Gwyl Ffilm Bae Caerfyrddin 2012

(Llun gan Simon Boughton)

Dros y penwythnos, ges i brofiad cwbl newydd i mi- cyflwyno seremoni wobrwyo gwyl ffilm!

Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo Gwyl Ffilm Bae Caerfyrddin gyntaf erioed yng Ngwesty Parc y Strade ger Llanelli. Dyma un o’r unig wyliau ffilm Cymeig ar hyn o bryd sy’n rhoi llwyfan i ffilmiau gan gynhyrchwyr ffilm o Gymru, ac roedd hi’n noson go arbennig i un cynhyrchydd ffilm o Ogledd Cymru.

(Llun gan Simon Boughton)

Enillodd Llinos Griffin o Borthmadog dair gwobr- y cyntaf am y Ffilm Ryngwladol Orau, sef Llais yr Andes– sy’n dilyn cymuned Gymraeg Trevelin ym Mhatagonia; yr ail am y Ffilm Gymraeg Orau, Ysbryd y Coliseum/ Spririt of The Coliseum, a’r trydydd am yr un ffilm, a gipiodd gwobr fwya’r noson, Ysbryd yr Wyl.

Cafwyd dros ddeugain o ymgeiswyr ar gyfer y categorïau i gyd, ac ymysg y rheiny oedd yn cyflwyno’r gwobrau oedd rhai o feriniaid yr wyl ffilm.

Yn eu plith oedd y diddanwr a’r adolygydd ffilm Gary Slaymaker; y DJ Dawns rhyngwladol o Gymru , Neil Navarra, sydd newydd gynhyrchu trac sain o’r ffilm newydd a addaswyd o nofel Irvine Welsh, Ecstacy– a’r actor amryddawn- a Syr Wynff ap Concord y Bos ei hun- Wynford Ellis Owen.

Wynford Ellis Owen yn llongyfarch James Button am ei ffilm fer Closed Doors. (Llun gan Simon Boughton).

Neil Navarra yn cyflwyno’r wobr am y Ffilm Fer orau i Sally Martin am Girl Abducted (llun gan Simon Boughton).

Holl enillwyr y noson gyda’r beirniad Wynford Ellis Owen a chadeirydd yr wyl Kelvin Guy. (Llun gan Simon Boughton)

Beirniaid Iestyn Jones, Tyrone D Murphy, Kelvin Jones, Gary Slaymaker a Wynford Ellis Owen gyda chyflwynydd y noson, Lowri Haf Cooke (llun gan Simon Boughton)

Roedd hi’n noson hwyliog iawn, ac roedd hi’n wych gweld cynifer o wneuthurwyr ffilm ifanc- nifer ohonynt yn fyfyrwyr- yn dod i’r brig.

Yn achos y ffilm a gipiodd wobr fwya’r noson, mae Ysbryd y Coliseum yn gynhyrchiad dwyieithog arbennig iawn, sy’n dilyn hanes y sinema a fu’n ganolbwynt i adloniant yn nhre Porthmadog o 1931 tan iddo gau y llynedd.

Ceir cyfraniadau gan nifer o drigolion lleol yn hel atgofion am y  ffilmiau a ddangoswyd yno, o ddangosiad o A Hard Day’s Night ganol y 1960au a ysbrydolodd cynulleidfa gyfan i ganu ynghyd, i ddangosiad gwallgo o Rocky IV ym 1985, lle aeth y lle- yn ôl Aled Llewelyn Jones yn “wirion bost”. Clywir hefyd ddangosiad diweddar o Mamma Mia a ysgogodd y gynulleidfa i ganu a dawnsio i holl hits ABBA, a hynny ar ôl ffurfio ciw a ymestynnodd yr holl ffordd o’r Royal Sportsman Hotel.

Fel y dywed un gyfranwraig leol, Gwen Jones, cafodd hi gyfle i weld pob math o gymeriadau yn y sinema hon: “Cowbois, Indians, Rhufeiniaid, Milwyr, Vikings a- be oedd enw’r boi na sy’n byta gwaed ′dwch… Dracula!”,  a cadarnheir bod hyd yn oed hysbyseb i gwmni lleol “Warws Beddgelert” wedi gadael hiraeth ar ei hôl.

Os hoffech chi weld y nesaf peth at y Cinema Paradiso Cymreig, yna neilltuwch ddeg munud bach i wylio’r ffilm fer hudolus hon, sydd i’w gweld yma ar You Tube- ac sy’n cynnwys cyfraniad amhrisiadwy ganRyan Kift, sydd yn cynnig y rheswm gorau posib i ail-agor y sinema;

“Ma lle fel hyn mor bwysig i drefi bach achos does na’m byd i neud heblaw smashio ffenestri hen grannies neu trio dwyn pic ′n mix o Tesco… so ma lle fel hyn yn mynd i ddod a pobol yma, a cadw pobol off y stryd,  a fydd pobol hen Porthmadog yn gallu cysgu’n dawelach yn y nos”.

Am ragor  wybodaeth am yr ymgyrch i ail-agor y sinema, ewch i www.savethecoliseum.com

Enillwyr Gwyl Ffilm Bae Caerfyrddin i gyd:

Ffilm Gomedi Ryngwladol: The Future gan Venetia Taylor

Ffilm Fer Rhyngwladol: To The Last Drop gan Bill McMahon

Ffilm Gymraeg Orau: Ysbryd y Coliseum/ Spirit of the Coliseum gan Llinos Griffin

Ffilm Fer: Hawk gan Capture Productions

Ffilm Fer gan Fyfyriwr: Closed Doors gan James Button

Ffilm Gomedi: Gin and Dry gan Capture Productions

Ffilm Fer: Girl Abducted gan Sally Martin (Creative Academi)

Ffilm Ddogfen Gymreig: Dinorwig Slate Quarry gan Jason Jones

Ffilm Orau: Ham and The Piper gan Mark Norfolk

Gwobr y Cyfarwyddwr ar gyfer Seren y Dyfodol : Jed Darlington-Roberts

Ffilm Ryngwladol/ De Americanaidd Fer: Llais yr Andes gan Llinos Griffin

Prif Enillydd yr Wyl: Ysbryd y Coliseum/ Spirit of the Coliseum gan Llinos Griffin

* lluniau i gyd gan ffotograffydd y noson, Simon Broughton (www.simonboughton.net )

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Adolygiad, Dihangfa o'r Ddinas, Ffilm. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Un Ymateb i Gwyl Ffilm Bae Caerfyrddin 2012

  1. Hysbysiad: Gwyl Ffilm Iris: A’r Enillydd Yw… | Lowri Haf Cooke

Gadael sylw