Adolygiadau Ffilm: Les Misérables (12) a Gangster Squad (15)

Les Miserables

Y Sêr: Hugh Jackman, Russell Crowe, Anne Hathaway, Amanda Seyfried, Eddie Redmayne, Samantha Barks, Sacha Baron Cohen a Helena Bonham Carter

Y Cyfarwyddo: Tom Hooper

Y Sgrifennu: William Nicholson, Alain Boublil a Claude-Michel Schönberg a Herbert Kretzmer

Hyd: 158mun

Darlledais adolygiad o Les Misérables ar raglen Dewi Llwyd ar Fore Sul ar BBC Radio Cymru ar Ionawr 13eg, a’i thrafod fel rhan un o ffilmiau mawr y flwyddyn ar raglen Prynhawn Da ar S4C ar Ionawr 4ydd, 2013.

Mae hi’n chwarter canrif a mwy ers i’r supremo theatr Cameron Mackintosh lwyfannu’r sioe gerdd Les Misérables yn Llundain gynta. Ers hynny, gwerthwyd 60 miliwn o docynnau ledled y byd- nifer o’r rheiny, wrth gwrs wedi’u prynu gan ffanatics pur fwy nag unwaith.

Y mae’r ddrama lwyfan ei hun yn wompyn o beth sy’n cywasgu themau mawrion fel hunaniaeth, achubiaeth a chyfiawnder i gynhyrchiad sy’n deirawr o hyd ac a addaswyd o nofel anferthol gan Victor Hugo.

Ychwanegwch at hynny restr faith o ganeuon eiconig a sawl stori serch, gyda’r Chwyldro Ffrengig yn gefnlen i’r cyfan; fel Pum Diwrnod o Ryddid mewn ffordd, ond ar raddfa gryn dipyn mwy, dyma i chi’r cynhwysion euraidd sy’n rhannol-egluro poblogrwydd torfol Les Misérables.

Wrth baratoi i’w haddasu yn ffilm yn 2010, gwynebodd y cyfarwyddwr Tom Hooper (The King’s Speech) gwestiwn go ddwys; sut goblyn oedd trosglwyddo llwyddiant sioe gerdd fwya’r byd o’r llwyfan i’r sgrîn arian?

Yr ateb oedd wrth gofio mai’r prif reswm yr heidiodd cynifer i’w gweld mewn theatrau ledled y byd oedd i gael eu hudo gan y gwirionedd a gyflewyd gan leisiau’r perfformwyr.

Am y tro cyntaf erioed felly mewn cynhyrchiad o’r fath, recordiwyd aelodau o gast y ffilm yn canu’n fyw ar y set, cyn i’r gerddorfa gofnodi’r trac sain mawreddog mewn ymateb i’r lleisiau hynny.

Ar y cyfan, mae’r gimmick yn gweithio’n arbennig o dda- yn arbennig yn achos y prif actorion.

Cipiodd Hugh Jackman enwebiad Oscar yng nghategori’r Actor Gorau yr wythnos hon am ei ddehongliad teimladwy o’r cyn-droseddwr Jean Valjean, sy’n profi troedigaeth o fath cyn brwydro i fyw bywyd llawn anrhydedd.

Nid hynny fu hanes ei gyd-Awstraliad Russell Crowe, sy’n chwarae’r heddwas obsesiynol Inspector Javert, sy’n mynnu erlid Jean Valjean hyd syrffed. Ond gellid dadlau mai Crowe sydd yn cyflwyno’r perfformiad mwyaf diddorol o’r ddau, wrth iddo gyflwyno haenau dwysach na’r disgwyl i gymeriad go bantomeimaidd- a llais canu annisgwyl o swynol yn ei achos ef.

Enwebwyd Ann Hathaway am ei rôl gynorthwyol fel y butain fregus Fantine, sy’n hoelio’r sylw yn ystod awr gynta’r cynhyrchiad. Mae ei dehongliad amrwd hi o “I Dreamed a Dream″ yn werth y tocyn mynediad ar ei phen ei hun.

Yn yr un modd, mae act ddwbwl Sacha Baron-Cohen a Helena Bonham-Carter, fel y gwehilion gwenwynig Monsieur a Madame Thénardier, yn cynnig haenen o gomedi crafog i deirawr go ddwys, ac felly mae eu cyfraniad nhw yn werthfawr tu hwnt.

