Meic a’r Daffodil

Mae hi bron yn dair blynedd ers i mi brynu’r darlun uchod o Meic a’r Daffodil gan yr artist pop Malcolm Gwyon*- a fu unwaith yn fwy adnabyddus fel y canwr pop Malcolm Neon– yng Nghanolfan Dreftadaeth Llangrannog.

Pan welais i’r llun ma gynta, roedd Meic yn cadw cwmni i gartŵn Leichtenstein-aidd o Geraint Jarman, portread o Tecwyn Ifan a baentiwyd yn null splatter-art Jackson Pollock, a darlun trawiadol o Dafydd Iwan mewn siaced werdd a luniwyd o ddwsinau o dribanau’r Blaid.

Lwc i mi ei brynu yn y fan a’r lle, gan i’r Llyfrgell Genedlaethol fachu dau o’r lleill ar gyfer eu casgliad celf anrhydeddus nhw.

Ry ni’n dau’n cyd- fyw’n reit ddedwydd heb lawer o halibalŵ, er i’r dair blynedd ddwetha brofi’n fyrlymus tu hwnt yn achos Meic.

Yn wir, estynnwyd gwahoddiad i mi adolygu’r drydedd gyfrol yn ei drioleg o hunangofiannau ar gyfer rhifyn dd’wetha cylchgrawn Taliesin, a gan fy mod yn sgwennu’r teithlyfr ma am Gaerdydd ar y funud, penderfynais mai da o beth fyddai’n mynd at y ffynhonell wreiddiol er mwyn deall y cyfan o’r cychwyn cynta, cyn llunio fy marn.

“Wel?” medde Low wrth y wal, ond ddwedodd y wal ddim byd wrth Low, felly darllen y dair gyfrol fu’n rhaid.

A sôn am fywyd.

Os nad ydych wedi darllen un o’i hunangofiannau eto, ga i awgrymu eich bod yn cychwyn gyda’r cynta, sy’n treiddio i’w wreiddiau yn Solfach, ei lwyddiant cynnar yn Llundain, ac yn cynnig darlun di-hafal o’r Caerdydd colledig, gan gynnwys un benod ardderchog sy’n dilyn antur gynta Meic lawr Bute Street y ′60au cynnar yn 16 oed.

Wele, isod, fy adolygiad o Mâs o ′Ma (2011) a gyfranais i rifyn pen blwydd cylchgrawn Taliesin yn 50 oed (cyfrol “Defod”, rhif 144) ac a ddilynodd fy adolygiad cysylltiedig o hunangofiant Siân James.

Mâs o ′Ma  Meic Stevens                                                                                                                         Y Lolfa £9.95

Dyn sy’n mynd i gryn dipyn o fanylder am y broses greadigol- yn ogystal â phob agwedd arall o’i fywyd- yw Meic Stevens, a gyhoeddodd drydedd ran ei hunangofiant yn ddiweddar, yn dilyn y cofnod cynhwysfawr o’i ieuenctid a’i yrfa gynnar, Hunangofiant y Brawd Houdini (2003) a chyfrol tipyn teneuach  Y Crydryn a Mi (2010) ; dathliad o’i garwriaeth gerddorol â Llydaw’r Saithdegau yng nghwmni’i gariad, Gwenllian.

Y mae Mâs o ’Ma (Y Lolfa) yn cychwyn wrth i Meic ffarwelio â Chymru,  i gael dechrau o’r newydd yng Nghanada ’ôl cynnau tân ar hen aelwyd.  Yna, cawn ein hudo ’nôl i ddiwedd y Saithdegau, gan lanio yng ngwmni dyn sy’n ceiso byw ag ‘adlais cariad mawr’. Dros y cant a thrigain tudalen nesa, cywesgir gwerth deng mlynedd ar hugain o win a mwg a merched da a drwg, a dilynwn y crwydryn ar garlam- o Lydaw i Lithfaen, Llanrug a Llaneirwg-  tan i ddyletswyddau teuluol ei dawelu dros dro.

Defnyddir amrywiaeth o arddulliau llenyddol i gyfleu’r antur fawr- o natur freuddwydiol ei lwyddianau Llydewig, i ogwydd mwy gwrthrychol fel cymar ‘anfoddog’ Suzi Slade a Fran Batin- mamau pedwar o’i blant. A phob hyn a hyn, terfir ar ei gronicl lled-gronolegol, i dalu teyrngedau telynegol i’r Miwsos a’r Trwbadŵrs. Wedi’r cyfan- “Mynd wnaeth y menywod ond aros wnaeth y cerddorion.”

Yn naturiol, neilltuir rhan sylweddol o’r gyfrol i’w yrfa gerddorol- ac mae cefndir sawl albwm, fel Lapis Lazuli (1985) a Love Songs (2009), yn hynod ddadlennol. Ceir dadansoddiad treiddgar o’i berthynas â  cherddoriaeth- gan gynnwys enwau benywaidd ei hoff gitarau- a daw’n gwbl glir  ar hyd y gyfrol i’w fywyd personol fwydo’i waith , ac i’w waith hefyd brofi’n ddihangfa o’i fywyd personol.

