Thanks, Drive

A minnau’n gaeth i’r glinadur dros benwythnos y Pasg, yn sgwennu cymaint a fedrwn i o’r gyfrol am Gaerdydd wrth i’r dyddiad cau neshau, ro’n i’n hapus iawn i glywed adroddiadau o ddathlu mawr ym Mhen Llyn wrth i olygddion newydd cylchgrawn Tu Chwith– Rhiannon Marks ac Elin Angharad- gynnal lawnsiad o’r rhifyn diweddara yn nhafarn Penlan Fawr, Pwllheli.

Mae hyn yn newyddion gwych, yn enwedig ar ôl i’r Cyngor Llyfrau benderfynu atal grant y cylchgrawn yn gynharach eleni.

Fel y soniais mewn cofnod cynharach, ar dudalennau cylchgrawn Tu Chwith cyhoeddais i ngwaith yn gyntaf, a hynny yn rhifyn Haf 2008 ar y thema “Dinas”.

Do’n i erioed wedi ystyried cyfrannu i’r cylchgrawn o’r blaen, ond taniodd y thema fy nychymyg. Ro’n i’n gwybod mai ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd ar gaeau Llandaf fyddai’r lawnsiad, a rhaid cyfadde, ro’n i’n ofni y bydde’r gyfrol yn orlawn o weithiau Cymraeg fyddai’n lladd ar y profiad dinesig.

Ro’n i’n awyddus i gyflwyno darn reit ysgafn wedi’i sgwennu o berspectif Cymraes Gymraeg o Gaerdydd yn archwilio profiad go gyffredin o’r ddinas-  a daeth “Thanks, Drive” o rywle!

Ces i’r pleser o’i chyflwyno yn lawnsiad y gyfrol honno ym Mhabell Lên yr Eisteddfod Genedlaethol, a hynny ar ddiwrnod fy mhen blwydd yn 30 oed- 30 mlynedd union ers i’r Eisteddfod Genedlaethol ymweld â Chaerdydd ym 1978, ac ar lwyfan oedd mor arbennig i Nhaid, y Prifardd WD Williams, a fu’n rhan ganolog o’r Ymryson.

Arweiniodd y darn bach syml hwn at gyfleoedd di-ri dros y dair blynedd ddwetha, gan gynnwys comisiwn i sgwennu’r gyfrol deithio am Gaerdydd, fydd allan eleni.

Diolch yn fawr i Tu Chwith am y gwahoddiad i gyfrannu, a hir oes i’r cylchgrawn.

Thanks, Drive

 Dwi ddim yn gwbod amdanoch chi ond dwi wrth fy modd yn teithio ar Cardiff Bus. Mae o rywbeth i wneud â’r awyrgylch sy’n cael ei chreu ar hyd y siwrne dwi’n meddwl. Hefyd, yn wahanol i uffern pur y Traws Cambria, dim ond teithiau cymharol fyr gewch chi, sydd wrth gwrs yn wych i’r rheiny ohonon ni sydd wedi ein melltithio gan salwch teithio. Ac mae’n ffordd wych o blygio mewn i ddiwylliant byw dinas fechan orau’r byd.

Dim ond tra’n teithio ar un o fysus Caerdydd fydd ambell i beth yn fy nharo i. Er enghraifft, bob tro fydda i’n dal y 56, 57 neu’r 58 i gyfeiriad Pentwyn neu Lanedyrn, ac yn pasio Tŷ’r Maer ar gornel Heol Richmond, un peth yn unig fydd yn fy meddwl; dyna gartref y teulu Ambrose yn Dinas, yr opera sebon orau erioed i ferch o Gaerdydd. Am ryw reswm, wrth fynd heibio, dwi wastad yn dychmygu gweld Miriam yn cau drws y porth dwbwl yn glep yn wyneb ei physgodyn wlyb o dad, y patriarch Paul, neu ei mam hysterical Helen- dynes wnaeth feistroli’r grefft o yfed jin yn y p’nawn tra’n gwisgo blowsys crand Enfys Fasions gyda’u coleri i fyny.

Bydd pethau eraill yn fy nharo wrth syllu allan trwy’r ffenest, neu ar fy nghyd-deithwyr tra’n teithio ar Cardiff Bus. Mae modd gwybod, er enghraifft, os yw rhywun yn lleol wrth iddyn nhw ddiolch i’r gyrrwr cyn camu oddi ar y bws. Dwi ddim yn sôn am semantics yr acen fan hyn (efallai mod i’n naîf ond ’swn i’n gobeithio fod bron pawb erbyn hyn yn sylweddoli bod na fwy i felodi’r ddinas na Frank Hennessy). Jyst bod pobol Caerdydd, yn sylfaenol, yn bobol foesgar sydd wastad yn barod i ddangos eu gwerthfawrogiad.

Awn i mor bell â dweud mai ar un o fysus Caerdydd y bydda i’n teimlo’r balchder mwyaf am fy ninas. Mae hynny’n sicr yn wir ar Nos Galan, sef unig noson y flwyddyn pan gewch chi deithio am ddim, a mwynhau awyrgylch  swreal o gyfeillgar, lle bydd na forio canu a phawb yn ymhyfrydu yn eu dinasyddiaeth. Ond mae’r un mor wir ar y diwrnodau mwyaf diflas a di-nod. Y prif fwriad ar adegau felly yw sicrhau bod y newid cywir yn eich llaw, bod na sedd ar gael, a bod na ddeg munud o’ch blaen i jyst gael zone-io allan i rythm y daith, a hel meddyliau.

