Archifau Categori: Dihangfa o’r Ddinas

Merch y Ddinas yn Fenis

Dwi newydd ddychwelyd o ddihangfa arall i’r Eidal, sef fy ymweliad cyntaf â gwyl Biennale Fenis. Ro’n i’n ddigon ffodus i ennill grant i deithio yno yn rhinwedd fy rôl fel beirniad celf, gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru. Mae hi’n ddeunaw mlynedd ers i mi ymweld â’r ddinas ddwetha- … Parhau i ddarllen

Cyhoeddwyd yn Bwyd, Celf, Dihangfa o'r Ddinas | Rhowch sylw

Merched y Ddinas yn Turin

Weithie, jyst weithie, mae angen dihangfa dros dro, a chyfle i swatio ym mynwes y teulu. Gyda Mam ar hyn o bryd yn derbyn cyfres o driniaethau, penderfynwyd y byddai’n dipyn o donic iddi gael gwibdaith i Turin- yng nghwmni fy chwiorydd a minnau! Trefnwyd … Parhau i ddarllen

Cyhoeddwyd yn Dihangfa o'r Ddinas | Rhowch sylw

Merch y Ddinas yn Los Angeles: Hollywood a Santa Monica

Gyda dyddiau yn unig i fynd o fy nhaith ledled California, hedfanais yn ôl i Los Angeles o San Francisco nos Sul i gael cwblhau fy ngwaith ymchwil i hanes Idwal Jones. Mae’n reit rwystredig peidio gallu rhannu ei hanes anhygoel i gyd ar y blog, ond … Parhau i ddarllen

Cyhoeddwyd yn Bwyd, Dihangfa o'r Ddinas, Llenyddiaeth | 2 Sylw

Merch y Ddinas yn Napa: The French Laundry

I’m sittin’ on the dock of the bay Watchin’ the tide roll away, ooh I’m just sittin’ on the dock of the bay Wastin’ time… Dyna’n union ro’n i’n gwneud, wythnos yn ôl, yn aros i fferi San Francisco gyrraedd doc … Parhau i ddarllen

Cyhoeddwyd yn Adolygiad, Bwyd, Dihangfa o'r Ddinas | 3 Sylw

Merch y Ddinas yn San Francisco II

“I left my heart in San Francisco…” oedd y jazz-standard hyfryd a glywais ar sgwâr Jack London, Oakland toc cyn dal y fferi i Pier 39. Yr un gân yn union a lenwodd fy nghlustiau ar gyrraedd Fisherman’s Wharf. Toc cyn gadael Oakland am … Parhau i ddarllen

Cyhoeddwyd yn Adolygiad, Bwyd, Dihangfa o'r Ddinas | Rhowch sylw

Merch y Ddinas yn Berkeley: The Cheese Board Collective

Wedi diwrnod bendigedig yn crwydro strydoedd San Francisco yn dilyn ôl traed Idwal Jones, roedd hi’n bryd i mi neidio ar y BART i gampws Prifysgol Califfornia Berkeley, i agor rhagor o’i archifau. Ges i’n rhyfeddu’n llwyr gyda’r hyn ddarganfuais … Parhau i ddarllen

Cyhoeddwyd yn Adolygiad, Bwyd, Dihangfa o'r Ddinas | 4 Sylw

Merch y Ddinas yn San Francisco: Chinatown a Top of The Mark

Beth yw “hynod underwhelmed” yn yr iaith Gymraeg? Siomedig, mae’n siwr. Ond mae’n rhaid fod na derm gwell na hynny. Fel bydde fy ffrindiau o Orllewin Cymru yn dweud, ar achlysur o’r fath; mae gen i ofn mod i’n tampan heno! Wedi diwrnod cyfan yn brwydro bryniau … Parhau i ddarllen

Cyhoeddwyd yn Bwyd, Dihangfa o'r Ddinas | 2 Sylw

Merch y Ddinas yng Nghaliffornia: Santa Monica a Santa Barbara

Howdy! A minnau yng Nghaliffornia ers bron i wythnos bellach, dwi wrthi’n sgrifennu’r llith hwn ar daith trên eithriadol o hardd. Wedi deuddydd yn nhre Santa Barbara, a chyn hynny tridiau yn LA, dwi ar ganol siwrne naw awr ar … Parhau i ddarllen

Cyhoeddwyd yn Bwyd, Dihangfa o'r Ddinas | Rhowch sylw

Dihangfa o’r Ddinas: O Gaerdydd i Galiffornia

Rhyw dair blynedd yn ôl ro’n i’n sgwrsio â foodie mawr am ei hoff ysgrifennu bwyd. Nid llyfrau coginio oedd dan sylw yn union ond yr awduron hynny sy’n dyrchafu bwyd i lefel uwch celfyddyd. Ymlith ei ffefrynnau yr oedd y beiriniad bwyd o’r Unol … Parhau i ddarllen

Cyhoeddwyd yn Bwyd, Dihangfa o'r Ddinas, Llenyddiaeth | 4 Sylw

Gwaith David Nash yng Ngerddi Kew

Un o’r prynhawniau brafiaf i mi eu profi’n ddiweddar oedd ymweliad â Gerddi Kew yn Llundain, gan mai yno- tan ddiwedd mis Ebrill 2013- y mae arddangosfa ddiweddaraf David Nash o Flaenau Ffestiniog. Anghofiwch bob syniad sydd ganddoch chi am ofod celf mewn termau waliau … Parhau i ddarllen

Cyhoeddwyd yn Celf, Dihangfa o'r Ddinas | 2 Sylw