Adolygiad Theatr: Praxis Makes Perfect (National Theatre Wales)

image by farrows creative

Adolygais y cynhyrchiad Praxis Makes Perfect ar raglen Dewi Llwyd ar Fore Sul, Mai 7ed 2013. Cliciwch yma i wrando eto.

Llewpartod lloerig, merched noeth a gloddest dros ben llestri…

Lai nag wythnos ers profi cynhyrchiad gorau eto y Theatr Gen, fe’m hudwyd yn llwyr gan symffoni synhwyrus National Theatre Wales, oedd yn ddigon i chwalu ‘mhen.

Mae na deimlad cyffredinol ar hyn o bryd fod y celfyddydau yng Nghymru yn profi cyfnod o gynnwrf mawr. Dyna’n sicr oedd i’w deimlo ymysg y dorf a gasglodd o flaen warws ar Heol Curran, Glanyrafon yng Nghaerdydd ar noson agoriadol y “gig theatrig” Praxis Makes Perfect.

Cydweithrediad oedd dan sylw rhwng y grwp electro-pop Neon Neon, y dramodydd Tim Price a’r cyfarwyddwr Wils Wilson.

Cynnwrf, chwilfrydedd, a hel clecs di-ri; dyna a glywais i tra’n sipian Bellini a chlustfeinio yn y ciw o flaen bar Champagne Socialist merched Milgi. Ochneidiau o bleser aruthrol a ddilynodd y cwestiwn “Welsoch chi gynhyrchiad Bianco, No Fit State, neithiwr?”, tra roedd canmol mawr i’r arddangosfa newydd yn The Tramshed gerllaw, ac i gig Al Lewis a gynhaliwyd yn y Glee Club  lawr y Bae ar nos Lun.

Mae’n deg i ddweud fod gwaith ysgubol National Theatre Wales dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn rhannol gyfrifol am yr holl gynnwrf hyn; wrth “ailddyfeisio iaith y theatr bob tro y llwyfennir cynhyrchiad ganddynt” (chwedl y Daily Telegraph) cynigwyd her a hanner i bawb o’u cwmpas, a cododd safon nifer fawr o gwmniau eraill- gan gynnwys y Theatr Genedlaethol.

Ond yn wahanol i gynyrchiadau eraill National Theatre Wales, roedd canran helaeth o’r dorf hon yn siaradwyr Cymraeg- a nifer o’r rheiny’n ddynion yn ymylu ar ganol-oed, mewn crysau cochion tîm pêl droed Cymru. Doedd dim rhyfedd, mewn gwirionedd, gan mai meistr seremonîau y noson oedd neb llai na Gruff Rhys- nawddsant Cŵl Cymru (serch y ffug-frand erchyll), prif-leisydd Super Furry Animals,  ac aelod ers 2007 o Neon Neon.

Roedden ni gyd wedi derbyn cyfarwyddiadau i “wisgo dilledyn coch” ac i ddod â chopi o’n hoff lyfr gyda ni; roedd hi’n galondid gweld cymaint dderbyniodd yr her i ymuno â’r “cyrch cyfrinachol”, ac yn wir, cafwyd cyfnewidfa lên fawreddog erbyn diwedd y noson.

Ychydig cyn 8 o’r gloch yr hwyr ar noson braf o wanwyn yn y ddinas, anerchwyd y dorf gan Eidales fach benfelen (Bettrys Jones) yn croesawu’r “cynulliad Comiwnyddol” oddi tani. Yna, cawsom ein hebrwng i fewn i’r warws dywyll â bentyrrwyd a llyfrau cochion i ddisgwyl y perfformiad o’n blaenau.

Pytiau’n unig o wybodaeth a ddatgelwyd cyn y llwyfanwyd y sioe; roeddem yn gwybod digon i ddisgwyl cyfuniad o berfformiad promenâd a gig theatrig oedd yn ymwneud â hanes Eidalwr eithriadol.

Archwiliodd albwm gysyniadol dd’wetha Neon Neon, Stainless Style, hanes y peiriannydd ceir dadleuol John DeLorean trwy gyfrwng seiniau synthetig electro-pop; y cwestiwn mawr a wynebodd ei ffans oedd ai rhagor o’r un fath fyddai’n ein disgwyl?

Yr ateb i’r cwestiwn hynny, unwaith y cododd y llen ar y sioe ei hun, oedd “ie” i ryw raddau, ond “nage” pendant iawn ar yr un pryd. Coeliwch chi fi, welsoch chi erioed lansiad albwm fel hyn o’r blaen- a byddech chi’n ffyliaid i golli un o’r perfformiadau eraill a gynhelir ar hyd y flwyddyn.

Cawson ni’r gynulleidfa ein trochi’n llwyr ym mhob agwedd o’r theatr wrth i ni gael ein harwain ar hyd y perfformiad promenâd.

