Dihangfa yn y Ddinas: Tê Pnawn

Ers ei chyhoeddi ym 1930, mae nofel Monica gan Saunders Lewis wedi enill cymaint o gasawyr â chefnogwyr, a’r fraint amheus o gael ei disgrifio fel  un o ddefaid duon llenyddiaeth Gymraeg.

Er nad ydyw cweit yn haeddu ei broliant fel y Madame Bovary  Cymreig, does dim dianc rhag y ffaith i ddameg ddirfodaethol Saunders Lewis  ddychryn darllenwyr y 1930au i’r byw, gan gyflwyno merch fodern oedd yn cynrhychioli popeth oedd yn wrthun i’r  dosbarth canol Cymraeg.

Bethbynnag fo’ch barn, y mae Monica Maciwan yn wrth-arwres werth ei halen; yn Betty Francis (Draper, gynt) ddegawdau cyn roedd Mad Men yn bod,  ac wrth ei bodd yn cael dianc i berfeddion breuddwydiol a byrlymus y brifddinas, cyn merwino mewn maestref yn Abertawe. Och! Tasai ond wedi aros yng Nghaerdydd…

Cyn i drachwant ei threchu, un o’i hoff weithgareddau dinesig oedd “…mynd i dŷ bwyta. Yno yn yr haf gofynnai am hufen rhewi. Prydiau eraill ceisiai de Rwsia mewn gwydr gyda phlât o deisenni Ffrengig, bisgedi siocled a macarwn.”

Nawr pwy, mewn difri calon,  fyddai’n gwarafun i Monica gael dihangfa dros dro o’i dyletswyddau  fel merch y siop a phrofi danteithion tê pnawn?

Diolch i’r nefoedd, mae na sawl lle braf i gael mwynhau seremoni o’r fath yn y Gaerdydd gyfoes, ac fel gydag adran Delicatessens y Ddinas a Choctêls Caerdydd, mae is-benod Tê Pnawn fy nghyfrol yn orlawn o enwau- cyn ei golygu ta beth.

Dwi eisioes wedi rhannu hanes un o fy hoff fannau i fynd am Baned Perffaith yng Nghaerdydd mewn cofnod blog cynharach- ac yn wir mae’r tê pnawn a geir yn fanno yn boblogaidd tu hwnt. Ond mae gen i deimlad y bydde gan Ms Maciwan ddiddordeb arbennig mewn ystafell tê newydd sbon, a hynny dafliad carreg o’i chartre ar Heol y Gadeirlan.

Dros y ddegawd ddwetha bu David Le Masurier yn gweithio ffwl pelt yn adran werthiant gwesty’r Angel, gan deithio 30,000 milltir bob blwyddyn. Roedd e’n gweld braidd dim ar ei gariad yn Nhreganna, a’i freuddwyd fawr oedd rhoi’r gorau i’r gwaith er mwyn agor tŷ tê dros y ffordd ym Mhorthdy Gorllewinol  Parc Bute.

Wel, ar ôl penderfynu mynd amdani- gadael ei swydd, a pherffeithio’r grefft o greu cacennau blasus- daeth â’r pres at ei gilydd i fuddsoddi yn ei freuddwyd fawr- a phenwythnos dwetha gwireddwyd y cyfan.

Yn wir, ro’n i yno ar y dydd Sadwrn cyntaf, a rhaid llongyfarch David ar ei fenter.

Cafodd Pettigrew Tea Rooms ei enwi ar ôl Andrew Pettigrew (1833-1903) o swydd Ayr yn yr Alban; prif arddwr Ail Ardalydd Bute, a fu’n gyfrifol am gynllunio gerddi’r Castell, a gafodd eu hail-enwi yn Barc Bute ym 1947 pan gyfranwyd y Castell fel rhodd i’r ddinas. Aeth ei feibion (William, Hugh ac Andrew) ymlaen i lunio gerddi ledled y ddinas, gan gynnwys Parc y Rhath a Sain Ffagan.

Mae’r ystafell tê bendigedig hwn yn cynnwys llestri a dodrefn vintage, a theils llawr o Dŷ’r Brodyr Duon a safodd ar Gae Cooper, ac a storiwyd yn saff yn y 1970au gan Gymdeithas Fictorianaidd Caerdydd.

Archebais dafell o Deisen Goffi a Chnau Ffrengig gyda thebotaid o dê  English Breakfast, ond gallwn yn hawdd fod wedi dewis darn o sbwng Victoria neu sgonsen gyrains  gyda phaned o dê Angel Peach.

Y bwriad yw cynnig teisennau gwahnol bob dydd, gan gynnwys clasuron Cymreig fel Bara Brith a Pice ar y Maen/ Teisen Radell/ Cacen Gri. (Welsh Cakes fydda i’n ddweud yn bersonol, gan mai dim ond yn nghegin fy hen fodryb Liza yn Porth y bwytais nhw fel plentyn.)

Roedd David wedi ymládd yn dilyn yr agoriad mawr ar ddydd Gwener, ond dechreuodd ymlacio a mwynhau erbyn pnawn Sadwrn .

Holais a oedd ganddo enw Cymraeg ar y busnes, a soniodd iddo dderbyn cyngor gan Fwrdd yr Iaith (cyn y daeth i ben) i’w alw’n Ystafell Te Pettigrew- dyna sydd ar bob derbyneb ar hyn o bryd, a’r cam nesa fydd cynhyrchu bwydlen hollol Gymraeg.

Fe aeth e â mi am dro i’r stafell fyny’r grisiau- heibio’r gegin a’i pherarogl pobi- er mwyn dangos y gofod fydd yn arddangos celf gan artistiaid lleol, fydd dan ofal Ruth Cayford o Neuadd Dewi Sant. Os oes gan unrhywun ddiddordeb mewn arddangos eu gwaith, yna cysylltwch â rcayford@cardiff.gov.uk  ar bob cyfri.

A hithe’n benwythnos y Pasg, os fydd ganddoch chi bnawn yn rhydd, alla i mond eich annog i  brofi danteithion dymunol David a’i griw yn eu ffedogau gwynion.

Mae ei hanes ef- a hanes Monica Maciwan gynt- yn wers yn wir i ni fod mor driw â phosib i ni’n hunain ac i geisio gwneud popeth y gallwn i wireddu’r freuddwyd honno sy ganddon ni i gyd.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Caffi, Celf, Hanes, Llyfrau. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Un Ymateb i Dihangfa yn y Ddinas: Tê Pnawn

  1. Dywedodd sgentilyfrimi :

    Ti wedi gwneud i mi fod eisio ail-ddarllen Monica! Ac mae’r Ystafell De yn swnio’n dda hefyd

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s