Uchafbwyntiau Eisteddfod Genedlaethol Dinbych 2013

Anweledig Ffion Dafis gan Iestyn Hughes

(Llun gan Iestyn Hughes, Atgof)

Wedi i mi ganmol cynhyrchiad newydd Theatr Bara Caws , Cyfaill / Te yn y Grug, ar y blog p’nawn ddoe, dwi’n teimlo y dyliwn i grybwyll rhai o fy uchafbwyntiau eraill i o ’steddfod Dinbych. Es i fyny am dridiau ar gyfer penwythnos olaf y brifwyl, a ges i ′steddfod ddifyr iawn, diolch i gwmni da ac adloniant o’r radd flaenaf.

Roedd gig ola Edward H Dafis ar nos Wener yn achlysur arbennig iawn, ac roedd yn wych cael cyd-ganu Ysbryd y Nôs yng nghwmni miloedd o Gymry Cymraeg. Doedd y system sain ddim cystal â’r tro dwetha i mi’u gweld nhw yng Ngwyl y Faenol 2001, ond serch hynny profwyd gwefr a hanner.

Ar begwn arall y Maes, ganol p’nawn Sadwrn, profwyd ennyd yr un mor euraidd, sy’n argoeli pethe mawr. Wedi hanner awr o ddiddanu’r dorf llorweddol yn nhîpî Caffi Maes B, ymunodd Osian Rhys Williams o’r band Candelas â’r gynulleidfa wrth estyn am un o bean-bags y res ganol a phloncio’i hun i lawr gyda’i draed yn yr aer ar gyfer fersiwn cwl braf o Anifail. Ma’r band ar dân ar hyn o bryd, felly da chi, gwyliwch y gofod…

Bues i i sawl gig Cymdeithas yr Iaith dros y penwythnos, ac efallai mai dyna sut ges i’r gorau o fy ymweliad â thref Dinbych. Wrth adael bar y Maes wedi gweld cynifer o wynebau cyfarwydd, roedd hi’n grêt cael gwneud ffrindiau newydd yn nhafarndai’r dre. Ces flas hyfryd o’r acen leol, a sawl sgwrs hwyr hynod swreal, sef holl bwynt yr wyl deithiol, am wn i.

Cafwyd set ardderchog o awr a hanner gan Geraint Jarman a’r criw- bargen a hanner am £10,  yng ngig mwyaf chwyslyd yr wythnos, ar nos Iau. Yn naturiol, ymatebodd y criw hýn i’r clasuron reggae gwleidyddol, ond rhaid dweud, nes i joio’r stwff gwledig mwy diweddar oddi ar Brecwast Astronot yn ogystal.

Roedd gig Yr Ods ar nos Sadwrn yn Nhafarn y Guild yn brofiad chwerwfelys mewn ffordd; perfformiad hwyliog (a hynod sobor) gan fand proffesiynol tu hwnt, ond wrth iddynt orffen eu set wych gwyddwn fod y ’steddfod (bron) ar ben am flwyddyn arall – dyna lwc i’r hwyl barhau wedi hynny!

Roedd bod yn y dre yn f’atgoffa o hwyl y ’steddfod yn 2001 – cyn sefydlwd bar ar y Maes yn 2004 – pan welais gannoedd (os nad miloedd) yn llenwi stryd fawr Dinbych. Mae’n wir i mi orffen nos Sadwrn hwnnw yng ngig anfarwol Anweledig a Diffiniad ym Maes B, ond niwlog iawn yw nghôf o’r stripper, rhaid dweud, wedi cymaint o hwyl yn y dre…

Efallai mai’r uchafbwynt i mi eleni oedd profiad annisgwyl iawn- gweld yr actores Ffion Dafis yn hoelio’r sylw  yn Y Lle Celf.

Ffion, yn wir, oedd yr unig beth gwerth gwrando arni ar y radio ar fy ffordd i fyny’r ’steddfod ganol dydd Iau- roedd gweddill y stwff i’w clwed ar orsafoedd radio’r gororau yn ddiarhebol o wael. Dyna lle roedd hi bob dydd yn darlledu pigion O’r Babell Lên ar BBC Radio Cymru, ac yn cynnal sgwrs ddifyr bob amser cinio.