Gwynebwyd llwyfan ddiwydiannol, llawn lampiau eiconig Anglepoise, ac yn teipio’n ffyrnig ar hen beiriant Olivetti oedd Gruff Rhys, gyda Boom Bip (Bryan Hollon i’w fam) yn gwmni iddo.

image by farrows creative

Tu ôl iddynt gwelwyd aelodau grŵp yn efelychu lounge lizards o’r 1970au- gan gynnwys yr actores-gantores  o Gerlan, Lisa Jên- tra ar y waliau o’n cwmpas  tafluniwyd y geiriau teipiedig o fywgraffiad Giangiacomo Feltrinelli.

Am yr awr a hanner nesa, plethwyd gig gerddorol gan Neon Neon â pherfformiad theatrig aml-gyfrwng a sgrifennwyd gan Tim Price- yn cynnwys chwech actor, deunydd fideo, dawns, sioe olau ac elfennau o syrcas.

image by farrows creative

Wedi cychwyn â phennod dyngedfennol yn hanes y miliwnydd o Gomiwnydd- pan gafodd ei arteithio  gan y  CIA am ei gysylltiad â Che Guevara yn Bolivia – aethpwyd â ni ′nol i ddechrau ei hanes, pan yn blentyn ym Milan, ac o’r fan honno dilynom wibdaith gronolegol trwy fywyd cythryblus Giangiacomo Feltrinelli.

O ran ei hanes yn frâs, dyma ddyn oedd ar flaen y gád ym mhob un agwedd o’i fywyd; yn fwy na dim, roedd yn benderfynol o ryddháu Eidlawyr cyffredin o grafangau grymoedd neo-Ffasgaidd. Fe’i aned i gyfoeth aruthrol ym 1926, ond fel plentyn daeth dan ddylanwad garddwr y teulu. Yn ei arddegau, ymunodd â’r blaid Gomiwnyddol, a bu’n ddraenen yn ystlys yr adain dde ar hyd  ei oes.

Am y rhan helaeth o’i yrfa, bu’n gyhoeddwr adnabyddus; roedd o’r farn fod y weithred o ddarllen gyfystyr â chynnal gwrthsafiad. Roedd yn awyddus i rannu’r llyfrau hynny oedd yn “gafael”, yn “tarfu” ac “aflonyddu”,  yn cael effaith drawsnewidiol ar y darllenydd, ac yn gadael eu hôl am genedlaethau lawer. Ymysg y cyfrolau a gyhoeddwyd ganddo oedd Tropic of Cancer gan Henry Miller,  A Hundred Years of Solitude gan Gabriel García Márquez ac efallai’n fwyaf adnabyddus Doctor Zhivago gan Boris Pasternak.

Dyma’r nofel achsodd y rwyg fwyaf rhyngddo ef â’r Sofiet, a oedd am wahardd unrhyw feirniadaeth ohonynt, ond profodd cyhoeddiad y gyfrol yn llwyddiant ysgubol. Teithiodd Feltrinelli yn helaeth i gyfarfod ag arweinwyr mudiadau guerilla– Fidel Castro yn eu plith. Trodd yn raddol i gyrion treisgar yr adain chwith wedi hynny, gan arwain at ei farwolaeth amheus dan gysgod peilon yn 46 mlwydd oed.

image by farrows creative

Yn ogystal â hyn oll, fe oedd y gweledydd- a meistr PR heb ei ail- synhwyrodd yn syth yr arwyddocád amlwg yn ffotograff Alexander Korda o Che Guevara, a ddaeth yn ddelwedd gyfarwydd ledled y byd.

Rhywsut, rhywsut, cyflewyd yr hanes cyfan yn hynod slic, ond rhaid cyfadde, ar adegau i mi brofi “gormod o wybodaeth”. Rhwng sain byddarol ffrwydradau bomiau ac ambell ddryll, sioe oleuadau whit-a-whiw, y pytiau o ddeialog rhwng yr actorion ar lwyfannau symudol, y geiriau ar y mur,  a’r cyfraniadau cerddorol- ynghyd â’m chwilfrydedd i gerdded o gwmpas- roedd hi’n amhosib dilyn popeth ar unwaith.

Ond dyna, fel a ddysgais yn achos Coriolanus y llynedd ac Y Bont yn gynharach eleni, yw natur pob perfformiad promenâd yn ei hanfod. “Just go with it”, yw’r neges, a profwch eich perfformiad personol eich hun- dyna’r ffordd orau o fwynhau sioe mor uchelgeisiol.

Yn wir, wedi i mi arfer â’r sioc sydyn hyn i bob un o’m synhwyrau, sylweddolais yn fuan iawn, wrth ganolbwyntio ar un neu ddwy elfen- a sefyll yn fu unfan ar adegau- y gallwn ddilyn y cyfan yn weddol hwylus.

Mae’n wir i ddweud, roedd na gymaint i fwynhau, gydag actio penigamp gan ambell actor. Ar adegau cynrhychiolwyd Feltrinelli gan dri actor ar yr un pryd (Bettrys Jones, Dyfan Dwyfor a Matthew Bulgo), ac fe gyfranodd waith  caboledig y tim cynhyrchu wrth symud yr amryw lwyfannau at y “waw ffactor” gweledol hynny.

