Dihangfa o’r Ddinas : Merch y Ddinas ym Meirionnydd

Trawsfynydd

Trwy gyd-ddigwyddiad llwyr trefnais wyliau ym Meirionnydd union yr un pryd â chynhyrchiad y Theatr Genedlaethol o Blodeuwedd.

Roedd y sioe wych honno (sydd ‘mlaen tan Orffennaf yr 20fed) yn un o uchafbwyntiau’r daith, ond cafwyd penwythnos hir hyfryd iawn rhwng popeth. Pan fo’r tywydd tanbaid gystal â hyn, does na unman gwell na Chymru am wyliau delfrydol.

Harlech

Nofio ar lan môr oddi ar y Côte d’Ardudwy oedd fy hoff weithgaredd i, a hynny ger Portmeirion, Llandanwg a’r Bermo. Ond roedd mynd am dro fyny i lonyddwch Llynnoedd Cregennan, a chael diod neu ddau o flaen gwesty George III Penmaenpool ger y Fawddach gystal bob tamed ag ymdrochi ym Mae Ceredigion.

Cefais gwmni gweddill y teulu am y daith ysblennydd hon, gan fod fy Mam (Nia Powys Cooke, Williams gynt) yn un sydd yn wreiddiol o’r Bermo. Roedd hi awydd crwydro llwybrau’r côf, felly dyma oedd ein hanrheg pen blwydd iddi hi, a dwi’n falch i ddweud iddi hi fwynhau ei hun yn fawr.

Yn naturiol, fel beirniad bwytai, roedd profi’r cynnyrch lleol yn rhan hollbwysig o’r daith, a dwi ddim yn ymddiheuro am hynny!

Wedi gadael yn gynnar o ddinas Caerdydd i gyrraedd Trawsfynydd- a chynhyrchiad Blodeuwedd– am hanner dydd, ces i baned o de a bara brith ym mwyty’r Cross Foxes, wnaeth daro deuddeg.

Bara Brithdir

Dyma lecyn delfrydol ar waelodion Bwlch yr Oerddrws, a dderbyniodd weddnewidiad gyfoes gan Dewi a Nicol Gwynne yn lled-ddiweddar. Ceir lluniau o’r Fawddach a’u cymydog Trebor Gwanas ar waliau tra chwaethus y bwyty.

Ond wedi p’nawn o bleser pur ger Tomen y Mur, ro’n i’n ysu am bryd mwy sylweddol na Bara Brithdir.

A ninnau yn lletya am dair noson yn Nolgellau, lle gwell na bwyty Dylanwad Da i gael tamaid o swper?

Dylanwad Da

Cawsom groeso cynnes gan y chef, Dylan Rowlands- a Llinos ei wraig- sy’n cynnal y busnes canolog ers 25 mlynedd.

Yn ogystal â’r bwyty dymunol, ceir gwasnaeth gwerthu gwin, ac mae’r ddau bron iawn â gorffen sgrifennu eu cyfrol gyntaf- Dan Ddylanwad– sy’n cyfuno hanesion, ryseitiau a chyngor gwin, fydd ar werth erbyn cyfnod y Nadolig.

Dyma’r tro cyntaf erioed i mi ymweld â Dylanwad Da, a ces fy mhlesio’n arw gan y profiad. Roedd y bwyd yn ardderchog; gwneir defnydd gwych o gynnyrch lleol, gyda chyffyrddiadau Ffrengig – gan olygu y gweinir bwyd tymhorol mewn ffordd sy’n dra dyfeisgar.

Wedi cythru am y bara a’r olewydd- sy’n cyrraedd y bwrdd yn rhad ac am ddim- dechreuais i â phowlen o chowder cranc o Ben Llyn, oedd yn hyfryd o felys a hufennog. Argymhellwyd gwin y ty- Sauvignon Blanc Guy Allion o Touraine yn Nyffryn y Loire- oedd yn ysgafn, a llawn blasau ffrwythau’r haf.

Chowder Cranc, Dylanwad Da

Yna, caserôl cig oen lleol oedd yn dyner dros ben  a blasau annisgwyl eirin, sinsir a port. Byddai’r blasau yn addas ar noson aeafol o Dachwedd, ond roedd hefyd yn berffaith ar ddiwrnod chwilboeth o Haf.

