Cymru yng Ngwyl Caeredin 2013

Gyda dyddiau’n unig ar ôl o Wyl Ymylol Caeredin 2013, penderfynais fod bywyd yn rhy fyr i golli mas, gan hedfan i fyny ar gyfer y penwythnos olaf.

Ro’n i’n wyryf i’r wyl ’nol yn 2011, ond tro ma ro’n i’n gwybod yn union beth i ddisgwyl; tridiau o hwyl a phrofiadau newydd sbon, a chwa o egni creadigol.

Nid pawb fodd bynnag fyddai’n ystyried hedfan i Gaeredin wedi parti priodas gwyllt. Dyna’i gyd ddweda i yw y cyrhaeddais yr Alban gyda’m traed yn dirgrynu i hits Madonna a’r Pet Shop Boys.

My Name Is Sue

Y sioe gyntaf i mi ei phrofi oedd yr ateb perffaith i benmaenmawr; My Name is Sue gan y Cymro aml-dalentog Dafydd James. Dwy flynedd yn ôl yng Nghaeredin ces fy llorio  gan Llwyth, er i mi’i phrofi hi ddwywaith o’r blaen. Ond nid sesh  yng nghwmni pedwar ffrind hoyw oedd ar yr agenda tro hwn ond gwibdaith swreal yng nghwmni annwylbeth abswrdaidd o’r enw Sue.

Croesawodd yr annwylbeth ei hun (Dafydd James) y gynulleidfa i’w sioe , wrth gynnig platiad o  fisgedi Bourbon i bawb a feiddiodd groesi ei rhiniog. Cafwyd awgrym go dda o hiwmor yr hen ferch , wrth iddi gynnig sylwebaeth ar ymarweddiad rhai, a gwynto gwallt y lleill.

Yr hyn a ddilynodd oedd awr o gomedi cerddorol wrth i Sue rannu hanes ei bywyd hi. Fe wnaeth hi hyn trwy gyfrwng cyfres o ganeuon gorffwyll tra’n eistedd o flaen ei phiano.

Nid merch gyffredin mo Sue, rhaid pwysleisio hynny o’r cychwyn; mae ganddi ei steil unigryw ei hun. Ond serch ei bob aflêr a’i chardigan lwyd, mae hi’n mynnu gwrandawiad astud i’w straeon o gyrion cymdeithas.

Ymysg ei hobsesiynau hi y mae bysus Caerdydd, opera sebon  Emmerdale a ffilmiau Julia Roberts (gyda Sleeping With The Enemy yn ffefryn mawr).  Mae hel atgofion am de parti ei phlentyndod yn falm i’r enaid ac  yn ddihangfa i’r ddynes fregus. Ond ceir brathiad annisgwyl i bob un stori, wrth i ni gael ein llusgo ymhellach i psychosis swbwrbaidd Sue.

Dros yr awr o sioe profwn athrylith Dafydd James a’i bartner sgrifennu rheolaidd, Ben Lewis. Ceir  cefnogaeth gerddorol gan dair “Sue” arall; band cefndirol o drychiolaethau sy’n  edrych fel Wednesday Adams, pe bai’n siopa ym min bargeinion Marks and Sparks.

O’r boen o gael ei bwlio ym Mharc y Rhath i gyfnod chwerwfelys mewn ysgol fonedd yn y Swisdir , hyd at daith fws lloerig heibio Stadiwm y Mileniwm a marwolaeth ei thad ar Route 66. Caiff pob un o’r profiadau hyn eu dathlu’n gerddorol, gyda chefnogaeth afieithus y gynulleidfa, ddaw’n rhan annatod o’r sioe.

Adeiledir yn grefftus at grescendo gorffwyll, sy’n gorffen gyda’r dorf yn eu dyblau – ac eisioes ar eu traed.  Dim ond hen law ar y gêm hon gallai sicrhau standing ovation parod, yn dilyn Mexican Wave torfol i gyfeiliant “We’re All Going To Die”; hyn oll, gyda llaw, tra fod seren y sioe yn gelain ar lawr.

Croesir y ffin denau droeon rhwng dagrau a digrifwch, mewn cynhyrchiad llawn asbri abswrd.

