Adolygiad Gig: Saint Etienne, The Gate, Y Rhath- Mai 25, 2012

Rhan fawr o fy mywyd dinesig yw gwibio trwy strydoedd Caerdydd yn Cyrmit y car, i gyfeiliant cerddoriaeth radio a chasetiau fy ieuenctid, gan nad oes gan y cerbyd chwaraeydd CD a does gen i ddim peiriant mp3.

Dwi’n un garw am fflicio’n ddiamynedd trwy orsafoedd radio y ddinas i ganfod y gân berffaith i siwtio fy nhymer, ac os fydd na gyfres o ganeuon erchyll ar y radio, wna i ddim meddwl ddwywaith cyn estyn i’r glove-compartment am un o fy hoff albymau, i roi gwên ar fy ngwyneb a phrofi blast from the past.

Un o’r albymau sy’n llwyddo i blesio bob tro yw’r albwm Too Young To Die–  casgliad o senglau a ryddhawyd gan y triawd indie-pop o Lundain, Saint Etienne ym 1996, sy’n cynnwys rhai  o’u hits mwyaf, gan gynnwys Only Love Can Break Your Heart,  a He’s On The Phone.

Yn 18 oed y flwyddyn honno, siwtiodd yr albwm llawn caneuon electro-pop hafaidd fy nhymer i’r dim, ac fe dreuliais i oriau yn edrych allan o’m ffenest yn atic fy nghartre ar doeau Penylan, yn cyd-ganu â llais Sarah Cracknell i’w chaneuon swbwrbaidd pan ddyliwn i di bod yn astudio ar gyfer fy arholiadau Lefel A .

Felly pan glywais i’n gynharach eleni fod un o’m hoff fandiau erioed yn cynnal gig hanner milltir i ffwrdd o’r union doeau llechi hynny, yng nghanolfan The Gate, gwirionais yn lân gan brynu tocyn yn syth bin.

Nid gorddweud yw hyn- roedd y gig yn un campus, gyda’r lle’n llawn pobol yn union fel fi; wrth ein boddau yn cyd-ganu’r caneuon, ac am ddwyawr gyfan ar ben ein digon i gael  gwenu fel giât.

Os nad y chi’n gyfarwydd â sain Saint Etienne, efallai bod y syniad o agor cyngerdd â chân am hunan-laddiad cyn-gariad yn swnio’n go od, ond o’r eiliad clywais i guriadau cyntaf y clasur electro oeraidd Like a Motorway, ro’n i wrth fy modd, a dim ond gwella wnaeth y noson o hynny mlaen.

Do’n i heb ddisgwyl clywed cymaint o’r hen ffefrynnau, ond cafwyd cydbwysedd ardderchog rhwng greatest hits y gorffenol, a chyfres o berlau pop newydd sbon.

Dim ond wythnos dwetha ryddhawyd eu halbwm newydd- Words and Music By Saint Etienne, felly doedd gen i ddim syniad beth i ddisgwyl, ond o ddifri, mae’r stwff diweddara gystal â chynnyrch eu cyfnod euraidd ganol y 90au. Yn fy marn i, dyma’r albwm byddai fy hoff disco-pop-poppets Kylie a Clinigol yn caru ei rhyddhau.

Dilynwyd Like a Motorway gan ddwy gân newydd- Popular a Haunted Jukebox, cyn gwefreiddio’r gynulleidfa ymhellach gyda’r anthem herfeiddiol  Who Do You Think You Are?

Pan anghofiodd Sarah Cracknell ei geiriau ym mhenill ola cân newydd arall, When I Was Seventeen, roedd aelodau’r gynulleidfa  (a oedd  ar y cyfan yn nes at eu deugain na dwy ar bymtheg oed) yn cydymdeimlo’n llwyr, gan olygu iddi ymlacio ymhellach, dymuno “Iechyd Da” i bawb, a mwynhau rapport hyfryd â’r dorf.

Ymysg y caneuon eraill a ganwyd gafodd dderbyniad gwych, oedd You’re In a Bad WayKiss and Make Up ac Only Love Can Break Your Heart, ac wrth glywed y geiriau oedd wedi’u hen serio ar fy nghôf,  sylweddolias iddynt ragweld y pymtheng mlynedd ddwetha o ′mywyd i a phob un aelod arall o’r gynulleidfa ′fyd.

Roedd y goleuo’n drawiadol a’r tafluniau y tu ôl iddynt yn edrych yn wych, gyda’r montages amryliw yn deyrnged i ddiwylliant pop hanner ola’r 20fed Ganrif, ac yn cynig  cywydd weledol i gyfnod euraidd y Sony Walkman a’r Caset.

Pan ro’n i yn fy arddegau, Sarah Cracknell oedd Y ferch roedd pob darllenydd Melody Maker gwrywaidd am gael snog gyda hi, ac roedd hi’n eicon ffasiwn mawr i ferched y cyfnod diolch i’w gwallt hir golau a’i thueddiad i sianelu Sixties-chic.  A hithe bellach yn ei 40au canol, roedd hi’n edrych yr un mor ffantastig yn ei mini-dress sbarcli, feather boa, a bwts du at ei phen glin.

Cyrhaeddwyd crescendo o gyd-ganu ar gyfer yr anthem feelgood Nothing Can Stop Us Now, a chyn ffarwelio’n derfynnol â thorf mawr y Rhath, daeth Saint Etienne ′nol ar y llwyfan am encore hynod gofiadwy- perfformiad o’u hit mwyaf, He’s On The Phone, a gyrhaeddodd rhif 11 yn y 40 uchaf ′nol ym 1995.

Mae’n sbel hir ers i mi brofi’r fath ewfforia emosiynol, a blast from the past– roedd popeth am y noson yn ddathliad o bopeth sydd wedi digwydd dros yr 16 mlynedd dwetha  ers syllu allan ar doeau llechi di-ddiwedd y ddinas yn 18 mlwydd oed, ac yn hwb anferthol ymlaen ar gyfer dyfodol hyd yn oed gwell.

Yn ddiweddar, ar ymweliad â chartre chymdoges, yr artist Corrie Chiswell, syrthiais yn galed am lun oedd ganddi yn ei stiwdio oedd heb werthu mewn arddangosfa ddiweddar, ond oedd yn dipyn o ffefryn ganddi am mai dyna oedd yr olygfa ddyddiol o stiwdio ei hatic- sef union yr un olygfa, ond o berspectif wahanol, i’r darlun o ffenest stafell wely fy ieuenctid i.

Bellach, mae’r llun hwnnw yn hongian ar wal fy fflat, yn f’atgoffa’n ddyddiol fod na awen ac ysbrydoliaeth i’w canfod wrth syllu allan ar ar doeau Penylan.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Adolygiad, Celf, Cerddoriaeth. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s