Yn anffodus, mae bron yn amhosib hel meddyliau ar fws Caerdydd erbyn hyn. Mae cyngor y ddinas wedi gwario’n wirion ar ddarpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus, ac yn eu doethineb di-derfyn wedi cyflwyno cadeiriau uchel  a sgrîns teledu i’n hypnoteiddio ar ein taith sha thre, fel rhyw riant ’di cyrraedd pen ei dennyn tra’n carco bapa, a ’di troi at y ffordd hawsa o gael mymryn o heddwch ar ddiwedd y dydd. Mae’n biti rili, achos fedrwch chi ddim clustfeinio cymaint ar sgyrsiau pawb o’ch cwmpas, sef un o brif bleserau’r profiad o deithio  ar fws Caerdydd. Mae gwrando ar sgandals y bobol sy’n rhannu’r un daith adre â chi fel agor Woman’s Weekly mewn stafell aros. Mae’n eich atgoffa chi bod bywyd go iawn yn digwydd o’ch cwmpas, a bod gan bawb eu “cyfweliad ecsgliwsif”.

Fel y ddynes tu ôl i mi un p’nawn a aeth mlaen a mlaen wrth ei ffrind am hanes ei hoff fodryb Edwina, dynes garedig wnaeth fudo o Drelai i Awstralia yn y ’70au, dan bwysau gan ei gwr. Yn ôl yr adroddwraig, roedd hyn yn achos o dor-calon i’r teulu estynedig ond clos yng Nghaerdydd, a chlywon nhw fawr ddim ganddi dros y blynyddoedd- ambell i lythyr, a chaniad ffôn bob dydd Nadolig, ond dim mwy na hynny.

Ym 1983, fodd bynnag, cysylltodd y gŵr â nhw i ddweud bod Edwina  wedi rhedeg i ffwrdd gyda gyrrwr loris gan adael y plant gydag ef. Roedd y teulu’n amau’r stori o’r cychwyn, yn enwedig ar ôl deall fod gan y gwr gariad newydd oedd wedi symud i fyw ato ef a’r plant. Ond rywsut neu gilydd, serch apeliadau di-ri dros y blynyddoedd gan heddlu talaith Victoria, chafodd achos Edwina mo’i ddatrys.

Hynny yw, tan 2006, pan ddarganfuwyd gweddillion ei chorff ar waelod casgen yng ngardd y teulu ym Melbourne. Roedd y gwr, oedd wedi ailbriodi erbyn hynny, yn wynebu achos llys ymhen y mis, dan gyhuddiad o’i llofruddio, ac roedd y cyfryngau yn Awstralia wedi creu corwynt o gyhoeddusrwydd o’i gwmpas.

Ro’n i’n gegrwth  wrth glustfeinio, erioed wedi clywed y fath beth o’r blaen, yn sicr ddim ar fws Caerdydd. Ond roedd y ddynes mor ddi-hid wrth adrodd yr hanes, a’i ffrind yn anobeithiol am borthi’r manylion, fel y bu bron i mi droi i’w gwynebu a chynnal cyfweliad â hi yn y fan a’r lle. Yn hytrach, gan gofio nad Beti George mohonof, penderfynais aros ar y bws er mwyn clywed gweddill yr hanes, a cherdded milltir yn ôl lawr rhiw Penylan. Ond ches i ddim clywed diwedd yr hanes wedi’r cyfan, gan i’r adroddwraig nabod ffrind arall gyferbyn â hi, anghofio’r stori wreiddiol, a hel clecs am aqua aerobics yn Pentwyn Leisure Centre am weddill ei siwrne. Typical. Di pobol byth yn gorffen stori’n dwt mewn bywyd go-iawn.

Anghofiais i bob dim am yr hanes a dweud y gwir, tan i mi  weld adroddiad o’r union achos llys ar Wales Today yn gynharach eleni. A wyddoch chi be? Mae’r holl beth yn erchyll o wir. Dwi ddim yn gwbod pam i mi amau didwylledd y ddynes ar y bws. Efallai bod y teledu rywsut di rhoi sêl awdurdod ar y “stori”. Bethbynnag, gwglwch  yr enw Edwina Boyle a chewch ddarllen adroddiadau di-ri am yr hanes.

Yr hyn sy’n ymddangos fel ffaith cwyrci ond gweddol ddi-nod ym mhob un adroddiad ydy’r ffordd wnaeth Mr a Mrs Boyle gyfarfod yn y lle cyntaf. Fel nifer o gyplau eraill, fe wnaethon nhw gyfarfod trwy’r gwaith. Dim byd anghyffredin am hynny wrth gwrs. Ond rhaid i mi gyfadde i mi brofi ias oer  pan ddarllenais i ble roedden nhw’n gweithio. Tocynwraig oedd hi, a gyrrwr oedd ef. Ar Cardiff Bus.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Uncategorized. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s