Canllaw Bach Caerdydd: Mis Ionawr

Canllaw Bach Caerdydd

Fis yn ôl ro’n i ar gwmwl rhif naw, ar ôl cyhoeddi fy nghyfrol gynta, Canllaw Bach Caerdydd.  Mae’r ymateb wedi bod yn hollol wych,  a hoffwn ddiolch yn fawr iawn i’r rheiny a wnaeth am ei phrynu, ei darllen, a’i gwerthfawrogi.

Hyd yma, mae nifer wedi canmol diwyg y gyfrol- gyda nifer yn mwynhau arogli’r tudaennau a mwythau’r clawr meddal! Hoffwn bwysleisio mai cwmni dylunio Departures, ac argraffwyr athrylithgar Gwasg Gomer sy’n llwyr gyfrifol am hynny.

O ran cynnwys y llyfr ei hun, dyma i chi flas ar yr hyn mae ambell un, yn garedig iawn, wedi’i drydar mewn ymateb i’r cyfanwaith. I’r rheiny ohonch sydd eto i’w darllen, efallai y bydd yr arsylwadau canlynol yn ddigon i’ch perswadio i’w phrynu a’i mwynhau…

“Llongyfarchiade enfawr i @LowriHafCooke ar #CanllawBachCaerdydd – mae’r llyfr yn anhygoel!” (Huw Stephens)

“Ryff-geid 285 tud @LowriHafCooke i Gaerdydd yn gwbl gwbl ardderchog. Chwaethus, modern, deinamig, da! #adolygiad ” (Simon Brooks)

“Mae’r gyfrol newydd Canllaw Bach Caerdydd yn fy llaw- ac mae’n llyfr arbennig iawn. Mae rhywbeth i’w ddarganfod am Gaerdydd ar bob tudalen am hanes, bwyd, celf, llefydd i fynd am dro, yr ardaloedd gwahanol a mwy.” (adolygiad blog Ein Caerdydd)

I gadw’r ddesgyl yn wastad, dwi hefyd yn gwerthfawrogi beriniadaeth adeiladol, gan gynnwys arsylwad gan Nest Gwilym , hefyd ar trydar.

“Llongyfarchiade mawr ar y Canllaw, wedi joio pori ynddo a dysgu pethe newydd! Siwr o’i ddefnyddio ond ro’n i’n synnu braidd nad oedd na adran ar grefydd neu o leia restr o gapeli gan fod nhw wedi ac yn dal i fod yn rhan bwysig o fywyd Cymraeg y ddinas ac o gynnal y bywyd hwnnw

Derbyniais y feirniadaeth, ac a dweud y gwir,  ddwedodd Mam yr un peth wrth i mi ddirwyn i ben ag ysgrifennu’r gyfrol. Ystyriais yr awgrym yn ofalus iawn cyn dod at y casgliad nad llyfr am hanes y Gymraeg yn y ddinas mohoni.

Cyfeiriaf yn achlysurol at gapeli ac eglwysi’r ddinas, ond yn y bôn, teithlyfr yw’r gyfrol, a honno i fod yn ganllaw “bach”! Yn fy marn i, mae na ddwy gyfrol gyfan i’w hysgrifennu am gyfraniad yr iaith Gymraeg i Gaerdydd, a hanes hynod capeli Cymraeg y brifddinas, a hynny o berspectif cyfoes.

Fy mhrif ysgogiad wrth sgrifennu’r gyfrol hon oedd ceisio cyflwyno cyfrol hylaw ac aml-haenog am ddinas Caerdydd, ac os ydych chi wedi darllen y llyfr, fe wyddoch chi nad oes na adran benodol ar gyfer hanes cyffredinol y ddinas fel a geir mewn llyfrau eraill. Yn hytrach, ceisiais weu straeon a hanesion i blith y lleoliadau hynny byddai trigolion neu ymwelwyr yn debygol o alw heibio.

Ces fy nhanio hefyd i sgrifennu cyfrol chwaethus a chyfoes am y ddinas, gan nad oes neb arall wedi gwneud hynny hyd yma. Ro’n i hefyd wedi laru ar aros am gyfrol ar Gaerdydd gan un o’m hoff gyfres teithlyfrau, sef Wallpaper* City Guides, er i wasg Phaidon yn Llundain gyhoeddi cyfrolau am Lundain, Caeredin a Dulyn- yn ogystal â phob prif ddinas ryngwladol arall ar wyneb y ddaear.

Dwi ddim yn gwybod be sy’n eich corddi chi, ond roedd y ffaith fod na fwlch mor amlwg yn y farchnad yn dân ar fy nghroen i!

