Ynys yr Arth

Fel plentyn y ddinas, roedd na un arogl yr oedd yn gas gen i. Na, nid gwynt bragdy Brains, ond stondin bysgod y farchnad ganolog. Roedd hi wastad yn her ceisio gafael yn llaw fy mam a dal fy anadl yr un pryd wrth ochrgamu’r cimychiaid a’r penwaig ffres cyn cyrraedd cigydd JT Morgan heb lewygu. Bellach dwi wrth fy modd gyda stondin bysgod Ashtons, a bob tro fydda i yng nghanol y dre fydda i’n ffeindio esgus i alw fewn i’r farchnad , prun ai i brynu rôl ham o’r stondin fara, neu i weld beth yw’r recordiau diweddara ar werth yn stondin Kelly’s fyny’r grisie.

Un siop sy wastad werth ymweld â hi yw’r Bear Island Book Exchange ar y llawr gwaelod, trysorfa fechan sydd yn orlawn o lyfrau ail law, ac fel arfer yr union lyfr dwi’n chwilio amdano ers oes pys.

Alla i ddim dweud mod i erioed wedi darllen un o gyfrolau Mills & Boon, ond mae’n rhaid fod gyda’r stondin hon y cagliad helaethaf- a’r arddangosfa brydfertha yn lliwiau hardd yr enfys- o’r gyfres o nofelau rhamantus, sydd yn dal i werthu fel slecs.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Llyfrau. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Un Ymateb i Ynys yr Arth

  1. Hysbysiad: Merch y ddinas: bwyd, llyfrau, marchnadoedd a mwy « Ein Caerdydd

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s