Merch y Ddinas yn Istanbul

Rhyw bum mlynedd yn ôl tra’n ymchwilio i rifyn arbennig o raglen ddogfen O Flaen Dy Lygaid ar S4C ar y thema “Cymru ac Islam”, ces brofiad a hanner wrth sicrhau cyfraniad pedwar o Fwslemiaid ifanc- Shehzad a Sadia o Gaerdydd, Ruquaya o Lanybydder ac Aled o Beniel ger Caerfyrddin. Bum yn ffodus iawn o gael cymorth swyddog amrywiaeth BBC Cymru, Safiya Sayed Baharun, wrth iddi hwyluso’r cyfnod ffilmio, ac fe ddaethom yn ffrindiau da, gan fwyhau sawl pryd bwyd cofiadwy ger ei chartre yng Nglanyrafon a Heol Caroline y dre.

Y llynedd, ar ôl treulio blynyddoedd dedwydd iawn yn byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd, dychwelodd Safiya i’w chartref yn Llundain, a hynny ar ôl cwrdd â Marwan El Saifi o Balesteina a dyweddïo ag ef.

Yn gynharach eleni, ces wahoddiad i’w priodas ar gwch ar yr afon Bosphorous yn Istanbul, ac wythnos dwetha ymunais â’r dathlu, gan fwynhau penwythnos hir ardderchog yn un o dinasoedd mwyaf  cynhyrfus y byd.

Os ydych awydd ymweld â’r ddinas hynod hon sy’n cyfuno’r gorau o’r Gorllewin a’r Dwyrain, yna bydden i’n sicr yn ystyried yr elfennau canlynol…

Gwesty Canolog

Mae’r rhan fwyaf o brif atyniadau hanesyddol y ddinas  i’w canfod yng nghrombil caer hynafol Sultanahmet, ond byddai hefyd yn werth ystyried aros yn ardal fywiog Beyoğlu, nepell o Sgwâr Taksim.

Arhosais i yn un o fflatiau hunan-ddarpariaeth cyfoes Flats in Istanbul, gamau’n unig o brif stryd Istiklal Caddesi- Heol Anibyniaeth yn yr iaith Dwrceg- sy ′run mor brysur am 3 y bore ag y mae Heol y Frenhines Caerdydd am 3 o’r gloch y pnawn!

Mae Beyoğlu yn ardal ddifyr iawn, llawn caffis, bwtîcs vintage, siopau ffrwythau a llysiau lliwgar a sawl becws, yn gwerthu pob math o ddanteithion blasus , fel y Baklava melys neu’r Börek sawrus llawn cigoedd neu llysiau. Fy ffefryn personol i amser brecwast oedd y Börek sbigoglys a pherlysiau ffres.

Trafnidiaeth

Efallai oherwydd y traffic dychrynllyd, a thueddiad pob gyrrwr car i newid lôn ar amrantiad a chanu corn bob whip-stitch, mae system drafnidiaeth gyhoeddus y ddinas yn effeithiol tu hwnt, yn ogystal â bod yn gyfoes, glân a chyflym, diolch i reilffordd Funicular tanddaearol a system Metro sydd yn rhesymol iawn mewn pris.

Ceir hefyd waith celf ar waliau pob gorsaf tanddaearol, gan gynnwys y mosaic trawiadol hwn o Istanbul yng ngorsaf Kabataş.

Os yn aros yn agos i neu’n ymweld â Sgwâr Taksim, byddai hefyd werth ystyried gwibdaith ar hyd y rheilffordd hanesyddol ar hyd Heol Istiklal a thu hwnt.

Hanes

Wrth gyrraedd y maes awyr, ces fy nharo gan gyfuniad nid amhleserus o arogleuon, yn cynnwys chwys, mwg sigarets a gwres! Mae profiad o’r fath wastad yn eich plannu chi’n syth mewn gwlad newydd, ac wrth wibio i’r ddinas yn y tacsi melyn, rhaid dweud i mi gael fy hudo’n llwyr gan yr awyrlun brydferth o bell.

