar bobol yn siarad yn ddifyr ac o’r galon wrth gytuno i gyfrannu i’r holl raglenni hyn, roedd cael y cyfle i gysylltu â chyfranwyr niferus dros y blynyddoedd- a threulio amser yn clywed eu hanesion ar gyfer briffiau’r cyflwynwyr- yn bleser pur. A fedra i ddim meddwl am well hyfforddiant fel sgwenwraig na chynhyrchu briffiau difyr ar fyrder ar gyfer cyflwynwyr fel Hywel Gwynfryn, Nia Roberts, Guto Harri a Beti George.
Yn wir, dros y blynyddoedd, yn ogystal â chael y pleser o ymchwilio, golygu a chynhyrchu rhaglenni amrywiol, sylweddolais gymaint roeddwn i’n mwynhau ysgrifennu, a darlledu, a hynny yn yr iaith Gymraeg. Dros y bedair blynedd ddiwethaf, dwi wedi datblygu gyrfa ddifyr fel adolygydd ffilm, beirniad celf, a sgrifenwraig i gyhoeddiadau niferus, yn ogystal ag awdur cyfrol am Gaerdydd, sydd i’w chyhoeddi gan Wasg Gomer cyn bo hir.
Wrth adael y gorfforaeth, y cynllun yw parhau i sgrifennu, darlledu, ymchwilio a chynhyrchu, yn ogystal â datblygu prosiectau eraill fy hun, a diolch i fy mhrofiad hirfaith yn Radio Cymru dwi’n gwbod nad dyma fydd diwedd fy mherthynas gyda’r BBC na fy nghydweithwyr gwych.
A sôn am fy nghydweithwyr, rhaid i mi bwysleisio’r pleser ges i dros yr 11 mlynedd dwethaf, o gael eu cwmni nhw i gyd. I wrandawyr yr orsaf genedlaethol, y cyflwynwyr a’r cyfranwyr yw’r enwau mawrion, ac mae hynny’n ddigon teg. Ond fel un sydd wedi gweithio tu ôl i’r llenni, hoffwn bwysleisio fod yr hyn a gyflawnir o dan bob math o bwysau gan dîm cymharol fychan ond ymroddgar o weithwyr yn wyrthiol, diolch yn bennaf i’r parch, ymddiriedaeth ac ewyllys da sy’n bodoli ymysg y timau amrywiol, heb sôn am yr hwyl a’r hiwmor hollbresennol sy’n eu cynnal nhw i gyd.
Ymysg y tîm hwnnw y mae gen i ffrindiau gorau ac eneidiau hoff cytun, ac un o’r pleserau mwyaf ges i wrth weithio i Radio Cymru dros y blynyddoedd oedd cael chwerthin bob dydd yn eu cwmni, yn amlach na pheidio hyd at ddagrau- a hynny mewn ffordd hynod dda!
Nid pawb all ddweud hynny, ac felly roedd hi’n bleser di-hafal cael dathlu fy niwrnod olaf yng nghwmni fy ffrindiau hyfryd wrth fwynhau rhai o dafarndai pentre Llandaf ar ddiwedd y prynhawn, cyn cael gwibdaith ar Cardiff Bus, a phryd o fwyd ardderchog ym mwyty Casanova yng nghanol y dre.
Nid dyma’r lle i gyhoeddi adolygiad call o fwydlen ragorol Casanova; mi wna i hynny rhywdro eto, ond yn y cyfamser, gobeithio y gwnaiff y lluniau isod eich denu i’r cornel cyfrin hwn ar Stryd y Cei, sy’n llawn haeddu ei broliant fel un o fwytai gorau Caerdydd.
Cwrs Cyntaf: Polenta wedi’i grilio gyda Chaws Gorgonzola Perlysiau Bychain a Madarch Gwyllt
Cwrs Cyntaf: Caws Mozzarella Buffalo a Halen Maldon gyda Caponata (stiw traddodiadol chwerwfelys gyda thomato, olew, a phlanhigyn wy)
Cwrs Cyntaf: Antipasto Misto (salami a chigoedd oer gyda detholiad o gawsiau a llysiau wedi’u piclo)
Prif Gwrs: Risotto Corgimychiaid Mawrion
Prif Gwrs: Ravioli Sgwash Cnau Menyn
Prif Gwrs: Cyw Iâr ar Wely o Ffacbys
Prif Gwrs: Rag Cig Oen y Glastraeth
Pwdin: Ganache Siocled gyda Charamel Hallt
Diolch yn fawr iawn i bawb o deulu hyfryd Radio Cymru ddaeth i ymuno â mi am noson arbennig iawn- edrych ymlaen i’ch gweld chi eto cyn bo hir.

















