Cylchgrawn Barn: Coalas, Cangarŵs a’r Cymro oddi Cartre

Y llynedd, ces fy nethol i raglen Datblygu Beirniaid Celf Rhyngwladol, a weinyddir gan Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, a thrwy’r cynllun hwn cefais deithio i ddinas Melbourne yn Awstralia.

Fis nesa, bydd cylchgrawn Barn yn cyhoeddi erthygl sgrifenais i am antur fawr Lisa Jên a Martin Hoyland o’r band 9Bach wrth iddynt gydweithio â’r grwp o Gynfrodorion Awstralia, y Black Arm Band, ar gyfer cyngerdd mawreddog ar lannau’r Tafwys yn Llundain i gyd-fynd â’r Olympiad Diwyllianol ar Orffennnaf 21, a chyn hynny, perfformiad paratoi yn Galeri Caernarfon ar Orffennaf 19.

Yn y cyfamser, dyma erthygl arall gen i sydd i’w gweld yn y rhifyn cyfredol o Barn, am yr artist o Dreffynnon Tim Jones sydd yn byw yn Awstralia ers dros ugain mlynedd, ac sydd bellach yn un o artistiaid cyfoes amlycaf y wlad.

Toc cyn mynd i Awstralia, nes i ddigwydd taro’r geiriau “Welsh Artist, Melbourne” yn Google, jyst rhag ofn y cawn i gyfle i weld gwaith gan artist Cymreig tra’n ymweld â’r ddinas.

Diolch byth i mi wneud, gan i mi dreulio un o ddyddiau mwyaf cofiadwy fy myw yno, diolch i groeso cynnes a chasgliad o waith celf hynod drawiadol yn un o’r llecynnau brafiaf i mi eu profi erioed- heb sôn am ginio godidog a sawl glasied o Pint Noir!

Fe geisia i gyhoeddi rhysait y cinio hwnnw yr ydw i wedi’i hail-greu fwy nag unwaith ers dychwelyd adre, ar gyfer rhifyn arall o Cegin Lowri cyn hir. Ond am y tro, dyma i chi’r erthygl sydd yn adrodd hanes artist o Gymru sydd wedi creu argraff fawr ym mhen draw’r byd.

Erthygl Barn: Coalas, Cangarŵs a’r Cymro Oddi Cartre

Roedd 1975 yn glasur o flwyddyn yn hanes ffilm, wrth i Jaws , Nashville a One Flew Over the Cuckoo’s Nest gyffroi cynulleidfaoedd ledled y byd . Cynhyrchiad arall a wnaeth argraff fawr y flwyddyn honno oedd Picnic at Hanging Rock gan y cyfarwyddwr o Awstralia, Peter Weir. Addasiad o nofel astrus gan Joan Lindsay oedd y ffilm freuddwydiol, hynod sinistr hon, am griw o ferched ysgol ar droad yr 20fed ganrif a gafodd ganiatâd eu prifathrawes- a chwaraewyd gan y Gymraes Rachel Roberts- i fynd am dro i fynydd cysygredig i’r Aboroginiaid yng nghefn gwlad Awstralia, a diflannu am byth.

 Yr harddaf o’r disgyblion oedd Miranda- angel Boticelli o ferch a chanddi rymoedd rhagweledol, a diolch i ddiweddglo amwys y stori y mae’r Cymro Tim Jones- sy’n byw yng nghysgod Hanging Rock (Mount Diogenes yw ei enw swyddogol)- yn dal i glywed ymwelwyr â’r graig yn efelychu cymeriadau’r ffilm gan alw’i henw’n ofer.

Nid ebychiadau dynol yn unig a glywir o gegin Rock Bottom, cartref Tim Jones yn nhalaith Victoria, yn ne-ddwyrain Awstralia. Mae trydar llawen yr adar Rosella glasgoch i’w glywed gydol y dydd, ac mae griddfan coalas ac ambell dylluan yn gallu bod yn swn go annifyr gyda’r nos. Y mae’r rhain, ynghyd â’r cangarws a’u joeys bychain, yn ysbrydoliaeth barhaus i’r artist o Downing ger Treffynnon, sydd wedi ymgartrefu yn yr ardal ers y 1990au cynnar ar ôl cyfnod yn byw yn y ddinas agosaf, Melbourne, sydd ryw awr i ffwrdd ar y trên.

Cartre’r anifeiliaid hyn oll yw’r coed Blackwood, Peppermint a Manner Gum, sy’n brithio’r tir glas sydd yn ffurfio carped bryniog dan droed Hanging Rock. “Pan ddes i ma gynta, roedd arna i hiraeth mawr am goed derw Downing. Oedd crafangau cyrliog y canghennau ma mor ddieithr i mi, ond ar ôl rhyw flwyddyn fe gliciodd rhywbeth, a dechreuais i eu gwerthfawrogi nhw. Erbyn hyn, ma nhw’n ffurfio rhan fawr o ngwaith i”.

