Adolygiad Ffilm: A Good Day To Die Hard (12)

A Good Day To Die Hard

Y Sêr: Bruce Willis a Jai Courtney

Y Cyfarwyddo: John Moore

Y Sgrifennu: Skip Woods

Hyd: 98mun

Trafodais y ffilm A Good Day To Die Hard ar raglen Sam Ar y Sgrin ar S4C ar nos Wener, Chwefror 15ed, 2013.

Coeliwch neu beidio ond mae hi’n chwarter canrif ers i Bruce Willis wisgo fest wen chwyslyd John McClane gyntaf. Bryd hynny roedd yn ddyn cyffredin, llawn llinellau ffraeth, pan wynebodd o’r dihiryn Hans Gruber (Alan Rickman) a’i griw yn nhŵr Nakatomi Los Angeles.

Ers cynhyrchiad cyntaf Die Hard (1988) profodd yr heddwas hamddenol sawl antur enbydus, gan greu helynt ledled yr Unol Daleithiau.

Bellach ry’ ni ar bumed rhifyn y gyfres, sef A Good Day To Die Hard, sy’n cynnwys yr un tân gwyllt a therfysgwyr di-enaid ag arfer, gyda bonws y tro hwn o gymeriad Jack, sef mab John McClane, sy’n ysbîwr gyda’r CIA yn ninas Moscow.

Oeddch chi’n gwbod bod ganddo fe fab? Wel, do’n i ddim yn sylweddoli bod ganddo fe ferch tan Live Free or Die Hard (neu Die Hard 4.0, o’r flwyddyn 2007), ond pwy ydw i i gwestiynnu synnwyr y gyfres?

Yr unig beth sydd angen i chi wybod yw fod Bruce Willis yn ei ôl, ac yn manteisio ar y buzz a grewyd gan gyfres lwyddianus The Expendables gyda hen stejars eraill o genre ffilmiau action fel Arold Schwarzenegger a Sylvester Stallone, sydd ar hyn o bryd yn serennu yn eu ffilmiau eu hunain.

Y broblem yw, mae ffilmiau action wedi esblgu cryn dipyn ers cyfnod euraidd yr 80au. Bellach, rhaid cystadlu ag effeithiau arbennig cyfresi superheroes, fel Marvel’s Avenger’s Assemble neu gyfres Batman Christopher Nolan, heb sôn am glyfrwch yr arwyr cyfoes Bryan Mills, Jason Bourne a James Bond.

Yn wir, daw’n amlwg o olygfeydd cyntaf A Good Day To Die Hard mai triawd trydanol Taken, Bourne a Skyfall yw prif elynion John McClane wrth i’r cyfarwyddwr geisio ail-sefydlu presenoldeb John McClane ac atgoffa pawb mai fe ddaeth gyntaf.

Yn anffodus, mae’r dyn ei hun wedi pellhau gymaint o’i wreiddiau “dyn go iawn”, nes ei fod bellach yn ymdebygu i psychopath sy’n dioddef dôs gwael o ′roid rage.

Wrth drawsblannu ein harwr o’i famwlad fe gaiff e rywsut rwydd hynt i ladd  a llofruddio unrhywun sy’n dod ar ei draws, o fegalomaniacs mwyaf Moscow i Ruskis cwbl gyffredin.

Y stori, yn syml, yw fod y tad a’r mab wedi dieithrio oddi wrth ei gilydd ers tro, ond pan glywai McClane am garchariad John Jr ym Moscow, mae e’n benderfynol o fynd yno i’w achub. Yn ddiarwybod i’r tad, mae gan y mab gynllun ei hun- i achub carcharor arall sy’n bwriadu tystio yn erbyn un o weinidogion llwgr y llywodraeth.

Lle mae modd uniaethu i ryw raddau ag angerdd Bryan Mills tuag at ei ferch trwy gydol trybini Taken, a hyd yn oed werthfawrogi gwallgofrwydd y psycho slic Raoul Silva yn Skyfall, mae A Good Day To Die Hard yn dioddef o un gwendid mawr- sef sgript hynod sâl, sydd unrhywbeth ond slic, ac sy’n cynnwys ystrydebau wedi’u pentyrru ar ben ei gilydd.

Er mwyn canolbwyntio ar berthynas fregus y tad a mab chawn ni ddim dod i adnabod- na malio jot- am y dihirod di-enaid yn Rwsia.

O leia gyda Hans Gruber- a Simon (Jeremy Irons) ei frawd, sef gelyn pennaf McClane yn Die Hard With a Vengeance (1995)- roedd na hiwmor lled-soffistigedig i wrthgyferbynnu’r ffrwydriadau ffantastic, a rheswm i ni boeni am ein harwr.

Mae gen i hefyd ofn nad oes gan Jai Courtney fel Jack McClane braidd dim byd i wneud ond ymddwyn yn swrth bob tro fydd ei dad yn rhannu’r un stafell ag ef.

Un peth, ac un peth yn unig, sydd o baid y ffilm hon, sef dawn Bruce Willis i ysgafnhau pob un olygfa lafurus gyda’i garisma naturiol a’i arfer wynepsyth o rannu llinell  euraidd.

Y gamp gyda’r ffilm hon, a’r unig ffordd o’i mwynhau, yw ceisio cofio y buodd na hwyl hollol wirion i gael gyda ffilmiau o’r fath cyn y daeth Bourne a’r criw i gyflwyno elfen ymennyddol i’r action.

Does dim pwynt cwestiynnu pam fod cyfarfod allweddol yn digwydd mewn neuadd llawn chandeliers, na chwaith sut fod y ffilm yn gorffen mewn hofrennydd uwchben Chernobyl- jyst mwynhewch y tân gwyllt sy’n dilyn.

Dyw enw’r ffilm hon ddim yn glasur o bell ffordd, ond daw popeth yn glir pan ystyriwch chi’r is-deitl, sy’n cyfeirio ′nol at un o linellau eiconig y ffilm gynta.

Fel yn achos Alvin and the Chipmunks: the Squeaquel, gellid yn hawdd ddychmygu y cafodd y ffilm hon ei chynhyrchu ar sail yr un linell hon yn unig.

“Yippee Ki Yay Mother Russia”… Mae hynny’n dweud y cyfan!

Sgôr Terfynol*;

Mae’r sgôr yn seiliedig ar y system sêr, gyda 5 Cookie yn cynrhychioli’r marc gorau ac 1 Cookie yn cynrhychioli’r gwaethaf. Mae 3 Cookie yn cyfateb i 6 allan o 10.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Adolygiad, Ffilm. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s