Mynd am ddip yn y ddinas

Wel, pwy sy ganddon ni fan hyn? Y dair chwaer Cooke ar un o’u teithiau cyntaf i wlad estron; traeth Cefalu, Sicilia 1982.

Lleucu druan yn ei dagrau a Catrin ei hefaill yn ddigon bodlon ei byd.

A pwy sy’n lolian yn y cefndir fel croes rhwng morlo bychan a Deborah Kerr, ond Lowri Haf ei hun. Ar ôl tynnu’r llun hwn, mae’n debyg i don fawr fy nharo a’m llusgo i’r môr. Diolch i  ymdrechion Hasslehoffaidd fy nhad am fy achub, rydw i yma i rannu’r llith hwn gyda chi. Bendith yn wir!

Cyn i chi ofyn sut ar wyneb y ddaear ydw i am eich tywys o’r Eidal yn ôl i Gaerdydd, beth am ddod am nof bach ′nôl mewn hanes ′da fi?

Serch y ffaith fod cae mawr y Rhath ar stepen fy nrws, dydw i ddim yn un am loncian, ac mae gen i ofn nad ydy’r gampfa’n cytuno â mi. Fu sesiwn Tae-Bo jyst iawn a’m lladd i, a gwell peidio crybwyll fy fling gyda dawnsio salsa, os yw hynny’n iawn da chi.

Fel plentyn , ro’n i wrth fy modd yn chwarae tenis yng Ngerddi Pleser y Dderwen Deg ym Mharc y Rhath, gan geisio efelychu arwresau fel Steffi Graf, Arantxa Sánchez Vicario a Gabriela Sabatini, ond fel oedolyn, mae’n anodd ffeindio partner pan fo’r awydd yn taro.

Yr un peth sydd wedi goroesi o mhlentyndod yw fy  nileit wrth fynd i nofio, ac mae’r diolch i gyd i byllau nofio Caerdydd.

Ychydig wedi’r digwyddiad dramatig a ddatgelwyd yn yr adroddiad *ecsgliwsif* uchod, penderfynwyd y byddai’n syniad dysgu nofio, felly dyma ddechre arni, ym mhwll nofio’r Sblot.

Tra bydde Mam yn ein gyrru ni i’n gwersi pob nos Wener, tueddiad Dad oedd i fynd a ni ar fore Sadwrn, i ymarfer a chael bach o hwyl. Yno, ym mhwll bach y Sblot, dysgais nofio heb armbands a sut i anadlu heb lyncu hanner y pwll. Ces hefyd gyflwyniad i ddull y “broga”; fy enaid hoff cytun.

O’r fan honno, graddiwyd i Eastern Leisure Centre yn Nhredelerch, i bwll nofio cryn dipyn mwy. Dysgais yno am arnofio, a nofio ar fy nghefn, gyda’m breichiau’n cwildroi fel melin wynt wrth gyfri pob teil uwch fy mhen.

Ges i hyd yn oed hwyl ar y pili pala, dull cwbl orffwyll o nofio sydd y tu hwnt i mi erbyn hyn. Pe bawn am geisio ailafael ynddo, beryg y byddai rhai’n ofni fy mod yn cael ffit biws.

Yn wir, bob tro fydda i’n myned canolfan hamdden heddiw, mae’r cyfuniad o’r gwres a’r arogl clorin cry yn fy nanfon i syth ′nol i fynedfa canolfan hamdden y Rhymni. Ond dyw’r darlun ddim yn gyflawn, heb flas melys yn fy ngheg; blas Wham Bar neu Highland Toffee, a brynwyd o’r peiriant bob tro yn ddi-ffael cyn ei throi hi am adre.

Yn nhymor yr Haf cyn dechrau yn yr ysgol uwchradd, aeth ein dosbarth o Ysgol y Wern i’r Empire Pool, lle saif y Millenium Plaza erbyn hyn. Roedd y daith o Lanishen i ganol dre yn dipyn o antur, gan olygu teithio mewn bws double-decker dros bont Rhiwbeina a flyover Gabalfa , oedd yn peri pili pala’s yn ein boliau cyn hyd yn oed cyrraedd y pwll.

(Llun; Hawlfraint Casgliad y Werin Cymru)

Roedd gen i ofn yr adeilad anferth- a agorwyd ar gyfer Gemau’r Ymerodraeth ym 1958 ac a ddymchwelwyd ym 1998 i wneud lle i Stadiwm y Mileniwm- oedd yn annifyr o dywyll, diolch i’r ffenestri bychain fry uwchben.

