Y Sêr: Aksel Hennie, Nikolaj Coster-Waldau, Synnøve Macody Lund, Eivind Sander, Julie Ølgaard
Y Cyfarwyddo: Morten Tyldum
Y Sgrifennu: Addasiad Lars Gudmestad ac Ulf Ryberg o nofel Jo Nesbø, Headhunters
Hyd: 100 mun
Anaml iawn y mae enw sgwennwr yn denu’r tyrfaoedd i’r sinema. Ond penwythnos ’ma, disgwyliwch weld eich multiplex lleol yn orlawn o lyfrbryfaid ar dân i weld ffilm gan gyfarwyddwr newydd gydag actorion pur anghyfarwydd iddynt ynddi- a hynny mewn iaith cwbwl estron.
Pa mor gyfarwydd ydych chi gyda’r enw Jo Nesbø? Efe, heb os, yw un o gewri’r genre dirgel cyfoes. Ers marwolaeth disymwth y seren Scandi-Lit Stieg Larsson – a greodd drioleg “Millenium” The Girl With The Dragon Tattoo – y nihilydd o’r Norwy sy’n deyrn, diolch i gyfres gynhyrfus ei wrth-arwr swrth, Harry Hole; ditectif disglair ond dinistriol.
Yn ddiweddar, rhyddhawyd Phantom– y seithfed gyfrol am Harry gan yr awdur (sydd hefyd yn economegydd a chanwr pync) i gael ei chyfieithu i’r Saesneg . Ond os nad y chi awydd gwario’n wirion ar y llyfr clawr caled, mae na rodd arbennig gan Nesbø yn aros amdanoch yn y sinema.
Mae cynhyrchiad Headhunters wedi’i haddasu o’r unig nofel hyd yma ganddo sy’n gwyro o hanes Harry Hole, ac yn dilyn shinach llwyr o gymeriad fedrwch chi ’mond ei edmygu wrth iddo geisio dianc o’i drafferthion dyfnion.
Ceisiwch ddychmygu Christopher Walken wedi’i groesi â Macaulay Culkin, ac fe gewch chi syniad o sut actor yw Aksel Hennie i edrych arno.
Efe sy’n portreadu gwrth-arwr y ffilm hynod hon, Roger Brown- yr “headhunter” sy’n giamstar am hurio capteiniad busnes. Mae ganddo wraig hardd, a chartre braf, ond dyw hynny ddim yn ddigon i Roger. Mae arno awydd cyffro.
Ei ddiddordeb mawr yw dwyn gweithiau celf drudfawr ei gleientiaid. A phan ddaw i ddeall fod Rubens amhrisiadwy ym meddiant ei brae diweddara, does dim amheuaeth ganddo- rhaid mynd amdani.
Ond a yw wedi dewis y gath dew anghywir i fanteisio arni’r tro ma?
Mae’r ffilm hynod ddifyr hon yn troi’n sydyn o fod yn fersiwn Norwyaidd o The Thomas Crown Affair i helfa anioddefol o gyffrous sy’n ein tywys ar lwybrau annisgwyl.
Ar un pwynt ro’n i’n ofni mod i’n gwylio’r wythfed ffilm yng nghyfres Saw, felly os y chi mor hawdd eich dychryn â mi, byddwch yn ymwybodol bod na haen drwchus o iasoer yn perthyn i’r ffilm, a delweddau go amrwd i gyd-fynd â hynny mewn mannau.
Yn wir, ag eithrio ambell gynhyrchiad gan Quentin Tarantino, dwi ddim yn cofio gweld yr un ffilm ddiweddar sy’n cyfosod cymaint o olygfeydd treisgar gyda hiwmor cwbwl dywyll, mewn ffordd mor slic ac effeithiol.
Mae Roger Brown yn wrth-arwr gwych, ac Aksel Hennie yn actor a hanner.
Fel yn nofelau Jo Nesbø, mae’r holl gymeriadau’r sgript wedi’u llunio’n dda a sawl haen yn perthyn iddynt. Ac fel yn achos y ffilmiau dirgelwch gorau, rhennir digon o wybodaeth â’r gwylwyr iddynt gael chwarae’r gêm a cheisio dyfalu “sut goblyn…?”.
Dyn meidrol a chymhedrol yw canolbwynt y ffilm- nid uwch-ddyn James Bond-aidd mo Roger. A phan gaiff y sinig mewn siwt ei lorio gan elyn gwerth ei halen, mae’n ei orfodi i ailfeddwl patrwm ei fywyd yn llwyr.
Er nad yw’n ffilm mor epig mewn sgôp â rhai o glasuron Tarantino , mae na rywbeth go sbesial am antur Headhunters, diolch i gyfarwyddo crefftus iawn gan Morten Tyldum.
Ac efallai mai fi sydd wedi fy hudo gan waith golygu chwim a chyfarwyddo celfyddydol y Llychlynwyr, ond gallwn wylio ffilm fel hon- a’i hactorion golygus, a’i dodrefn deniadol- am oriau di-ri yn reit fodlon.
Dyw Headhunters ddim yn debygol o enill yr un wobr fawr, ond mae hi’n adlewyrchu’n dda iawn ar y cwmni ffilm anibynnol â’i chomisiynodd hi, ar ôl llwyddo gydag addasiad wreiddiol The Girl With The Dragon Tattoo a’i dilyniannau.
Ddylai’r ffaith fod stiwdio yn Hollywood wrthi’n paratoi i’w diweddaru fod yn ddigon i annog nifer i’w gweld hi ar ei ffurf wreiddiol- cyn i seren fel Tom Cruise fynnu newid taldra, cefndir, cymhelliant a ffydd prif gymeriad sy’n boenus o gyffredin.
*Mae’r sgôr yn seiliedig ar y system sêr, gyda 5 Cookie yn cynrhychioli’r marc gorau ac 1 Cookie yn cynrhychioli’r gwaethaf. Mae 4 Cookie yn cyfateb i 8 allan o 10.