Rhyw dair blynedd yn ôl ro’n i’n sgwrsio â foodie mawr am ei hoff ysgrifennu bwyd. Nid llyfrau coginio oedd dan sylw yn union ond yr awduron hynny sy’n dyrchafu bwyd i lefel uwch celfyddyd.
Ymlith ei ffefrynnau yr oedd y beiriniad bwyd o’r Unol Daleithiau, M.F.K. Fisher. Wrth ddarllen ei chofiant, darganfuodd gyfeiriad at Gymro o’r enw Idwal Jones. Gwglodd yr enw, a chanfod iddo sgrifennu nofel o’r enw High Bonnet.
Fe awgrymodd y dyliwn i ddarllen y nofel, gan ddweud ei bod hi’n glasur cogyddol.
Dyna, yn fras yw cefndir fy nghyflwyniad i ddyn sy’n ei fedd ers hanner can mlynedd!
Wedi i mi gael blas ar High Bonnet, darllenais i gyfrolau eraill gan Idwal Jones, a mwynhau ei waith yn fawr. Ers tair blynedd bellach dwi wedi ymchwilio i’w gefndir a chanfod coblyn o stori dda.
Mae hanes yr awdur yn un gwbl wych- dyma i chi Gymro arloesol wireddodd ei freuddwyd Americanaidd. Er iddo gael ei fagu yn Mlaenau Ffestiniog a’i hyfforddi i ddilyn ei dad i’r chwarel, trodd ei gefn ar hynny gan ddilyn ei reddf a chreu bywyd-ac enw- iddo’i hun yng Nghaliffornia.
Yr enw dan sylw oedd Idwal Jones; awdur, teithiwr, beirniad theatr a llên a gourmand o fri a greodd argraff fawr yn ystod hanner cynta’r Ugeinfed Ganrif. Bu’n byw yn San Francisco cyn symud i LA a gorffenodd ei daith yn Laguna Beach. Mae Hollywoodd hefyd yn chwarae ei rhan- ac roedd ei Gymreictod yn ffactor cyson ar hyd ei yrfa.
Yn gynharach eleni, clywais i mi ennill un o Ysgoloriaethau Llenyddiaeth Cymru i barhau â’r ymchwil, ac ar Ebrill y 1af byddaf yn hedfan i LA.
Mae gen i daith a hanner o’m mlaen i, fydd yn cynnwys ymweliadau â Phrifysgolion ledled y dalaith; o UCLA yn Los Angles i UCSB Santa Barbara yna ′mlaen i UCB Berkeley, lle mae ei archifau yn llechu ers degawdau.
O gofio hefyd y bu Idwal yn awdurod ar fwyd a gwin Califfornia, byddai bron yn gableddus teithio’r holl ffordd heb brofi rhai o fwytai a gwinllanoedd gorau’r dalaith!
Dwi wedi mwynhau sawl gwyliau yng Nghaliffornia, ac fe ges i’r pleser o yrru ar hyd y Pacific Coast Highway ar road-trip yng nghwmni fy chwiorydd yn 2007.
Bryd hynny, roedden ni newydd weld y ffilm wych Sideways sy’n dilyn troeon twstau dau hen ffrind wrth iddynt archwilio gwinllanoedd y dalaith. Y tro ma, gyda dipyn o waith sgrifennu i wneud , dwi am gymeryd pethe hyd yn oed yn fwy hamddenol a chymeryd y trên ar hyd union yr un siwrne.
Does gen i ddim syniad beth wna i ddarganfod am Idwal, ond dwi’n reit ffyddiog fod na berlau yn aros amdanaf. Dwi’n gwerthfawrogi’r cyfle i archwilio i hanes Cymro fu’n arloeswr yn y maes California Cuisine, sy’n bennaf gyfrifol am ail-danio’r diddordeb mewn bwyta’n lleol, organic a thymhorol.
Mae Ygoloriaeth y Gronfa Amryfal- sy’n galluogi gwaith ymchwil o’r fath- yn talu am y teithiau awyren, y llety a rhywfaint o’r teithio draw ′na; mae gweddill yr elfennau i fyny i mi yn llwyr. Fel adolygydd bwytai, a blogwraig bwyd, fy newis i yw mynd ar bererindod bwytai i gyd-fynd â’r gwaith ditectif llenyddol.
Dwi’n mawr obeithio y caf i gyfle i ddanfon blogbost neu ddau o Galiffornia, a dwi’n siwr o rannu ambell lun neu argraff ar fy nghyfrif Trydar, @LowriHafCooke .
Un o werthfawrogwyr mwyaf sgrifennu Idwal Jones, a dyn a sgrifennodd ragair i gyhoeddiad diweddar o High Bonnet, yw’r cogydd byd-enwog (ac awdur y gyfrol ragorol Kitchen Diaries) Anthony Bourdain. Mae’r cofiant hwnnw’n ffefryn mawr gen i, ac yn anuniongyrchol, efe sy’n gyfrifol am fy angerdd am Idwal.
Rwy’n eilio ei arsylwad di-flewyn ar dafod fod y Cymro o Ffestiniog yn “one fascinating dude”!
Pwy a wyr be ddaiff nesa, yn dilyn y daith; yn sylfaenol, gwyliwch y gofod…
Waw, Lowri! Dyna fydd profiad gwych. Erioed wedi clywed am Idwal Jones ond mae gen ti stori ddifyr iawn yn fanna. Pob hwyl, a bydda, mi fydda i’n gwylio’r gofod!
Diolch yn fawr am y diddordeb- mae gen i gant a mil o bethe i wneud cyn gadael!
Edrych ymlane i weld ffrwyth dy lafur achos mae’r erthygl amdano ar y Wikipedia Saesneg (os mai dyma’r Idwal Jones cywir) gyda rhybudd arno am nas oedd cyfeiriadau arno. Sdim erthygl amdano’n Gymraeg eto.
Hysbysiad: Canllaw Bach Caerdydd Mis Mai & Mehefin | Lowri Haf Cooke
Hysbysiad: Dihangfa o’r Ddinas : Merch y Ddinas ym Meirionnydd | Lowri Haf Cooke
Hysbysiad: Adolygiad Ffilm: Chef (15) | Lowri Haf Cooke
Hysbysiad: Dihangfa o’r Ddinas: Sgrifennu Bwyd yn San Francisco | Lowri Haf Cooke
Hysbysiad: Sr Michelin Blaenau Gwent: Ysgolion Creadigol Arweiniol | Lowri Haf Cooke