Y Sêr: Liam Neeson, Maggie Grace, Famke Janssen, Rade Serbedzija
Y Cyfarwyddo: Olivier Megaton
Y Sgrifennu: Luc Besson a Robert Mark Kamen
Hyd: 90mun
Cyfaddefiad i ddechrau: dwi ddim yn gwbod sut, ond collais i Taken yn llwyr pan gafodd ei rhyddhau yn 2008. Felly am y tro cyntaf erioed, gwelais ddilyniant ffilm heb brofi ei rhagflaenydd.
Wnaeth y ffaith cywilyddus hwn amharu ar fy mwynhad o Taken 2? Naddo wir yw’r ateb plaen; gallwch yn hawdd ei mwynhau ar ei liwt ei hun, a dwi’n benerfynol o weld y ffilm gyntaf.
Mae’r ffilm antur hynod gyffrous hon yn cofleidio newydd-ddyfodwyr wrth egluro’r cefndir yn syth. Ac am awr a hanner, hoeliwyd fy sylw gan berfformiadau cryfion a stori dda.
Mae’r diolch am hynny i feistrolaeth lwyr y tîm cynhyrchu, sydd â chefndir anrhydeddus wrth gyflwyno cyffro hi-octane trwy gyfrwng y sinema.
Ydy hynny’n gwneud Taken 2 yn ffilm wych? Nacydy wir. Ond fedrwch chi ddim gwadu’r ffaith ei bod hi’n cynnig naw deg munud o adloniant pur.
Tair elfen â’m denodd i weld y cynhyrchiad hwn heb weld y cyntaf; yr actor Liam Neeson, y sgrifennwr Luc Besson a dinas Istanbul- lle osodir y ffilm.
Coeliwch neu beidio ond mae’r actor amryddawn o Ogledd Iwerddon yn 60 oed eleni. Ac yn dilyn gyrfa faith ar lwyfan ac yn serennu mewn ffilmiau mor amrywiol â Schindler’s List, Michael Collins, Star Wars I: The Phantom Menace, Love, Actually a Batman Begins, mae Neeson wedi canfod arwr anfarwol arall yng nghymeriad Bryan Mills, sef cyn-ysbîwr gyda’r CIA.
Yn Taken 2, sefydlir o’r cychwyn cyntaf mai gwyliau yn Istanbul sydd dan sylw Bryan- ac y benodol, dihangfa dros dro i’w gyn-wraig Lenore (Famke Janssen) a’u merch sydd yn ei harddegau, Kim (Maggie Grace). Bu’r teulu dan bwysau mawr ar ôl digwyddiad erchyll sy dal yn gysgod dros y tri.
Dwy flynedd yn ôl ym Mharis, herwgipiwyd Kim gan griw o fasnachwyr rhyw o Albania, ac yn dilyn cyflafan erchyll cafodd ei hachub gan ei thad. Ond, yn ddiarwybod i’r Americanwyr, y mae penteulu’r Maffia Albaniaidd Murad Krasniki (Rade Serbedzija) yn benderfynol o ddial ar y teulu Mills, yn dilyn marwolaeth ei fab.
Caiff Bryan a Lenore eu cipio’n syth bin, tra’n ceisio cynnau tân ar hen aelwyd, ond trwy ryw ryfedd wyrth caiff Kim ei sbario- a dim ond hi all achub ei rheini.
Rhaid gohirio eich synnwyr o anghrediniaeth yn llwyr ar gyfer y rhan fwyaf o Taken 2. Ond i fod yn deg gyda’r ffilm, mae clyfrwch y sgript a’r golygu slic yn cynnal y stori yn dda.
Mae’r diolch yn bennaf i’r auteur o Ffrainc Luc Besson; cyd-awdur y sgript a prif fentor y cyfarwyddwr Olivier Megaton.
Ar ôl creu argraff anferthol ar gynulleidfaoedd ledled y byd ar y hyd y 1980au gyda chyfres o ffilmiau Ffrengig chwyldroadol, fel Subway, The Big Blue a La Femme Nikita, cafodd Besson ei hudo i Hollywood. Yno, fe lywiodd e’r clasur Leon- gyda Jean Reno a Natalie Portman- i lwyddiant anferthol.
Ond wedi cyfres go sigledig o dyrcwn mawr fel Joan of Arc a The Fifth Element, dychwelodd i Ffrainc i sefydlu ei gwmni i hun a lawnsio cyfres o ffilmiau antur hynod lwyddiannus.
Besson, yn wir, sy’n bennaf gyfrifol am lwyddiant gyrfa’r actor Jason Statham- seren ei gyfres Transporter- ac mae ei hit mawr yntau eleni, y ffilm antur Safe, yn deyrnged o fath i Leon Luc Besson.
A dyna yw’r unig broblem, mae’n debyg, gyda Taken 2- mae hi’n ffilm dda iawn mewn marchnad gor-boblog. Gyda Safe, a saga Bourne, rhaglen deledu Homeland a chyfres James Bond, rhaid cynnig rhywbeth gwirioneddol arbennig i gyrraedd brig genre ffilm y spy-thriller.
Mae cyfres Taken yn sicr yn y pump uchaf o ran ffilmiau cyfoes o’r fath, ond rhaid gofalu gyda’r drydedd (sydd newydd ei chadarnhau) na chaiff cymeriad penderfynol Bryan Mills- a goslef bygythiol ei lais- ei droi yn pastiche llwyr o’i hunan.
Un elfen sydd yn sicr o’i phlaid hi, fodd bynnag, yw ei lleoliad gwych- toc cyn i ffilm fawr arall nid anhebyg wneud defnydd o union yr un ddinas.
Hyd yma dyw dinas wefreiddiol Istanbul ddim wedi serennu gymaint â hynny ar sgrîn, ond eleni, mae hi’n debygol o ddenu miliynau o ymwelwyr , diolch i Taken 2 a’r benod hirddisgwyliedig nesa yn saga James Bond, sy’n agor ddiwedd yr wythnos- Skyfall.
Fe wnes i ymweld â’r ddinas yn gynharach eleni, a serch y dinistr di-ri a brofir ar hyd ei strydoedd- ac yn yr olygfa derfynol, ym maddondy ager Hamam Camberlitas- mae hi’n leoliad perffaith ar gyfer dwy ffilm fawr o’r fath, a bydd ei dinasyddion ar ben eu digon i’w gweld yn disgelirio ar y sgrîn arian.
*Mae’r sgôr yn seiliedig ar y system sêr, gyda 5 Cookie yn cynrhychioli’r marc gorau ac 1 Cookie yn cynrhychioli’r gwaethaf. Mae 3 Cookie a hanner yn cyfateb i 7 allan o 10.

Hysbysiad: Adolygiad Ffilm: A Good Day To Die Hard (12) | Lowri Haf Cooke