Y Sêr: Andrew Garfield, Emma Stone, Martin Sheen, Sally Field, Denis Leary a Rhys Ifans
Y Cyfarwyddo: Marc Webb
Y Sgrifennu: James Vanderbilt, Alvin Sargent, Steve Kloves
Hyd: 136mun
Dwi wedi dod i arfer bellach â gosod pâr o sbectolau 3D am fy nhrwyn i wylio ffilm, gan arfogi fy hun cyn gwynebu dwyawr o giamocs gweledol.
Ond profiad newydd i mi oedd diosg y sbectolau hud rhai munudau cyn y diweddglo- nid mewn diflastod pur diolch i ddechreuadau cur pen, ond i sychu stêm mawr fy nagrau!
Mae The Amazing Spiderman yn adweithiad rhyfeddol o dda o stori sy’n bur gyfarwydd i gynulleidfa gyfoes. Yn wir, dim on degawd sydd ers i’r gyfres ddiwethaf gychwyn arni yng nghwmni Tobey Maguire a Kirsten Dunst , a phum mlynedd ers i ni ffarwelio â’r drydedd yn y drioleg honno gan y cyfarwyddwr Sam Raimi .
Gyda chwmni comics Marvel yn pwyso am bedwaredd ffilm, doedd stiwdio Sony ddim yn awyddus i gynnal cyflogau anferthol y sêr hynny. Felly, er mwyn cadw’u gafael ar hawlfraint yr hanes, dyma benderfynu dychwelyd i wreiddiau’r corryn-ddyn yng nghwmni actorion newydd a chyfarwyddwr gydag enw perffaith.
Marc Webb yw’r dyn sy’n gyfrifol am weledigaeth y ffilm hon- dewis hynod annisgwyl, ag ystyried mai ei rôl fwyaf cyn nawr oedd cyfarwyddwr yr anti-rom-com cwyrci 500 Days of Summer (2009).
Yn anochel felly, bu cryn feirniadaeth yn dilyn apwyntiad Webb, a’i ddewis o brif actor i chwarae’r pryf copyn. Rwy’n falch iawn i ddweud fod Andrew Garfield yn cynnig perfformiad tan gamp fel prif arwr y ffilm, Peter Parker.
Cawn gyflwyniad i Peter ar gychwyn y ffilm, ag yntau dal yn fachgen. ′Rol profi lladrad yn swyddfa ei wyddonydd o dad, caiff ei hebrwng gan ei rieni i ddiogelwch cartre ei ewythr Ben a modryb May- a dyna’r tro olaf welwn ni Mr a Mrs Parker.
Flynyddoedd yn ddiweddarach, y mae’r bachgen amddifad yn ddisgybl deallus ond di-hyder, ac yn dal i chwilio am atebion i ddiflaniad ei rieni. Ar ôl darganfod papurau cudd yn seler Yncl Ben, caiff ei arwain at gyn-bartner ei dad, y genetegydd Dr. Curt Connors (Rhys Ifans).
Treuliodd Dr Connors ei yrfa yn archwilio i faes croesbeillio- gyda diddordeb arbennig mewn pryfetach ac amlusgiaid- i geisio gwella’r ddynoliaeth, a’i ddolur ei hun; dim ond un fraich sydd gan y gwyddonydd disglair.
Yn gynorthwy-ydd iddo yntau yn ei labordy crand y mae cyd-ddisgybl hardd i Peter, sef Gwen (Emma Stone), merch yr heddwas Capten Stacy (Denis Leary). Heb feiddio datgelu dim rhagor o’r ffilm , digon yw dweud y daw chwilfrydedd a chariad i chwarae eu rhan- a thrallod a thor-calon i’w canlyn.
Diolch i sgript gadarn, ceir cydbwysedd gwych o antur ac emosiwn ar hyd y cynhyrchiad, gyda’r gwyliwr yn uniaethu â phob un cymeriad. Mae na gerrynt gwirioneddol yn perthyn i’r rhamant rhwng Peter a Gwen, a waw-ffactor go iawn pan fo galw am effeithiau 3D arbennig.
Mae na ddatblygiad naturiol rhwng yr erchylldra o ddarganfod fod Peter wedi’i bigo gan bry copyn bionig, hyd at yr hwyl o arbrofi gyda’i bwerau newydd. Roedd Tobey Maguire yn wir yn seren o Spiderman, ond mae Andrew Garfield yn cynnig corryn-ddyn cystal os nad gwell, diolch i’w amseru comig ac annwyldeb mawr, a gallu corfforol rhyfeddol.
Fel gelyn y ffilm, mae Rhys Ifans hefyd yn cynnig perfformiad llawn pathos o ddyn sy’n benderfynol o wneud yr hyn sydd yn iawn- hynny yw, tan iddo brofi chwistrelliad o hubris. Os oes gwendid o gwbl yn perthyn i’r ffilm, yna’i fetamorffosis o feddyliwr addfwyn i fwystfil mawr gwyrdd yw hynny; dim ond hyn a hyn o weiddi a glafoerio y gall actor o safon wneud o dan y fath amodau.
Ond mae’n braf iawn cael gweld Rhys yn achub y dydd, gan sicrhau y gwelwn Peter Parker yn fyw ac yn iach yn y dilyniant.
*Mae’r sgôr yn seiliedig ar y system sêr, gyda 5 Cookie yn cynrhychioli’r marc gorau ac 1 Cookie yn cynrhychioli’r gwaethaf. Mae 4 Cookie yn cyfateb i 8 allan o 10.
Greetings from Sardinia, congratulations for the blog
Hysbysiad: Adolygiad Ffilm: The Bourne Legacy (15) | Lowri Haf Cooke
Hysbysiad: Adolygiadau Ffilm: Iron Man 3 (12), Oblivion (12) a Love is All You Need (15) | Lowri Haf Cooke