Yn wir, mae’r coed hyn yn destun sawl darn comisiwn gan yr artist, sy’n cynnwys cerfluniau anferthol o efydd, yn ogystal â cherfiadau cywrain o bren bocs y mae e’n mewnforio o Loegr.

Ymhlith y canoedd o engrafiadau pren a welir yn ei stiwdio ac a gynhyrchir ar hen argraffydd Prydeinig o’r 19eg ganrif a brynwyd mewn ocsiwn yn nhref gyfagos Ballarat, y mae casgliad o’r enw Gwibnant. Mae’r casgliad hwn yn croniclo nifer o’i weithiau, gan gynnwys darlun trawiadol o Goed y Garreg ger Treffynnon, a chyfres ddiweddar o’r enw Bedd Gelert.

 

“Dwi ma ers bron i ddeng mlynedd ar hugain, ond mae’n wir be ma nhw’n ddweud- eich profiadau cynhara sy’n creu’r argraff fwya, a’r straeon a’r llefydd hynny dwi’n cofio’u mwynhau fel plentyn.”

Ganed Tim Jones yn Wrecsam ym 1962, gan brofi magwraeth hapus ar aelwyd ddiwylliannol ar gyrion pentre Chwitffordd, diolch i waith ei dad, Mervyn, a oedd yn adfer ac yn gwerthu hen gertiau sipswn. Ymhlith ei gwsmeriaeth niferus a ddeuai o bell ac agos yr oedd aelodau o’r Romani, y llenor Roald Dahl, a rhai o fawrion y byd roc fel Led Zeppelin a Black Sabbath. “Dwi’n cofio dwyn baco Ozzy Osbourne unwaith pan o’n i yn fy arddegau, gan feddwl y bydde ganddo stwff cryfach yn ei bwtch, a pan ffeindiodd ’y nhad allan ges i grasfa a hanner!”

Cyfaill arall i’w dad a greodd yr argraff fwya’ parhaol ar Tim, sef Peter Blake- yr arlunydd pop sydd fwyaf adnabyddus am y collage eiconig a greodd ar gyfer clawr albwm Sargeant Pepper’s Lonely Hearts Club Band y Beatles yn 1967. “Roedd e’n dod draw i’r ty yn aml , ac un prynhawn fe ddysgodd i mi sut i argraffu gyda phren. Rai misoedd yn ddiweddarach ges i set argraffu gan Sion Corn. Doedd dim stop arna i wedyn”

Mae enghreifftiau o waith Tim Jones i’w gweld ar bob wal yn Rock Bottom. Yn y gegin, ceir un o gyfres o gerfiadau mawrion a ysbrydolwyd gan rai o sêr canu gwlad yr Unol Daleithiau. Mae Hank Williams syllu i lawr dros y popty, ac yn yr ystafell wely rhoddir lle amlwg i ddyfrlliw trawiadol o gath y teulu yn cuddio yn nail yr ardd, darlun a beintiodd pan oedd yn un ar ddeg.

Serch ei ddawn amlwg wrth arlunio fel plentyn, profodd Tim drafferthion sgrifennu a darllen ar hyd ei lencyndod ac roedd e’n dair ar ddeg pan awgrymwyd wrth ei rieni fod ganddo ddyslecsia. “Doedd yr un ohonyn nhw wedi clywed am y cyflwr o’r blaen, ond llwyddodd eglurhad y seicolegydd i wneud rhywfaint o synnwyr. Dywedodd fod popeth ben i waered, dipyn bach fel Awstralia! Fe arhosodd y ddelwedd honno gyda fi, gan blannu hedyn ynof fi i ymweld a’r lle ma fydde’n gwneud synnwyr perffaith i mi. Dyna, yn isymwybodol, arweiniodd fi yma mewn ffordd. Hynny- a dylanwad Skippy a Rolf Harris wrth gwrs!”

Ar ôl disgleirio yn stiwdio gelf yr ysgol uwchradd yn Nhreffynnon, aeth ymlaen i astudio yng Ngholeg Celf Wrecsam, cyn enill gradd dosbarth cyntaf mewn arlunio ac argraffu yng ngholeg polytechnig Newcastle Upon Tyne. Bu’n byw am gyfnod yn Llundain ac Efrog Newydd, cyn mudo i Awstralia yn 1984 i gwblhau diploma ac yna gradd Meistr mewn cerflunio, a chael ei lorio gan ehangder yr awyr las a’r tirwedd diderfyn y mae’n cyfaddef iddo gymeryd blwyddyn gron i’w hudo’n llwyr.