Mae Istanbul yn ddinas cwbl seciwlar fyth ers i Mustafa Kemal “Atatürk” enill yr Arlywyddiaeth ym 1923, ond mae hi hefyd yn brifddinas sydd wedi denu Cristnogion, Mwslemiaid ac Iddewon ers canrifoedd maith, gan olygu fod y ddinas wedi’i brithio â channoedd o eglwysi, mosgiau a synagogau hardd.

Y mae’r “mawrion” i’w canfod yn yr hen dre, Sultanahmet, a’r ddwy fawr sy’n denu’r mwyafrif o ymwelwyr yw’r Haghia Sophia- Eglwys Gadeiriol ogoneddus a sefydlwyd yn y flwyddyn 537 O.C. gan yr Ymerawdwr Rhufeinig Justinian- a Mosg Sultanahmet, neu’r Mosg Glas, gyda’i chwe minaret eiconig a gomisiynwyd gan Sultan Ahmet ar droad yr 17eg Ganrif.

Mae bron yn amhosib tynnu llun da o’r safleodd hynod hyn, gan eu bod nhw’n leoliadau mor anferthol yn y cnawd.

Y mae Palas Dolmabahçe ar lannau’r afon Bosphorus hefyd werth ymweliad. Y mae ysblander yr adeilad- a gomisiynwyd fel cartref newydd Abdul Mecit ym 1856- yn adlewyrchu’r cyfnod olaf o oferedd swltaniaid yr Ymerodraeth Ottoman, a fu ar un adeg yn teyrnasu tiroedd o ddwyrain Ewrop a Gogledd Affrica yr holl ffordd i India bell. Ers i’r Arlywydd Atatürk farw yno ym 1938, does neb wedi byw yn y palas, ond mae modd ymweld â’r ystafell lle y bu ef farw, a gweld chandelier mwya’r byd, yn ogystal â gerddi hyfryd tu hwnt.

Siopa

Os y chi, fel fi, yn ystyried siopa yn weithgaredd ddiwyllianol mewn dinas dramor, yna rhaid neilltuo o leia awr neu ddwy ar gyfer un o ganolfanau siopa hyna’r byd, sef y Grand Bazaar.

Dafliad carreg o’r Haghia Sophia a Mosg Sultanahmet y mae’r atyniad anferthol hwn, a sefydlwyd gan Mehmet Goncwerwr yn ystod y 1460au, ac sydd yn labrinth o lwybrau a stondinau sy’n gwerthu popeth o emwaith a siacedi lledr i garpedi a llestri o bob lliw a llun.

Ceir yno dros 5,000 o stondinwyr ar hyd 65 o strydoedd bychain, i gyd yn ceisio denu’ch sylw gyda’u “prisiau gorau” y mae disgwyl i chi eu hanneru er mwyn sicrhau bargen y ganrif. Does dim pwynt mynd yno gan feddwl na wnewch chi wario’r un dimau, na mynd ar goll. Mae’n le gwych i ddilyn eich trwyn, ac o gofio bod na ddeuddeg mynediad yn perthyn i’r Bazaar, ry chi’n siwr o weld golau dydd ar ryw bwynt.

Yn sicr, y llwybr i chwilio amdani yw Halıcılar Caddesi, a fu unwaith yn ganolbwynt i werthwyr carpedi’r ddinas, ond sydd bellach yn cafe-quarter dymunol- lle ceir paned werth chweil yn y Fes Cafe, a chynnyrch o safon yn stondin Ibrahim, sydd yn gwerthu sebonach a llieniau hyfryd (y math sydd ar werth yn siop Toast Llandeilo am ddeg gwaith y pris) ers 26 mlynedd.

Os am brofiad tipyn mwy heddychlon, yna beth am drefu ymweliad ag ardal chwaethus Nişantaşi i’r gogledd o Balas Dolmabahçe? Yno, ceir rhai o siopau crandiaf y byd, gan gynnwys Prada a Chanel, ond yn ddifyrrach byth y mae galeriau niferus, a siopau lleol fel Yastik by Rifat Ozbek; siop yn llawn clustogau über-chwaethus gan un o gynllunwyr  ffasiwn mwyaf Prydain yn ystod y 1980au a 1990au, ac sydd yn wreiddiol o Istanbul.