Cafwyd gêm bel fasged hynod fywiog rhwng Fidel Castro (Alex Beckett)  a Feltrinelli (Matthew Bulgo) a ddilynwyd gan ddosbarth-meistr mewn cyflwyno sioe deledu gawslyd gan Che Guevara (Daniel Hawskford, mewn cyweithrediad â Lisa Jên).

image by farrows creative

Ac erbyn i Andy Warhol (Dyfan Dwyfor) a’i gamera gyrraedd y parti, yng nghwmni balŵns arian a merch hollol noeth, cyrhaeddodd y gerddoriaeth (y gân Listen To The Rainbow) grescendo pur i gystadlu â chlasur ewfforig y Super Furries, The Man Don’t Give a F***k.

Yn wir, geiriau gafaelgar Gruff Rhys oedd yn bennaf gyfrifol am ddwyn ein sylw ar hyd y noson- ac yn achos ambell olygfa cafwyd priodas berffaith rhwng y geiriau a’r sioe oleuadau. Un enghraifft amlwg oedd yn ystod perfformiad y gân Hammer & Sickle, a gyfeiriodd at ddadrithiad Feltrinelli gydag arweinwyr oedrannus y Sofiet, gyda channoedd o grymannau symudol yn gefnlen hypnotig.

O ran arddull y gerddoriaeth ar yr albwm newydd hon, ceir adleisiau cynnil o bob math o ddylwanwadau; o grŵnio melfetaidd Bryan Ferry, hyd at guriadau oeraidd Jean Michel Jarre ac elfennau amrywiol o yrfa Ennio Morriconne hyd at power-cha-cha Gloria Estefan a’r Miami Sound Machine; cyfuniad boncyrs ond bendigedig.

Nid ymddangosiad fel prif ganwr y noson oedd unig orchwyl Gruff Rhys; cafodd gyfarwyddo’r gynulleidfa i ymateb i’r sioe o cherry-picker. Fel cryn dipyn o’i weithiau eraill, cafwyd cryn dipyn o hwyl wynepsyth, yn ogystal ag eiliadau lu o ddychan gyda’i dafod yn sownd yn ei foch, a profoodd ei fod yn actor gwerth ei halen pan fod angen!

O gofio gafael cadarn Giangicomo ar chwarae’r gêm PR, roedd hi’n ddifyr gweld y dorf yng nghledr llaw yr Anifail Blewog Anhygoel.

Gellid dadlau fod y ddau yn rhannu mwy na hynny’n gyffredin. Yn achos Gruff Rhys, mae e’n artist aml-gyfrwng a chanddo gydbwybod cymdeithasol cryf sydd, serch ei boblogrwydd arthrol yma yng Nghymru, yn medru polareiddio’r dorf.

Yn wir, clywais y geiriau “Duw” a “dillad newydd yr ymerawdwr” fwy nag unwaith ar ddiwedd y noson; fel darn o theatr, fe heriodd Praxis Makes Perfect y gynulleidfa i feddwl, yn sicr.

NeonNeonDress[NTW]_238%20copy

Rhaid dweud mai uchafbwynt gweledol y darn i mi oedd y ddeuawd Shopping rhwng Gruff Rhys a Lisa Jên- a gyfeiriodd, yn wir, at feistrolaeth Feltranelli ym maes marchnata. Serch cymhlethdod technegol yr holl elfennau bach (yn cynnwys dau droli siopa ar loriau symudol fry uwchben) roedd yn foment hudolus a ymddangosai’n gwbl ddi-ymdrech.

Y lansiad albwm fwyaf effeithiol a fuodd erioed, ynteu theatr wleidyddol Gymreig ar ei orau? Ry chi wedi darllen fy ngeiriau innau, eich tro chi yw hi nawr; mynwch docyn i brofi Praxis Makes Perfect drosoch chi eich hunain- yn bersonol, ges i noson wefreiddiol.

Yn dilyn y perfformiadau a gynhaliwyd yng Nghaerdydd dros y penwythnos a fu, bydd Praxis Makes Perfect yn teithio i Mayfest ym Mryste, Mai 26ain; Village Underground yn Llundain rhwng Mehefin 4ydd-6ed; Latitude rhwng Gorffennaf 18ed-21ain; Festival No. 6 ym Mhortmeirion rhwng Medi 13eg-15ed. Am ragor o fanylion, cliciwch yma.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Adolygiad, Theatr. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

  1. Dywedodd Carl Morris :

    Adolygiad gwych.

  2. Hysbysiad: Adolygiad Theatr: Salt Root and Roe (Clwyd Theatr Cymru) | Lowri Haf Cooke

  3. Hysbysiad: Merch y Ddinas yn Fenis | Lowri Haf Cooke

  4. Hysbysiad: Adolygiad Theatr: The Insatiable, Inflatable Candylion (National Theatre Wales) | Lowri Haf Cooke

  5. Hysbysiad: Adolygiad Theatr: The Good Earth (Motherlode Theatre) | Lowri Haf Cooke

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s