Caserol Oen, Port, Eirin a Sinsir

A minnau di bod yn chwysu ar Domen y Mur trwy’r prynhawn, heb gael cinio go-iawn, roedd na le yn y bol am bwdin go ysgafn ac roedd y jeli mafon ac ysgawen- gyda joch o hufen a coulis go siarp-  yn ffordd berffaith o orffen y wledd.

Jeli Mafon ac Ysgawen

Mae’r busnes ar werth ar hyn o bryd, ac mae gan Dylan a Llinos gynlluniau mawr i agor cafe tapas a gwin yn yr hen siop Threshers cyfagos. Dilynwch eu blog wrth iddynt wireddu’r cam nesaf yn eu gyrfa wrth hyrwyddo’r gorau o gynnyrch Cymru a thu hwnt.

Roedd deffro bob bore i olygfa gadarn o Gadair Idris yn ysbrydoliaeth pur. Mor braf oedd cael cerdded i fewn i ganol Dolgellau i mofyn papur a Honey Buns, a medru gwneud bob dim yn y Gymraeg.

Honey Buns Dolgellau

Mae’r toesennau melys yn un o gyfrinachau’r dre, ac mae gan Elliw Gwawr rysait wreiddiol Maggie ac Evan o Bopty’r Dref yn ei chyfrol Paned a Chacen. Mae’r Bwtri, Crasdy’r Gader a Phopty’r Dref yn gwerthu fersiynau tebyg ohonynt o hyd, ac roedd cael paned a Honey Bun bob bore i frecwast yn bleser  drygionus ond hynod flasus!

Honey Bons Dolgellau

Doedd dim angen cinio anferthol ′rol hynny, ond wedi cerdded am oriau yn haul crasboeth Gogledd Cymru roedd galw mawr am hufen iâ!  Os brofwch chi’r un argyfwng yn fuan, a’ch bod o fewn cyrraedd i dre hynafol Harlech, yna ga i’ch cyfeirio chi at Hufenfa’r Castell, lle ges i adfywiad plesersus iawn…

Hufenfa'r Castell

Dwi erioed di bod yn un am hufen iâ siocled neu mefus; os ydw i’n gwbl onest, dwi’n fwy na bodlon gydag ysgafnder fanila.Ond am unwaith nes i fentro i faes mwy tymhorol. Am ychydig dros ddwybunt ges i gôn traddodiadol, a chyfuniad hyfryd o flasau Riwbob, Ysgawen ac Eirn Mair.

Hufenfa'r Castell, Harlech

Ar ein noson olaf ym Meirionnydd, cawsom wledd yn yr heulwen, a hynny ym Mwyty Mawddach yn Llanelltyd, rhwng Dolgellau a’r Bermo. Fisoedd yn unig ar ôl profi coctel Negroni yn San Francisco a dinas Turin, feddyliais i erioed y cawn yr un ddiod synhwyrus dafliad carreg o Gadair Idris.

Negroni, Bwyty Mawddach

Wedi degawd o ddatblygu ei sgiliau yn rhai o fwytai Caerdydd- daVendito yn eu plith- aeth y Chef Ifan Dunn adre i sefydlu’r busnes mewn hen sgubor ar ffermdir Maesygarnedd ei rieni.

Gyda chymorth ei frawd Will, sy’n dal i weithio ar y fferm, mae Bwyty Mawddach yn un o berlau Sir Feirionnydd.

Bwyty Mawddach

I’r rheiny ohonoch sy’n hoff o Sosban, Llanelli, byddwch wrth eich bodd â Bwyty Mawdach. Mae’r dodrefn pren a lloriau llechi, a’r decor syml ond  hynod chwaethus yn cyfathrebu hyder tawel, a chwaeth cyfoes sy’n hollol Gymreig.

Adlewyrchir hynny gan y fwydlen arbennig, sy’n pwysleisio seigiau cig oen glastraeth y fferm. Ond gyda’r defaid yn brefu o’n blaenau es i am stecen o’r Bala gyda menyn tarragon- gafodd ei weini â sglodion a goginiwyd deirgwaith- oedd yn dyner a thra danteithiol.