Ceir yn Niştanaşi hefyd lwyth o gaffis a delicatessens dymunol. Mwynheais i lemwnêd y cartre yn The House Cafe, tra roedd gan far Delicatessen rhywbeth tipyn cryfach ar fy nghyfer- Watermelon Margarita blasus tu hwnt.

Celf

Mae Istanbul yn ddinas llawn rhyfeddodau celfyddydol, a’r prif atyniad i ddilynwyr celf cyfoes o safon rhyngwladol yw’r Istanbul Modern, a agorwyd ar lannau’r Bosphorus mewn hen warws a oedd yn perthyn i’r llynges ′nol yn 2004.

Profais waith trawiadol iawn gan rai o artistiaid Twrcaidd mwyaf yr 20fed Ganrif gan gynnwys gweithiau haniaethol amryliw Nejad Melih Devrim, darluniau o ddefnydd gan Ramazan Bayrakoğlu, a gosodwaith golau Sarkis o Armenia, yn ogystal ag arddangosfa hynod yn dathlu celf graffiti dinesig dros yr hanner can mlynedd diwethaf.

Diolch i leoliad yr oriel gelf gyfoes, mae gan ei chaffi olygfa wych o’r Haghia Sophia a’r Mosg Glas dros gulfor y Corn Aur. A hithe’n hanner dydd a’r tymheredd yn 75 gradd selsiws, doedd dim dewis ond archebu brecwast hwyr ymlaciol tu hwnt yn cynnwys bara, cawsiau, cigoedd, olewydd, mêl a melysion eraill.

Coffi

I mi, mae paned o Turkish Coffee yn un o bleserau bach bywyd. Caiff y ffa coffi eu rhostio’n gyntaf cyn cael eu malu’n fân a’u berwi mewn pot o’r enw cezve, cyn yr ychwanegir siwgwr ato a’i dywallt i gwpan bach. Yn amlach na pheidio, fe’i weinir â dau Turkish Delight blas pistachio, a glasied o ddwr oer.

Darganfuais i gaffi fy mreuddwydion, Avam Kahvesi, nid nepell o Sgwâr Taksim , oedd yn chwarae Arcade Fire ar yr uchelseinydd ac yn cynnig paned berffaith yng nghysgod rhai o hoff bosteri ffilm Twrcaidd y perchennog o’r 60au a’r 70au, yn ogystal â Sleeper (1973) gan Woody Allen.

Hamam

Un o draddodiadau hynafol Twrci sydd wedi parhau hyd heddiw yw’r arfer o fynychu Hamam- baddondy stêm. Un o Hamams hynaf Istanbul yw baddondy Çemberlitaş, a gomisiynwyd gan Nurbanu- gwraig Sultan Selim, ac a agorwyd ym 1584, dafliad carreg o Sgwâr Sultanahmet a’r Grand Bazaar. Toc cyn priodas Safiya a Marwan es i yno am gwpwl o oriau gan brofi un o brynhawniau mwyaf ymlaciol fy myw.

Yn syml iawn, wrth gyrraedd y dderbynfa, ry chi’n archebu’r driniaeth sydd orau i chi. Dewisiais i’r driniaeth draddodiadol, ac wrth dalu’r ffi rhoddwyd fy newid a phâr o nicyrs glân yn fy llaw! Onibai bod yn well ganddoch ddod â’ch siwt nofio gyda chi, mae’r rhan fwyaf o bobol yn hapus i ddinoethi o flaen pawb.

Fe’m harweinwyd at adran y merched, ac ar ôl newid, camais dros drothwyr’r Hamam a darganfod neuadd agored llawn ager a merched hanner noeth o bob siâp yn gorweddian o gwmpas, hel clecs a chwysu ar lwyfan o farmor gwyn, yn aros am eu triniaeth nhw- golygfa nid anhebyg i’r hyn fyddai i’w weld yno dair canrif yn ôl. Yn wir, ar un adeg dyma oedd y lle i famau’r ddinas gael dod i sgowtio am wragedd i’w meibion!

