Celf yn y Ddinas; Reiat o Liw a Llun

Rhyw fis yn ôl ces wahoddiad gan raglen deledu Pethe ar S4C i adolygu arddangosfa ddiweddara Oriel Martin Tinney yng nghanol y dre, ar sail sawl erthygl dwi wedi’i sgwennu i gylchgrawn Barn dros y blynyddoedd dwetha.

Cytunais ar unwaith o ddeall pwy oedd yr artistiaid dan sylw, a gan mai’r oriel hon yw un o’n hoff leoliadau am gelf yng Nghaerdydd.

Y rheswm am hyn yw bod y Gwyddel Martin Tinney a’i dîm o Gymry Cymraeg, Myfanwy, Mair ac eraill, yn croesawu pawb i fyned yr hafan olau hon i brofi rai o artistiaid cyfoes mwyaf poblogaidd Cymru.

Yn eu plith y mae Shani Rhys JamesGwilym Prichard, Claudia Williams, Harry Holland, Kevin Sinnott, Gareth Parry, a John Knapp-Fisher.

Yn ogystal â hyn, ceir hefyd gyfle i weld a phrynu gwaith gan gewri celfyddydol yr 20fed Ganrif gan gynnwys y diweddar Syr Kyffin Williams, Ceri Richards, John Petts, David Jones,  Augustus John a’i chwaer Gwen John- a’r athro a fu’n gyfrifol am lywio gweledigaeth cymaint o’n artistiaid cyfoes, Peter Prendergast.

Mae Cymru gyfan i’w gweld ar waliau gwynion Oriel Martin Tinney , o “Glaslyn” Gwilym, i draeth y Parrog gan Claudia, cegin Shani yn Llangadfan a waliau carreg Bethesda gan Darren Hughes, heb sôn am siapau haniaethol hynod y Cymro o Gernyw Neil Canning, a phortreadau amryliw Meirion Ginsberg o Fethel.

Dwi eisioes wedi sgwennu ynglyn â’r oriel ar gyfer y gyfrol deithio- ynghyd ag Oriel Kooywood, Oriel Albany, Bay Arts, Project Ten ac Orielau Cyfoes Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, ymysg nifer o rai eraill ledled y ddinas- ac roedd hi’n fraint cael gwerthuso’r arddangosfa ardderchog sydd i’w gweld ar waliau’r oriel tan tua diwedd y mis.

Isod, ceir adolygiad sgwennais ar gyfer y blog hwn, wrth baratoi ar gyfer fy nghyflwyniad ar gamera.

Bydd y rhaglen ei hun yn darlledu am 9.30 ar nos Lun y 12ed o fis Mawrth 2012 . Gulp!

Daliwch fyny  ar S4/Clic, tan Ebrill 16 2012.

Arddangosfa Mary Lloyd Jones & Catrin Williams, Oriel Martin Tinney Mawrth 1af -24ain, 2012

Ers Dydd Gwyl Dewi, mae na arddangosfa ragorol o waith celf gan ddwy o’n artistiaid Cymreig pwysicaf i’w gweld yn Oriel Martin Tinney yng nghanol dinas Caerdydd.

Dair can llath i ffwrdd ym Mharc Cathays, y mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn parhau i ddenu ymwelwyr i brofi  portreadau amrywiol o’r Frenhines ar achlysur ei Jiwbili Deiamwnt, ond ar waliau gwynion yr oriel chwaethus hon yng Nghilgant St Andrew mae modd profi’r casgliad gorau eto o waith brenhines celf Cymreig Mary Lloyd Jones, a’r ferch a ddisgrifiwyd gan Kyffin Williams yn 2003 fel “artist haniaethol gorau Cymru”, Catrin Williams.

Yma, mae Mary Lloyd Jones o Bontarfynach yn parhau gyda’i hymchwil i gofnodi olion dyn ar dirlun canolbarth a gogledd Cymru, gan gynnwys elfennau fel adfeilion mwyngloddfeydd, siambrau claddu a cherfiadau cynnar mewn siapau sbeiral, triongl, igam ogam a’r wyddor Ogham.

Ond am y tro cynta, mae hi’n ehangu’i sgôp i gynnwys y dystiolaeth a geir mewn lluniau lloeren a welir o’r wybren, gan gynnwys testunau dadleuol cyfoes fel yr erwau di-ri o fforestydd dŵad a ffermydd gwynt.