Yna, erbyn 3 o’r gloch (bron) bob p’nawn gwnaeth hi ei ffordd i’r Lle Celf i ofod hynod arddangosfa Dinbych Saith.

Dwi ddim yn gwbod amdanoch chi, ond ches i mo ngwefreiddio gan Y Lle Celf eleni, er i mi ymweld hanner dwsin o weithiau dros gyfnod o dridiau. Fe wnes i fwynhau gwaith newydd Pulli cantus y seramegydd Lowri Davies,  gwaith gwehyddu amryliw Sian O’Doherty, a ces fy hypnoteiddio’n llwyr gan waith fideo Beca Voelcker, a gipiodd wobr Ysgoloriaeth yr Artist Ifanc yno eleni.

Ond beth ar wyneb y ddaear oedd paentiadau naïf Kathryn Edwards o Gastell Coch a Gwyl y Gaeaf Caerdydd yn gwneud ymysg y gwaith dethol?! Dyw pawb yn amlwg ddim yn gwirioni run fath…

Fel y gwelwch yn rhif mis Medi o gylchgrawn Barn, mynedfa Angharad Pearce Jones, dan yr enw Ffordd yma, plis… greodd yr argraff fwyaf arna i.

Nid lladd ar y Lle Celf, ydw i yma gyda llaw- mae’n rhaid ei fynychu fwy nag unwaith yn ystod yr wythnos. Dyna’r unig le ar y Maes sy’n edrych allan, ac yn herio’r gynulleidfa’n llwyr, mewn gwyl gysurus sydd ag obsesiwn pur â syllu ar ei bogail ei hun.

Wedi dweud hynny, roeddwn i’n gegrwth pan eisteddais i wylio’r fideo buddugol, a chlywed Saesneg yn rhan o’r darn oedd yn cynwys garbwl cawl-cyntefig (doeddwn i heb glywed y cyhoeddiad, yn ystod yr wythnos, cyn hynny). Dwi’n gwybod mai gwobr genedlaethol, sy’n cynrhychioli artistiaid ledled Cymru yw’r Fedal Aur, ond bois bach, mae’r rheol iaith i fod yn sanctiadd, ond tydy?

Wedi nghythruddo, a’m cyffwrdd, a’m cogleisio  gan ambell ddarn, bu’n amser gadael trwy arddangosfa Dinbych Saith, a sôn am ffordd ddiddorol o bontio â’r gymuned leol.

Daeth yr artist Simon Proffitt a’r diddanwr lleol- a chyn nyrs seiciatryddol – Eilir Jones ynghyd i gyflwyno gwaith a ysbrydolwyd gan Ysbyty meddwl Dinbych, fu ar agor rhwng 1848 a 1995 . Cafwyd cyfraniadau niferus gan ymwelwyr â’r arddangosfa, a’r argraff gyffredinol oedd mai dyna oedd hit y Lle Celf eleni.

Fel rhan o’r un gornel, cynhaliodd Cwmni’r Frân Wen atyniad a dyfodd yn raddol mewn poblogrwydd ar hyd yr wythnos. Un o brosiectau diweddara’r awdur a dramodydd Aled Jones Williams yw’r monolog Anweledig, a berfformiwyd yn feistrolgar gan yr actores Ffion Dafis.

Ffion Dafis Anweledig gan Iestyn Hughes

(Llun gan Iestyn Hughes, Atgof)

Erbyn i mi gyrraedd y Lle Celf brynhawn Gwener  roedd y gofod yn orlawn o bobol, a bu’n rhaid bachu lle bach ar lawr i gael eistedd i’w gwylio. Yr hyn a adroddwyd oedd profiad Cymraes o iselder dwys, ac annallu ei charedigion i ddeall “pam”.

