Cinio ym “Marcello’s”

Dwi ddim yn un am addunedau blwyddyn newydd, ac yn sicr ddim yn credu mewn cosbi fy hun gyda deiets dieflig unwaith i’r goeden Nadolig ddod lawr. Sy’n ffodus iawn i mi eleni, gan i mi fynd ati i fwyta fel ffwl trwy gydol mis Ionawr- i gyd yn enw’r llyfr ‘ma am Gaerdydd!

Un o fy hoff lefydd i gael cinio ers pan roeddwn i yn fy arddegau yw Café Minuet yn Arcêd y Castell. Mae’n fwyty bychan gyferbyn â siop lyfrau ail law Troutmark a Claire Grove’s Button’s, a thema’r caffi a’r fwydlen yw opera a cherddoriaeth glasurol. Ers degawdau bu’r Eidalwr Marcello Genesi yn rhedeg y caffi sy’n adnabyddus i’w gwsmeriaid fel “Marcello’s”, ond y llynedd penderfynodd e ymddeol gan adael y lle yng ngofal Nadine Lodwick, merch sy’n gweithio gydag e ers blynyddoedd.

Y si oedd bod Marcello wedi dychwelyd i’w famwlad, ond pan gerddais i fewn ar b’nawn aeafol o Ionawr, roedd e ‘nol tu ôl i’r cownter yn rhoi help llaw- rhywbeth y mae e’n gwneud yn aml, gan nad yw wedi ymddeol i unman mwy egsotig na Chyncoed! Roedd hi’n braf cael sgwrs, ac er y bydda i’n archebu pizza fel arfer, gofynnais iddo beth roedd  e ei hun yn argymell fel “house special”. Estynodd am y fwydlen gan bwyntio’n syth at y tudalen pasta a dewis “Pasta James Bowman”, a gafodd ei enwi ar ôl y gwrth-denor o Rydychen.

Disgrifiodd y saig- penne â sbigoglys wedi’i goginio mewn saws gwyn cyn ei daenu’n drwchus â thomato, caws cheddar a pharmesan a’i bobi mewn popty chwilboeth- ac ês i amdani. O fewn deg munud roedd y pryd gorffenedig ar y bwrdd, ac fe wnes i fwynhau’n fawr, yn enwedig pan drodd Marcello’r system sain yn uwch gan egluro mai James Bowman ei hun oedd wrthi’n canu yn y cefndir. Bravo!

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Bwyd. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

2 Ymateb i Cinio ym “Marcello’s”

  1. Dywedodd ow :

    Falch gweld Marcello’s yn cael ‘big up’. Mwynhau y blog hefyd, edrych mlaen am y llyfr!

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s