Adolygiadau Ffilm: Life of Pi (PG) The Impossible (12) a Quartet (PG)

Life of Pi

Y Sêr: Irrfan Khan, Suraj Sharma, Ayush Tandon, Gerard Depardieu, Rafe Spall

Y Cyfarwyddo: Ang Lee

Y Sgrifennu: Addasiad David Magee o nofel Yann Martel

Hyd: 127mun

Oes na unrhywbeth gwell na chlywed stori dda, a honno wedi’i hadrodd yn wych? Mae plant yn ffodus iawn yn hynny o beth; fel oedolion, does dim ffasiwn beth ag “amser stori”.

Wel, os ydych chi’n dyheu am ddameg dda, gwnewch ffafr â chi’ch hun ac ewch ar eich union i’r sinema i brofi  Life of Pi– wnewch chi ddim difaru gwneud am eiliad.

Mae’r ffilm yn addasiad o nofel gan Yann Martel, a gipiodd y wobr Man Booker yn 2001, ac wedi’i llywio gan  un sydd yn feistr ar y grefft o gyfathrebu stori dda trwy luniau; y cyfarwyddwr Ang Lee o Tseina.

Ymysg y nofelau y mae e wedi’u trosi’n ffilmiau gwych y mae Sense and Sensibility (1995) gan Jane Austen a Brokeback Mountain (2005) gan Annie Proulx, ond mae Life of Pi yn tywys y gynulleidfa un cam ymhellach.

O’r eiliadau cyntaf cawn ein cyfareddu’n llwyr a’n trawsblannu i fyd hudol, amryliw, sŵ llawn anifeiliaid yn Pondicherry yn Ne-Ddwyrain India.

Down i ddeall yn fuan mai dyma gartref bachgen bach o’r enw Pi a’i rieni a’i frawd, ac mai brenin y sŵ yw’r teigr bygythiol, Richard Parker.

Caw eglurhad am eu henwau anarferol gan y storïwr o’r dyfodol sy’n fframio’r ffilm, sef Pi ei hun fel oedolyn (Irrfan Khan). Mae e’n dysgu athroniaeth mewn coleg ym Montreal, ac mae awdur (Rafe Spall) wedi dod i gyfweld ag ef i glywed stori ryfeddol ei fywyd.

Caiff y teulu eu gorfodi i adael y sŵ, gan benderfynu mudo i Ganada i werthu’r anifeiliaid. Ond ar y fordaith faith ceir storom fawr, a sudda llong y teulu i ddyfroedd oer y Môr Tawel.

Yr unig oroeswyr yw criw dethol iawn mewn bád achub; zebra, hyena, orangwtang a Pi (Suraj Sharma)- a Richard Parker y teigr.

Heb feiddio datgelu rhagor a tarfu ar eich mwynhad o’r ffilm, y mae’r hyn sy’n dilyn yn frwydr i oroesi mewn cymaint o ffyrdd gwahanol.

Os feddylioch chi mai pinacl bramant forwrol oedd Tom Hanks a “Wilson” y pêl foli yn Castaway (2000), arhoswch nes i chi brofi cyfeillgarwch rhwng bachgen a theigr.

Y mae’r ffilm eithriadol hon yn addasiad o nofel a ddigrifiwyd yn “gwbl anffilmiadwy”. Wedi’r cyfan, sut goblyn mae modd ffilmio plentyn ac anifail brawychus ar y cyd â’i gilydd mewn golygfeydd di-ri – onibai am driciau 3D ac effeithiau arbennig?

Dyna’n union a benderfynodd Ang Lee i wneud gyda Life of Pi, ac mae’r effeithiau syfrdanol yn gweddu’n wych â natur “realaeth hudol” y stori. Ac mae’r actio, gan Suraj Sharma, a dreuliodd fisoedd yn perfformio o flaen sgrîn werdd,  yn afaelgar tu hwnt- ac yn gwyro rhwng y doniol a’r dirdynnol.

