Dwi newydd ddychwelyd o ddihangfa arall i’r Eidal, sef fy ymweliad cyntaf â gwyl Biennale Fenis. Ro’n i’n ddigon ffodus i ennill grant i deithio yno yn rhinwedd fy rôl fel beirniad celf, gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru.
Mae hi’n ddeunaw mlynedd ers i mi ymweld â’r ddinas ddwetha- bryd hynny, fel aelod o gôr Ysgol Glantaf. Mae gen i frith gôf o’r côr yn canu yn yr awyr agored ar ddiwrnod chwilboeth o Orffennaf, ger amgueddfa Stradivarius!
Roedd hi’n braf cael fy atgoffa mor brydferth yw Fenis- mae hi wir yn frenhines o ddinas. A serch y glaw achlysurol, cafwyd cawod o gelf, ac ymdrochiad o syniadau herfeiddiol.
Y prif reswm am fy ymweliad oedd i brofi rhag-ddangosiad o arddangosfa Bedwyr Williams o Rostryfan, oedd yno’n cynrhychioli Cymru yng nghyn-leiandy y Ludoteca Santa Maria Ausiliatrice.
Mae’r arddangosfa ar agor tan y 24ain o Dachwedd, ac os gewch chi gyfle i deithio i Fenis dros y misoedd nesa, mi faswn i wir yn eich annog chi i’w phrofi.
Mae teitl yr arddangosfa ei hun, The Starry Messenger, yn deillio o draethawd gan Galileo a sgrifennwyd ym 1610, yn seiliedig ar ei ymchwil seryddol yn Fenis.
Man cychwyn yr arddangosfa yw canolbwyntio ar seryddwr amatur yn ei arsyllfa swbwrbaidd, a’i ymateb ef- a ni’r gynulleidfa- i anferthedd y bydysawd.
Y mae lloriau terrazzo y ddinas ei hun hefyd yn chwarae rôl ganolog yn y gwaith, wrth i Bedwyr Williams ddathlu cyfraniad y pethau bychain i’r darlun mawr.
Ces i wibdaith synhwyrus i ben draw’r bydysawd, a gwefr wirioneddol wrth brofi’r arddangosfa.
Rhannais adolygiad o’r arddangosfa ar raglen BBC Radio Cymru Dewi Llwyd ar Fore Sul ar yr 2il o Fehefin, 2013; mae fy ymateb hefyd i’w glywed ar raglen Post Cyntaf a Good Morning Wales, i’w weld ar Wales Today a Newyddion 9 ar S4c, ac i’w ddarllen ar wefanau BBC Newyddion a BBC News Wales.
Yn ogystal â hynny, dwi ar ganol sgrifennu adolygiad cynhwysfawr o’r gwaith, fydd i’w gweld yn rhifyn yr haf o gylchgrawn Barn.
Sefydlwyd Biennale Fenis ym 1895, ac fel mae’r enw yn awgrymu, fe’i chynhelir bob dwy flynedd; gwyl rhif 55 yw un eleni. Dyma’r wyl gelf ryngwladol fwyaf o’i bath, ac mae’n cynnal arddangosfeydd celf gan wledydd di-ri, yn cynnwys gwaith rhai o enwau mwya’r byd celf cyfoes.
Profais osodwaith rhyfeddol o stolion teircoes gan Ai Weiwei o Tseina, oedd yno’n cynrhychioli’r Almaen, fel rhan o gyfnewidfa arloesol â gofod Ffrainc.
Ces fy nghyfareddu’n llwyr gan arddangosfeydd y Ffindir a Gwlad Belg, a gynigodd brofiadau synhwyrus dros ben, yn yr un modd ag y gwnaeth Bedwyr Williams o Gymru.
Nid cwrdd bwrdd twristiaeth i bob gwlad dan yr haul mo’r Biennale- yn hytrach, mae’n gyfle i’r gwleydydd hyn gyfnewid syniadau trwy gyfrwng gwaith artistiad eu dewis. Anaml iawn welwch chi ddehongliadau cyfarwydd o ddiwylliant y gwledydd dan sylw; yn amlach na pheidio cynrhychiolir themau bydysawdol sy’n croesi ffiniau.
Wedi dweud hynny, rhaid cyfaddef i mi gael fy swyno’n llwyr gan gynnig Venezuela, a gynhaliodd arddangosfa yn dathlu celf graffiti dinas Caracas ers dechrau’r 1970au.
Ond ces fy siomi’n ddirfawr gan waith Jeremy Deller, oedd yno’n cynrhychioli Prydain Fawr.
“English Magic” oedd teitl ei arddangosfa ef; ymgais i ddiffinio hunaniaeth y Deyrnas Unedig trwy gyfrwng dialedd aderyn ysglyfaethus a’r diweddar artist William Morris ar Roman Abramovich a’r Tywysog Harri, a thaith gan David Bowie o’r 1970au.
Yr uchafbwynt i mi o’r arddangosfa hon- os ga i fod yn blwmp ac yn blaen ar fy mlog fy hun- oedd cael paned o de am ddim.
Caif yr arddangosfeydd “swyddogol” hynny eu cynnal mewn dwy safle ganolog ; y Giardini a’r Arsenale. Mae arddangosfa “ymylol” Bedwyr i’w chanfod rhyw bum munud ar droed i ffwrdd o’r swigod artiffisial hyn, ar lan camlas hynod hamddenol yn y Fenis go -iawn.
Ag ystyried yr hyn yr oedd gan Jeremy Deller i ddweud wrth y byd am hunaniaeth honedig Brydain gyfoes, rwy’n diolch i’r sêr nad yw arddangosfa unigryw Bedwyr Williams wedi’i chysgodi gan waith y Sais.
