Adolygiad Theatr: Blodeuwedd (Theatr Genedlaethol Cymru)

Blodeuwedd

Ces i bleser pur ger Tomen y Mur wrth wylio cynhyrchiad Blodeuwedd. Denwyd fy sylw am deirawr o’r bron, ac ro’n i’n wên o glust i glust tan y diwedd.

Bendithiwyd y cynhyrchiad awyr-agored gan dywydd godidog a rhai o olygfeydd gorau Cymru. Ond y ddrama ei hun oedd seren y sioe,  diolch i  lwyfaniad oedd yn hollol ysblennydd.

Blodeuwedd

O’r eiliad y camais ar fws y Theatr Gen,  ces fy nghipio i fyd o hud a lledrith. Rhoddwyd drama  Saunders Lewis yn ei chyd-destun yn gyntaf, yn hanesyddol ac yn ddaearyddol, wrth i ni wrando’n astud ar y cyfarwyddwr Arwel Gruffydd yn adrodd pedwaredd gainc y Mabinogi ar ein cyrn clustiau.

Fe’n cludwyd yn hamddenol i Domen y Mur o safle atomfa Trawsfynydd. Wrth neshau at ein cyrchfan, daeth yr hanes yn fyw, a ffarweliwyd â’r byd cyfoes dros dro.

Blodeuwedd, Tomen y Mur

Do’n i ddim yn rhy siwr beth yn union i ddisgwyl wedi i mi dderbyn cyngor i wisgo esgidiau addas; cryn dipyn o ddringo, ac actorion  cyfarwydd yn gweiddi’n groch mewn dillad canoloesol?

Profwyd dim o’r fath beth, rwy’n falch iawn i ddweud; roedd yn gynhyrchiad soffistigedig a thra synhwyrus.  Cafwyd, fodd bynnag, gryn dipyn o hwyl, a dehongliad difyr o ddrama glasurol.

Blodeuwedd

Cipiwyd fy anadl gan ambell ddelwedd drawiadol, a ces fy nghyffroi gan gorwynt o deimladau. Mewn mannau profais bleser euog wrth fwynhau fy hun,  fel gwylio pennod  o Downton Abbey wedi’i chroesi â chwip o Film Noir.

“Bydd dawel, fron anesmwyth” medde Blodeuwedd (Morfydd Clark)  mewn perlesmair llwyr, gan grynhoi teimladau’r dyrfa i’r dim.

Arwres y ddrama- sy’n seiliedig ar y chwedl Mabinogi- yw’r ferch a naddwyd o natur. Fe’i chrewyd fel rhodd i Llew Llaw Gyffes (Iddon Jones)  gan ei ewythr, y dewin Gwydion (Glyn Pritchard).

Mae eu huniad yn un oeraidd,  sy’n siom enbyd i Llew, a felltithiwyd gan lid ei fam. Yn absenoldeb Llew, daw Gronw Pebr (Rhys Bidder) i’r darlun, sy’n  arwain at ddeffroad ddinistriol Blodeuwedd.

Glynnwyd at destun drama Saunders Lewis o’r flwyddyn 1948 a ddiweddarwyd ym 1961. Yn weledol, dilledwyd yr actorion – a dodrefnwyd y set – gan gyffyrddiadau moethus o’r 1940au.

Blodeuwedd

Yr awgrym gyntaf a gawsom o gyfnod y darn oedd milwyr mud a bupurodd y tirlun yn eu lifrai a’u land-rovers. Arweiniwyd y dorf  at barlwr awyr-agored “Mur Castell”, lle roedd Gwydion yn darllen papur newydd â hanes dyweddïad y frenhines Elizabeth II ar y clawr. Trodd march yn feic modur, a’r gwawy yn ddryll, a gweithiodd y cyfan yn dra effeithiol.

Wrth osod y ddrama mewn cyfnod nes atom ni, tanlinellwyd natur oesol y ddrama.

Deallais pob gair o’r farddoniaeth gain; sicrhaodd y clustffonau brofiad hwylus a phur bersonol. Meddwais gymaint ar y geiriau â’r manylion gweledol, diolch i berfformiadau cadarn y cast.

Blodeuwedd

Hoeliwyd ein sylw gan Morfydd Clark, y seiren bengoch a drodd yn danbaid dan swyn serch. Uniaethwyd yn llwyr â’r femme fatale, oedd yn gaethwas i fympwyon dyn tan iddi wrando ar ei greddf.

Tanlinellwyd rywioldeb Gronw Pebr cyn iddo yngan ′run gair; gwelsom gip ohono o bell ar feic modur hen-ffash, wnaeth ddwyn delwedd o James Dean i gôf.

Teimlais gerrynt go iawn rhwng y ddau gariad cudd, ond cipiodd y cwcwallt ein cydymdeimlad yn ogystal. Pigiwyd cydwybod y dorf diolch i hanes trist Llew,  a pherfformiad llawn teimlad Iddon Jones.

Blodeuwedd

Cafwyd cefnogaeth gadarn gan y cast cynorthwyol  a arweiniwyd gan rwyddineb Glyn Pritchard fel Gwydion. Cyflwynodd hiwmor ac ysgafnder i’w gymeriad aml-haenog ef, allai hawlio rhifyn cyfan o raglen Jeremy Kyle iddo’i hun.

Yr oedd cymaint am y ddrama megis rhithweledigaeth, a sawrais swrealaeth y sefyllfa ar ei hyd. Mae’r ddrama yn bentwr o gyfosodiadau moesol, ac adleisiwyd hynny gan y cynllunio celfyddydol cyfareddol.

Blodeuwedd

Gosodwyd cadeiriau Chesterfield ar garped o borfa gwyrdd a chyflwynwyd Blodeuwedd mewn ffrog fwstard hardd, gydag awyr las yn gefnlen; eiliadau syfrdanol nad anghofiaf i fyth, ac a danlinellodd harddwch trasig yr hanes.

Afraid dweud, ychwanegodd leoliad gwreiddiol yr hanes ddeimensiwn iasol i’r cynhyrchiad, a crewyd naws oedd yn gwbwl unigryw

Rhaid canmol y criw cynhyrchu am eu gwaith caboledig wrth wireddu eu breuddwyd uchelgeisiol. Diolch i gydweithrediad nifer, daeth y chwedl hynafol yn fyw o’n blaenau, a hynny mewn ffordd bythgofiadwy.

Mae cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru o Blodeuwedd gan Saunders Lewis yn parhau tan Orffennaf yr 20fed. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Adolygiad, Theatr. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

  1. Dywedodd pancymruwales :

    Reblogged this on panwalescymru and commented:
    Gan Lowri – perfformiad pwysig, pwnc pwysig, dda bod gen ni Lowri roi adolygiad a ongl feirniadol ar ein diwylliant – Wyn W.

  2. Hysbysiad: Dihangfa o’r Ddinas : Merch y Ddinas ym Meirionnydd | Lowri Haf Cooke

  3. Dywedodd Wil :

    Digwyddiad theatrig o’r radd flaenaf – mor anhepgorol i stori Flodeuwedd ydyw’r tirwedd a’t tywydd! Cawsom brynhawn bendigedig i fod yn rhan o berfformiad hynod gaboledig. Llongyfarchiadau mawr i Morfudd Clarke am ei pherfformiad hynod grefftus ac felly hefyd i aelodau’r cwmni; – clod arbennig I Penteulu Penllyn a’r Tywysydd! Cawson brynhawn anhygoel yn gwylio’r cyfan.

  4. Hysbysiad: Blodeuwedd | Y Blog Theatr Genedlaethol Cymru

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s