Ladies who lunch…

Maddeuwch y llun hynod gawslyd ohonof, ond roeddwn i’n go agos at fy seithfed nef ar y pryd. Newydd gamu i fewn i siop ddillad ddrudfawr a WAG-tastig Flannels ar Heol Churchill oeddwn i, i chwilota am fargen yn eu sêl tymhorol  pan welais i bod y bwtic bendigedig bellach yn cynnwys salon drin gwallt Tino Constantinou (brawd Simon Constantinou, a fu’n torri ngwallt ar Heol y Ddinas fel plentyn), a chaffi hyfryd o’r enw Alius Modi.

Nid yn unig y darganfyddais wrap-dress eiconig gan un o’m hoff gynllunwyr o Efrog Newydd, Diane Von Furstenberg, am chwarter y pris gwreiddiol, ond cefais wasanaeth pum seren, a’r cynnig o’i thrio hi mlaen gyda phâr hyfryd o sodle Miu Miu.

Ces i hefyd ginio blasus a hynod rhesymol yn y caffi- Chicken Caesar Salad gore fy myw am lai na £6.

Ceir yno hefyd ofod celf i arddangos gwaith myfyrwyr yr Atrium gerllaw, gan sicrhau ystod eang o gwsmeriaid, o forgrug* Prifysgol Morgannwg i wragedd pêl droedwyr Uwch-Gynghrair Abertawe, a chlwb Dinas Caerdydd- heb anghofio pawb arall hefyd.

Heb swnio’n gwbl hurt gobeithio,  dyma’r peth agosaf yng Nghaerdydd yn fy marn i i siop gysyniadol Colette ar rue Saint-Honoré ym Mharis, neu Barney’s ar Madison Ave, Manhattan. Mae’r gyfrinach hon yn rhy dda i gadw i mi fy hun, ond shhhhhh… peidiwch a dweud wrth bawb!

* Nid cyfeiriad at bryfetach Coleg Prifysgol Morgannwg mo hwn. Mae “Morgrug” yn derm annwyl sydd wedi’i ddefnyddio ers cantoedd gan y teulu Cooke (gan gynnwys fy nhad, yr Athro Phil Cooke) i ddisgrifio’r pla o fyfyrwyr sy’n glanio yng Nghaerdydd bob tymor academaidd, gan ychwnaegu cryn dipyn o gymeriad i’r ddinas.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Bwyd, Siopa. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Un Ymateb i Ladies who lunch…

  1. Hysbysiad: Canllaw Bach Caerdydd: Mis Ionawr | Lowri Haf Cooke

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s