Trip i’r Fflics

Os oes na un lle dwi’n hoffi mynd am ddihangfa yn y ddinas, yna sinema Cineworld yw fy newis cyntaf bob tro. Yn y gwdihw godidog hwn ar Heol Mary Ann, caf chwerthin a chrio a’m cyffwrdd i’r byw.

Ers rhai blynyddoedd bellach- er pleser mawr i mi- dwi’n adolygydd ffilm gwefan BBC Cylchgrawn, a’r  ffilm ddiweddara i hawlio pedair seren gen i yw Hunky Dory.

Mae hi’n ffilm fach hyfryd a hiraethus am y cyfnod euraidd a byrhoedlog hwnnw cyn gadael yr ysgol i wynebu’r byd mawr.

Dwi’n ffan mawr o weledigaeth y cyfarwyddwr o Gaerdydd, Marc Evans. Mae e’n dewis, ac yn llywio, prosiectau gwahanol a diddorol- gan gynnwys y ffilm ddogfen In Prison My Whole Life, a Patagonia– sydd fel arfer yn cynnwys gwaith camera trawiadol a cherddoriaeth wych.

Y mae Hunky Dory wedi’i gosod ym Mhort Talbot yn ystod Haf poeth ’76, ac mae’n amlwg ei bod hi’n ffilm sydd yn bersonol iawn i Marc ei hun, gan iddo fynd ati i greu cynhyrchiad fyddai’n adleisio ei brofiad yntau fel disgybl yn Ysgol Rhydfelen ganol y ’70au.

Yn gefnlen i helbulon hormonaidd disgyblion y ffilm y mae cynhyrchiad amatur ond uchelgeisiol o The Tempest gan William Shakespeare, a dwi’n cofio profi’r un hwyl a hafoc yn fy mlwyddyn olaf wrth chwarae rhan yng nghynhyrchiad ffantastic Ysgol Glantaf o Pum Diwrnod o Ryddid.

Ond serch fy mwynhad o berfformio, fy ngwir ddileit yn ystod y cyfnod hynny oedd mynychu’r Sinema. Roeddwn i’n mynd ar y bws gyda’m chwiorydd a fy ffrindiau i weld ffilmiau o hyd; i’r Monico yn Rhiwbeina a’r Monroe ar Albany Road.

Rhwng dechrau’r 1980au a diwedd y 1990au, roedd na ddwy sinema ar Heol y Frenhines, sef yr Odeon a’r Cannon (a newidiodd ei enw ym 1991 i’r MGM yna’r enw gwreiddiol ABC ym 1996, ac a gofebir gan yr arch i adeilad Andrews yn rhif 67, lle saif River Island erbyn hyn)- cyn agorwyd y multiplex cynta i mi ei brofi yng nghnaolfan y Capitol ganol y 90au, ac yna’r UCI lawr y Bae.

Er i mi weld popeth oedd ar ddangos, o biopics a ffilmie antur, i gynyrchiadau iasoer ych a fi,  fel merch yn fy arddegau, comediau rhamantus oedd orau gen i. Wrth lwc, roedd y ’90au yn orlawn ohonynt a dwi’n cofio’n union pa sinemau ro’n i’n eistedd ynddynt ar gyfer ffefrynau fel When Harry Met Sally, The Fabulous Baker Boys, Muriel’s Wedding, Mr Wonderful, Pretty Woman ac It Could Happen To You.

Yn anffodus i mi, roedd gen i nemesis ar y pryd, a’i enw oedd Brinley Hamer-Jones. Roedd e’n snob sinematig o’r radd flaena ac yn hen ddyn blin a chrintachlyd heb ei ail. Roedd e’n casáu rom-coms cymaint ag yr oeddwn i yn eu caru nhw, ac yn waeth byth, ei farn ef oedd yn cyfri ar dudalen gelf y Western Mail, gan mai efe oedd eu hadolygydd ffilm.

