Adolygiad Ffilm: Wrath of The Titans (12)

Y Sêr: Liam Neeson, Ralph Fiennes, Sam Worthington, Rosamund Pike a Bill Nighy

Cyfarwyddo: Jonathan Liebesman

Sgrifennu:  Dan Mazeau a David Johnson

Hyd: 99mun

A ninnau ar drothwy tymor blocbysters yr Haf, mae na gryn gynnwrf ar gyfer ambell  ddilyniant, gan gynnwys Marvel’s Avengers Assemble fis nesa- sy’n dod â Thor, Iron Man, Captain America  ac eraill ynghyd- a’r diweddara yng nghyfres Batman gan Christopher Nolan, The Dark Knight Rises, gyda Christian Bale.

Ond ychydig iawn o bobol sy’n sylweddoli fod ystlumffilm y flwyddyn eisioes wedi cyrraedd y sinemau!

Ar un pwynt yn ystod ffilmio’r dilyniant i Clash of The Titans yn chwarel Trefil ym Mlaenau Gwent y llynedd, bu’n rhaid i Dduwiau’r cynhyrchiad foesymgrymu i greadur pwysicach o lawer na nhw- yr ystlum bedol leiaf, sydd mewn perygl dybryd o ddiflannu am byth.

Diolch i’r nefoedd felly am gynrhychiolaeth campus y Cyngor Cefn Gwlad, a sicrhaodd rider gwell i’r divas dramatig yn eu cotiau ffwr na’r enwau mawrion i gyd, neu mi fydde Wrath of The Titans wedi hawlio’r is-deitl “Soriant y ’Stlumod”, a dwyn bri Batman am byth.

Nid dyma’r tro cyntaf i’r gyfres am y chwedlau Groegaidd ddod i Gymru, ac i’r cast frwydro’r temtasiwn i chwibannu “Chwarelwr Ydw I”, gan i ran dyngedfennol o Clash of The Titans gael ei chynhyrchu yn Chwarel Dinorwig, Gwynedd yn 2009.

Yn wir, tra’n sgwennu fy adolygiad o’r campfest clasurol pan gafodd ei rhyddhau yn 2010, collodd y ffilm farciau gen i am fethu’i harholiad daearyddiaeth wrth i’r geiriau canlynol gael eu cynnwys ar ddiwedd y ffilm, “Filmed in Llanberis Wales, England”.

Ro’n i’n sicr yn awyddus i weld beth fyddai gan ddiwedd Wrath of The Titans i’w gynnig, ond yn gynta wrth gwrs, roedd rhaid eistedd trwy bron i awr a deugain munud o frwydro enbyd rhwng y tad, y mab- a’r ysbryd gwan.

Y newyddion drwg i bawb yw bod Sam Worthington yn ôl fel yr arwr lleiaf carismatig yn hanes y sinema, sef Perseus, mab Zeus. Mae e bellach yn dad, ac wedi claddu ei wraig yn sgil ei frwydr fawr gyda Craca Hyll y ffilm gynta, sef morgi milain The Kraken, ac yn dal i wadu ei wreiddiau Duwiol gan fynnu byw fel meidrolyn, a physgotwr o fri.

Daw Zeus a’i ewythr Poseidon i erfyn arno am gymorth pan gant eu bradychu gan eu brawd Hades wrth iddo gefnogi eu tad, ac wrth i’r ffilm ddatblygu daw’n amlwg y bydd yn rhaid i Perseus drechu craca hyllach byth y tro hwn, gan ddifa ei Daid dichellgar- y cawr Kronos, a naddwyd o greigiau uffern.

Hyd yn oed i’rheiny a welodd y ffilm gynta, mae’n hawdd drysu rhwng enwau holl aelodau teulu estynedig y Duwiau dan sylw, wrth i ni gael ein cyflwyno hefyd i’r hanner brawd rhyfelgar Aeres a chefndryd di-ri- heb sôn am gywasgu cymeriadau eiconig Cyclops, Pegasus a’r Minotaur mewn golygfeydd ffwrdd-â-hi .

Ond un peth sy’n sicr o blaid y ffilm hon yw’r penderfyniad i ychwanegu haenen dda o hiwmor i gydbwyso difrifwch dros-ben-llestri gweddill y ffilm.

Yn dilyn perfformiadau anfwriadol o gawslyd gan y Duwiau dramatig Liam Neeson a Ralph Fiennes yn y ffilm gynta, cai’r ddau ganiatád i fynd amdani go iawn erbyn diwedd y ffilm. A diolch i’r nefoedd am gyflwyniad dau gymeriad egsentrig annisgwyl o hoffus-cefnder Perseus, Agenor (Toby Kebbell), sy’n groes rhwng Jack Sparrow a Russell Brand, a Hephaestus (Bill Nighy), y dewin dwl o Gaerwrangon (yn ôl ei acen gomig ta beth) ddaw i achub y dydd.

Diolch hefyd am y ryfelwraig rywiol Andromeda (a chwareir gan yr hyfryd Rosamund Pike a’i thafod yn sownd ei boch) i ddod â bach o ramant i’r ffilm.

Y mae’r effeithiau arbennig yn sicr yn fwy safonol na’r ffilm gyntaf, diolch i’r ffaith iddi gael ei ffilmio ag offer 3D pwrpasol y tro hwn, ac os oes diddordeb ganddoch mewn gweld gronynnau tywod mewn manylder uchel a dreigiau deuben a’u glafoer gwenwynig yn neidio allan arnoch chi, yna ewch i weld y ffilm hon ar bob cyfri.

Mae gen i ofn mai “Pam Sam?” oedd y cwestiwn ar flaen fy nhafod i, gan nad oes gan yr actor o Awstralia chwarter y presenoldeb ag un o’r actorion eraill, hyd yn oed mewn cynhyrchiad mor gawslyd â hwn.

Ond mae’r golygfeydd- o arfordir  ynys chwibanwyr La Gomera, a phaith Patagonia, sydd yma’n cynrhychioli gwlad Groeg- yn drawiadol tu hwnt, heb sôn am Gymru, sy’n edrych yn go epig ar ddiwedd y ffilm, diolch i sglein yr effeithiau arbennig.

Ond y cwestiwn mwya i mi wrth gwrs oedd sut gafodd y wlad ei phortreadu yn y credydau y tro hwn? Wel, mae’n rhaid i’r cynhyrchwyr fod ar gwrs “sut i fod y sensitif tuag at y gwledydd hynny sy’n cynnig lleoliadau ffilm an bris cystadleuol”, gan i Gymru fach gael ei huwchraddio i statws ryngwladol y tro hwn, diolch i’r geiriau hud canlynol; “Made in England, Wales and Patagonia”.

Sgôr Terfynol*;

Mae’r sgôr yn seiliedig ar y system sêr, gyda 5 Cookie yn cynrhychioli’r marc gorau ac 1 Cookie yn cynrhychioli’r gwaethaf. Mae 3 Cookie yn cyfateb i 6 allan o 10.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Adolygiad, Ffilm. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s