Cofio John Hefin

Mae heddiw yn ddiwrnod trist iawn i garedigion ffilm yng Nghymru, gan i ni golli dyn a oedd mor angerddol am weld y wlad a’i phobol yn cael eu cynrhychioli ar y sgrîn fawr.

Ro’n i ar fy ffordd i angladd fy modryb ym Mhontypridd pan glywais i’r newyddion trist am huno John Hefin.

Eisioes, mae na nifer o erthyglau amdano wedi ymddangos ar y we, a chynlluniau i ddarlledu rhaglenni teyrnged er côf amdano, a da o beth yw hynny.

Fel darlithydd yn y maes yn adran Theatr Ffilm a Theledu Prifysgol Cymru Aberystwyth, roedd e’n ysbrydoliaeth pur, a ces i’r fraint a’r pleser o dreulio pedair mlynedd o ′mywyd fel un o’i fyfyrwyr.

Doedd darlith gan John ddim fel darlithoedd eraill- cawsom y cyfle yn y flwyddyn gyntaf i brofi amrywiaeth eang o ffilmiau, gan gynnwys nifer fawr o’i ffefrynnau. Yn eu plith yr oedd y ffilmiau fel   (1963) gan Fellini a The Battle of Algiers (1966) yn ogystal ag Easy Rider (1969) a chlasur Woody Allen, Manhattan (1979).

I gyw-adolygydd, doedd na ddim byd amhleserus am yr orchwyl wythnosol hon, o wylio ffilm cyn gwrando ar werthusiad treiddgar ond difyr gan John, yna mynd adre i sgrifennu fy adolygiad fu hun ohoni. Does dim ffordd y buaswn wedi datblygu gyrfa fel beirniad ffilm trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg heb i mi brofi arweiniad ysbrydoledig John Hefin.

Es i ymlaen i ddilyn gradd Meistr o dan ei adain ef, gan ganolbwyntio ar y ffilm Dogme gyntaf Gymreig i gael ei chynhyrchu, sef Diwrnod Hollol Mindblowing Heddiw gan Euros Lyn, a addaswyd o nofel Owain Meredith.

Y rheswm i mi benderfynu canolbwyntio ar y cynhyrchiad arbrfol hwn- a ddilynodd ganllawiau llym yr ″ysgol″ ffilm o Ddenmarc, a gipiodd yn nychymyg nifer o gyfarwyddwyr toc cyn troad y mileniwm- oedd i’r ffilm hollol Gymreig (a Chymraeg) hon berthyn i fudiad ffilm rhyngwladol oedd ddim byd i wneud â chystadlu a ffilmiau Hollywood neu Lloegr. Roedd John yn gefnogol iawn i’r astudiaeth hon,  a derbyniodd fy nhraethawd farc uchel ganddo.

Flwyddyn yn ddiweddarach, pan laniais i fy swydd gyntaf, gyda chwmni Cambrensis yng Nghaerdydd, ro’n i wrth fy modd i ddeall y bydden i’n cyd-weithio â John ar y raglen ddogfen Cofio Gwenlyn. Bu John a Gwenlyn Parry yn ffrindiau mawr, ac yn gyd-sylfaenwyr y gyfres sebon Pobol y Cwm, ac felly roedd yn brosiect eithriadol o bersonol iddo.

Yr oedd yn bleser i gyd-weithio ag ef ar y raglen hon; fel cyfarwyddwr, roedd yn ddyn hynaws a chanddo weledigaeth arbennig. Flwyddyn ar ôl hynny, a minnau yn gweithio gyda’r BBC, derbyniais wahoddiad i ddychwelyd i Cambrensis i gydweithio ag ef eto  ar y rhaglen deyrnged Rhydd, am yr awdur a dramodydd- a phartner sgrifennu Gwenlyn- Rhydderch Jones o Aberllefenni.

Roedd hi’n fraint cael astudio o dan ei adain, a chydweithio ag ef, a threulio oriau yn trafod  ffilmiau. Cês i groeso twymgalon bob tro yn y Borth ganddo ef a’i wraig hyfryd, Elin, ac  rwy’n mawr gydymdeimlo â’r teulu.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Ffilm. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s