Ar ôl blynyddoedd o dorri nghalon wrth ei weld yn dryllio fy hoff ffilmiau i’r byw, aeth e’n rhy bell un dydd Gwener ar ôl dyfarnu sgôr pathetig o 5 allan o 10 i fy hoff ffilm ar y pryd. Fe’m cythruddwyd i’r fath raddau, doedd dim dewis ond estyn am y Basildon Bond, gan lunio llythyr cwyn i ddatgan fy nicter ac i ddial y cnaf.

Diolch i Carol yn adran Gymraeg y Llyfrgell Ganolog am fod o gymorth wrth i mi ddarganfod y llythyr hwn, a gyhoeddwyd yr wythnos ganlynol!

Ahem… ie, While You Were Sleeping (1995) gyda Sandra Bullock; ffilm am ferch sydd mewn cariad â dyn mewn coma, cyn iddi syrthio’n glep am ei frawd. Nid yr enghraifft orau i amddiffyn y genre, ond cofiwch, ro’n i dal yn fy arddegau ar y pryd.

Wedi dweud hynny, dwi’n dal i gredu nad oes lle i snobyddiaeth wrth adolygu ffilm. Rhaid parchu disgwyliadau’r gynulleidfa o fewn cyd-destun y cynhyrchiad, gan olygu fod na berlau a thyrcwn ym mhob genre, a rhaid eu hystyried ar sail hynny ac nid cymharu popeth i Last Year at Marienbad neu Citizen Kane.

Diolch i’m profiadau cynnar yn sinemâu Caerdydd, dwi wedi dod i ddeall yn union be dwi’n ei hoffi, ond hefyd i adael i ambell i gynhyrchiad droi fy rhagfarnau ar eu pen.

Do’n i ddim yn nyts am gartwns cyn gweld y gampwaith Up, sy’n cyfleu carwriaeth cwpwl mewn oed o flodau eu rhamant hyd angau, a hynny yn neg munud cyntaf y ffilm . A phwy feddylie mai Shame– ffilm agoriadol gwyl Soundtrack Caerdydd 2011,  sy’n dilyn dyn sy’n gaeth i ryw- yw’r ffilm fwyaf pwerus ac ingol i mi’i gweld ers oes?

A pleser di-hafal oedd eistedd mewn awditoriwm orlawn yn profi ffilm Gymraeg fwyaf gwefreiddiol y ganrif (hyd yma!), diolch i weledigaeth wreiddiol a hollol unigryw Dyl Goch a Gruff Rhys, pan ddangoswyd Separado! am y tro cyntaf yn 2009.

Nid Cineworld yn unig sy’n fy nenu, ond Canolfan y Chapter hefyd, lle dwi’n mwynhau profi perlau anibynnol neu o dramor ac ambell curio coll, yn ogystal â ffilmiau mawrion y dydd.

Ond pan ges i “ngwirfyddoli” i drefnu parti Nadolig BBC Radio Cymru 2011 ar gyllideb bychan o’n pocedi ni’n hunain , dim ond un lle oedd gen i mewn golwg, a bar llawr uchaf Cineworld oedd hwnnw, gyda’i golygfa wych dros awyrlun Caerdydd.

Diolch i gymorth y dirprwy reolwr Iwan Charles, cwmni arlwyo Elgano’s, y cwisfeistr ac arch-ffeithgi Tomos Morse a DJ Meic P, cawsom noson i’w chofio, yn ogystal ag esgus i wisgo fel cymeriadau ffilm.

Aeth y wobr am wisg ffansi’r noson i’r anfarwol Hywel Gwynfryn ac fy nghyd-ymchwilydd Mair Parry Roberts am eu portread di-hafal o brif gymeriadau The Greatest Story Ever Told, a brofodd yn hit a hanner yn y Trader’s Tavern cyn cyrraedd y parti.

Ers cyhoeddi’r lluniau llawen uchod, derbyniais air gan fy ngolygydd ar wefan BBC Cylchgrawn, Glyn Evans, yn diolch am fy nghyfraniad ac i fy hysbysu mai fy adolygiad o Hunky Dory fydd yr olaf i gael ei  chyhoeddi, gan  fod y gwybodusion wedi penderfynu yn dilyn y toriadau ariannol nad oes lle mwyach i BBC Cylchgrawn.