Dychmygwch yr un lloeren yn ffocysu’n dynnach ar gymunedau’r tirluniau hyn, ac fe ddown ni at brif destun celf Catrin Williams o Gefnddwysarn ger y Bala (a Phwllheli erbyn hyn), sef y profiad o fyw yma yng Nghymru, a’r defodau dyddiol sy’n rhan o hynny; edrych allan o’r ffenestr ar draeth a chae cyfarwydd, neu’n paratoi swper a hwylio’r tê.

Yn ei gwaith hi, cynrhychiolir clytwaith bywyd mewn cyfrwng cymysg; olew, inc a pastel, yn ogystal â defnydd gwreiddiol o waith gwnïo.

Ro’n i ym Melbourne yn ddiweddar, a’r arddangosfa wnaeth fy ysbrydoli i fwya ac wnaeth fy ngyffwrdd i i’r byw oedd gwaith celf y brodorion, yr Aboriginies felly, yn arddangosfa Living Water yn Oriel Genedlaethol Victoria.

I ddechre, y defnydd beiddgar o liw wnaeth fy nghyfareddu i fwya. Ond er i’r gwaith- ar yr olwg gynta- ymddangos fel casgliad o ddarnau go elfennol, sylweddolais  wrth ddarllen yn ddyfnach i’r delweddau hyn fod y patrymau amryliw yn datguddio straeon eu cymuned a’u cenedl, yn datgan eu bod nhw wedi byw.

Dyma’n union y mae’r ddwy artist yn gwneud yma; Mary Lloyd Jones mewn dull mynegiannol, a Catrin Williams yn fwy haniaethol.

Yn ei chyfrol First Language (2006) rhannodd Mary Lloyd Jones ddyfyniad gan yr artist Ffrengig o dras Rwsiaidd Marc Chagall, sy’n awgrymu mai lliw, ac nid techneg, sy’n cyfleu cymeriad a neges yr artist.

Does dim dianc rhag y ffaith mai’r peth cyntaf sy’n eich taro gan waith y ddwy artist yw’r lliwiau llachar sydd i’w gweld ym mhob llun.

Yn achos gwaith Mary, mae hi’n cyfosod ei lliwiau Hydrefol arferol gyda thaeniadau trawiadol o sbectrwm y lliw glas, yr holl ffordd o inc tywyll lliw fioled hyd at gysgodion ysgafn o lasfaen ac awyr las.

Mae nefoedd neon Catrin yn dyrchafu profiadau dyddiol fel cael cip ar  fynyddoedd y Berwyn a thraeth Aberdaron  a gwylio’r bwrdd bwyd yn llenwi â danteithion i dê.

Mae hyd yn oed y casgliad o baentiadau llwydaidd o Ystradgynlais – prosiect a ddeilliodd o’i gwobr gan  Sefydliad Josef Herman y llynedd – yn cynnwys sawl haenen o liw, diolch i gyffyrddiadau glas golau ac oren ysgafn, a’r gwaith gwnïo sy’n gwneud i’r darlun i “symud”, gan ddod â’r gymuned hon yn fyw.

Yn ogystal â denu’r llygaid, y mae’r delweddau difyr hyn gan y ddwy artist hefyd yn cynrhychioli datganiadau gwleidyddol; y naill ar lefel amgylcheddol a ieithyddol, a’r llall ar lefel fwy cartrefol a chymunedol. Mae nhw’n rhannu eu hanesion, eu treftadaeth, ac yn cynnig perspectif newydd ar olygfeydd cyfarwydd bob dydd.

Mae’r gwaith sydd ar ddangos gan y ddwy yn  ddathliad pendant o’u bodolaeth nhw a’n bodolaeth ni, ac yn hawlio, er gwaetha pawb a phopeth, ein bod  ni yma o hyd.

Mae’r arddangosfa yn parhau tan y 24ain o fis Mawrth, 2012

*Byddaf wastad yn gofyn caniatad i dynnu ffotograffau mewn oriel, a byth yn defnyddio flash.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Adolygiad, Celf. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Un Ymateb i Celf yn y Ddinas; Reiat o Liw a Llun

  1. Dywedodd Pethe :

    Cofnod blog difyr iawn Lowri, diolch am rannu. Bydd eitem ar yr artistiaid a’r arddangosfa ar y rhaglen gyntaf o’r gyfres newydd o Pethe, am 9,30 Mawrth 12fed ar S4C

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s