Bydd sioe My Name is Sue yn dychwelyd i Gymru yn yr hydref ar gyfer perfformiad yng Nghanolfan Chapter, Caerdydd ar nos Fawrth, Tachwedd 26ain, 2013. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.

The Radicalization of Bradley Manning

O’r hollol abswrd i’r hynod amserol; enillydd gwobr gyntaf James Tait Black am Ddrama yng Ngwyl Ymylol Caeredin eleni, sef cynhyrchiad  National Theatre Wales o The Radicalization of Bradley Manning gan y dramodydd Tim Price.

Collais fy nghyfle i brofi’r ddrama hon gyntaf, pan gafodd ei llwyfannu ar fy stepen drws yn  Ysgol Cardiff High yn 2012. Rwy’n ddiolchgar mewn ffordd am hynny, gan i mi lanio yma yng Nghaeredin ddeuddydd wedi’r ddedfryd fawr, a ddenodd benawdau’r byd.

Mae’n anodd meddwl yn glir ar y funud am drallod Bradley Manning, a gyhoeddodd yn fuan wedi’i ddedfryd ei fod am fyw fel merch o’r enw Chelsea. Yn sylfaenol, dedfrydwyd Manning i bymtheg mlynedd ar hugain mewn carchar milwrol am feiddio datgelu’r gwir.

Yn fuan wedi’i arestio am ryddhau cannoedd o filoedd o ddogfennau cyfrinachol ar wefan Wikileaks yn cyfeirio at droseddau’r fyddin Americanaidd yn Iraq, datgelwyd ei berthynas â Chymru, a’r ffaith fod ei fam yn byw yn Hwlffordd- cysylltiad a daniodd chwilfrydedd National Theatre Wales.

Yn dilyn magwraeth yn Oklahoma, chwalodd priodas rhieni Manning,  a symudodd Bradley a’i fam Susan i gartref ei theulu hithau yn Sir Benfro. Am gyfnod o’i arddegau, bu’n ddisgybl yn Ysgol Tasker Milward, sy’n chwarae rhan amlwg yn nrama Tim Price.

Wrth gyflwyno cefndir y milwr Americanaidd, hyd at ei garchariad yn 2010, neidia’r ddrama rhwng gyfnodau allweddol ar hyd ei ieuenctid; ei berthynas gymhleth â’i rieni alcoholig, ei brofiadau cynnar fel dyn hoyw a’i rwstredigaethau gyrfaol yn eu plith.

Fe’i gyflwynir ym mhob un agwedd fel person rhwystredig, yn ysu i ddechrau o’r newydd â llechen lan. Ei ddymuniad pennaf yw mynd i’r coleg i astudio cyfrifiaureg, ond heb arian, mae’n derbyn cyfres o McJobs ac yn cysgu yn ei gar. Cyngor ei dad, a chanddo yntau gefndir milwrol, yw troi at y fyddin am gymorth.

Yn anffodus iddo ef, una’r holl rwystredigaethau hyn i greu storom berffaith, sy’n llunio ei ffawd am byth.

Nid cyflwyniad cronolegol a geir yn y cynhyrchiad; ceir sboncio parhaol rhwng cyfnodau. Yn gefnlen i’r cyfan y mae trac sain Lady Gaga, ac mae’r sgrins hollbresennol yn ganllaw i’r gwyliwr.

Mae’n sioe swnllyd, corfforol  sy’n ymosod ar y synhwyrau, sy’n llwyddo i ddenu a dieithrio bob yn ail.  O gaethiwed cell unig i basic training bwystfilaidd, a phrotest fywiog yn erbyn Proposition 8; does dim lle i lonyddwch ym mywyd Manning, ac mae’n hawdd iawn cydymdeimlo ag ef.

Nid lle i enaid gael llonydd yw’r ystafell ddosbarth chwaith; yn wir, yno yn nosbarthiadau Hanes yr ysgol yn Hwlffordd, caiff gyflwyniad i griw o Gymry radicalaidd. Fel bachgen ar ei brifiant, caiff ei gyffroi’n llwyr gan hyn, o hanes y Siartwyr i Ferched Beca a Dic Penderyn. Wrth ddychwelyd yn rheolaidd i’r gofod goleuedig hwn, ceir ymdrech i brofi mai yma y plannwyd yr hadau o hunan-hyder.