Treuliwyd wythnosau yn meistroli’r dulliau, ac ro’n i’n llawn cenfigen wrth weld Catrin, merch y deintydd o’r Eglwys Newydd yn plymio i’r pwll. Nid â “splash” swnllyd ond “plop” perffaith, canlyniad oriau o ymarfer yn mhwll ei villa ym Majorca- rhywbeth pur anghyffredin ar y pryd!

Treuliwyd y  pnawn ola’n achub bricsen yn ein pajamas o ddyfnderoedd cudd y pwll. Ond cyn derbyn ein tystysgrifau, roedd un gorchwyl dal i’w gwblhau. Dringo i fyny’r ysgol, at y bwrdd deifio uchaf oll.

(Llun; Hawlfraint Casgliad y Werin Cymru)

Anghofiwch ffurflenni iechyd a diogelwch heddiw a hawliau plant dros bob dim; doedd dim dewis ond gwneud. Dim jibio, ond neidio; doedd dim troi yn ôl.

Hyd heddiw, mae’r atgof o sefyll ar y dec llydan uchaf yn ddeg oed, gyda’m bysedd traed wedi’u crafangu’n gadarn dros y dibyn  gan geisio peidio edrych i lawr, yn troi fy stumog.

Ar y pryd, roedd na chwedl ddinesig ar lêd am fachgen a orfodwyd i ddeifio, gan lanio ar ei fol, a achosodd i’w ymysgaroedd ffrwydro i bobman a’i ladd yn y fan a’r lle! Mae’n siwr ddaeth y stori honno o’r un ffynhonell a hanes y ferch dynodd ei goggles tynn, gan sugno ei llygaid allan ′run pryd.

Ond neidio y bu’n rhaid- neu gamu i’r gwagle, yn hytrach- a gobeithio am y gore, gan blymio fel carreg i’r gwaelod. Cymerodd oes i mi ddod i’r arwyneb, ond pan wnes i…  y fath ryddhad!

Afraid dweud, es i ddim yn ddeifwraig broffesiynol, ond wrth lwc, wnaeth o ddim fy nghreithio i, na fy nghyd ddisgyblion- ac ni aethpwyd â’r awdurdod addysg lleol i’r llys!

Erbyn heddiw, dwi’n nofwraig gyson, a Chanolfan Hamdden Pentwyn yw’r dewis cynta bob tro. Dyw e ddim yn berffaith, o bell ffordd, a rhaid amseru fy ymweliadau i’r dim.

O gyrraedd am 8 ar nos Fawrth neu nos Iau caf awr mewn pwll cymharol wag, ond rhaid gadael erbyn 9 i osgoi’r gwersi water-aerobics a chanŵio. Caf wefr blentynaidd wrth brofi’r peiriant tonnau ar fore Sadwrn, ond mae’r brwydro am ofod mewn tun sardins o bwll poblog yn bach o turn-off i fi.

Ac anghofiwch ymweld am 7.30 y bore yn ystod yr wythnos, pan fo pawb call dal ynghwsg. Ces gic go hegar yn fy ystlys byd hynny, gan control-freak heb ei hail.

Dwi ddim yn or-hoff o bwll y Maendy, ers i mi fynd yno heb fy sbecs. Wrth ddrysu, nes i lanio yn y lôn gyflym â bron a chael harten wrth geisio dal fyny a’r lleill.

O ran hoff ddull nofio, fy hen gyfaill y broga sy’n mynd a hi , sy’n golygu- yn ôl “synnwyr” lonydd nofio- mai i blith y cleifion a’r henoed y dyliwn i fynd. Felly mae’r mis a hanner dwetha o ehangu fy ngorwelion a phrofi moethusrwydd pyllau pum seren y ddinas wedi profi’n baradwys pur.

Mae’n wir nad oes Infinity Pool yma, fel a geir yn y Seychelles a Saundersfoot. Ond roedd cael rhannu pwll , yn bur annisgwyl, gyda’r bythol-chic Heulwen Haf yn gadarnhad o safon , steil o soffistigeiddrwydd i gystadlu ag unrhywbeth sydd gan dudalennau cylchgrawn Condé Nast Traveller i daflu ata i.

Rhaid dweud bod nofio 100 hyd yn y pwll 25 metr hwnnw- yng ngwesty  St David’s Hotel & Spa– yn brofiad gwaraidd tu hwnt, diolch i’r teils glasfaen hyfryd, a’r olygfa fendigedig dros y Bae at derasau Penarth lle fu’r hen Billy Banks.

