Gwahoddiad i Barti Lansio Canllaw Bach Caerdydd!

Dwi’n eithriadol o falch i fedru dweud, o’r diwedd, yr aeth Canllaw Bach Caerdydd i’r wasg yn gynharach heddiw, ac y bydd ar werth yn eich siop lyfrau lleol yn fuan iawn!

Mae’r wythnos dd’wethaf wedi bod yn llawn cynnwrf wrth i Elinor Wyn Reynolds y golygydd, Aled Phillips a Sam Mallett o gwmni dylunio Departures a minnau’n ogystal weithio fel ffyliaid i ddod â’r holl fanylion bychain at ei gilydd mewn pryd.

Tan ga i afael yn y gyfrol, does gen i ddim syniad sut dwi’n teimlo. Dwi mewn bach o limbo wrth sylweddoli fod dros dwy flynedd o mywyd wedi’u brechdannu’n brydferth rywle ar gyrion Llandysul, ond dwi’n siwr y dof i at fy nghoed yn fuan i rannu’r holl goss gyda chi!

Yn y cyfamser, hoffwn estyn gwahoddiad i chi, ddarllenwyr hyfryd fy mlog, i ymuno â mi i gael dathlu cyhoeddiad y llyfr mewn steil.

Fel y gwelwch o’r gwahoddiad uchod, noson lawen ddinesig sydd dan sylw ar Ragfyr 4ydd, a hynny mewn cwmni hollol wych.

Ro’n i’n llawn cyffro pan glywais i fod lleoliad fy mreuddwydion ar gael dechre Rhagfyr, ac ar ben fy nigon pan gytunodd yr holl artistiaid anhygoel i gyfrannu i noson arbennig iawn.

Wna i ddim datgelu rhagor- digon yw dweud y bydd na ambell syrpreis ar y noson, ac y byddai’n dda o beth pe bai chi’n archwilio’r posibilrwydd o gael bore Mercher i ffwrdd!

Os ydych chi mor chwilfrydig â mi i gael gweld y gyfrol gyntaf o’i bath yn y Gymraeg am ddinas Caerdydd, yna dewch yn llu- a cofiwch ddanfon rsvp i’r hyfryd Nia Jenkins yng Ngwasg Gomer, os gwelwch yn dda.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Canllaw Bach Caerdydd. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Un Ymateb i Gwahoddiad i Barti Lansio Canllaw Bach Caerdydd!

  1. Hysbysiad: Delweddau o’r Ddinas II | Lowri Haf Cooke

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s