Adolygiad Ffilm: Ted (15)

Y Sêr: Mark Wahlberg, Seth MacFarlane, Mila Kunis

Y Cyfarwyddo: Seth MacFarlane

Y Sgrifennu: Seth MacFarlane, Alec Sulkin, Wellesley Wild

Hyd: 106mun

Oedd ganddoch chi dedi bêr pan yn blentyn? Roedd gen i a’m chwiorydd gymuned gyfan ohonynt: Tedi Rhuban, Tedi Llwyd, Huwcyn a Tedi Flewog, heb sôn am y menagerie o bandas, morloi, mwncis a doliau clwt ag iddynt enwau mor egsotig â Saint-Tropez, Lisieux a Heulwen.

I gyd-fynd â’r enwau, rhoddwyd lleisiau a chymeriadau hollol amrywiol, ac felly, pan glywsom mai ffilm am berthynas bachgen a’i arth arbennig fu’n denu’r tyrfaoedd i’r sinema dros yr Haf, bu’n rhaid i’r dair ohonom brofi Ted drostom ni ei hunain.

Yr hyn sy’n hysbys am ffilm gyntaf Seth MacFarlane yw fod gan y tedi bêr dan sylw geg hynod front, felly os ydych yn chwilio am ffilm i ddiddanu’r plant bach dros wythnos ola gwyliau’r haf, efallai byddai’n well i chi ystyried The Lorax, Brave, neu Ice Age 4: Continental Drift yn lle.

Ond i’r rheiny ohonoch sydd awydd gweld ffilm fawr wahanol i’r arfer, da chi, rhowch gynnig ar Ted.

Mae’r ffilm yn cychwyn ar Noswyl Nadolig ganol y 1980au yn un o faestrefi Boston, lle mae plant yr ardal yn aros yn eiddgar am ymweliad gan Siôn Corn. Ar y diwrnod mawr ei hun, mae bachgen bach unig o’r enw John Bennett wrth ei fodd i gael derbyn arth fawr flewog o’r enw Teddy yn anrheg, a dan olau seren wib y noson honno, dymuna John i’w ffrind newydd siarad, fel y gallant fod yn ffrindiau gorau am oes.

Er mawr sioc i’w rieni, daw Teddy yr arth yn fyw dros nos, ond mae John wrth ei fodd, yn naturiol. Dros y blynyddoedd nesa, caiff y ffenomenon anesboniadwy ei ddathlu ym mhobman, o soffa rhaglen Johnny Carson i sianeli crefyddol honco bost.

Ond fel pob ffad blinedig arall, daw poblogrwydd torfol yr hen Ted i ben, ac erbyn i John raddio o’r coleg a chanfod gwaith mewn swyddfa, mae’r arth annwyl- fel pob cyn-seren arall- wedi suro braidd ac yn gaeth i bob math o demtasiynau; o gyffuriau ac alcohol i ryw.

Wrth lwc, mae John (Mark Wahlberg) yn dal yn driw i Ted (llais Seth MacFarlane), ac maent yn cyd-fyw’n ddigon rhadlon. Yn anffodus, mae cariad John, Lori (Mila Kunis), wedi cyrraedd pen ei thennyn gyda’r arth anghyfrifol, ac yn ei feio ef am arwain ei chariad ar gyfeiliorn. Ymddengys mai dim ond un dewis sydd gan John; dweud ffarwel wrth ei gariad neu ei ffrind bore oes, ac mae hwnnw’n benderfyniad a hanner.

Sefydlir hyn oll yn yr hanner awr cyntaf, trwy gyfrwng cyfres o montages hynod ddifyr ac yn wir, diolch i effeithiau digidol soffistigedig, mae’n ddigon hawdd derbyn fod yr arth anhygoel yn gymeriad go iawn.

Fel yn achos ei greadigaeth mwyaf llwyddianus, y cartwn i oedolion, Family Guy, mae sgript Seth MacFarlane yn tasgu o linellau ffraeth a ffiaidd, ac os ydych chi’n ffan mawr o’r gyfres honno, byddwch wrth eich bodd gyda Ted.

Ar yr un pryd, problem fwya’r ffilm yw ei thebygrwydd mawr i’r gyfres honno, gan gynnwys llais Ted, sy’n swnio’n union yr un peth â chymeriad Peter Griffin (llais Seth MacFarlane), sef patriarch Family Guy. Yn wir, mewn un olygfa,  mae Ted yn gwadu ei fod o’n swnio unrhywbeth tebyg i Peter Griffin, ac ar y pwynt hunanfoddhaus hwnnw, dechreuais i amau fod cysgod ffilmiau bramant blinedig Judd Apatow yn llechu gerllaw.

Mae’n wir fod na annwyldeb mawr yn perthyn i’r arth anffodus am gyfnodau, ond yn wahanol i ffilmiau eraill sy’n chwarae gyda’r cysyniad o fachgen-ddyn fel Big neu Elf, mae Ted yn mynnu ein dieithrio gyda’r un elfennau mysogynistaidd a welwyd ddwethaf yn hit aferthol Apatow, Knocked Up (2007).

Fel Katherine Heigl yn y ffilm hono, does gan Mila Kunis druan braidd dim i wneud ond chwarae ail fanana digon cwynfanllyd i gyfeillgarwch clos y ddau enaid hoff cytun. Ond rhaid ei chanmol hi a Mark Wahlberg am gymeryd yr arth o ddifrif ym mhob un olygfa, ac mae un ffrae ddyfeisgar o dreisgar rhwng John a Ted yn werth pris y tocyn mynediad ar ei phen ei hun.

Serch ei heiliadau mwyaf herfeiddiol, ffilm gonfensiynol iawn yw Ted yn y bôn, gyda’r arth yn cymeryd lle’r stoner mawr tew traddodiadol sy’n gwrthod gadael i’w gyfaill gorau symud mlaen.

Ar adegau, mae na botensial i’r ffilm archwilio seicoleg dyn sydd yn methu’n lân â delio a chyfrifoldebau oedolyn- fel yn achos Mel Gibson a’i ddibyniaeth ar bwped yn ffilm Jodie Foster,  The Beaver (2011).

Mae’n well gan Ted , fel Hot Tub Time Machine (2010) hynod hwyliog Steve Pink, osgoi’r analysis, ac arnofio ar gwmwl o nostalgia am yr 80au, gan ffoli nid yng nghwmni Freud ond Flash Gordon.

Os mai dyna yw eich dileit, wel bydd Ted yn siwr o daro deuddeg. Ond mae na rywbeth ar goll mewn ffilm o’r fath pan mae’r diweddglo yn drewi o Disney.

Y Sgôr Terfynol*

*Mae’r sgôr yn seiliedig ar y system sêr, gyda 5 Cookie yn cynrhychioli’r marc gorau ac 1 Cookie yn cynrhychioli’r gwaethaf. Mae 3 Cookie a hanner yn cyfateb i 7 allan o 10.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Adolygiad, Ffilm. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

2 Ymateb i Adolygiad Ffilm: Ted (15)

  1. Dywedodd Ceri :

    Own i’n meddwl bod y stori garwriaethol wedi sbwylo’r ffilm – Nage Ted a John ond John a’r fenyw.

    Buasai’n well ffilm o lawer wrth gal gweld anturiaethau Ted a John wrh i’r ddou o’nhw dyfu lan.

    Tynnwch mas cariad John a’r is-stori herwgipio a galsan nhw fod wedi creu stori well o lawer.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s