Wallpaper Guide: Cardiff?

Yn ogystal â’r ymateb ar wefannau cymdeithasol ers cyhoeddi’r gyfrol fis yn ôl, ges i sioc hynod bleserus i weld bod Canllaw Bach Caerdydd wedi cyrraedd rhif 4 yn rhestr Cyngor Llyfrau Cymru o ddeg uchaf o werthwyr gorau mis Rhagfyr. Mae hynny’n anhygoel, ag ystyried iddi gyrraedd silffoedd y siopau ar ganol y mis, felly rwy’n cymryd i sawl un dderbyn copi yn eu hosan Nadolig!

Y Cymro Deg Uchaf 012

Wrth gwrs, mae’r gyfrol ymhell o fod yn berffaith, ac am wythnosau ar ôl ei chyhoeddi, roedd fy nghoesau’n ddu-las ar ôl cicio fy hun gymaint am golli agoriad lleoliad neu ddau toc cyn y cyhoeddi, a darganfod, wythnosau wedi’r lansio, fod ambell le wedi cau.

Dyna, mae’n debyg, yw natur pob teithlyfr a natur pob prifddinas, lle mae busnesau’n agor a chau fel tro’r trai. Ond wrth gwrs nid pob teithlyfr sydd â blog cysylltiedig i wneud yn iawn am hynny.

Fel yr addewais felly, ar dudalen diolchiadau Canllaw Bach Caerdydd, dwi am gyhoeddi diweddariad bob rhyw fis neu ddau i’ch hysbysu am unrhyw newidiadau arbennig sy’n gysylltiedig â’r gyfrol. Y gobaith yw ail-gyhoeddi’r gyfrol ar ei newydd wedd ymhen ychydig flynyddoedd.

Croeso Mawr i…

gallery/ten  llawr cyntaf,  23 Windsor Place, Caerdydd, Cf10 3BY

gallery/ten Caerdydd

Wedi blynyddoedd o grwydro o ofod i ofod , darganfuodd Cat Gardiner a’i gwr Andy gartref parhaol i’w horiel gelf a chynllunio cyfoes project/ten, a  hynny ar stryd hynod chwaethus Plas Windsor yng nghanol y ddinas .

Ers ddechrau mis Rhagyfr, y mae’r gofod braf wedi denu nifer i fwynhau celf gyfoes trawiadol gan artistiaid fel Carwyn Evans, Seren Jones a Natalia Dias.

gallery/ten Caerdydd

Gwyliwch allan dros y misoedd nesaf am arddangosfeydd unigol-nad oedd modd eu cynnal o’r blaen- gan enwau adnabyddus fel Elfyn Lewis  a Jon Oakes.

Fire Island Cornel Westgate Street a Quay Street, mynediad ar Stryd Womanby

Fire Island Cardiff

Ddyddiau’n unig wedi i’r gyfrol fynd i’r wasg, ro’n i’n cerdded  tuag at Clwb Ifor Bach ar hyd Womanby Street  pan ddigwyddais i daro ar ddiwrnod agoriadol Fire Island.

Tafarn a bywty yw’r lle hwyliog hwn ar Heol y Cei, sydd yn cynnig amrywiaeth dda o gwrw go iawn, coctels gwerth chweil  a bwyd barbeciw sy’n denu hen stejars yn ogystal â’r hipstars.

Do’n i ddim yn teimlo’n rhy erchyll am hepgor y lle hwn, gan i mi gynnwys ei frawd-fariau Buffalo a 10 Feet Tall yn y gyfrol. Ond i wneud yn iawn am y cam, es i yno wedi’r lansiad yng nghwmni Aled Phillips a Sam Mallett o gwmni dylunio Departures.

Criw Canllaw bach Caerdydd y Fire Island

Cawsom botel o fizz i ddathlu’r gyfrol, a phryd o fwyd hyfryd o hamddenol- byniau porc wedi’i fygu a’i ddarnio, a’u gweini â chôlslô cartre.

Synnwn i ddim na fydd y lle hwn yn llawn yn ystod pencampwriaethau rygbi’r chwe gwlad, gan fod Fire Island wedi’i lleoli gyferbyn â Stadiwm y Mileniwm. Fy nghyngor i’r rheiny sydd awydd ymweld fyddai da chi, cyrhaeddwch yn gynnar!

The Fat Pig Deli  4, Romilly Crescent, CF11 9NR

The Fat Pig Deli

I’r rheiny ohonoch, fel fi, sydd yn dal i alaru am ddeli hynod ddymunol Le Gallois Chez Soi ar y ffin rhwng Treganna a Phontcanna, mae gen i newyddion gwych o lawenydd mawr; agorwyd deli tebyg iawn yn yr union fan, drws nesaf i fwyty Oscars, a hynny toc cyn Nadolig.