Plethwyd y cyfan yn feistrolgar, ac adleisiwyd themau cyffredin ym mhob darn, wrth i chwech actor (gan gynnwys dwy ferch, y Gymraes Gymraeg Gwawr Loader yn eu plith) rannu’r her o chwarae Manning. Ni fu’n rhaid adweithio’r sgript er mwyn ymateb i’r newyddion mawr ac fe ddylai brofi llwyddiant pellach ar lwyfannau rhyngwladol.

Robert Golding

Dwy flynedd yn ôl ces i bleser mawr wrth wylio’r comedi tywyll Richard Parker gan Gwmni Theatr 3D. Yn dilyn llwyddiant yn LA, a thaith i Chicago ar y gweill, penderfynwyd llunio dilyniant o’r enw Robert Golding (Darkman Productions).

Ffawd, rhagluniaeth a thun o sardîns oedd rhai o brif gynhwysion Richard Parker. Wrth i ddau ddyn â’r un enw gyfarfod ar hap, archwiliwyd natur cyd-ddigwyddiadau.

Aiff yr awdur, Owen Thomas, â’r gynulleidfa gam ymhellach tro ma, wrth greu gwe o gelwyddau yn Robert Golding.

Mae’r ddrama  yn agor ym mwyty newydd Ariadne’s yng nghwmni’r pâr priod Robert (Alastair Sill) a Jen (Catrin Morgan) Golding.  Gyda’i  gwr yn gyfrifol am ariannu’r fenter, mae Jen yn awyddus i brofi i’r banciwr y bydd eu bwyty yn llwyddiant. Mae nhw’n aros i’r pensaer ymuno â nhw, sef Mark (Gareth John Bale), sy’n berffeithydd mawr, a dweud y lleia.

Ond pan gyrhaeddai’r gwestai, caiff Robert gryn dipyn o fraw; yno’n ei wynebu y mae ysbryd o’r gorffennol, sydd yno i herio’i hunaniaeth.

Cyfunir stori arswyd amgen â conspiracy theories di-ri. Datgelir fod Mark yn arbenigwr mewn canfod gwirioneddau cudd,  gan restru enghreifftiau o gelwyddau a lyncwyd gan y byd- marwolaethau Elvis, Marilyn a John Lennon i enwi ond tri – ac mae e yna i ddatgelu’r gwir am Robert Golding.

Wedi hanner cyntaf cryf o ddenu chwilfrydedd y dorf a sgript llawn ffeithiau dyfeisgar, mae’r ddrama yn ein harwain at ddiweddglo anghydnaws sy’n dwyn schlock Dan Brown i gôf.

Nid bai’r actorion, na chyfarwyddo Gareth John Bale, mo hyn-  ond yn hytrach sgript sy’n efelychiad sâl o Richard Parker. Fel yn achos y ddrama wreiddiol, wefreiddiol honno, mae Bale yn wrthwynebydd caristmataidd, ond yn anffodus, does dim annwyldeb, na gwir ystyr, yn perthyn i’w gymeriad yn y dilyniant.

Roedd Alastair Sill yn llawer gwell fel y dyn cyffredin, Richard Parker, gaiff ei hambygio i’r eithaf yn y ddrama gyntaf. Yma yn anffodus, dyw ei fanciwr hunanol ddim yn argyhoeddi o gwbl, a does dim rheswm i ni alaru am ei ffawd.

Cyniga Catrin Morgan berfformiad disglair fel y wraig di-glem, sy’n un o ddioddefwyr y pensaer Mark Parker. Fe ddylai’r cyfenw hwnnw danio dychymyg y darllenydd, ond disgwyliais well yn dilyn chwip o ddrama gyntaf.

The Bloody Ballad

Fedra i ddim dweud i mi brofi unrhywbeth tebyg i The Bloody Ballad (Gagglebabble & Theatr Iolo) erioed o’r blaen, sy’n cyfuno rockabilly gig a slasher pic ar lwyfan byw y theatr.