Yr actorion iau sydd ychydig yn wan mewn cymhariaeth â’r prif driawd trydanol. Does dim llawer o hygrededd i ramant fawr Cosette (Amanda Seyfried)- merch y diweddar Fantine a fagwyd gan Valjean- a Marius (Eddie Redmayne), y myfyriwr angerddol  sy’n daer dros gyfiawnder i bawb, ac yn un o geffylau blaen y chwyldro. Ond rhaid diodde’r ddau am gyfnod sylweddol o’r cynhyrchiad.

Mae’n bosib mai’r rheswm am hynny yw ieuenctid y ddau, sy’n gymeriadau llai dwys na’r oedolion aml-ddeimensiwn. Ond dyw hi ddim yn helpu pan fo’r actorion hyn yn dewis cynnig sianelu dau gartwn, gyda trilio Cosette yn dwyn Eira Wen siwgwrllyd Disney i gôf, a llais Marius, ar adegau, yn efelychu crawcian Kermit y broga.

Mae hynny’n hynod anffodus ar adegau o alar dwys, fel yn achos y farwnad ingol “Empty Chairs At Empty Tables”.

Mae gen i ofn na chreodd ddehongliad Samantha Barks o Éponine dlawd a’i chân fawr “On My Own” unrhyw argraff arna i, sydd braidd yn byderus, gan iddi gael ei dewis gan Cameron Mackintosh ei hun, ar ôl iddi chwarae’r arwres anffodus ar lwyfan y West End.

Ond, wrth gymharu’r ddau gynhyrchiad, rhaid dweud, yn fy achos i, mai’r ffilm sy’n rhagori am sawl rheswm.

Llwyddais i ddeall pob gair a ganwyd yn ystod y ffilm gan olygu i mi ‘ddarllen’ y stori yn well yn y sinema.

Diolch i ehangder y weledigaeth, a sets whit-a-whiw, deallais hefyd wir ddioddefaint y cymeriadau. Hefyd, roedd cryn dipyn llai o amwysedd yn perthyn i’r ffilm, ac yn achos Javert, roedd diweddglo ei stori yntau yn hollol glir, ac yn sioc mawr- er i mi ddeuddydd ynghynt, ac am y tro cyntaf erioed, brofi’r sioe lwyfan fawreddog yn Llundain.

Os ydych chi’n ffan o’r fersiwn llwyfan, byddwch wrth eich bodd â’r ffilm hon- yn bennaf, am ei bod hi mor eithriadol o driw i’r sioe wreiddiol.

Ond rwy’n amau a oes croeso i’r rheiny sydd ddim yn aelodau o’r cwlt cerddorol-yn arbennig felly y rheiny anghofiodd ddod â chlustog â nhw ar gyfer yr ectrafagansa estynedig

Mae’n wir fod y ffilm yn orlawn o ganeuon gwirioneddol hardd- ond ar ôl clywed yr ugeinfed gân tua hanner ffordd fewn, dechreuais nogio tan i mi gael fy neffro gan yr anthem fawreddog “Do You Hear The People Sing”, sydd hefyd yn dychwelyd ar gyfer yr olygfa derfynnol.

I fod yn hollol deg â’r sioe lwyfan, dyna i chi eiliad euraidd a theatrig tu hwnt sy’n syrthio’n gwbl fflat yn y sinema.

Yn eironig ddigon, mae diweddglo’r ffilm yn hollol wych, ac am y tro cyntaf erioed, ces fy ysbrydoli i neidio ar fy nhraed a chymeradwyo’n wyllt.

Ond gan na wnaeth neb arall feiddio gwneud yr un fath, bu’n rhaid gadael yn dawel ac yn llawn rhwystredigaeth.

Y Sgôr terfynol*

*Mae’r sgôr yn seiliedig ar y system sêr, gyda 5 Cookie yn cynrhychioli’r marc gorau ac 1 Cookie yn cynrhychioli’r gwaethaf. Mae 3 Cookie a hanner yn cyfateb i 7 allan o 10.

Gangster Squad Poster

Y Sêr: Sean Penn, Josh Brolin, Ryan Gosling, Nick Nolte, Giovanni Ribisi ac Emma Stone

Y Cyfarwyddo: Reuben Fleischer

Y Sgrifennu: Addasiad sgript Will Beall o gyfrol hanesyddol Paul Lieberman

Hyd: 113mun

O holl genres y byd ffilm, mae gen i wendid mawr am ffilmiau gangster. Os wela i fod Heat, Casino neu The Godfather ymlaen, rhaid gwylio’r ffilm am y canfed gwaith, gan brofi pleser rhyfeddol wrth weld yr arwyr amwys a dihirod dwys yn brwydro hyd angau.

