Dihangfa o’r Ddinas: Pontypridd

I mi gael bod mor hy â cham-ddyfynnu Samuel Johnson, “When a Man is Tired of Cardiff He is Tired of Life”.  Ambell waith, fodd bynnag, mae angen cyrchfan cryn dipyn mwy cyffrous, ac ugain munud i ffwrdd ar y trên y mae’r ddihangfa berffaith dros dro, sef tre Pontypridd.

Mae gen i hoffter mawr o Bonty ers yn blentyn, gan mai un o dre’r Porth yn y Rhondda yw fy nhad, ac er mwyn cyrraedd cartre Bopa Lil a fy hen-fodryb Liza bu’n rhaid teithio trwy’r dre hynod hon. Fodd bynnag, nid aduniad y teulu Cooke oedd dan sylw dros y penwythnos ond dydd Sadwrn lloerig yng nghwmni aeodau o deulu estynedig rhaglenni C2 yng Nghaerdydd, dan arweiniad un o drigolion y dre, y fonesig Magi Dodd.

Heb ddatgelu dim  o sgandals y dydd, mi allaf gadarnhau i ni gael diwrnod a hanner diolch i waith trefnu caboledig Ms Dodd, a hoffwn siarsio pawb i ddilyn ei hesiampl hithau a thywys criw i’r dre ar wibdaith yn cynnwys yr elfennau hanfodol canlynol; Bwyd, Diod, a Gêm Rygbi werth chweil.

1. Tocyn Trên Deuffordd o Gaerdydd i Bontypridd  = £6

Llyncwyd y tocyn cyntaf gan beiriant gorsaf Pontypridd. Ond fe ddalion ni’r  trên olaf adre mewn pryd.

2. Peint. (Neu botel o Smirnoff Ice yn achos ambell un.)

Os yw tafarn fawr y  Tumble Inn- safle’r hen swyddfa bost ar Heol Sardis- yn llawn yna’r Skinny Dog amdani, sef bar cyfoes â lluniau o’r paffiwr Tommy Farr – y “Tonypandy Terror” a gipiodd deitl Pencampwr Pwysau Trwm Prydain ar Fawrth 15ed 1937- ar y wal.

Mae’r ddwy dafarn yn sefyll yn ardal hynafol y Tumble, lle welwyd nifer o geffylau yn syrthio’n bendramwnagl dan bwysau’r certiau a oedd yn orlawn o lô. Tan y 1980au pan ehangwyd y briffordd, safodd sawl tafarn eiconig arall dros y ffordd, gan gynnwys hen ffermdy y New Inn a “thafarn brysuraf Cymru” ar un adeg,  yr Half Moon Hotel.

3. Pontypridd RFC

Pum munud o gerdded o’r orsfa drenau a’r tafarndai canolog y mae cartre tîm rygbi Pontypridd ar Heol Sardis, sy’n adnabyddus fel yr House of Pain.

Dan sylw ar ddydd Sadwrn Mawrth 31ain oedd gêm dyngedfennol wrth i Bontypridd wynebu Castell Nedd- tîm a oedd, ar y cyd ag Aberafan, ar frig Uwchgynghrair y Principality tra roedd Ponty ar y gwaelod.

Talwyd degpunt am docyn maes, ac wrth sefyll ar y teras profwyd awyrgylch wych, diolch i’r canu byddarol ac angerdd cefnogwyr y ddau dîm. Yn anffodus i gefnogwyr tîm Ponty, Castell Nedd oedd yn fuddugol gan enill o 20 pwynt i 15, a cafwyd chwarae chwim, a gêm hynod gyffrous.

3. Clwb y Bont

Ym 1983, ar ôl blynyddoedd o godi pres a chwilota am y safle perffaith, agorwyd canolfan Gymraeg Clwb y Bont mewn hen warws  a adeiladwyd yn ystod y 1880au ar lannau’r afon Tâf. Mae’r dafarn hon- a sefydlwyd er mwyn hybu Cymreictod ardal Pontypridd, ac a weinyddir gan wirfyddolwyr- yn llawn cymeriad, diolch i bresenoldeb llu o faneri Celtaidd, gwaith celf gan Anthony Evans, a’r llawr carreg a osodwyd yn sgil blynyddoedd o lifogydd, a cafwyd croeso cynnes iawn i’r criw o Gaerdydd.

4. Yr Hen Bont

Cafodd y dre ei henwi ar ôl cyfres o bontydd pren a adeiladwyd ger un o dai pridd y dre ar lannau’r Tâf, ond ym 1756- ar ôl sawl ymgais seithug- llwyddodd William Edwards i godi pont garreg hiraf y byd (ar y pryd). Mesurodd daldra o 11 metr o arwyneb yr afon, a gwynebodd geffylau gryn drafferth i lusgo’u certiau i fyny’r llethrau serth gan olygu i bont newydd gael ei hadeiladu drws nesaf iddi ym 1857.

5. The Bunch of Grapes

Dwi wedi clywed canmoliaeth i’r bwyty hwn ar Heol Ynysyngharad ers rhai blynyddoedd bellach- ac yn wir, dwi eisioes wedi sgwennu am fy hoff patisserie yng Nghaerdydd a sefydlwyd gan cyn-chef y Bunch of Grapes ar y blog hwn- felly ro’n i wrth fy modd i gael gwahoddiad i brofi arlwy’r fwydlen, sy’n pwysleisio cynnyrch tymhorol a Chymreig.

Mae’r dafarn hynafol a agorwyd ar droad y 19eg Ganrif yn cefnu ar un o rannau olaf Camlas Morgannwg, a oedd yn allweddol yn natblygiad y Cymoedd wrth gludo haearn o Ferthyr Tudfil i borthladd Caerdydd a thu hwnt.

Fe’i hadferwyd yn lled-ddiweddar, ac mae’r fwydlen- dan oruchwyliaeth y chef Sebastien Vanoni- wedi cipio sawl gwobr diweddar, gan gynnwys teitl Hoff Fwyty Ciniawyr De Cymru 2011 ar wefan Open Table.

Gan mai criw o ddeuddeg oedden ni, cawsom rannu lechi o gigach a llysiau gyda bara ffres, olew a finegr Balsamig i ddechrau, cyn bwrw mlaen gyda seigiau’r prif gwrs.

Aeth nifer am yr Assiette Cyw Iâr, gyda’r frest wedi’i rhostio â hopys a’i weini â jus cwrw Otley, a plesiwyd y llysieuwyr yn fawr â’r Darten Asbaragws Dyffryn Gwy gyda Chaws Caerwyn myglyd, sglodion polenta a salad shibwns a garlleg gwyllt.

Yn bersonol ês i am y Sirlwyn Sir Fynwy 10 owns wedi’i baratoi’n berffaith (medium rare i mi bob tro), gan orffen gyda Phwdin Taffi Gludiog a Hufen Iâ Fanila a oedd yn gwbl nefolaidd.

Y tro nesa yr a i yno- ac mi fydd na dro nesa- rwy’n benderfynol o brofi’r cocos, bara lawr, cennin a pancetta cartref wedi’i ffrio’n ysgafn a’i weini ar fara wedi’i ffrio â lemwn.

Fel y gwelwch cawsom ddiwrod arbennig iawn, diolch i gwmni diddan, a gwaith trefnu gwych. Lle nesa te Magi?

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Adolygiad, Bwyd, Chwaraeon, Dihangfa o'r Ddinas, Tafarn/ Bar. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s