Ceir golygfeydd nas ciwpiwyd erioed o’r blaen ar ffilm diolch i effeithiau sy’n dathlu mawredd natur; o ffyrnigrwydd storom enbyd hyd at lonyddwch llyn o sêr, mae’n gynhyrchiad sydd yn rhaid ei brofi yn y sinema.

Ac mae’r un troad ola yn werth ei weld, gan beri i ni gwestiynu pob elfen o’r ffilm.

Yn gwbl sylfaenol, mae na wers i ni gyd yn Life of Pi– ffilm fawr sy’n llawn eiliadau bychain, bythgofiadwy. Fel bywyd ei hun, mae’n ffilm eithriadol o hardd, a thrist, ac ysbrydoledig.

Y Sgôr terfynol*

*Mae’r sgôr yn seiliedig ar y system sêr, gyda 5 Cookie yn cynrhychioli’r marc gorau ac 1 Cookie yn cynrhychioli’r gwaethaf. Mae 4 Cookie a hanner yn cyfateb i 9 allan o 10.

The Impossible

Y Sêr: Ewan McGregor, Naomi Watts, Tom Holland

Y Cyfarwyddo: Juan Antonio Bayona

Y Sgrifennu: Sergio G Sanchez

Hyd: 113mun

Oes na ffasiwn beth, tybed, â “chyfnod parchus” lle rhaid osgoi mynd i’r afael â phwnc sensitif cyn bod modd ei droi’n ffilm fawr? Oes na fath brotocol yn bod?

Yn achos Dorothy Gibson, un o oroeswyr y Titanic, roedd llai na mis yn ddigon i ddelio â’i phrofiad hithau, wrth iddi serennu yn Saved From The Titanic, a ryddhawyd 29 diwrnod yn unig wedi i’r llong bleser suddo yn Ebrill 1912.

Arhosodd Maria Belon rai blynyddoedd i rannu hanes ei theulu hithau ar adeg Tsunami Gwyl San Steffan 2004 ar raglen radio yn Sbaen. Yn gwrando’n astud ar y stori anhygoel yr oedd y cyfarwyddwr Juan Antonio Bayona, ac fe benderfynodd droi’r cyfan yn ffilm.

Cawn gyflwyniad i deulu deniadol Maria (Naomi Watts) a Henry (Ewan McGregor) ei gŵr ar daith awyren anghysurus i Wlad Thai, ac mae’r pâr a’u tri mab wrth eu bodd i gael cyrraedd eu gwesty paradwysaidd ar lan y môr yn Khao Lak.

Wedi dathlu diwrnod Nadolig yng nghwmni twristiaid gorllewinol eraill yn yr hafan ddwyreinol hon, mae’r teulu o bump yn cyfri eu bendithion ac yn fodlon iawn â’u byd.

Ond tra’n chwarae yn y pwll nofio drannoeth, caent eu taro gan wal anferthol o heli, eu rhwygo oddi wrth eu gilydd a’u llusgo dan dunnelli o ddwr.

Pan gyrhaedda Maria yr arwyneb o’r diwedd, dim ond ei mab hynaf Lucas sydd i’w weld yn brwydro cerrynt gwyllt y môr. Wedi iddynt ganfod lloches ar ganghennau coeden ar ôl achub bachgen bach, dim ond dechrau y mae’r hunllef, a rhaid gwynebu diwedd eu byd.

Diolch i drugaredd trigolion lleol, caent eu hachub o’u lloches dros dro, a’u brysio i ysbyty gyfagos er mwyn i Maria dderbyn triniaeth ar frys.

Does dim sôn am weddill y teulu, ac mae panic a phandemoniwm yr ysbyty yn codi braw. Oes modd goroesi trychineb o’r fath, heb sôn am obeithio am  wyrth? Ydy’r tri arall dan donnau’r Môr Tawel, ynteu’n dal ar dir y byw?

Rhaid dweud fod gwylio The Impossible yn brofiad annifyr a rhyfedd ar y naw. Ar y naill llaw, mae’n ffilm frawychus sy’n cyfleu erchylldra’r drychineb yn dra effeithiol- ond mae hefyd yn codi cwestiynau mawr.