Yr wythnos hon rhyddhawyd ffilm a ddisgrifiwyd gan un beirniad ffilm fel “LA Confidential meets The Untouchables”. Roedd hynny’n ddigon i ′nenu i i weld y ffilm hynod slic hon, a rhaid dweud i mi fwynhau Gangster Squad yn fawr, ac rwy’n eich annog chi gyd i fynd i’w gweld.

Dyw hi ddim yn ffilm berffaith o bell ffordd, ond mae hi’n ticio sawl bocs, gydag arwyr, dihirod, llwyth o saethu a snogs.  Am y rhesymau hynny’n unig ges i gymaint mwy o sbort yng nghwmni’r Gangster Squad na Jean Valjean a Javert.

Mae’r ffilm wedi’i gosod ym 1949, ac yn dilyn uned elite o heddlu’r ddinas wrth iddynt geisio dod â theyrnasiad y mafioso Mickey Cohen (Sean Penn) i ben. Mae’r ffaith fod y rhan fwyaf o aelodau o gymdeithas Los Angeles- gan gynnwys y gyfraith- ym mhocedi Cohen yn gwneud eu gwaith yn anos fyth, ac am y rheswm hynny mae nhw’n griw hollol gyfrin sy’n brwydro am enaid LA.

Dan arweiniad cadarn Sarjant John O’Mara (Josh Brolin, No Country For Old Men)- sydd dal dan deimlad ers brwydro’r Ail Ryfel Byd- a diolch i sêl bendith ei wraig goddefgar Connie (Mereille Enos- “Sarah Linden” yn fersiwn Americanaidd The Killing), daw ag aelodau’r criw ynghyd.

Yn eu plith y mae’r hync hamddenol Jerry Wooters (Ryan Gosling, Drive, The Notebook), y cyn-ysbîwr sy’n ddyn teulu, Conway Keeler (Giovanni Ribisi, Saving Private Ryan, Friends) a’r cowboi o’r hen ysgol Max Kennard (Robert Patrick, Terminator 2: Judgment Day) sy’n giamstar â gwn.

I blith y dynion, rhaid cael gangster’s moll sy′ mewn trafferth mewn cynhyrchiad o’r fath ac mae Emily Stone yn berffaith wrth charae Grace Faraday, y femme fatale. Mae’r wefr rhwng ei chymeriad hithau a Jerry yn gredadwy tu hwnt (fel yr oedd rhwng yr un actorion y llynedd yn Crazy, Stupid Love), ond cariad Mickey Cohen yw hi. Oes rhyw ffordd o ddianc rhag y psycho sadistaidd, a chanfod hapusrwydd â’r hync?

I ryw raddau mae’r ffilm hon yn enghraifft dda o gynhyrchiad sy’n teimlo’n hynod gyfarwydd ond sy’n cyflawni hynny â chryn steil. Am un peth, mae Sean Penn yn berffaith fel y bwystfil bygythiol dan bwysau mawr, tra fod y gerddoriaeth a’r cyfarwyddo celfyddydol yn gwbl  gyfareddol ac yn cyfrannu cymaint at ein mwynhad.

Yn foesol, wrth gwrs, mae hynny’n dipyn o broblem  mewn ffilm am griw o ddihirod da. Ceir ymdrechion glew i anesmwytho’r gynulleidfa yn ystod y golgfeydd mwyaf treisgar, fel yn achos y naid-doriadau anachronistaidd sy’n tarfu ar y twrw, i’n sbario rhag y gwaed.

Mae’r hyd yn ddioddefol- ychydig llai na dwy awr- a’r actorion yn ddeniadol tu hwnt. Mae’r rhediad yn slic a’r effeithiau’n go sick, ond i mi,  mae’n well na theirawr o schmaltz.

Sgôr Terfynol*

*Mae’r sgôr yn seiliedig ar y system sêr, gyda 5 Cookie yn cynrhychioli’r marc gorau ac 1 Cookie yn cynrhychioli’r gwaethaf. Mae 4 Cookie yn cyfateb i 8 allan o 10.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Adolygiad, Ffilm. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

2 Ymateb i Adolygiadau Ffilm: Les Misérables (12) a Gangster Squad (15)

  1. Hysbysiad: Adolygiad Ffilm: The Sessions (15) | Lowri Haf Cooke

  2. Hysbysiad: Adolygiad Ffilm: Argo (15) | Lowri Haf Cooke

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s