Trawsblanwyd chwedl hynafol gan Abram Wood i un o daleithiau deheuol America’r Pumdegau, gan gyflwyno Merch o’r enw Mary a’i band The Missing Fingers mewn chwyrligwgan o rifiw.

Stori’r prif leisydd Mary a adroddir ar ei hyd, trwy gyfrwng cyfres o ganeuon afieithus. Yr awdures Lucy Rivers sydd yn arwain,  fel Mary ei hun, gyda chefnogaeth gref gan griw eithriadol o gerddorion talentog.

Yr hyn a adroddir yw hanes wythnos ym mywyd Mary, sy di cael llond bol o gael ei threisio gan ei thad. Daw dieithryn i’r dre i gipio ei chalon, gan arwin at lu o lofruddiaethau hynod erchyll.

Er mor fywiog yw’r darluniau, ac mor hwyliog yw’r darn- heb sôn am safon aruthrol y talentau ar (ac oddi ar) y llwyfan-  bum yn pendroni am hir paham na ches i ngwefreiddio’n llwyr; dylai criw mor greadigol anelu’n uwch na pastiche.

Cafwyd cymariaethau anochel gyda Quentin Tarantino a David Lynch, sy’n ddigon teg, ac eto’n ddiog dros ben. Gwelwyd delweddau Southern Gothic hyd syrffed ar sgrin, ac mae’n wir i’r un egni gael ei drawsblannu yma i’r llwyfan.

Yn fy marn bach i, byddai’n ddifyrach byth pe byddai’r criw wedi oedi ag Abram Wood i weld beth fyddai gan Welsh Gothic i gynnig i’r byd.

Lloyd Langford Galoot

Dim ond un sioe wirioneddol sâl wnes i brofi eleni, a set standup Lloyd Langford o Faglan oedd hwnnw.

Fe droediodd y llwyfan wedi’i wisgo fel banana; i fod yn deg, mae’r ffaith na soniodd e’r un gair am hyn yn ychwanegu at ei atyniad.

Mae e’n diddanwr sydd wedi cydweithio â mawrion cyfoes Cymreig- Rhod Gilbert, Elis James yn eu plith – roedd gen i ddisgwyliadau go uchel ar gyfer Langford, ond ces fy siomi’n ddirfawr, rhaid dweud.

Fel cynifer o’i gyfoedion, rhwystredigaethau bach bob dydd sy’n mynd â’i fryd ar gyfer sioe sy’n dathlu’r Galoot, neu’r Ynfytyn.

Cychwynwyd yn addawol, gan gyfeirio’n hamddenol braf at y chwerthin mawr a ddaeth o’r stafell drws nesa. Team B oedd y rhain, meddai, ac roedd yn well ganddynt ymateb yn achlysurol – fel arfer ar ganol jôc, yn hytrach nag yn dilyn un o’i punchlines arferol.

Mae’n wir hefyd i’w gynnig ef i herio mawredd mudiad Movember daro deuddeg â’r dorf, ac mae na fwy o synnwyr i’w ymgyrch ef , Bollocktober, wrth godi ymwybyddiaeth o ganser y ceilliau .

Ond mae’n flin gen i ddweud yr aeth pethau lawr yr allt yn sydyn iawn, wrth i’w set ddatgelu diogi mawr. Roedd yn llawer rhy ddibynnol ar ymateb di-ddim y dorf, a galw c**t ar enwogion benywaidd.   Gyda hanner awr i fynd bu’n rhaid i mi benderfynu ar fy strategaeth; aros iddo droi at ei powerpoint i gael gadael yn dawel, ynteu aros tan y diwedd un?

Yn y pendraw, gwnaeth Langford y penderfyniad ar fy rhan wrth ymddiheuro am stori eithriadol o wan am ladd criw o Tutsis yn Rwanda.

“Mae bywyd yn llawer rhy fyr i hyn” medde fi wrtho cyn cau y drws;  wedi mis cyfan o gyflwyno set o’r fath, derbyniodd Langford fy arsylwad yn rhadlon.