Roedd fy mhrofiad cyntaf ym Mhwll Nofio Rhyngwladol Caerdydd, nid nepell i ffwrdd, yn sicr wrth fy modd. Unwaith eto, amserais fy ymweliad yn iawn, gan lanio ganol bore a chael lôn i mi fy hun yn y pwll 50 metr. Ond fel yr Empire Pool gynt- a gofebir ar garreg fawr y tu allan- mae’r lonydd yn para am byth!

Fel safle o safon Olympaidd, mae ddwywaith yn fwy na phob pwll arferol, ac felly ceir yno seicoleg bur wahanol, gan beri i mi deimlo fel fy mod yn rasio mewn meet.

Ro’n i di llwyr ymlâdd ar ôl cyflawni fy lleiafswm arferol o 30 hyd, gan ddod i’r casglaid fod hwn yn bwll i nofwyr difrifol, mewn capiau, goggles a’u siwtiau Speedo yn fwy na lolwyr ling-di-long.

Efallai mai fy ffefryn hyd yma, o’r holl byllau perffaith hyn, yw un gwesty braf yr Hilton gyferbyn â Chastell Caerdydd.

Mae’n ganolog, ac felly does dim angen cymeryd mwy nag un bys i’w gyrraedd, ac mae tymheredd trofannol y pwll yn wych. Yn ogystal â rhan am ddwli dyfrllyd ceir lôn ar gyfer nofwyr go iawn. Ac i ferch â chanddi fwng o gyrls, mae’r sychwyr gwallt yn y stafelloedd newid yn hynod braf, rhaid dweud.

Yn anffodus, i mi o leia, mae cost aelodaeth misol gryn dipyn uwch na’r teirpunt y tro ar ymweliad â Phentwyn. Felly am y tro o leia, mae fy antur Poseidon personol, a phererindod y pyllau nofio yn parhau.

Os oes ganddoch chi dip am y lle gore am ddip, plis rhannwch eich cyfrinach â mi. Dwi’n gaddo peidio cicio a strancio a hawlio un lôn i fy hun.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Chwaraeon, Hanes. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

  1. Dywedodd Carl Morris :

    Cofnod da ac mae’r llun o’r chwiorydd Cooke yn wych!

  2. Dywedodd Nia :

    Wedi mwynhau dy daith o amgylch pyllau Caerdydd, Lowri. Un o’r pethau cynta dwi’n eu trefnu bellach wrth ddod i aros i Gaerdydd yw lle yn y byd dwi am lwyddo nofio. Pan oeddwn i’n byw yna roedd hi’n arfer bod yn hawdd iawn croesi Heol y Gadeirlan ben bore a cherdded i’r pwll yng Ngerddi Soffia, a dim ond wrth geisio Gwglo amserlen y pwll hwnnw yn ddiweddar y sylweddolais ei fod wedi hen ddiflannu. Rhaid i fi gyfadde mai’r pwll rhyngwladol yn y Bae yw fy newis cyntaf erbyn hyn, yn enwedig gyda’r nos. Dwi’n mwynhau’r rhyddid mae pwll 50m yn ei roi iti, ac yn cael sioc bob tro dwi’n dod adre a sylweddoli bod pwll Mach mor fyr! Ond ces i fy nrysu’n llwyr y tro diwetha es i lawr i’r Bae, pan symudon nhw’r wal i ymestyn y pwll o 25m i 50m a finnau ar ganol nofio ar ei hyd. Profiad od! Er hyn mae’r pwll rhyngwladol yn cau llawer o’i lonydd ar benwythnosau ar gyfer clybiau nofio, galas ac ati, felly dwi wedyn yn dibynnu ar bwll Maendy, sydd ag oriau agor call (cynnar!) a lonydd llydan, braf. Ac yna dwi’n cael dod adra, lle does neb arall yn dewis defnyddio pwll Mach am 9 y nos, a dwi’n cael esgus mai fi sydd biau’r lle… perffaith!

    • Dywedodd lowrihafcooke :

      Waw, pwll ym Mach i ti dy hun?! Dwi’n hynod eiddigeddus, hoffwn weithie fynd â hen blacard ymgyrch Ysgol Gynradd Treganna i ambell ganolfan gan ddatgan “Nid Sardîns Ydym Ni”! Diolch i ti Nia am yr ymateb, a’r tip am ddip yn y ddinas x

  3. Hysbysiad: Adolygiadau Ffilm Cookie | Lowri Haf Cooke

  4. Hysbysiad: Merch y Ddinas ym Manhattan II | Lowri Haf Cooke

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s