Bonws bach hyfryd wedi deuddydd o grwydro celfyddyol oedd mynychu parti lansio arddangosfa Cymru yn Fenis.
Cafwyd perfformiad comedi “stand-yp” gan Bedwyr ei hun- a adleisiodd ei lith yng nglwb Porter’s Caerdydd ym mis Mawrth- a set DJ gan Neon Neon, yn dilyn eu cynhyrchiad llwyddiannus gyda National Theatre Wales ym mis Ebrill.
Yn naturiol, cafodd Merch y Ddinas ddigon o gyfle i grwydro ar hyd camlesi Fenis, a phrofi rhai o atyniadau mwyaf poblogaidd y ddinas.
Mae Fenis ei hun yn medru bod yn ddinas go ddrud, felly arbedais ffortiwn wrth aros ar y Lido cyfagos, yn ngwesty hynod gyfleus y Riviera.
Safai’r gwesty trawiadol gamau’n unig o arhosfan bws dwr y Vaporetto; o’r fan honno cafwyd golygfa hyfryd o awyrlun Fenis.
Cymerodd 5 munud i gyrraedd y Giardini, a 10 munud i gyrraedd sgwâr canolog San Marco o’r Lido ar y Vaporetto.
Serch fy ngradd Daearyddiaeth, es i ar goll fwy nag unwaith- a hynny fel arfer o wirfodd!- gan ffeindio’n hun yn cerdded ling-di-long ar hyd y camlesi cuddiedig. Roedd hi’n bleser darganfod sawl trysor ar hap, fel bwyty Osteria Enoteca San Marco, Palas Doge ac eiconau byd-enwog Pont yr Ochneidiau a Phont Rialto.
Gwaith caled yw crwydro holl arddangosfeydd celf y Biennale, sydd- fel yr Eisteddfod Genedlaethol neu Sioe Llanelwedd- yn orlawn o bobol. Serch y paneidiau di-ddiwedd o goffi cryf ces i’n llorio’n llwyr gan flinder erbyn diwedd fy niwrnod cyntaf, ac ro’n i’n ysu am bach o egni o rywle.
Ga i felly ddenu’ch sylw i’m hoff bryd bwyd newydd, oedd i’w ganfod ar fwydlen Ristorante Marciana ; y clasur hwnnw, Steak Tartare.
Yn Turin yn ddiweddar am y tro cyntaf erioed cefais damaid o’r saig, a’r tro hwn roedd fy nghorff yn crefu platiad cyfan. Tra cafwyd trochfa go iawn ar y strydoedd tu fas, bum yn llesmeirio dros fy nghinio gogoneddus.
Mae’r blas yn anhygoel, ac yn cyfuno cig eidion amrwd a capers, gyda phinsiad bach o bupur. Os y’ chi’n gig-garwr fel fi, rwy’n eich herio chi i brofi’r saig bendigedig drosoch chi eich hun. Fydd hi’n anodd iawn gen i ddewis rhwng stecen medium-rare a’r Tartare sawrus o hyn ymlaen, ac roedd y chwa o egni a brofais yn ar ôl ei fwyta yn anhygoel!
Drws nesaf i westy y Riviera yn ardal y Lido, roedd trattoria hynod syml La Pizzeria Stella . Rhaid canmol y prisiau a safon y bwyd; dyna ble ges i Spaghetti Carbonara gorau fy myw, am 7 Ewro.
Tra yn Fenis ei hun, bu’n rhaid ymweld hefyd â sefydliad chwedlonol Harry’s Bar, gan mai yno y crewyd y Bellini gwreiddiol.
Ges i fwrdd hynod ganolog i gael gwylio’r great and the good, gan fwynhau’r cyfuniad amheuthun o Prosecco a sudd eirin gwlanog ffres mas draw!
Wedi hynny, ges i awren bach o grwydro , gan basio siopau amrywiol y ddinas, sy’n gwerthu popeth o grysau trawiadol i fenyg lledr amryliw a gwydr hynod leol Murano.
Fy ngham ola cyn ffarwelio â’r ddinas o gamlesi oedd mwynhau glasied o Spritz yng nghysgod Campanile San Marco, oedd yn bellissima!
Yn dilyn chwe mis yn astudio’r gynghanedd dan ofal y bardd Emyr Davies, enillais gystadleuaeth gyntaf Eisteddfod Farddol Menter Caerdydd yn ddiweddar, sef llinell o gynghanedd lusg yn cynnwys enw dinas Ewropeaidd.
“Dwy wybren geir yn Fenis” oedd fy nghynnig i, ac ro’n i ar ben fy nigon pan gafodd ei disgrifio gan y beirniad, Ceri Wyn, fel llinell ysgubol!
Maddeuwch yr ymffrost, ro’n i’n wrid i gyd ar y noson, ond yn eithriadol o falch gan fod fy nghoeden achau’n bla o brydyddion Sir Feirionnydd. Mynnodd Mam, yn wir, holi a oeddwn i’n siwr ei bod hi’n linell o gynghanedd, a hynny serch arsylwad y Meuryn!
Ta waeth am hynny, roedd hi’n hyfryd dros ben cael profi’r ffenomenon aml-wybrenaidd gyda’m llygaid fy hun, a hynny ger mynedfa arddangosfa Bedwyr yn Ludoteca Santa Maria Ausiliatrice.
Rhaid dweud, ces i fy hudo yn llwyr gan y ddinas ger y dwr, ac rwy’n mawr obeithio y caf ddychwelyd yn o fuan.
Hysbysiad: Canllaw Bach Caerdydd: Mis Gorffennaf | Lowri Haf Cooke