Entrecôte Café de Paris, Bae Caerdydd

Ro’n i’n sgwrsio ′da Jon Gower yn Ffair Tafwyl ar ddydd Sadwrn, ynglyn â phwnc sy’n codi’n aml yn fy mywyd i. Roedd e newydd fod yn rhan o’r gynulleidfa ym mhabell Llenyddiaeth Cymru a ddaeth i wrando arna i’n sgwrsio am Canllaw Bach Caerdydd, ac yn naturiol ddigon, trodd fy nhruth i gynnwys y llefydd gorau am fwyd yn y ddinas.

Mae Jon yn un sy’n gwybod tipyn am fwyd da, ac wrth iddo ef a’i deulu fyw rhan o’r flwyddyn yn ninas Oakland, Califfornia, yr oedd wedi profi pryd bwyd cofiadwy ym mwyty The French Laundry, Dyffryn Napa, fel y gwnes i’n lled-diweddar.

Fe holodd e’r cwestiwn, fel cynifer o’i flaen, faint o fwytai o safon rhyngwladol oedd i’w canfod yng Nghaerdydd? Nawr, dwi’n gwybod mai dinas fechan yw Caerdydd yn y bôn, ac nad oes gobaith gyda ni gystadlu â phrifddinasoedd gourmet fel Paris ac Efrog Newydd. Ond mewn rhai ffyrdd mae ein prifddinas fechan ni yn paffio uwch ei phwysau.

Ystyriwch fwyty Catalanaidd La Cuina yn Nhreganna…

La Cuina, Treganna

Neu beth am Casanova ar Stryd y Cei am bryd bwyd Eidalaidd arbennig o dda?

Casanova, Stryd y Cei

Am gyrri cyfoes tu hwnt, gallwch chi bellach ddewis o blith Mint and Mustard, Purple Poppadom, a newydd-ddyfodiad Spiceberry ar Stryd Caroline.

Ar nos Lun, fe ddathlodd y teulu Cooke ben blwydd fy Mam, a cawsom coctels, dim sum a phryd bwyd Tseineaidd ysblennydd yn Pearl of The Orient.

Ba Orient

Dim ond rhai enwau yn unig  yw’r rhain gyda llaw, o’r holl fwytai o safon gaiff eu cynnwys yn y Canllaw Bach Caerdydd. Dwi heb ddechrau rhestru bwytai llysieuol, neu sy’n gweini cawl neu kebab- heb sôn am fwyty barbeciw i gystadlu â goreuon Texas!

Ond beth am bryd bwyd gwirioneddol sbesial– pan fydd ffrindiau o dramor , dywedwch, yn dod draw; pa lefydd sydd ar gael yma i chi gael eu tywys nhw yno, ac sy’n awgrymu heb orfod “dweud”, “Sbiwch be sy ganddon ni yma yng Nghaerdydd!”.

Wel, os drowch chi at yr adran Pryd Bwyd Arbennig rhwng tudalen 116-124 o’r Canllaw Bach fe sbotiwch chi o leia deg bwyty eithriadol o dda y bydden ni’n hapus iawn i’w hargymell ar gyfer achlysur o’r fath. Yn eu plith y mae Bully’s, The Social, Burges Restaurant a The Potted Pig– ac  Entrecôte Café de Paris.

Yn ddiweddar, ces fy nghomisiynu gan Red Handed Magazine i ymweld â’r bwyty olaf hwn ym Mae Caerdydd, a hynny ar gyfer adolygiad i’r cylchgrawn . Ro’n i’n llawn cyffro i gael derbyn, gan i mi brofi pryd ardderchog yno yn fuan wedi iddo’i agor yn 2012, ac ar sail yr ymweliad cyntaf hwnnw, dyma sgrifennais i ar dudalen 120 o’r Canllaw Bach.

“Os ydych am greu argraff gwirioneddol arbennig ar deulu, bartner busnes neu ddêt cynta, ystyriwch un o fwytai newydd Cei’r Fôr-forwyn, sef Etrecôte Cafe de Paris. Fel yr awgryma’r teitl, seigiau ag iddynt flas Ffrengig sy’n llenwi bwydlen y bwyty chwaethus hwn, sy’n rhan o’r un ymerodraeth â Bellini’s a Signor Valentino gerllaw.