Os ydych chi wedi gweld yr hysbyseb ar gyfer y ffilm fawr hon, fe wyddwch chi dipyn mwy na’r hyn ddewisais ddatgelu yma- digon yw dweud bod y cynhyrchiad yn dilyn dau linyn storîol, a’r gobaith mawr ar hyd y ffilm yw y dont ynghyd cyn diwedd y ffilm.

Os nad ydych am  wybod beth yw hanes y teulu, anwybyddwch y ddau baragraff nesa, neu byddwch am fy ngwaed am sbwylio The Impossible i chi.

Yr hyn sy’n fy ngwneud yn anghyffyrddus am y blocbyster bombastig hwn yw’r ffaith fod diweddglo hapus lled-diweddar un teulu yn tarfu ar alar byw degau ar filoedd o bobol na brofodd yr un “wyrth”. Yr hyn, fodd bynnag, sydd yn achub y ffilm rhag ansensitifrwydd llwyr yw cyfeiriadau cyson at y trueiniaid na hawliodd eu ffilm fawr eu hunain.

Y cannoedd o blant amddifad, er enghaifft, a gludwyd i ffwrdd heb ddim gair- a’r miloedd o bobol leol a gollodd eu cartrefi ond a ddaeth i achub y dydd, heb sôn am y tadau a mamau a gwyr a gwragedd a gollodd eu caredigion nhw; lle mae nhw nawr?

Wrth gwrs, mae hon yn ffilm o Sbaen ag iddi uchelgais ryngwladol, ac felly rhaid cael teulu gwyn perffaith i ddenu’n cydymdeimlad llwyr. Ond serch yr amwysedd moesol, mae na le i ganmol mawr.

Mae gan Tom Holland, fel Lucas y mab hyna, ddyfodol disglair diolch i berfformiad tan gamp, llawn emosiwn.  Mae effeithiau anhygoel y don fawr ei hun, o ddifri, yn werth eu gweld; yn bennaf, gan iddynt gael eu ffilmio heb ddefnyddio CGI, ond yn hytrach yn nhanc dŵr mwya’r ddaear.

Ac mae’r trac sain tyner, gan gynnwys darn piano cynnil Fernando Velázguez, yn cydio trwy gydol y ffilm, ac yn ein hatgoffa nd oes unrhywbeth annaturiol am ddyheu am ddiweddglo hapus yn wyneb trychineb anesboniadwy o’r fath.

Ar adegau, mae’r ffilm yn rhagori ar TV Movie a gynhyrchwyd ar frys i ymateb i’r galw am ‘closure’  gan gynulleidfaoedd torfol newyddion 24-Awr-y-Dydd.

Ond, ag ystyried mai dim ond wyth mlynedd yn ôl y digwyddodd y drychineb,  dwi wir yn teimlo mai dim ond un a oroesodd, neu sy’n dal i alaru yn sgil y Tsunami all ddyfarnu a yw The Impossible yn ffilm werth ei halen ai peidio.

Y Sgôr terfynol*

*Mae’r sgôr yn seiliedig ar y system sêr, gyda 5 Cookie yn cynrhychioli’r marc gorau ac 1 Cookie yn cynrhychioli’r gwaethaf. Mae 3 Cookie a hanner yn cyfateb i 7 allan o 10.

Quartet

Y Sêr: Maggie Smith, Billy Connolly, Pauline Collins, Tom Courtenay, Michael Gambon, Sheridan Smith

Y Cyfarwyddo: Dustin Hoffman

Y Sgrifennu: Ronald Harwood

Hyd: 98mun

Beth ddaeth dros fy mhen i yn meddwl bo fi’n gwbod yn well na Mam?

Pan gynigais i drip i’r fflics iddi, dewisodd fynd i weld Qurtet. A minnau wedi gaddo mynd gyda hi, gan fwriadu gweld The Impossible, feddyliais i fyth y byddai’r ddrama gomedi ysgafn am gantorion operatig oedrannus yn rhagori ar flocbyster fwya’r flwyddyn- hyd yma.

