Merch y Ddinas yn Helsinki

Wedi penwythnos hir yn Istanbul ar  ddechrau mis Mehefin, es i yn fy mlaen i ddinas Helsinki yn y Ffindir, gan fod fy nhad, yr Athro Phil Cooke, yn derbyn doethuriaeth anrhydeddus ym Mhrifysgol Lappeenranta  am ddangos arweiniad wrth ymchwilio i systemau arloesedd ym maes datblygiad economaidd rhanbarthol, a hynny ar ôl derbyn anrhydedd cyffelyb ym Mhrifysgol Lund yn Sweden yn 2006.

Fel y gwelwch uchod, cafodd Dad top-hat fel rhodd gan academyddion y Ffindir, ar ôl derbyn plethdorch à la Iwl Cesar am ei ben yn Mhrifysgol Lund- yn ogystal â rhestr faith o jôcs Doctor Doctor gan y merched Cooke.

Roedd y seremoni ei hun yn reswm da i gael darganfod dinas ddiddorol Helsinki, sydd eleni yn Brifddinas Ddylunio y Byd.

Mae Helsinki ei hun yn ddinas fechan mewn cymhariaeth â Stockholm a Copenhagen, ond mae’n leoliad hygyrch a cherddadwy iawn, ac yn brifddinas chwaethus a chyfoethog tu hwnt.

Mae i’r ddinas hanes diddorol, ac mae ei phensaerniaeth hardd yn adlewyrchu hynny.

Yn ddaearyddol, mae Helsinki yn nes at Talinn yn Estonia a St Petersburg yn Rwsia na Stockholm, Copenhagen ac Oslo. Ym 1550 sefydlwyd Helsinki fel tre masnachu Helsingfors gan frenin Sweden, Gustav I, ond yn 1809 cafodd ei chipio gan Rwsia, ac yn 1812 penderfynodd Czar Alexander I , mai Helsinki, ac nid Turku, ddylai fod yn brifddinas y Ffindir er mwyn lleihau dylanwad Sweden ar y wlad.

Enillodd y Ffindir ei hanibyniaeth oddi wrth Rwsia ar y 6ed o Ragfyr, 1917, yn dilyn Chwyldro Hydref Lenin a’i ddilynwyr yn gynharach y flwyddyn honno, ond bron i ganrif yn ddiweddarach, mae’r rhan fwyaf o adeiladau yng nghanol dinas Helsinki yn dal i efelychu pensaerniaeth neo-glasurol yn y dull Rwsiaidd, yn ogystal â chyffyrddiadau Art Noveau arbennig o hardd.

Fodd bynnag, ceir sawl enghraifft o adeiladau ag arnynt stamp cyfoes y Ffindir, sy’n cynnig cyfosodiad diddorol ag ambell enghraifft mwy clasurol. Enghraifft dda o hyn yw adeilad marmor gwyn Enso-Gutzeit, a gynlluniwyd gan Alvar Aalto ym 1962 i sefyll o flaen Eglwys Gadeiriol Uspenski, a godwyd ganrif ynghynt yn y 1860au yn null Bysantaidd Rwsia.

Yn wir, does dim dianc rhag dylanwad  y pensaer a’r dylunydd Alvar Aalto ar y ddinas, fel y gwelwch nes ymlaen.

O ran arhosiad y Cooke’s yn y ddinas, dewisais i a fy chwiorydd aros mewn gwesty rhad ond canolog o’r enw Hotel Finn, ar heol Kalevankatu.

Mae’r gwesty mewn lleoliad rhagorol, gamau’n unig o’r orsaf drenau ganolog, oriel gelf gyfoes y Kiasma a siop fwyaf y gwledydd Llychllynaidd, Stockmann.

Gyferbyn â’r gwesty oedd caffi Sis Deli + Cafe, lle da am frecwast, lle roedd dewis o fwffe iachus, yn cynnwys suddoedd  a smwddis ffres, iogwrt a granola- neu’r Korvapuusti (bynsen sinamwn) drygionus iawn.

Mae dinasyddion Helsinki yn ymhyfrydu yn y ffaith eu bod nhw’n yfed mwy o goffi y pen na neb arall yn y byd gan olygu fod caffis niferus i’w canfod  ar hyd y Parc Esplanadi canolog, fel Cafe Strindberg ar Pohjoisesplanadi – lle arall gwych am Cappuccino a Korvapuusti neu Croissant ben bore.