Y mae Tim Jones bellach ymhlith artistiaid cyfoes amlycaf y wlad, gyda swmp sylweddol o’i waith yn rhan o gasgliadau orielau cenedlaethol Awstralia a llawer iawn ohono hefyd ym meddiant casglwyr preifat ledled y byd. Ymhlith nifer o weithiau comisiwn mewn mannau cyhoeddus y mae ae sawl coeden efydd anferthol, gan gynnwys y goeden goch drawiadol sydd i’w gweld ym mynedfa Campws Sefydliad Holmesglen yn ninas Yarra.

  

Y mae hefyd yn ddarlithydd poblogaidd, a chanddo brofiad helaeth yn dysgu mewn prifysgolion ledled y wlad, ac yn ddiweddar, yn nghanolfan addysg gydol oes y CAE islaw Llyfrgell Ganolog Melbourne. “Dydi ‘Nhad ddim yn deall pam ’mod i’n dal i ddarlithio, ond dwi’n mwynhau cael cydbwysedd yn fy mywyd, a’r cyfle i ymweld yn rheolaidd â Melbourne, sy’n ddinas ffantastic.”

Y mae wedi dychwelyd i Gymru lawer gwaith ers symud i bendraw’r byd yn ei ugeiniau cynnar, ond yn dilyn ysgariad poenus bum mlynedd yn ôl, bu’n anodd iddo deithio adre i weld ei deulu mor aml ag yr hoffai. Ond wrth i’w blant- Eli, sy’n 14 oed, ac Arabella sy’n ddeg- dyfu’n hyn, y mae’n edrych ymlaen at ddod yn amlach, ac at archwilio cyfleoedd i arddangos ei waith yn ei famwlad.

“Y tro d’wetha es i adre, dros chwe mlynedd yn ôl, fe deithiais i gryn dipyn. Fe wnes i ail-ymweld â nifer o leoliadau yn Eryri, mynd i Neuadd Gregynnog i ymchwilio’r gwaith argraffu, ac i lawr i Dalacharn, lle ces i gerydd gan y Faeres,oedd yn meddwl mai hipi o’n i, am barcio’r camper van mewn lle anghyfreithlon!”

Llwyddodd y cyfarfyddiad swreal hwn i sbarduno print arall, ac ysbrydolodd Talacharn ei hun gyfrol gyfan o engrafiadau pren yn seiliedig ar hanes Under Milk Wood gan Dylan Thomas. Mae gwaith y bardd o Abertawe ymhlith y dylanwadau mwyaf ar ei waith, ynghyd a gwaith David Jones-artist arall a chanddo wreiddiau teuluol yn Sir Fflint.

Er gwaetha’i ddyslecsia, dysgodd fwynhau darllen tra yn ei ugeiniau a’i dridegau, gan amsugno popeth, o Lewis Carroll i William Blake, a gellir gweld eu dylanwad hwythau hefyd ar ei engrafiadau breuddwydiol, gan gynnwys delwedd y mae wedi dychwelyd ati’n aml, Blake’s Tree. Erbyn hyn mae llyfrau eu hunain yn ffurfio rhan fawr o’i waith, yn llythrennol felly, er enghraifft mewn ambell gerflun pren lliw glas Yves Klein- lliw y mae’n gwneud defnydd mawr ohono – sydd i’w canfod wrth fonion y coed craith yn yr ardd gefn, nesaf at y lili siocled a’i phersawr narcotig.

 Nid nepell i ffwrdd y mae’r stiwdio fawr, gyda baner y Ddraig Goch yn bresenoldeb amlwg nesaf at y lluniau o’i blant uwchben ei ddesg. Trwy’r ffenest, y mae Hanging Rock yn parhau i daenu ei hud magnetig, anesboniadwy dros y Cymro oddi cartre a gollodd ei acen, ac a dorrodd ei galon, ond a’i darganfu ei hun o’r newydd yn Rock Bottom.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Celf. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

  1. Dywedodd Rhys Wynne :

    Diddorol iawn – mae’r delwedau’n edrych lot mwy deniadol ar y blog yma nac yn y cylchgrawn! Do’n i heb ddod ar draw enw’r gwr o’r blaen. Does dim amdano ar y Wikiepdia Saesneg na’r un Cymraeg – ti am roi tro arni? Os ti awydd, ond ddim yn siwr sut, mae croeso i ti alw draw am tutorial yn Llyfrgell Ganolog Caerdydd ar y 30ain o’r mis. Os nad yn gallu dod, alli di awgrymu erthyglau yn ymwneud a Chaerdydd y gallwn greu a gweithio arnynt (pobl, adeiladau, hanes ayyb)? Neu, os oes gyda ti luniau da o Gaeryddd wyt ti’n fodlon eu rhannu ar y Wicipedia (ac felly ei roi yn y parth cyhoeddus)?

  2. Hysbysiad: Cegin Lowri: Ryseitiau o Oz | Lowri Haf Cooke

  3. Hysbysiad: Picnic at Hanging Rock yn 40: Gwers i Gymru gan Awstralia | Lowri Haf Cooke

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s