Fel yn achos The Best Exotic Marigold Hotel y llynedd, cynulleidfa darged Quartet yw’r miliynau o bobol dros eu trigain oed, ond mae iddi apêl sydd yn fydysawdol.

Gyda chast anrhydeddus, Dustin Hoffman fel cyfarwyddwr a sgript ffraeth a addaswyd o’r un wreiddiol i’r llwyfan gan y dramodydd ei hun Ronald Harwood, beth allai fynd o’i le? Dim llawer, yw’r ateb gonest, ond peidiwch â disgwyl ennyd o antur na gronnyn o CGI.

Yr hyn a geir yn Quartet yw comedi ysgafn ond aeddfed am wynebu angau ag anrhydedd, ac sydd yn trin pobol hýn gyda pharch- ond sy’n cael hwyl direidus yn eu cwmni nhw ′fyd.

Gimmick mwya The Best Exotic Marigold Hotel oedd i’r cartre preswyl i’r henoed bryd hynny gael ei gosod yn India bell; yn Quartet, mae’n atynnu artistiaid o fri.

Mae neuadd Beecham yn hafan heddychlon i rai o gantorion opera a cherddorion gorau’r blaned, ac yn cynnal cyngerdd flynyddol i ddathlu pen blwydd Verdi er mwyn cadw’r lle i fynd.

Ceffylau blaen y pwyllgor perfformio yw triawd a fu’n gyd-gantorion am ddeugain mlynedd. Mae’r Reggie (Tom Courtenay) tawel yn dal i alaru am ei wraig afradlon, a Cissy (Pauline Collins) yn delio â dechreuadau Dementia, ond yn dilyn trawiad, mae Wilf (Billy Connolly)  yn mwynhau bywyd braf o fflyrtio â’r gweinyddesau o wlad Pwyl.

Yn cadw trefn ar bawb y mae Cecil (Michael Gambon) ddiamynedd, y Divo mwya brofodd neb erioed.

Ond pan ddaw ysbryd o’r gorffenol i darfu ar yr hedd, rhaid holi a oes modd i’r sioe fynd yn ei flaen?

Prif wendid y ffilm yw dewis Dustin Hoffman i ganolbwyntio ar griw o Saeson o’r dosbarth canol uchaf, ond i fod yn deg ag ef, mae’r ffilm ar y cyfan yn cyflwyno dehongliad o bobol hýn sydd yn gwbl  groes i’r arferol.

Mae Michael Gambon yn dwyn y sioe fel misanthrop o’r radd flaenaf, ac fel yn achos ei chymeriad y Dowager Countess of Grantham yn Downton Abbey, mae Maggie Smith yn cyflwyno pwys o pathos a chwarter o gomedi crafog i’r cyfan.

Mae’r rhamant ganolog yn ddigon teimladwy, diolch i berfformiad go gynnil Tom Courtenay. Ac er mai embarrassing braidd yw ymdrechion Sheridan Smith i’n darbwyllo  ei bod hi’n fedddyg o fri, ceir cefnogaeth gref gan gast o gantorion profiadol, gan gynnwys cyfraniad gan y Fonesig Gwyneth Jones.

Mae’r stori’n un syml, ond ceir sgript gref sy’n cynnal y sioe, ac mae’r delweddau yn hynod ddeniadol.

Does dim drwg mewn gweld ffilm sy’n dwyn yn ei gwyliwr yr awydd i ddysgu canu’r piano.

Sgôr Terfynol*

*Mae’r sgôr yn seiliedig ar y system sêr, gyda 5 Cookie yn cynrhychioli’r marc gorau ac 1 Cookie yn cynrhychioli’r gwaethaf. Mae 4 Cookie yn cyfateb i 8 allan o 10.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Adolygiad, Ffilm. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Un Ymateb i Adolygiadau Ffilm: Life of Pi (PG) The Impossible (12) a Quartet (PG)

  1. Hysbysiad: Adolygiad Ffilm: Argo (15) | Lowri Haf Cooke

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s