Yn ogystal â chaffis chwaethus, y mae Pohjoisesplanadi hefyd yn gartref i sawl siop sy’n orlawn o gynlluniau Scandi-Chic, gan gynnwys siop lestri Iittala sy’n gwerthu gwydrau amryliw “Kivi” gan Heikki Orvola, a siop ddodrefn Artek, lle bum yn pendroni am hir pa gadair y dyliwn i drefnu ail-forgais i’w phrynu; prun ai’r Mademoiselle (1956) gyda’i chefn crib gan Ilmari Tapiovaara o’r Ffindir neu’r Wingchair ac Ottoman gwyrdd gan Hans J Wegner o Ddenmarc (1960).

A minnau eisioes wedi rhoi fy mryd ar brynu llenni Marimekko o siop Momentum yng Nghaerdydd, bu’n rhaid ffarwelio â chyfforddusrwydd y cadeiriau, er mwyn cael myned pencadlys Marimekko ei hun ochr arall i’r Esplanadi.

Sefydlwyd y cwmni defnydd o’r Ffindir ym 1951 gan Viljo ac Armi Ratia, a daeth eu cynlluniau amryliw i sylw’r byd yn 1960 pan brynodd Jackie Kennedy wyth ffrog Marimekko a’u gwisgo yn ystod ymgyrch arlywyddiaeth ei gwr JFK. Print mwyaf eiconig y cwmni yw’r pabi Unikko gan Majia Issola, a gynlluniwyd ym 1964, ac mae’r cynllun yn dal yn boblogaidd hyd heddiw.

Er mwyn osgoi mynd i ddyled dybryd, bu’n rhaid cefnu ar siopau  Pohjoisesplanadi am y tro, a cherdded draw i brif sgwâr y ddinas ger yr harbwr, lle ceir marchnad fywiog a gellir archebu tocyn i fwynhau mordaith braf o amgylch yr ynysoedd cyfagos.

Toc cyn cael awren braf ar y môr, cawsom ginio rhad ond hynod flasus yn un o stondinau bwyd niferus y farchnad. Dewisais i frechdan agored o eog wedi’i fygu ar fara rhyg gyda photel o’r cwrw lleol Lapin Kulta.

Yn ystod ein arhosiad yn Helsinki, trefnwyd ymweliad ag oriel gelf gyfoes Kiasma, sydd wedi’i lleoli mewn adeilad trawiadol a gynlluniwyd gan yr Americanwr Steven Holl, sydd hefyd yng nghanol y ddinas.

Ar ôl pasio’r car heddlu o wnaed o wlân yn nerbynfa yr oriel, gwelsom arddangosfa ddifyr o weithiau rhyngwladol yn dathlu’r berthynas rhwng cerddoriaeth roc a phop cyfoes a chelf o’r enw Thank You For The Music.

Ymysg y gweithiau oedd portreadau olew Terhi Ylimäinen o grwp thrash-metal Deliverance; gosodwaith fideo gan Iain Forsyth a Jane Pollard o’r grwp teyrnged i Kiss, Dressed To Kill, yn taenu colur ar eu hwynebau wrth baratoi i fynd ar lwyfan; a darn gan yr artist Bojan Sarcevic o Serbia o’r enw Cover Versions, yn dangos grwp cerddoriaeth traddodiadol Barbaros Erköse o Dwrci yn cynnig eu fersiynau byrfyfyr nhw o ganeuon gan Nirvana, Bob Marley, Marvin Gaye a’r Chemical Brothers.

I swper un noson, cawsom bryd arbennig ym mwyty Ateljé Finne ar Arkadiankatu, sydd wedi’i lleoli yn hen stiwdio’r cerflunydd Gunnar Finne, a greodd nifer o ddarnau o gelf cyhoeddus Helsinki yn ystod hanner cynta’r 20fed ganrif. Mae ei ddarnau efydd yn dal i addurno’r bwyty, sydd cynnig bwydlen sy’n pwysleisio cynnyrch tymhorol o’r Ffindir.

Nes i fwynhau platiad o gig eidion amrwd a salad berwr y gerddi i gychwyn, cyn cael blas ar fol porc wedi’i rostio ar haenen o domatos a shiwbwns wedi’i stwytho mewn finegr gwin gwyn, oedd yn fendigedig.

Toc cyn ei throi hi am adre, bu’n rhaid talu teyrnged i’r pensaer a’r cynllunydd Alvar Aalto (1898-1976) a fu’n gyfrifol am gynllunio cynifer o’r adeiladau a’r dodrefn dinesig a welir yn Helsinki, diolch i’w ymrwymiad llwyr i feddylfryd Gesamtkunstwerktotal work of art– a olygodd iddo nid yn unig gynllunio fframwaith yr adeiladau, ond hefyd eu dyluniad mewnol, gan gynnwys y celfi, lamplenni a phopeth arall tu mewn.