Ro’n i’n deall ers tro bod na newyddion mawr ar y gweill, ond fe’m trywannwyd gan y newyddion uchod.  Yn un peth, Glyn Evans – cyn-olygydd Y Cymro ymysg cyhoeddiadau eraill, a golygydd heb ei ail- oedd y person cyntaf i gynnig cyhoeddi ngwaith yn rheolaidd, yn dilyn cyhoeddiad stori fer yn Tu Chwith. Hydref 2008 oedd hynny, ac ers hynny, dwi heb edrych yn ôl.

Mae cyhoeddi traethawd Masters mewn Ffilm- fel y gwnes yn 2001- yn un peth, ond yr oedd cael arwr o olygydd i gomisiynu fy ngwaith, a hynny am dâl pres poced, wythnos ar ôl wythnos am bron i bedair mlynedd yn dipyn o beth, a rhoddodd hwb anferthol i rywun fel fi, oedd ar dân am gyhoeddi yn y Gymraeg.

Mae’r ffaith i gylchgrawn Tu Chwith hefyd fynd i ddifancoll yn ddiweddar yn newyddion enbydus i unrhywun sydd â diddordeb mewn sgwennu yn y Gymraeg, ond sydd ddim eto yn llwyr ymddiried yn eu geiriau eu hun.

Does dim dwywaith amdani, heb Tu Chwith na BBC Cylchgrawn, fasa na ddim blog, na chomisiwn i sgwennu cyfrol am Gaerdydd. Rwy’n diolch, o galon , am y cyfleoedd a roddwyd i mi gael mwydro am fy mhrif ddiddordeb, ac i geisio cyfleu yn ysgrifenedig, sut argraff greodd y sinema arna i.

Os ydy hynny’n swnio braidd yn hunan-faldodus, yna ystyriwch faint o adolygwyr ffilm proffesiynol sydd i gael yn y Saesneg- a chyn lleied ohonynt sydd i’w cael yn yr iaith Gymraeg.

Ymlith fy ffefrynnau cyfoes y mae Philip French, Mark Kermode, Peter Bradshaw, Anthony Quinn, Hermione Eyre, Rex Reed a Sarah Vilkomerson, a caf bleser mawr o ddarllen eu gwaith yn rheolaidd mewn papurau newydd ac ar-lein.

Ar fy silff lyfrau, ceir lle arbennig i gyfrolau gan ddwy gawres ym maes beirniadu ffilm; yr Americanes Pauline Kael yw un, a’r Saesnes Dilys Powell yw’r llall.

Dwi’n credu mai’r diweddar Pauline Kael, grande dame y New Yorker, sydd â’r ateb gorau i’r bobol hynny sy’n holi pam fod angen adolygwyr ffilm;

“It says something about the nature of movies that people don’t say they liked them, they say they loved them- yet even those who love movies may feel that they can’t always handle the emotion that a film heats up. They need to talk to friends, to read critics, in order to understand why they’re reacting as they are, and whether it’s an abberation or if others feel the same way.” (Reeling, Pauline Kael; Gwasg Marion Boyars, 1977)

Y mae’r cyfnod o sgwennu i BBC Cylchgrawn wedi profi’n werthfawr tu hwnt, ac wedi talu ar ei ganfed i mi yn bersonol. Wrth ailddarllen fy adolygiad olaf am y tro, hoffwn aralleirio fy mrawddeg ola, a thalu teyrnged i “… gyfnod arbennig na chaf eto ‘nôl, gan sicrhau gofod i BBC Cylchgrawn yn fy nghôf am byth”.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Ffilm. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

  1. Hysbysiad: RIP BBC Cylchgrawn | Hacio'r Iaith

  2. Hysbysiad: Adolygiadau Ffilm Cookie | Lowri Haf Cooke

  3. Hysbysiad: Thanks, Drive | Lowri Haf Cooke

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s