Adolygiad Ffilm: The Stone Roses – Made of Stone (15)

The Stone Roses Made of Stone

Y Sêr: Ian Brown, John Squire, Gary “Mani” Mounfield ac Alan “Reni” Wren

Y Cyfarwyddo: Shane Meadows

Hyd: 96mun

I am the Resurrection, Fools Gold, I Wanna Be Adored; yw teitlau’r caneuon hyn y golygu unrhywbeth i chi? Yn fy arddegau cynnar ar ddechrau’r Nawdegau, doedd na neb gwell na The Stone Roses yn fy marn i- ac os ydw i’n onest, dwi dal i deimlo ′run fath.

Melody Maker, Select, Smash Hits ac NME, The Face, a SKY magazine– gwariais fy mhres poced i gyd  ar y cylchgronau hyn. Treuliais oriau yn gwrando ar gaset eu halbwm cyntaf, The Stone Roses, a methais ddeall yr adwaith hallt i’w hail albym hirddisgwyliedig, The Second Coming ym 1994.

Ro’n i’n rhy ifanc, yn anffodus, i brofi eu gig chwedlonol yn Spike Island, heb sôn am eu perfformiad ola trychinebus yng Ngwyl Reading 1996.

Ond fyth ers hynny, mae nhw’n byw yn fy nghôf fel fy hoff fand erioed, ac i genhedlaeth gyfan nhw oedd The Beatles y 90au.

Beth oedd eu cyfrinach a beth ysbrydolodd  llu o bobol ifanc i gerdded lawr Queen Street mewn flares, hetiau bwced a Wallabies am eu traed?

I mi, allwch chi ddim curo meistrolaeth John Squire ar gitâr flaen, bâs dwys Mani fu’n gwyro’n chwareus rhwng ffync a dyb, a ryddm cadarn Reni- y gorau ers Keith Moon yn ôl Pete Townshend- ar y drymiau. Cyfunwch hyn oll gyda llais ysbrydol Ian Brown, dôs anferthol o swagger, a sain jangly guitars, a dyna i chi gefnlen berffaith i artaith hardd eich arddegau!

Pan glywa i agoriad estynedig I Wana Be Adored, profaf iâs lawr fy nghefn, a caf fy nghipio’n syth yn ôl i ddyddiau fy ieuenctid.

Roedd na gynnwrf aruthrol yn 2011 pan gyhoeddwyd fod y band am ail-ffurfio, er mwyn cynnal cyfres o gyngherddau anferthol yn Heaton Park. Yno i’w dilyn ar hyd y daith oedd Shane Meadows (This is England) i gofnodi’r achlysur mewn steil.

Mae ei ffilm , The Stone Roses: Made of Stone, yn cynrhychioli llythyr serch i i’w hoff fand erioed. Mae e’n cynnwys ei hun yn y ffilm yn blwmp ac yn blaen, fel ffan enfawr, reit annwyl, sy methu coelio’i lwc-  gan adleisio crysh gan ferch swil yn ei harddegau.

Mae e’n amlwg i’r gwyliwr mor falch ydyw e i gael unrhyw stwff ganddynt nad yw e’n trafferthu i fynnu cyfweliadau personol gan ei arwyr. Mae e’n hapus i glustfeinio ar ei arwyr mawr yn jamio cyn y gigs mawr, gan osgoi agor hen glwyfau ar bob cyfri .

Yn wir, yr hyn sy’n ddiddorol am y ffilm hyfryd hon, yw penderfyniad Meadows i ganolbwyntio cymaint ar ymateb y dorf ag i’r pedwarawd afeithius o gyrion Manceinion.

Mae’n wir y cawn rannu â chynnwrf llwyr yr aelodau ei hunain- fel datguddiad Mani iddo ddeffro ar fore’r gig cyntaf gyda mîn anferthol. Ond mae’r ymateb angerddol gan y dilynwyr canol oed yn sicr yr un mor bwerus.

Fel yr eglura un o’r dynion yn eu pedwardegau cynnar, sydd bellach yn dad ac yn office monkey“They’re the reason I’ve never worn a tie”. I ddyn  arall, tipyn iau, a wynebodd gyfres o dreialon bywyd , mae’r aduniad gwyrthiol yn brawf pendant fod ei fywyd ar i fyny o’r diwedd.

Plethir defnydd o archif yn hynod ddeheuig, ac mae’n ddychrynllyd gweld cymaint y gall bobol ddyddio mewn ugain mlynedd. Mewn cyfweliad cynnar ar achlysur rhyddhau’r albwm gynta, mae’r hyder rhyfygus yn glir i’w weld ar wynebau diniwed-ddireidus Ian Brown a John Squire.

Roedd aelodau’r band i gyd mor hardd, wrth i’w llygaid llachar befrio dan gysgod eu bowl-cuts. Ystyriwch am eiliad Rhodri Siôn o’r Beganifs a Richard James o Gorky’s- dyna i chi John Squire ac Ian Brown ar eu gorau .

Mae esgyrn bochau Ian Brown mor drawiadol ag erioed, ond magodd Mani dipyn o floneg rownd ei ganol. Mae olion oferedd ar ruddiau pob un, ac yn syth ar ôl y gig syrpreis cyntaf yn Warrington, rhaid i Reni ei heglu hi o ′na cyn i’w bwci leol gau. Mae mudandod John Squire yn dweud cyfrolau am y rhwystredigaethau a fu, ond mae’r wên yn un ddilys wrth iddo rannu coflaid ag Ian Brown.

I ffan o’r band, mae’r eiliadau bach personol hyn yn golygu popeth, gan egluro’r wên lydan oedd ar fy wyneb trwy gydol y ffilm- pan nad oeddwn yn cyd-ganu â’r pedwarawd.

Mae’r strwythur yn un syml, dilyn y paratadau wna Meadows cyn gorffen â sioe oleuadau ysgubol gigs mwya’u byw yn Heaton Park. Ceir tensiwn tua’r canol wrth i Reni adael y llwyfan, wedi danto â’r system sain, gan ddenu dicter y dorf yn Barcelona.

Ond yn y bôn dyma rockumentary werth chweil heb falais nag agenda, sy’n rhodd i’r ffans, yn anad neb.

Mae’n wir nad yw’n treiddio’n rhy ddwfn i’r ennui anochel a darodd y pedewarawd cyn chwalu’n ddi-seremoni ganol y Nawdegau. Ond mae’n siwr fod na rifyn yn rywle o “VH1: Behind The Music” os am ddeall beth yn union aeth o le yn y lle cyntaf.

Os oeddech chi’n Mad For It ar y pryd, ac awydd ail-fyw eich ieuenctid, y mae’r ffilm hon yn siwr o daro deuddeg.

Sgôr Terfynol*

*Mae’r sgôr yn seiliedig ar y system sêr, gyda 5 Cookie yn cynrhychioli’r marc gorau ac 1 Cookie yn cynrhychioli’r gwaethaf. Mae 4 Cookie yn cyfateb i 8 allan o 10.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Adolygiad, Cerddoriaeth, Ffilm. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s