Mynwent Cathays

Er nad llyfr hanes yw’r gyfrol deithio dwi’n sgwennu am Gaerdydd, mae hanes y ddinas yn chwarae rhan ynddi. Un lleoliad sy’n cynnwys tolc sylweddol o hanes y ddinas yw Mynwent Cathays, sydd i’w chanfod mewn dwy ran ger  Heol y Dderwen Deg a Heol Allensbank.

Yn gynharach ym mis Chwefror, fe drefnais i gwrdd â Phil Amphlett, sy’n swyddog gwasanaeth mynwentydd Cyngor Caerdydd. Yn ogystal â’r gwaith cynnal a chadw, mae e hefyd yn arwain teithiau cerdded o amgylch Mynwent Cathays. Ar fore braf o Chwefror fe aeth e â mi am dro o gwmpas y cerrig beddi sy’n datgelu rhai o hanesion mwyaf diddorol y ddinas.

Agorwyd y fynwent ym 1859, pan sylweddolwyd bod angen gofod cryn dipyn mwy nag oedd ar gael ym mynwent gyhoeddus cynta’r ddinas yn Adamsdown, diolch yn bennaf i’r tŵf aruthrol ym mhoblogaeth Caerdydd ganol y 19eg Ganrif.

Bellach, hon yw’r drydedd fynwent fwya ym Mhrydain, ac mae hi wedi’i gwasgaru ar draws 110 erw o dir. Ceir yno amrywiaeth o gerrig beddi, rhai’n cynnwys croes Geltaidd, nifer ag englynion coffa arnynt, ac ambell un yn nodi beddi trigolion go nodedig, gan gynnwys yr arloeswr hedfan Ernest Willows, y perchennog llongau Reardon Smith, a’r ymgyrchydd gwleidyddol John “Friend of Freedom” Batchelor.

Mae’n debyg mai “atyniad” enwoca’r fynwent yw bedd “Peerless” Jim Driscoll, sydd i’w ganfod yn yr adran Gatholig. Ganed y paffiwr ym 1880 ar Ellen Street yn ardal Wyddelig Newtown- nepell o lle mae sinema Cineworld ar Mary Ann Street erbyn hyn. Daeth yn bencampwr pwysau plu y byd ym 1906, a phan y bu farw o’r diciâu ym 1925 daeth 100,000 o bobol i wylio’i arch ar ei thaith i’r fynwent.

Ym 1896, bu farw glaslances o’r enw Louisa Maud Evans mewn damwain balwn awyr dros yr afon Hafren. Dim ond 14 oed oedd hi ar y pryd- fe  redodd i ffwrdd o’i chartre ger Bryste i fynd i  weithio mewn syrcas. Cafodd ei danfon i fyny ar gyfer naid barasiwt ddramatig a hysbysebwyd fel un o atyniadau mwyaf Arddangosfa Ddiwydianol a Morwrol y flwyddyn honno.

Pan gollodd hi reolaeth o’r balwn awyr uwchben Casnewydd, bu’n rhaid iddi neidio ac fe suddodd i ddyfnderoedd yr Hafren dan bwysau’r parasiwt trwm, a wnaed o liain a phren. Roedd nifer fawr o bobol yn dystion i’r stynt a aeth o chwith, ac fe dalwyd am ei hangladd o gronfa a sefydlwyd er côf amdani gan drigolion Caerdydd.

Yng Ngorffenaf 2011, fe gyflwynodd yr artist cysyniadol Kathryn Ashill o Bontardawe osodiad yn seiliedig ar hanes y “Balloon Girl” ym Mynwent Cathays, a ddilynwyd gan arddangosfa yn Neuadd Dewi Sant.

Yn anffodus, ni chawsom unrhyw lwc yn darganfod bedd y bardd o Fetws ger Maesteg, Edward “Cochfarf” Thomas– dirwestwr a oedd yn berchennog ar nifer o “Coffee Taverns” y ddinas ar ddiwedd y 19ed Ganrif,  ac yn un o sylfaenwyr cymdeithas Cymmrodorion Caerdydd. Ond wrth groesi Nant y Wedal, fe ddaethon ni at fedd y bardd a’r llenor o Lanberis, T. Rowland Hughes. Yn ogystal â sgwennu rhai o nofelau mwyaf adnabyddus yr iaith Gymraeg, gan gynnwys William Jones, yr oedd yn gynhyrchydd gyda BBC Cymru, ac mi fu’n byw dafliad carreg o’r fynwent ar Heol Shirley. Bu farw o sgil-effeithiau’r clefyd MS yn 46 oed.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Hanes. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Un Ymateb i Mynwent Cathays

  1. Hysbysiad: Merch y ddinas: bwyd, llyfrau, marchnadoedd a mwy « Ein Caerdydd

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s