Yn wir, does dim dianc rhag y bywyd personol yn Mas o ’Ma, yn enwedig yn achos sawl perthynas  ddiweddar; gyda Denize o Dyddewi a’r gantores  Lleuwen Steffan, ac ymhelaethir ar y ddwy  garwriaeth mewn cyfres o benodau personol tu hwnt. Gyda’r Denize drist, a fu farw’n gymharol ifanc, ceir ymdrech i gyfleu realaeth hunllefus rhannu bywyd ag alcoholig; 

“Weithie byddai’n glwm i’r gwely ac yn ffaelu codi am ddyddie. Yn aml byddai’n chwydu drosta i ac yn gwlychu’r gwely [… ] Ar ôl iddi fynd nol i Dyddewi- doedd hi ddim yn hapus am ’ny- ffeindion ni 76 o boteli fodca gwag wedi’u cuddio tu mewn i’r drore dan y gwely. Fisoedd yn ddiweddarach bydde rhagor o boteli’n dod i’r fei.”

Yn achos ei lith am Lleuwen, does dim dal yn ôl.  Mae ei bortread angerddol ohoni yn gyfuniad o folawd a gwawd, a daw’n ingol o amlwg iddo syrthio’n glep amdani- a thorri’i galon drachefn. 

Yn ôl y dyn ei hun, mae Mâs o ’Ma yn: “debycach i  ddyddiadur na hunagofiant.. a’r dyddiadur wedi dod yn debycach i lythyr at ffrind mynwesol. Dwi’n sgrifennu yn fy ffordd fach fy hunan, am fy mywyd i fy hunan.”

Mae’r disgrifiad hwnnw’n  un digon teg, a dyma mewn gwirionedd sy’n egluro cryfderau a gwendidau’r gyfrol, wrth i lif ei ymennydd ddatgelu’r da, y drwg a’r hyll. Ond trwy anrhefn ei atgofion, llwydda Meic Stevens i wneud synnwyr o flerwch mawr ei fywyd, ac erbyn diwedd y gyfrol, mae’n braf gweld y Crwydryn a fu’n llonydd cyhyd yn parhau gyda’i daith.

Adolygiad Gig Gwyl Dewi Nyth; Meic Stevens, Bunkhouse ar Heol Santes Fair

A hithe’n Ddydd Gwyl Dewi ddoe, cês i’r pleser o weld cyngerdd gan Meic yn rhad ac am ddim yn y Bunkhouse ar Heol Santes Fair neithiwr, diolch i waith trefnu gwych gan griw Nyth.

Roedd y bar yn orlawn yn dilyn setiau cadarn gan Greta Isaac a Gareth Bonello, a’r gynulleidfa’n creu twrw mawr, ond roedd pawb yn awyddus am berfformiad da gan Meic, a dyna yn union a gafwyd.

Oedd, roedd na refru ar y ff****s swnllyd yn y cefn, a’r dyn sain druan- fel arfer- ond roedd Meic yn ei hwyliau, a serch ambell seibiant i ail-diwnio, cafwyd clasur o gyngerdd, a nath pawb fwynhau. Doedd dim sôn amdano’n gorffen y set, a pan welais i fe ddwetha roedd e wedi’i amgylchynu gan griw o fyfyrwyr benywaidd oedd wrth eu boddau yn ei gwmni- ac yntau, mae’n siwr, yr un fath. Popeth yn iawn- dim ond bod e nôl ar y wal erbyn y bore…

Caneuon a chwaraewyd; Be Bop a Lula’r Delyn Aur, Y Meirw Byw, Gwely Gwag, Helo Mrs Jones, Dic Penderyn, Shwmae Shwmae, Carlo, Yn y Fro, Bobby Sands, Y Brawd Houdini, Ar Lan y Môr, Douarnenez, Fields of Athenry, Môr o Gariad, Matilda, Hen Wlad Fy Nhadau

Dyfyniadau’r Noson; “Gad fi tiwno’r ffycar ′ma”, “Just refuse to pay your taxes- that’s what I do”, ac (ar ôl oedi ar ganol “Mor o Gariad”) “I should rewrite the song!”

Parch; I Meic ei hun ac i  griw Nyth am drefnu’r noson

Uchafbwynt y Noson; Pan chwaraeodd e Dic Penderyn, lai na chanllath i ffwrdd o flaen y farchnad ganolog ar Heol Santes Fair; lleoliad carchar y ddinas ar ddechre’r 19ed Ganrif,  lle crogwyd Richard Lewis (Dic Penderyn) ar Awst 13, 1831 ar ôl cael ei gyhuddo ar gam o drywannu milwr gyda bidog yn ystod Gwrthryfel Merthyr.

*Mae arddangosfa ddiweddara Malcolm Gwyon ymlaen yn Theatr Mwldan tan Ebrill 14, 2012.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Celf, Cerddoriaeth, Hanes, Llyfrau. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s