Adolygiad Teledu: The White Queen (BBC1)

The White Queen

Adolygais gyfres The White Queen ar raglen Sam ar y Sgrin ar S4C. Cliciwch yma i wylio eto.

Heno ma ar BBC1 daw cyfres fawr yr haf i ben, sef addasiad teledu o nofelau hanesyddol Philippa Gregory. Cyflwyno wna’r gyfres hanes Rhyfel y Rhosynnau, a hynny o berspectif y merched.

Dyma i chi gyfnod cythryblus ar ganol y Bymthegfed Ganrif, a arweiniodd at deyrnasiad teulu’r Tuduriaid. Dros gyfnod o ddeng mlynedd ar hugain, aeth dwy gangen o linach y teulu Plantagenet benben â’i gilydd i gipio coron Lloegr; ymgyrch yr Iorciaid Gwynion yn erbyn y Lancastriaid Cochion, ddaeth i ben pan oresgynodd y Cymro Harri Tudur yr orsedd ym 1485.

Daethom i adnabod nifer o ddynion y cyfnod, y brodyr Edward IV a Rhisiart III yn eu plith. Ond menywod sy’n hawlio’r prif gymeriadau, wrth i’r awdures Philippa Gregory archwilio’r cynllwynio fu rhwng merched y cyfnod, i sicrhau lle i’w llinach nhw yn hanes y frenhiniaeth.

Elizabeth Woodville yw’r White Queen; gwraig weddw gyffredin o deulu fu’n deyrngar i’r Lancastriaid, a gyhuddwyd o fod yn wrach, ac a gipiodd calon y brenin Iorcaidd Edward IV.

The White Queen Elizabeth Woodville

Yn ei herbyn, dwy ddynes gref; Margaret Beaufort, oedd yn Lancastriad rhonc, ac yn fam i Harri Tudur…

Margaret Beaufort The White Queen

Ac Anne Neville – Iorciad i’r carn , oedd yn wraig i Rhisiart III a chwaer-yng-nghyfraith i’r frenhines Elizabeth.

Anne Neville The White Queen

Does dim dwywaith amdani , creodd yr actores o Sweden Rebecca Ferguson argraff enfawr o’r cychwyn cyntaf fel y White Queen annearol o hardd.

Hit y gyfres , fodd bynnag, heb os nag oni bai oedd cymeriad Lady Rivers, sef mam Elizabeth Wodville. Yn Fachiavelli o ferch, roedd hi’n wleidydd a hanner, oedd yn meddu ar rymoedd goruwchnaturiol.

Lady Rivers The White Queen

Yn dilyn marwolaeth ei chymeriad hithau, aeth y gyfres lawr yr allt, gan i’r actores Janet McTeer ychwanegu dôs mawr o garisma i gyfres a lethwyd yn llwyr gan yr hanes.

Es i allan i brynu’r gyfrol yn dilyn pennod gyntaf drawiadol iawn; ges i flas mawr ar berspectif o hanes oedd yn gwbl anghyfarwydd i mi, diolch i ddawn dweud rhagorol Phillipa Gregory, a’i harchwiliad i rym y rhyw deg. 

Ond profodd yr addasiad teledu broblemau mawrion; am un peth, dyma gyfnod cymhleth iawn o hanes Lloegr, lle y cafodd saith brenin eu coroni mewn cwta deng mlynedd ar hugain – sawl un  ohonynt fwy nag unwaith.

Yn hynny o beth bu’n rhaid cywasgu’r cyfan i ddeg pennod yn unig; wrth geisio cyflwyno cast o gannoedd, roedd hi’n anodd cofio’n aml pwy oedd pwy, ac yn anos fyth i falio pwy gafodd eu dienyddio ai peidio. Ni chafwyd llawer o le i gynildeb, o ran actio na chynnwys y sgript, gan olygu i’r gyfres fethu a chydio’n llwyr yn sylw’r gwylwr, serch moethusrwydd y manylion gweledol.