Bwyty Mawddach

Yn gyntaf fodd bynnag, ac yn bur annisgwyl, ges i linguine gorau fy myw; pasta ffres, gyda chranc a a chili a garlleg, oedd ar unwaith yn felys a phoeth ar fy nhafod. Coeliwch chi fi, gewch chi ddim llawer gwell yn  yr Eidal!

Bwyty Mawddach

Diolch i’r olygfa anfarwol, a’r tywydd tanbaid, saethodd y bwyty i fy mhump uchaf i, ond y bwyd yw seren y sioe yn ddi-amheuaeth. Ceir sylwedd go iawn i gyd-fynd gyda’r steil , ac roedd yn ffordd wych o orffen gwyliau arbennig.

Cadair Idris

Byddai’n hawdd hiraethu am y Gogledd, a minnau ′nol yn y De. Ond mi fydda i’n dychwelyd yno’r penwythos ′ma, gan y bydda i’n sgwrsio fel rhan o sesiwn arbennig yng Ngwyl Arall, Caernarfon.

Gwyl Arall 2013

Dyma’r bumed waith i’r wyl Gymreig gael ei chynnal yng Nghaernarfon, a hynny mewn lleoliadau niferus o fewn muriau’r dre. Mae’n cyfuno llenyddiaeth, cerddoriaeth a phethau llawer iawn amgenach, ac mae wir werth mynd allan o’ch ffordd i fynychu’r wyl hamddenol hon.

Dyma fydd y drydedd waith i mi fynychu’r wyl bwtîc, gan i mi dderbyn gwahoddiad i gyfrannu i sesiwn eleni yn rhinwedd fy rôl fel sgwenwraig bwyd, ac awdur y gyfrol Canllaw Bach Caerdydd, sy’n orlawn o adolygiadau o fwytai’r brifddinas.

Cymerwch gip ar y raglen orlawn, sy’n cynwys y sesiwn ganlynol- sy’ ′mlaen yn y Clwb Iotio am 1pm ar ddydd Sadwrn…

Sgwrs amser cinio yng nghwmni beirniaid bwyd amlyca’r iaith Gymraeg. Mae’r Athro John Rowlands a’r awdur a’r blogiwr Lowri Haf Cooke yn adolygwyr cyson a byddant yn trafod eu diddordeb eang mewn bwyd gyda’r golygydd Nia Mair Roberts / A lunchtime chat about food and writing with two of Wales best known restaurant critics.

Bydd hi’n anrhydedd cael rhannu’r sesiwn gyda’m cyn-ddarlithydd John Rowlands. Mae gen i barch mawr i’w sgrifennu, sy’n cynnwys  cyfraniadau i The Good Food Guide ac erthyglau difyr i gylchgrawn Barn, fel ei grynodeb flynyddol o fwytai bro’r Eisteddfod Genedlaethol.

Ry’ ni wedi cadw mewn cysylltiad dros y blynyddoedd diwethaf, a cysylltais ag ef yn syth ′rol darllen gwaith gwych Idwal Jones.

Mi fydda i’n siwr o rannu hanes y gourmand o Gymro, a fy nhaith diweddar i Galiffornia i archwilio ei achau ac i ddilyn ôl ei draed – a oedd yn ddeffroad pur i mi fel sgwenwraig bwyd.

Wedi llawer o ymchwilio, dwi hefyd wedi darganfod rysait ar gyfer hoff goctel Idwal, oedd yn ffefryn mawr gydag ef pan oedd o’n cloddio am aur  yng Ngogledd Califfornia ar achlysur y Gold Rush.

Os da chi awydd galw fewn i’r Clwb Iotio i glywed ei hanes anhygoel, gewch chi lasied gen i- mae’r cynhwysion yn ffrwtian yn y ffrij ar hyn o bryd!

Mae’n werth nodi hefyd y caiff y sesiwn amser cinio ei noddi eleni gan deli Y Bwtri, olew Blodyn Aur a creision Jones o Gymru, a synnen i daten na fydd na ddanteithion blasus ar gyfer y gynnulleidfa!

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Adolygiad, Bwyd, Dihangfa o'r Ddinas. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Un Ymateb i Dihangfa o’r Ddinas : Merch y Ddinas ym Meirionnydd

  1. Hysbysiad: Adolygiad Bwyty Plas Bodegroes, Pwllheli | Lowri Haf Cooke

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s