Adolygiad Ffilm: Martha Marcy May Marlene (15)

Y Sêr; Elizabeth Olsen, John Hawkes, Sarah Paulson, Hugh Dancy

Y Cyfarwyddo; Sean Durkin

Y Sgwennu; Sean Durkin

Hyd; 102mun

Dwi wedi bod yn ysu i weld Martha Marcy May Marlene fyth ers clywed iddi gipio nid yn unig y wobr am y cyfarwyddwr gorau ond hefyd brif wobr y beirniaid yng Ngwyl Sundance 2011. Dywedwyd ar y pryd i chwaer fach yr efeilliaid Olsen, Elizabeth, gynnig perfformiad ysgubol  a bod y ffilm- serch ei theitl trwsgl – yn werth ei gweld.

Ydy, mae’i henw’n un anodd ar y naw i’w chofio’n iawn, ond mae’n gwneud synnwyr perffaith unwaith i chi brofi’r ffilm, sy’n delio â hunaniaeth  luosog merch ifanc sy’n llwyddo i ddianc rhag cwlt go sinistr,  a’i hymdrech i ailafael ynddi hi ei hun dan cysgod ofn parhaol.

Cyfarfuwn â hi gynta fel “Marcy May”, merch sy’n rhan o gomiwn hamddenol o bobol ifanc deniadol, yn byw bywyd delfrydol ar fferm gydweithredol yng ngefn gwlad y Catskills. O fewn dim, fodd bynnag, ma hi  ’di rhedeg i ffwrdd- ac wedi llwyddo i gysylltu â Lucy (Sarah Paulson), sydd heb glywed gan ei chwaer fach Martha ers dwy flynedd.

Ond pam rhedeg i ffwrdd o’r paradwys hwn? Sut ganiatawyd iddi hi adael mor ddi-drafferth? A pham nad yw byw gyda’i chwaer a’i gwr (Hugh Dancy) yn eu cartre moethus ger llyn yn Connecticut yn fêl i gyd?

Trwy gyfrwng cyfres o ôl-fflachiadau cawn gip ar rywfaint o’r atebion hyn, a down i gydymdeimlo’n llwyr â merch sy’n gymysg oll i gyd ac yn rhwyg rhwng rhyddid caeth a chysur caethiwed.

Ond ni chawn wybod y cyfan am gefndir y ferch a hudwyd gan y patriarch carismataidd Patrick, a chwaraeir gan John Hawkes- yr Iddew Sol Star yn nghyfres deledu gowboi wych Deadwood.

Am unwaith, dyma ffilm am gwlt sydd yn ymatal rhag beirniadu’n llwyr  tan ymhell i fewn i’r ffilm, gan ddangos yn union sut fod cymuned o’r fath yn bosib, diolch i gydweithrediad a chyfrinachedd pob un aelod- nid dim ond drwgweithredoedd ei harweinydd- a’r cydgynllwynio anochel sy’n mynd lawlaw â hynny.

Am gyfnod, mae’r ffilm yn dangos ochr atyniadol iawn i ymuno â chwlt, gan gyfosod werthoedd sylfaenol y comiwn gyda delfrydau “normal” ond arwynebol y pâr dinesig.

Mae Elizabeth Olsen yn hoelio’r sylw o’r cychwyn cyntaf, diolch i berfformiad tawel a thrydanol o ferch sy’n fud i’r gwir, ac sy’n methu’n lân â chyfathrebu’r hyn a ddigwyddodd wrth ei chwaer, nac wrthi  hi’i hun. Wrth i’r ffilm fynd yn ei blaen, datgelir y dirgelwch yn raddol bach, a down i sylweddoli ei bod hi ymhell o fod yn rhydd o grafangau’r cwlt, a  diolch i chwilfrydedd ei rôl fel “Marlene”, ei bod hi’n dal mewn perygl mawr.

Llwydda’r sgwennwr-gyfarwyddwr Sean Durkins i’n haflonyddu o’r cychwyn cynta, gan ein hanesmwytho ymhellach wrth i’r ffilm fynd yn ei blaen- nid trwy gyflwyno golygfeydd dychrynllyd o’r gelyn seicotig ar ei waetha, ond wrth chwarae ar ein hofnau mwyaf sylfaenol.

Tanlinellir mai ein dychymyg ni’n hunain sy’n gyfrifol am ein ofnau gwaetha. Ac mae sain -a’i habsenoldeb llwyr, yn achos ambell olygfa lle dim ond anadl un sydd i’w glywed- yn rhan allweddol o lwyddiant y ffilm i gynyddu’r tensiwn tan yr eiliad amwys ola.

Fel y cynhyrchiad cynharach Winter’s Bone– a greodd argraff enfawr ar feirniaid Gwyl Sunance 2010- dyma ffilm fach dawel ond grymus tu hwnt sy’n cynnwys perfformiad aruthrol o amrwd gan actores ifanc sy’n werth cofio ei henw.

Yn achos seren Winter’s Bone, Jennifer Lawrence- a ddarbwyllodd yn llwyr fel y ferch ysgol sy’n gorfod brwydro i gadw’i  hetifeddiaeth yn wyneb llygredigaeth ei theulu estynedig- bydd bywyd byth ′run fath iddi ar ôl i’r blocbyster ddystopaidd The  Hunger Games gael ei rhyddhau’n rhyngwladol ymhen ′chydig ddyddie.

Peidiwch â synnu os welwch chi Elizabeth Olsen yn serennu yn y ffenomenon fawr nesa i daro’r sinema, ond cyn hynny, mynnwch ei gweld ym mhob ffilm â hi ynddi- gan gynnwys Thérèse Raquin flwyddyn nesa.

Creodd John Hawkes hefyd argraff yn Winter’s Bone- fel Teardrop, yr erthyl o ewythr ddaw i chwarae rhan fawr yn stori ei nith benderfynol- ac mae e yr un mor hypnotig yn hwn. Os oes rhaid dewis rhwng y ddwy pa ffilm sy’n rhagori,  yna’r cynhyrhiad cynhara sydd yn mynd â hi i mi, diolch yn bennaf i stori wych sy’n arwain at ddiweddglo anfarwol.

Ond yn achos y ffilm hon,  mae diweddglo amwys Martha Marcy May Marlene yn sicr yn driw i neges y ffilm, sydd ddim am ein gollwng ni’n llwyr. Mae’n ein gadael ni’n gobeithio’r gorau ond yn amau’r gwaetha, ac yn diolch am chwip o ffilm dda.

Sgôr terfynol;

* Dyfernir y sgôr yn ôl y system sêr, felly 5 yw’r gorau ac 1 (neu 0 wrth gwrs) yw’r gwaethaf. Mae 4 cookie yn cyfateb i 8/10.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Adolygiad, Ffilm. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Un Ymateb i Adolygiad Ffilm: Martha Marcy May Marlene (15)

  1. Hysbysiad: Adolygiad Ffilm: The Sessions (15) | Lowri Haf Cooke

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s