Ar ôl hanner awr o chwysu’r llygredd o’r croen, fe’m cyfarwyddwyd i orwedd ar flaen y llwyfan marmor gyda’r cwsmeriaid eraill, lle roedd merched mewn bicinis du yn tylunio a sgrwbio croen ein cyrff yn galed, cyn ein taenu â swigod sebon a thaflu dwr oer drostom i gyd.

Er nad yw hyn efallai’n swnio’n ofnadwy o ymlaciol, rhaid dweud i mi fwynhau’r profiad yn fawr, yn enwedig nes ymlaen pan ges fy arwain at byllau nofio hynafol a hynod atmosfferig yr Hamam i gael nof mewn ystafell llawn canhwyllau ar fy mhen fy hun.

Dawnsio Bola

Ydy, mae’n ystrydeb, ond mae nhw wir yn arbenigwyr ar ddawnsio bola yn Istanbul, fel y profais ym mharti plu Safiya yng nghlwb amryliw Arabesque.

Yr hyn nad oeddwn i’n ymwybodol ohono oedd bod dynion hefyd yn ddawnswyr bola, a’u bod nhw gystal os nad gwell na’r merched am blygu eu cyrff ystwyth i siapau hynod iawn.

Does dim byd X-Rated am  y celfyddyd hynafol hwn, ond mae na elfen gref o erotica yn perthyn idd0, ac mae’n wych gweld mai’r merched ag iddynt rhywfaint o gig ar eu hesgyrn sydd yn rhagori ar y gamp hon.

Coctêl

A hithe’n noson olaf arna i yn Istanbul, lle gwell i nodi’r achlysur nag yn rooftop bar Mikla ar dô gwesty’r Marmara Pera, gyda golygfa wych o’r ddinas islaw. Nes i amseru fy ymweliad yn berffaith, gan fwynhau machlud haul bendigedig i gyfeiliant yr alwad i weddi, neu’r Adhan, a ddarlledwyd o finarets mosgiau ledled y ddinas.

Pan ofynnais i’r gweinydd a oedd na fath beth â chlasur o goctêl sy’n cyfleu Istanbul i’r dim, meddai mai Raki oedd y diod i mi. O glywed beth oedd cynnwys y gwydr fu bron i mi newid fy meddwl, ond ei yfed bu’n rhaid. Fel Ouzo Gwlad Groeg neu Grappa yr Eidal, aniseed yw blas cryfaf Raki, wedi’i gymysgu â dwr a’i weini â rhew. Bu’n rhaid rhoi clec go hegar i gychwyn, cyn dechrau mwynhau erbyn dropyn ola’r gwydr hir ond hardd.

Yn dilyn yr erchyllbeth hwnnw, ro’n i’n falch pan gynigodd yr un mixologist baratoi un o goctêls mwya poblogaidd bar Mikla- Mulberry Mojito, oedd yn fendigedig o flasus, ac yn ffordd wych o orffen fy arhosiad yn un o ddinasoedd brafia’r byd.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Dihangfa o'r Ddinas. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

  1. Dywedodd Huw :

    Es i Instabul ryw ddeng mlynedd yn ôl, ond fel rhan o fordaith. Nes i fwynhau’n fawr, er dim ond yno am diwrnod yn unig.

    Mae rhywbeth hudol am le sy’n sownd rhwng ddiwylliannau’r gorllewin a chanol Asia. Un peth diddorol oedd triniaeth Duwiol o Kemal Atatürk, gyda lluniau ohono i fyny yn nhai a siopau’n bob man.

  2. Dywedodd Blewyn :

    Dim ond wedi pasio drwy’r maes awyr yn y gorffennol (mezze da iawn !) ond mi fyddaf yn siwr o alw yno i aros ar ol darllen hwn. Post arbennig o dda !

  3. Hysbysiad: Adolygiad Ffilm: Taken 2 (12) | Lowri Haf Cooke

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s