Adolygiad Theatr: Dyled Eileen (Theatr Genedlaethol Cymru)

Dyled Eileen

Katharine Hepburn a Spencer Tracy, Richard Burton ac Elizabeth Taylor, Humphrey Bogart a Lauren Bacall; tair rhamant fawr o’r Ugeinfed Ganrif a hudodd gynulleidfaoedd di-ri.

Feddyliais i ddim, wrth deithio i Ganolfan Gelfyddydau Pontardawe, y profwn i ramant fawr i gystadlu ag un o’r rhain, ond diolch i gynhyrchiad diweddara y Theatr Genedlaethol, gallwn ychwanegu enwau Trefor ac Eileen Beasley i’r restr fawreddog honno.

Yn wir, rhaid cyfadde, gyda theitl fel Dyled Eileen, mai disgwyl gweld sioe-un-ddynes a wnes dan ofal fy hoff actores Gymraeg

A minnau wedi mwynhau perfformiadau unigol diweddar Helen Griffin yn Who’s Afraid of Rachel Roberts a phortread Richard Elfyn o David Lloyd George yn The Wizard, The Goat and The Man Who Won The War, edrychais ymlaen at wers hanes go werthfawr yng nghwmni Rhian Morgan.

Nid dyna a gafwyd- ddim yn union ta beth, er fod yr actores o Dreforys yn bresenoldeb cyson ar hyd y cynhyrchiad. Yn gwmni iddi hi ar lwyfan y mae dau actor disglair sy’n chwarae Trefor ac Eileen ym mlodau eu hantur fawr.

Dywedodd y gyfarwyddwraig Elen Bowman yn fideo lansio tymor newydd y Theatr Gen iddi gael “itha sioc bo fi ddim yn gwbod mwy” am Eileen Beasley; y wraig o Langennech a frwydrodd gyhyd ar y cyd â’i gwr i fynnu statws gyfartal i’r iaith Gymraeg.

Mae hi yna’n rhywle, yn llechu yn y côf, fel aelod o gast estynedig “brwydr yr iaith” fondigrybwyll. Camp fawr yr awdur Angharad Tomos yw iddi lunio sgript sy’n dod a’r côf yn fyw o’n blaenau, ac sy’n ein hatgoffa fod eu stori nhw yr un mor berthnasol i ni heddiw.

Ymhell cyn i Saunders Lewis gyfeirio at safiad y Beasleys yn ei ddarlith radio “Tynged yr Iaith”- y clywsom bytiau ohoni yng nghynhyrchiad diwethaf y Theatr Genedlaethol, Y Bont- bu’r ddau’n brwydro’n unig am gael talu eu trethi yn yr iaith Gymraeg. Rhwng 1952 a 1960, buont yn y llys 16 gwaith ac ysbeiliwyd eu cartref droeon fel cosb am  herio’r awdurdodau.

Fel y gwelwn yn y ddrama, cymerwyd bron popeth oddi wrthynt gan fwmbeili gwasaidd, Cymraeg ei iaith ; holl gynnwys y parlwr a theganau’r plant- ond dyfalbarhau wnaeth y ddau tan iddynt lwyddo.

Ar ddechrau’r ddrama, deallwn mai merch fferm oedd Eileen Beasley, a aeth i Gaerdydd i’r brifysgol cyn dychweld i Sir Gâr i ddysgu Cymraeg i blant ysgol. Ond yn dilyn monolog hyfryd ar ddechrau’r darn, sylweddolwn nad merch gyffredin mohoni.

Mae cymeriad Eileen yn rodd yn wir i actores o fri, ac fe hoeliodd Rhian Morgan sylw’r gynulleidfa yn syth gyda’i molawd i’w milltir sgwâr, diolch i’w hacen hardd a’i huodledd hynod.

Yn fuan wedi hynny, ymunwyd yr Eileen oedrannus ar lwyfan gan ei fersiwn iau – a chwaraewyd gan Caryl Morgan (Izzy yn Pobol y Cwm)- a daeth i’r amlwg mai cywaith hardd rhwng y ddwy actores yw’r prif gymeriad.

Dyled Eileen Rhian Morgan a Caryl Morgan(Llun: Hawlfraint Keith Morris)

Profwyd chwa pellach o egni newydd ar gyflwyniad ei darpar wr, Trefor, ac roedd Ceri Murphy yn llwyddiant mawr fel y llanc o Langennech. Gyda’i amseru comig perffaith a’i afael cadarn ar y sgript, cawsom ein denu i fewn gan y cemeg a fyrlymai rhwng y ddau gariad ifanc.