Ond ceir dewis amgenach da dim ond stêc cofiwch. Os am ddechrau’r pryd bwyd gyda phlatiad o escargot neu gafiâr am dros ganpunt, dyma’r unig le yn y ddinas lle cewch chi wneud hynny.

Ond am bris cryn dipyn llai brawychus archebwch bowlen o gawl sbigoglys ansbaradigaethus i’w ddilyn gan blatiad o coq au vin. I bwdin, beth am crème brûlée cneuen goco neu tart tatin tymhorol a hufen iâ llaeth enwyn a sheri PX? Bydd rhaid brwydro’r reddf i fod yn folgi barus a gobeithio y cewch flasu llwyaid o blât pawb.”

Isod, ceir fy adolygiad Saesneg ar gyfer rhifyn Gwanwyn 2013 o Red Handed Magazine, ac fel y gwelwch, ces i noson fendigedig.  Dyna’r ail waith i mi ymweld ag Entrecôte Café de Paris, ac rwy’n bendant o’r farn ei fod yn fwyty o safon ryngwladol.

Review: Entrecôte Café de Paris, Cardiff Bay – Red Handed Magazine, Spring 2013

Entrecote Cafe de Paris

It’s not often that a Cardiff restaurant menu leaves diners in awe but we were entranced by Entrecôte Café de Paris. My dining partners and I could have chosen any of the twelve dishes from the à la carte selection, as well as the reasonably-priced  dinner menu.

Thank heavens then for maître d’ Stefano Gallo, who insisted we try a bit of everything by sampling the tasting menu- an incredible experience that I’ll savour for some time to come.

The Italian from Rome was the perfect host; attentive, informed and genial. Following a career at the helm of Harrods’ food hall, he takes great pride in the jewel in the crown of Cardiff Bay’s dining quarter. Elegantly furnished with Art Deco touches, this independent operation lends a sophisticated tone to an area blighted by chain restaurants.

The  head chef, Tim Piddington,  was previously at the five star St. David’s Hotel & Spa and the late, lamented, Le Gallois.  All of the dishes we sampled were inspired by French cuisine and made use of seasonal Welsh ingredients.

We started with an arresting amuse-bouche; the multi-textured trio of Bayonne ham, field mushroom and pickled walnut, along with a shot of carrot, coriander and leek soup was  a delightful refresher.

Entrecote Cafe de Paris

Next up was a densely flavoured platter of entrée-menu meats that celebrated nose-to-tail eating. A smooth chicken liver pâté on a bed of French cured Saucisson was a rare treat and was preceded  by the Charles Macleod Stornoway black pudding with barley risotto, and pan fried lamb’s kidney with brandy sauce and rice crackers.

Entrecote Cafe De Paris

The fish dishes that followed were lucious and light; the grilled fresh sardines were placed on a fennel and shallot tart, whilst the mushroom dusted scallops were presented on a pillow of parmesan potato puree and white truffle oil.

The winner of this round however was the sweetly delicious showstopper of salmon and king prawn ravioli with chive and roasted pepper beurre blanc.

Entrecote Cafe De Paris

Had I been put on the spot to choose one main for supper I suspect I would have ordered  the sliced loin of venison  with wild mushroom, braised red cabbage and Cabernet sauce.

The sample I tasted was as sumptuous as it sounds, but  I was just as impressed with the pan roasted rump of lamb, crispy pancetta, savoy cabbage and wholegrain mustard sauce, and the free range pork belly served with smoked wood pigeon and apple salad and smoked tea sauce.

Entrecote Cafe De Paris

By some miracle we still had room for dessert, and we were presented with a heavenly assortment of sweets.

The tonka bean flavoured crème brûlée was truly sublime, as was the soft cream cheescake served with crumble topping and armagnac soaked prunes .

But the winner for me was the tart tatin, topped with the kitchen’s own buttermilk ice cream.

Entrecote Cafe De Paris

I’ve enjoyed a number of memorable meals in the capital of Wales, but the all-round excellence to be found  at Entrecôte Café De Paris is unrivalled.

The two courses for £12.50 Lunch Menu is Cardiff’s best-kept secret; expect to hear a lot more about Tim Piddington and his team in the future.

Entrecôte Café De Paris

Unit Upper 9

Mermaid Quay

Cardiff Bay

CF10 5BZ

Tel. 02920 490990

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Adolygiad, Bwyd, Canllaw Bach Caerdydd, Red Handed Magazine. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s