Who's Afraid of Rachel Roberts Torch Theatre

Diolch byth felly am berfformiad ysgubol gan Helen Griffin yn ei sioe un ddynes, Who’s Afraid of Rachel Roberts? (Cwmni Torch Theatre). Mewn cwta awr a chwarter adferwyd fy ffydd yn llwyr yn safon arlwy Gwyl Ymylol Caeredin.

Toc cyn cychwyn ar daith hydref ledled theatrau Cymru, cafodd gynulleidfaoedd rhyngwladol y pleser o brofi cynhyrchiad cwbl drydanol.

Er y bydd rhai yn cofio Rachel Roberts fel ail wraig Rex Harisson, i nifer fawr roedd hi’n actores Gymreig o fri. Enillodd dair gwobr BAFTA fel prif actores, ac un enwebiad am ei phrif ran yn y clasur kitchen-sink , This Sporting Life (1963).

Tra roedd ei chyfoedion gwrywaidd- Albert Finney, Richard Harris a Richard Burton yn eu plith- yn adnabyddus am eu diota chwedlonol, cysgododd ei halcololiaeth hi ei gyrfa’n llwyr gan chwalu’i bywyd a’i dau briodas yn deilchion.

Diolch i sgript aml-haenog, gan Helen Griffin a Dave Ainsworth – a chyfarwyddo hynod gadarn Peter Doran, cawn fewnwelediad gwerthfawr i seicoleg bregus y Gymraes.

Cychwynnir â’r actores ynghwsg ar ei soffa wedi noson go hegar ar y lysh. Ymhen dim fe ddeallwn mai dyma’i chyfnod hwyr yn Hollywood, a thra’n ffefryn mawr gyda chyflwynwyr teledu, roedd yn persona non grata gyda’r A-List.

Pendilia’i chymeriad rhwng seren Hollywoodaidd ac ellyll o Lanelli; o’r bwystfil llawn bustl i’r divorcee trist, llawn cywilydd ac edifarhád.

Mae’n rhodd o gymeriad trasicomig i actores Gymreig, a does dim rhyfedd i Helen Griffin ddatblygu sioe yn ei chylch.

O’i giamocs gwallgo yng nghwmni sêr mwya’r byd- brathu coes Robert Mitchum, halio ci, a gwagio’r QE2, ymysg erchyllderau eraill- hyd at sgyrsiau personol gyda’i gwr a’i seiciatrydd; profwn haenau niferus i’r cymeriad cymhleth hwn, ac eglurhad o fath yn ei pherthynas â’i Mam.

Hoeliwyd fy sylw’n llwyr o’r cychwyn cynta, a ces fy nghyffwrdd i’r byw gan drychineb enbyd ei hanes. Ceisiodd bopeth i goncro’r clefyd mawr ond yn y diwedd roedd yn drech arni hi.

Bethbynnag wnewch chi dros y misoedd nesaf, mynnwch docyn i weld y cynhyrchiad caboledig hwn.

Bydd Who’s Afraid of Rachel Roberts ar daith ledled Cymru yn yr Hydref; Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth (Medi 13), Theatr  Borough, Y Fenni (Medi 14), Sherman Cymru, Caerdydd (Medi 17-21), Theatr y Grand, Abertawe (Medi 23), Neuadd Dwyfor Pwllheli (Medi 28) , Y Stiwt, Rhosllannerchrugog (Hydref 2) a Theatr y Savoy yn Aberhonddu (Hydref 4).

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Adolygiad, Dihangfa o'r Ddinas, Theatr. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

  1. Hysbysiad: Adolygiad Theatr: Sue – The Second Coming (Dafydd James & Co.) | Lowri Haf Cooke

  2. Hysbysiad: Adolygiad Theatr: Goreuon Gŵyl Caeredin 2015 | Lowri Haf Cooke

  3. Hysbysiad: Adolygiad Theatr: 10 Minute Musicals (leeway Productions) | Lowri Haf Cooke

  4. Hysbysiad: Adolygiad Theatr: Wonderman (National Theatre Wales a Gagglebabble) | Lowri Haf Cooke

  5. Hysbysiad: Adolygiad Theatr: The Good Earth (Motherlode Theatre) | Lowri Haf Cooke

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s