Gwyl Gwobr Iris, Caerdydd: Hydref 10-14 2012

Rhwng heddiw a dydd Sul, cynhelir chweched Gwyl Ffilm Iris yn ninas Caerdydd.

Dyma’r unig wyl ffilmiau byrion o’i bath sy’n cynnig cymorth ymarferol i enillydd y wobr hael o £25,000 i gael datblygu ffilmiau pellach, a llwyfan i arddangos eu gwaith. 

Dros yr haf, derbyniais wahoddiad  i ymuno â rheithgor yr wyl, sy’n golygu y byddaf yn ymuno â 12 o aelodau rhyngwladol eraill i benderfynu pwy o’r 31 ffilm fer o 14 gwlad fydd yn haeddu’r wobr fawr ei hun.

Ymysg fy nghyd-aelodau y mae sgrifennwyr, ymgyrchwyr, actores a gwneuthurwyr ffilm, gan gynnwys Daniel Ribeiro, cyfarwyddwr o Frasil ac enillydd gwobr yr wyl y llynedd am y ffilm fach hyfryd Eu Não Quero Voltar Sozinho (I Don’t Want To Go Back Alone) am ddarpar-ramant rhwng dau ffrind ysgol, un ohonynt sy’n ddall.

Yn ymuno â ni hefyd y mae merch ddaeth yn agos iawn at gyrraedd y brig y llynedd, sef Anna Rodgers o Iwerddon, sef cyfarwyddwraig y ddogfen hudolus Hold on Tight, sy’n dangos cyplau hoyw yn Iwerddon yn rhannu eu profiadau o’r galon, mewn ffilm deimladwy iawn .

Dwi’n edrych ymlaen yn arw at gael treulio’r pum niwrnod nesaf yn gwylio’r ffilmiau a thrafod y safon  gyda’r criw diddorol o fore gwyn tan nos.

Ymysg y straeon fydd i’w gweld ar seliwloid y mae carwriaeth unnos gyda serial-killer, trallod bachgen dros ei annallu i dyfu blewiach eto,  a stori garu sy’n datblygu diolch i gamera Polaroid.

Y mae’r holl ffilmiau byrion (ac 8 feature film) ar ddangos i aelodau’r rheithgor a’r cyhoedd yng nghanolfan Chapter Treganna a Cineworld ar Stryd Mary Ann y dre, ac ar brynhawn Sul am 1pm cynhelir seremoni wobrwyo fawreddog yr wyl dan ofal y ddiddanwraig boblogaidd Amy Lamé yng ngwesty’r Park Inn.

Yn dilyn hynny am 6pm, cewch brofi sesiwn o oreuon yr wyl ffilm eleni ar y sgrîn fawr yn Cineworld. I’r rheiny ohonoch fydd wedi colli’r sesiynau byrion ar hyd yr wythnos, dyma gyfle euraidd i brofi hufen yr wyl.

Ond toc cyn cynnwrf y datguddio, rhwng 08.30-10.00 ar fore Sul, byddaf yn rhannu’r cyfan am fy mhrofiad yng Ngwyl Gwobr Iris ar raglen Dewi Llwyd ar BBC Radio Cymru, felly clociau larwm ′mlaen!

Cewch weld pa ffilmiau sydd ar ddangos ac archebu tocynau i’r holl ddigwyddiadau- sy’n cynnwys fforymau trafod i wneuthurwyr ffilm- ar wefan Iris fan hyn.

Wela i chi na!

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Ffilm. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s