Enghraifft amlwg o hyn yw’r siop lyfrau canolog ar Pohjoisesplanadi, Akademiska Bokhandeln, a agorwyd yn 1969, ac sy’n cynnwys caffi dymunol o’r enw Cafe Aalto.

Mae ei fasys Savoy byd-enwog i’w gweld ar bob bwrdd yng ngwesty pum seren y Savoy ar Eteläesplanadi yn ogystal â silffoedd siop Iittala gerllaw.

Efe hefyd sydd yn gyfrifol am gynllunio Neuadd Finlandia, ger llyn Toolo, a grewyd- fel adeilad Enso-Gutzeit- o farmor Carrara gwyn.

Diolch i Lleucu am y llun uchod gyda llaw- ro’n i’n mwynhau paned a theisen yn Cafe Aalto tra roedd hi a Catrin yn paratoi ar gyfer râs 10K Llanelli wrth redeg o amgylch y llyn!

Nes ymlaen y noson honno, cawsom goctêl yr un ym mar A21, gan fwynhau blas Rhubarb Martini wedi’i gymysgu â dail basil ffres; Suomen Neito gyda ffrwythau tymhorol yn cynnwys mefus mafon a mwyar duon,  a’r Stella Cocktail, sydd â blas siarp a ffres diolch ‘r defnydd o lingonberries lleol.

Fel y gwelwch chi, mae Helsinki yn llawn haeddu ei theitl fel Prifddinas Ddylunio y Byd 2012, ac roedd treulio amser yno yn troedio’r palmentydd hynafol ar ddechrau mis Mehefin yn brofiad dymunol tu hwnt.

Mae ymweliad â’r ddinas ganol gaeaf, fodd bynnag, yn brofiad cwbwl wahanol, medde nhw wrtha i. Tra roedden ni yno, roedd yr awyr yn olau tan ymhell ar âl hanner nos, ond ganol gaeaf mae trigolion y ddinas yn lwcus i weld awr o oleuni gyda’r dydd, diolch i’w lleoliad gogleddol, ac felly doedd dim rhyfedd i mi brofi ffenomenon annisgwyl iawn.

Roedd y lliw melyn i’w weld ym mobman yn Helsinki- o ffrogiau a daps Converse yn siop Marimekko, Macarwns neuadd fwyd Stockmann a llyfrau Moomins i blant, i feiciau a blychau post.

Pan rannais fy syndod fod cynifer o bobol yn dewis gwisgo’r lliw, gyda’r cynllunydd dillad Nina Jatuli o siop Own ar Iso Roobertinkatu eglurodd hi fod na gymaint o deimlad o ryddhad pan ddaw’r gaeaf llwm i ben eu bod yn gwirioni’n llwyr ar liwiau llachar ganol gwanwyn, gyda melyn yn ffefryn gyda nifer fawr o drigolion y dre.

A dweud y gwir, nes i droi mewn i bach o stelcwraig steil tra’n gwylio’r byd yn mynd heibio ger y Parc Esplanadi braf, er mwyn profi pa mor wisgadwy yw’r lliw yr wyf i’n benderfynol o’i chyflwyno i’m cwpwrdd dillad fy hun.

Dros swper o nwdls cyri melyn a gorgimychiaid Kill Bill  yn Cafe Bar. No 9 ar Uudenmaakatu, gofynnais i’r weinyddes pa CD oedd yn chwarae ar yr uchel-seinydd.

Awgrymodd hi fy mod yn galw heibio siop recordiau Stupido ar Iso Roobertinkatu er mwyn prynu’r albwm gan y band o Sweden, Kent. Nes i synnu dim pan welais i mai melyn oedd lliw’r albwm Isola, a lawnsiwyd yn wreiddiol ym 1997. Dwi wedi gwrando ar yr albwm hon sawl gwaith ers dod adre, a bob tro fydda i’n gwrando ar y gân hyfryd o Hafaidd 747 (sy’n 7 munud a 47 eiliad o hyd) dwi’n gwenu gan wybod fod y Gaeaf llwm ar ben.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Dihangfa o'r Ddinas. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

2 Ymateb i Merch y Ddinas yn Helsinki

  1. Hysbysiad: Cegin Lowri: Cacennau Clustan – Byns Cardamom a Sinamwn à la Brecwast Helsinki | Lowri Haf Cooke

  2. Hysbysiad: Hygge | Lowri Haf Cooke

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s