Sut i greu argraff ar eich golygydd…

Toc cyn cyfarfod gyda fy ngolygydd o Wasg Gomer, fe brynais i’r tartenni hyfryd hyn o un o fy hoff gaffis yng Nghaerdydd, sef Cocorico Patisserie ar Heol Eglwys Newydd yng Ngabalfa. Mae’r perchennog, Laurian, o bentre Suze La Rousse yng Ngogledd Provence, ac mae e’n paratoi’r cacennau hyn yn ffres bob bore. Tro ma, fe brynais i’r Lemongrass, Basil & Lime Meringue, Tarte aux Pommes a’r Tarte Chiboust. Roedd y tri yn rhagorol, ond fy ffefryn oedd yr ola, sydd yn gyfuniad o fflan hufen a mafon gyda crème brûlée ar ei ben- nefolaidd!

Yn y cefndir, gyda llaw, y mae carthen Gymreig a brynais mewn siop wych sydd wedi cau yn ddiweddar- un o nifer yr oeddwn eisioes wedi sgwennu amdanynt ar gyfer y llyfr, ond sydd wedi diflannu diolch i’r dirwasgiad. Chris Brick (aka DJ Mountain Man) oedd perchennog y siop Folk Farm yn Arcêd y Castell- cymeriad a hanner o Ferthyr yn wreiddiol, ond a aeth o Carnaby Street yn Soho i SoHo Manhattan i wneud ei ffortiwn yn y maes ffasiwn retro a vintage, gan lanio ar Melrose Avenue LA fel perchennog cwmni dillad Teenage Millionaire ar droad y Mileniwm, cyn dychwelyd adre i Gymru yn 2010.

Roedd ei siop wych yn orlawn o hen bethe prin, gan gynnwys vinyls cerddoriaeth gwlad o’r Appalachians, a llwyth o ddillad a brynwyd mewn ocsiynau yn Y Fenni. Mae’n biti gweld siop â’r fath weledigaeth yn cau- gobeithio nad dyma fydd diwedd cyfnod Chris Brick yng Nghaerdydd.

Cafod y cofnod ei gyhoeddi yn Bwyd a'i dagio yn , , . Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Un Ymateb i Sut i greu argraff ar eich golygydd…

  1. Hysbysiad: Dihangfa o’r Ddinas: Pontypridd | Lowri Haf Cooke

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s