Cofio Nora Ephron (1941-2012)

Pan glywais i’r newyddion fod Nora Ephron wedi marw o sgil-effeithiau leukemia yn 71 oed ar Fehefin 26ain,rhaid dweud i mi deimlo’n ofnadwy o drist. Yn un peth, roedd hi’n arwres lenyddol i mi, ac mae nifer o’i chyfrolau i’w canfod wrth erchwyn fy ngwely i.

Hefyd, fel ffan enfawr o ffilmiau ro’n i wrth fy modd yn fy arddegau  â’r comedîau rhamantus hynny yr oedd hi’n gyfrifol am eu  sgrifennu-  a’u cyfarwyddo, yn achos ambell un.

Yn wir, ei ffilmiau hi  ar droad y Nawdegau  a fu’n bennaf  gyfrifol am ysbrydoli’r  label “rom-com”; term a ddefnyddir bellach i ddilornu ffilmiau truenus gyda Jennifer Aniston a Katherine Heigl, yn hytrach na dathlu genre ffilm hynod ffraeth .

Wrth ddilyn ei gyrfa fel nofelydd, gohebydd, blogwraig boblogaidd a sgwenwraig ffilmiau llwyddianus rhaid cyfadde i mi deimlo dros y blynyddoedd fel fy mod yn ei hadnabod yn iawn. Mae’n debyg i filoedd o ferched eraill deimlo ′run fath, gan i’w llyfrau werthu allan yn llwyr o  siopau llyfrau ledled America ddoe, a llenwyd papurau newydd Prydain heddiw ma gydag engreifftiau niferus o’i gwaith.

Fel enw mawr ym myd ffilm, roedd hi’n gyfrifol am sgwennu sgriptiau Silkwood (1983), Heartburn (1986), When Harry Met Sally (1989) a Sleepless in Seattle (1993)  ymysg eraill, cyn penderfynu dechrau cyfarwyddo ei gwaith ei hun . Yn wir, dysgodd o brofiad ei rhieni Henry a Pheobe Ephron  (dau a fu farw o sgil effeithiau alcoholiaeth ar ôl treulio’u gyrfaoedd fel sgriptwyr ffilm)  pa  mor bwysig oedd cynnal rheolaeth dros eich gweledigaeth eich hun.

Ei hit mwyaf fel sgwenwraig sgriptiau oedd When Harry Met Sally (1989). Fel yn achos y rhan fwyaf o’i  sgrifennu y mae’r ffilm hon yn ddathliad o’r gwahaniaethau sylfaenol rhwng dynion a merched, ac yn cynnig cwestiwn sy’n dal i greu dadl hyd  heddiw; “Ydy hi’n bosib i ddynion a merched fod yn ffrindiau, neu ydy rhyw o hyd yn llechu gerllaw?”

Tra bod ei ffilmiau eraill yn ymylu ar y siwgwrllyd, y mae hon wedi datblygu’n glasur diolch i sgript gadarn llawn sgyrsiau bywiog rhwng Harry a Sally, gan adleisio cemeg y cwpwl eiconig o oes aur y sinema, Spencer Tracy a Katharine Hepburn.

Arweiniodd ei mentergarwch hi ym maes ffilm  at lwyddiant pellach i sgwennwyr benywaidd doniol a deallus eraill  fel Nancy Meyers (Father of The Bride, Something’s Gotta Give, It’s Complicated) Tina Fey (30 Rock, Date Night) a Kristen Wiig (Bridesmaids), gan brofi dro ar ôl tro  fod na farchnad anferthol ar gyfer straeon rhamantaidd  am ferched cryfion a chymhleth o bob oed.

Un o’m hoff lyfrau erioed yw ei Heartburn hi, a gyhoeddwyd ym 1983.  Dyma gyfrol  chwerwfelys am droeon trwstan tor-calon, yn cynnwys arsylwadau difyr am fywyd a bwyd, ac roedd yn seiliedig ar ei hanes ei hun, pan adawodd ei hail-ŵr Carl Bernstein (hanner y bartneriaeth Woodward and Bernstein, a dorrodd stori Watergate) hi am fenyw arall tra roedd Nora yn feichiog gyda’u hail fab.

Er i’r sefyllfa drist hon dorri ei chalon ar y pryd, sgrifennodd hi fersiwn hynod deimladwy a  difyr dros ben o’r cyfnod dan sylw, gan gyfuno’i phrofiadau o alaru am  y (a dadebru o’r) berthynas mewn arddull ffres a ffraeth- a chyfuno’r hanes gyda’i hoff ryseitiau bwyd.

Yn wir, roedd bwyd yn obsesiwn oes ganddi- ac yn un o’r rhesymau iddi   gael ei llorio gan ymadawiad ei gŵr am ddynes oedd yn da-i-ddim yn y gegin, gan fod Nora ei hun yn gogyddes wych. Dros y blynyddoedd, cyhoeddodd nifer o erthyglau yn dathlu diwydiant gastronomaidd  Efrog Newydd, cyn addasu blog bwyd Julie Powell  (am ei hymdrechion i gogino holl ryseitiau “Delia Smith yr Unol Daleithiau”,  Julia Childs)  yn  ffilm lwyddianus Julie and Julia gydag Amy Adams a  Meryl Streep yn 2009.