Cyrhaeddodd Ffion “mewn cymeriad” yn gwiso ffrog liain wen, wnaeth ddwyn Mrs Rochester o Jane Eyre i gôf; eisteddodd mewn cadair esmwyth am hanner awr â llyfr lloffion hynafol ar ei harffed. Pwrpas deublyg oedd i’r albwm; nid yn unig yr oedd yn brop a  alluogodd ei chymeriad rannu ei hatgofion â ni, ond fe ganiataodd i’r actores gael cip go slic ar ambell linell.

Anghofiais i, mewn gwirionedd, ei bod yn darllen ambell ddarn- ces fy nhrawsblannu’n llwyr i fyd y wraig bruddglwyfus. Cymraes gyffredin, dynes gall a hynod ddifyr oedd yn ei huffern ei hun, fel petai’n sownd mewn sinema dywyll, yn gwylio ffilm o’i bywyd a dim yn digwydd.

Roedd y wraig a’r fam yn gweithio mewn banc, ond un bore method yn lân a gwynebu’r daith i’r gwaith. Ffoniodd ei gwr y bòs i egluro ei bod hi’n “amser y mis” –  a hithau yn ei hoed a’i hamser!

Roedd anallu llwyr ei gwr Huw a’i ffrind Beryl i ‘ddeall’, yn rhan fawr o’i dirywiad, gan ychwanegu at y stigma o droi yn y diwedd at ysbyty Dinbych.

Yn ’sbyty ‘Dimbech’ , neu yn hytrach ‘Dimbech’  (hynny yw, lle na cheir ei yngangu ar lafar, ’mond ei eirio’n fud â’r gwefusau yn null Les Dawson) y glaniodd y ddynes, lle cafodd gysur a lle i fyw – a lle i ‘fod’.

Llwyddo wnaeth atgof hapus o drip i’r traeth, gwers nofio gan ei thad ac awyr iach llesol lan môr, i godi gobeithion y gynnulledifa ar ei rhan. Ond trodd y golau ar ben draw’r twnel yn ddyfais glyfar i’w hudo hi i ffwrdd, cyn iddi gael ei “hachub” – yn hollol hunanol o’i pherspectif hi-  gan yr heddlu a’i gwr “cariadus”.

Daeth y darn i ben yn dawel â dagrau amrwd yr actores, eiliad rymus a gyfarchwyd gan fonllefau o gymeradwyaeth. Saethodd pawb i’w traed, yn haeddiannol iawn, yn dilyn perfformiad cwbl ysgytwol, sy’n siwr o aros yn y côf am gyfnod maith.

Sôn am gywaith gaboledig rhwng awdur ac actores; dyna’r perfformiad gorau i mi weld gan Ffion Dafis, a darn deallus a hynod ddealladwy gan Aled Jones Williams.

Dymunaf yn dda iawn i’r ddau wrth iddynt ddatblygu’r prosiect ymhellach – yn y gobaith yr aiff Anweledig ar daith.

O.N. Gyda llaw, llongyfarchiadau mawr i’r holl ffotograffwyr a fu’n gweithio mor ddygn i gydio yn naws weledol yr wyl ar hyd yr wythnos. Gwelodd nifer lun ardderchog Emyr Young o Ifor ap Glyn, toc cael ei goroni, ar glawr Cylchgrawn Golwg, ond cymerwch gip ar luniau adderchog Iestyn Hughes, Dafydd Chilton a Rhys Llwyd– ymysg eraill – yn ogystal.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Adolygiad, Celf, Cerddoriaeth. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

  1. Dywedodd sgentilyfrimi :

    Roeddwn innau yno bnawn Gwener i weld Ffion Dafis yn y monolog ac roedd ei pherfformiad hi yn arbennig iawn, iawn. Erioed wedi ei gweld yn gwneud dim byd cystal â hyn.

  2. Hysbysiad: Adolygiad Theatr: Pridd (Theatr Genedlaethol Cymru) | Lowri Haf Cooke

  3. Hysbysiad: Adolygiad Theatr – Anweledig (Cwmni’r Frân Wen) – Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018 | Lowri Haf Cooke

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s