Cyd-gynhyrchiad yw The White Queen rhwng y BBC a sianel Starz yn yr Unol Daleithiau, a gwnaethpwyd yn fawr o’r ffaith y byddai’r fersiwn Americanaidd gryn dipyn mwy rhywiol.

Yr eironi mawr yw y cafodd y gyfres ei chomisiynu yn sgil llwddiant ysgubol cyfres ffantasi Game of Thrones, a addaswyd o nofelau George R R Martin ar gyfer HBO, ac a ysbrydolwyd gan gymhlethdodau Rhyfel y Rhosynnau.

Diolch yn rhannol i gyllideb anferthol, mae honno’n gyfres gaboledig,  sy’n mynd â’r elfen hud a lledrith gam ymhellach.

Ond serch presenoldeb dreigiau a zombies canoloesol (heb sôn am olygfeydd rhyw di-ri), wrth ei chraidd mae Game of Thrones yn ddrama wleidyddol feistrolgar iawn. Mae’r sgriptiau’n rhagorol- sy’n caniatau i’r cymeriadau ddatblygu ac anadlu- a’r perfformiadau’n rhai ystyriol, gan sicrhau teyrngarwch mawr ymysg y gwylwyr.

Yn bersonol, collais i ddiddordeb braidd yg nghyfres The White Queen, a hynny serch gwaith da gan Aneurin Barnard fel Rhisiart III.

I fod yn deg gydag e, cyflwynodd y bachan o Fro Ogwr ddehongliad newydd a ffres o ddyn gafodd ei bardduo’n llwyr dros y blynyddoedd.  Yn hytrach na’r ellyll cefngrwm ag obsesiwn â grym, gwelsom ddyn teulu hynod deyrngar a etifeddodd rôl eithriadol o ddi-ddiolch.

Aneurin Barnard The White Queen

Yn anffodus,  rhoddwyd gormod o lawer i’r gwyliwr ar blât, gan egluro a chyflwyno pob cymeriad hyd syrffed – camgymeriad mawr yn fy llyfr i.

“Show, don’t tell,” yw mantra dramodwyr di-ri; yn anffodus collais gyfri ar faint o olygfeydd llipa The White Queen gynhwysodd y geiriau anfaddeuol “The tension is unbearable”!

Mewn  cymhariaeth â hynny, hawliodd dwy gyfres arall fy nheyrngarwch lwyr dros yr Haf; drama dditectif Top of the Lake ar yr iPlayer a chyfres ola Breaking Bad ar Netflix.

Dyma i chi gyfresi llawn naws, sy’n ymdreiddio’n llwyr i fy isymwybod i, nes mod i wir yn becso am y cymeriadau ar ddiwedd pob pennod, ac yn awyddus i’w harchwilio ymhellach, wrth drafod y rhaglenni â ffrindiau, neu ddarllen adolygiadau ystyrlon ar-lein (Alan Sepinwall o’r Unol Daleithiau yw fy go-to-guy am sgrifennu teledu deallus ers blynyddoedd).

Mae’n amlwg fod na gynulleidfa dorfol i gyfresi cyfnod swmpus gan y BBC, ond mae gwylwyr bellach yn mynnu mwy gan y darlledwyr am hawlio cyfran o’u hamser hamdden. Mwy o gynildeb sydd ei angen, mewn gwirionedd, er mwyn i ni gael cyfle i gydnabod gwirioneddau sy’n cyfateb i ni’n hunain.

Dy ni wylwyr ddim yn dwp, mae na bleser mawr mewn gwylio drama aml-haenog, sy’n denu’r chwilfrydedd wrth beidio a datgelu gormod. 

Un ffordd wych o ddod i ddeall ein hunain yw uniaethu â chymeriadau ar deledu; mae gen i ofn na ches i ronnyn o therapi gan The White Queen ar y sgrîn fach.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Adolygiad, Teledu. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s