Roedd dinas Efrog Newydd hefyd yn greiddiol i’w sgwennu, ac y siop Shakespeare & Co ar Broadway y darganfuais ei gwaith am y tro cynfa ′nol yn 1996.

Cafodd ei geni ym Manhattan ym 1941, yn un o bedair chwaer a aeth yn sgwennwyr, ond diolch i yrfa llewyrchus eu rhieni yn Hollywood fe’u magwyd i gyd yn Beverly Hills. Fodd  bynnag, y cyfle cynta gafodd Nora  i adael y nyth, symudodd yn ôl i arfordir dwyrieniol yr Unol Daleithiau i goleg Wellesley ym Massachusetts, cyn cael profiad gwaith yn y Ty Gwyn (fel “the only intern that JFK never hit on”) ac yna cychwyn fel dosbarthydd post cylchgrawn Newsweek yn Efrog Newydd, cyn graddio i glipwraig straeon, gwiriwr ffeithiau, ac yn olaf, ymchwilydd da iawn.

Flynyddoedd yn ddiweddarach, daeth yn adnabyddus am ei rhyddiaith gynnil a choeth, yn crisialu profiad y fenyw gyfoes i’r dim- arddull a ddatblygwyd yn ystod ei chyfnod cynnar fel sgwenwraig i bapur newydd y New York Post , cyn bwrw mlaen i greu enw iddi hi ei hun wrth gyfrannu traethodau llawn ffraethinebau i gylchgronnau  fel Esquire a’r New Yorker- a gasglwyd ynghyd yn y cyfrolau Wallflower at The Orgy (1970) Crazy Salad: Some Things About Women (1975), ac I Feel Bad About My Neck (2006).

Serch cysylltiad ei rhieni â byd Hollywood, ei i pherthynas â’i hail ŵr Carl Bernstein a arweiniodd at ei phrofiad cyntaf o sgrifennu i’r byd ffilm, wrth i’r pâr benderfynu llunio addasiad sgript o’i gyfrol ef a Bob Woodward, All The President’s Men.

Er i’r cynhychwyr ddewis mynd gyda sgript William Goldman yn y diwedd, roedd y profiad yn ddigon i danio dychymyg Ephron, ac aeth ymlaen i sgrifennu hanes yr ymgyrchydd gwrth-niwclear Karen Silkwood (Meryl Streep) ym 1983, ac yna ei haddasiad wych o’i chyfrol Heartburn gyda’r un brif actores, Meryl Streep- gyferbyn â Jack Nicholson, fel ei gwr seimllyd, “Mark”.

Dair blynedd yn ddiweddarach, lluniodd y sgript  y mae hi fwyaf adnabyddus amdani, When Harry Met Sally, gyda Billy Crystal a Meg Ryan.

O ddal y ffilm yn ddiweddar pan y dangoswyd hi’n andros o hwyr ar y teledu un noson, sylweddolais nad yw When Harry Met Sally wedi dyddio braidd dim- ag eithrio ambell wasgod flodeuog a siwmper turtle-neck– a bod y berthynas ganolog mor ddiddorol ag erioed.

Munud mwyaf eiconig y ffilm wrth gwrs yw pan fo Meg Ryan, fel Sally, yn profi i Harry pa mor hawdd yw hi i ffugio orgasm dros frechdan yn Katz’s Deli ar y Lower East Side, ond mae na gymaint mwy iddi na hynny, ac rwy’n eich herio i chi i ail-wylio’r clasur hwn, sydd yn dathlu perthynas hafal, a hynod ddifyr, rhwng dau ffrind sy’n dod i ddeall ei gilydd yn well.

Er i gyfeilles i mi, sy’n gweithio ar gownter colur siop Barney’s ar Madison Avenue, ddweud wrtha i fod Ms Ephron yn gwsmer hunllefus â chanddi agwedd hyd yn oed gwaeth nag Oscar The Grouch, mae’n well gen i ei dychmygu fel dynes gadarn a frwydrodd i ennill lle iddi hi’i hun ym myd macho newyddiaduraeth y 1960au a 1970au cyn creu enw iddi hi ei hun ym myd ffilm.

Llinell fawr ei mam- hyd yn oed ar ei gwely angau-  oedd “Everything is Copy”. Hynny yw, siarsiodd Pheobe Ephron ei merch i wneud defnydd o bopeth yn ei bywyd yn ei gwaith ysgrifennu, ac felly dyna a wnaeth, gan roi troad difyr i bob dim, yn y grêd fod ffraethineb yn arf gwell o lawer na malais.

Ar ôl gadael gwaith ddoe, a gyrru adre i barhau i olygu’r gyfrol am Gaerdydd cyn paratoi swper i mi fy hun, penderfynais gael bath ac estyn am un o fy hoff lyfrau ganddi, I Remember Nothing: And Other Reflections, a gyhoeddwyd yn 2011. Arhosais yn y bath yn darllen tan i’m corff grino fel cyrensen, gan fwynhau pob gair o’i gwaith.

Yn fwy na dim, roedd Nora Ephron yn grediniol ein bod ni ferched yn llwyr gyfrifol am lywio ein ffawd ein hunain, ac un o’i chynghorion pwysicaf i raddedigion coleg merched Wellesley ym 1996  oedd “Be the heroine of your own life, not the victim”.

Dyna’n sicr fu hanes bywyd Nora Ephron, a diolch amdani hi a’i geiriau gwych.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Ffilm, Llenyddiaeth. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s