Rwy’n mynychu’r sinema’n rheolaidd yn fy rôl fel adolygydd ffilm, ac wedi profi cannoedd o rom-coms truenus dros y blynyddoedd. Ond roedd golygfa  “meet-cute” y “groten danbaid” a’r “corwynt o ddyn” yn Ysgol Haf y Blaid, gystal ag unrhywbeth i mi’i brofi yn y sinema ers blynyddoedd.

Dyled Eileen Caryl Morgan a Ceri Phillips

(Llun: Hawlfraint Keith Morris)

Diolch i set hynod syml a wal wen fawr a addaswyd yn ddi-drafferth i bob pwrpas y darn, cawsom ein trawsblannu o ysbyty i gefn gwlad a pharlwr y teulu trwy gyfres o dafluniau trawiadol. Cefnlen yn unig oedd yr elfennau hyn i berfformiadau pum seren y triawd trydanol.

Fel ysbryd, neu aelod o gorws Roegaidd, symudai sylwebydd oedrannus Rhian Morgan o amlgylch y set yn dawel; weithiau’n glustfeinwraig mud yn amau ei hatgofion ei hun, droeon eraill yn rhannu deialog ffraeth â’i ffurf iau

Ar adegau, llithrodd ei pherfformiad i adleisio stumiau ei chymeriad comig Meryl Mort, ond  ar y cyfan darbwyllwyd y gynulleidfa mai Eileen ei hun oedd o’n blaenau.

Cafwyd eiliadau bach ingol, gwefreiddiol tu hwnt, fel yn achos yr olygfa gowboi Calamity Jane, sydd yn rhaid ei phrofi. Plethwyd ffilm a dawns ynghyd mewn atgof hyfryd dros ben, a gododd awydd ynof i weld rhagor o’r theatr corfforol hyn fel rhan o’r cynhyrchiad.

Wedi i mi brofi perfformiad Shân Pillips yn Lovesong (Cwmni Frantic Assembly) y llynedd deallais yn llwyr sut y gall elfen fel dawns  dywys y gynulleidfa i uchelfannau emosiynol pur annisgwyl wrth droedio llwybrau’r côf ar lwyfan byw.

Daeth y diwedd yn rhy sydyn o lawer i mi, wrth i ni gael ein trawsblannu ′nol i ward ysbyty yr Eileen oedrannus. Cafwyd crynodeb fach deilwng o ddiwedd eu taith- a theyrnged fach  annwyl gan Eileen i arwr mawr ei bywyd.

Mor hyfryd oedd treulio amser yng nghwmni y ddau, a chael ein hatgoffa y gall penderfyniadau gan bobol gyffredin wneud gwahaniaeth enfawr; yn yr achos ′ma, taniwyd cenhedlaeth gyfan i weithredu.

Dyw’r frwydr ddim drosodd- mae’r iaith yn dal i gael ei sarhau, a’i hisraddio yn raddol bach gan rymoedd yn Llundain ac yma yng Nghymru.

Afrealistig braidd yw meddwl y gall Dyled Eileen ddenu cynulledifa newydd i’r theatr Gymraeg. Ond mae’n bwysicach nag erioed fod dramau fel hyn yn deffro cynulleidfaoedd o’u trwmgwsg.

Mae ein dyled i Eileen a Trefor yn un andros o fawr, ac roedd yn fraint cael ein hatgoffa o hynny.

Bydd taith genedlaethol Dyled Eileen yn parhau tan yr 22ain o Fawrth. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan y Theatr Genedlaethol.

About these ads
Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Adolygiad, Theatr. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

2 Ymateb i Adolygiad Theatr: Dyled Eileen (Theatr Genedlaethol Cymru)

  1. Steve Dimmick yn dweud:

    Reblogged this on Y Blog Theatr Genedlaethol Cymru and commented:
    Adolygiad Dyled Eileen gan Lowri Haf Cooke… diolch Lowri!
    @lowrihafcooke / #dyledeileen

  2. Hysbysiad Cyfeirio: Adolygiad Theatr: Tir Sir Gâr (Theatr Genedlaethol Cymru) | Lowri Haf Cooke

Gadael Ymateb

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s