Barry Pickup yw perchennog y lle, ac mae e ′nol yn ei faestref genedigol, wedi blynyddoedd yn gweithio yn y byd bwyd yn Llundain.

Yn ogystal â gwerthu bwydydd artisan o safon fel  bara a pain au chocolat o fecws lleol Allen’s Bakery, cawsiau Cymreig a chrafion porc cwmni Trotters, paratoir y bwyd i gyd yng nghegin y deli bach dymunol; o bancos Americanaidd ben bore, rhôl calamari ac aioli i ginio, hyd at a gaserols â blas Sbaenaidd i swper.

Mi fedra i hefyd gadarnhau fod teisen foron Carys, gwraig Barry, yn hyfryd dros ben a’r coffi’n eithriadol o dda.

The Fat Pig Deli, Caerdydd

Tro nesa fyddwch chi yn yr ardal, cofiwch alw i fewn, i brynu byrbryd ar fyrder neu fwynhau paned hamddenol wrth y bwrdd.

Chapel 1887 Churchill Way, CF10 2WF

Chapel 1877

Un o’r bwytai diweddara i agor ers mis Rhagfyr yw Chapel 1877, ar waelod Heol Churchill.

Bu’r adeilad yn segur am flynyddoedd mawr, ar ôl treulio dros ganrif ar ffurf Capel Pembroke Terrace, cyn troi’n swyddfa i gwmni pensaernïol ym 1983. Cynlluniwyd y capel gan bensaer o fri, Henry C. Harris o Benarth; adeiladodd ei gapel cyntaf- Bethania, Llaneirwg- pan oedd yn ddeunaw mlwydd oed, ond Capel Pembroke Terrace oedd y goron ar ei yrfa pan yr agorodd ym 1877.

Rwy’n falch iawn i gael adrodd fod yr addasiad i far a bwyty chwaethus wedi bod yn un hynod lwyddianus, wrth i’r cynllunwyr barchu’r manylion gwreiddiol fel  y tyrrau Ffrengig-Gothig a waliau brics coch mewnol, oedd yn anghyffredin iawn am gapel o’r cyfnod.

Mae’r bwyd ei hun hefyd yn werth ei brofi, gyda dewis o ddwy fwydlen wahanol; bar y llawr gwaelod, syn gweini prydau lleol, Cymreig, a’r bwyty hynod swanc fyny grisiau lle ceir bythau moethus sy’n cynnig cuddfan i sêr a gloddestwyr cyffredin.

Yn bersonol, ro’n i wrth fy modd gyda’r hwyaden Gressingham gês i’n brif gwrs lan staer, ac roedd y crème brûlée hufen Merlyn yn ardderchog i bwdin.

Chapel 1877, Caerdydd

A Ffarwel Ffarwel…

The Promised Land

… i The Promised Land (Bar a Chlwb, Tud. 159), dafliad carreg o gallery/ten ar Blâs Windsor. I’r rheiny ohonoch fydd ar goll yn llwyr heb gyrchfan hwyr y nos syn addoli’r Manics a Stereophonics, bydden i’n argymell ymweliad â’r Live Lounge, The Friary, yn lle.

Alius Modi

… ac i gaffi hyfryd Alius Modi (Cinio Hamddenol, Tud. 107) yn siop swanclyd Flannels ar Heol Churchill. Dyma lle flasais salad Caesar gorau (a mwyaf rhesymol) fy myw, ond mae’n debyg y bu’r lleoliad yn rhy guddiedig i rai. Rwy’n flin iawn iawn i weld y caffi hwn yn mynd- roedd na naws hynod gyfoes à la Efrog Newydd i’w chanfod yno.

Rhagor o newyddion i ddod cyn hir. Yn y cyfamser, os hoffech chi brynu’r gyfrol gan yr awdures ei hun, croeso i chi gysylltu â mi ar yr ebost, sef lowri.cooke@live.co.uk 

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Bwyd, Caffi, Canllaw Bach Caerdydd, Celf, Tafarn/ Bar. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

2 Ymateb i Canllaw Bach Caerdydd: Mis Ionawr

  1. Hysbysiad: Canllaw Bach Caerdydd Mis Mai & Mehefin | Lowri Haf Cooke

  2. Hysbysiad: Canllaw Bach Caerdydd: Mis Awst a Mis Medi | Lowri Haf Cooke

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s