Adolygiad Ffilm: Ony God Forgives (18)

Only God Forgives Poster

Y Sêr: Ryan Gosling, Kristin Scott Thomas, Vithaya Pansringarm

Y Cyfarwyddo: Nicolas Winding Refn

Y Sgrifennu: Nicolas Winding Refn

Hyd: 90 mun

Ces fy synnu braidd wrth brynu tocyn i weld Only God Forgives, pan gyfeiriodd y ferch tu ol i’r til at natur ddadleuol y cynhyrchiad. “We had a few walk-outs last night, so be warned, it’s a very violent film.”

A minau’n gwybod hyn eisioes ers darllen adroddiadau Gwyl Cannes, ces fy nharo gan sylweddoliad rhyfeddol; oes na rai pobol yn mynd i’r sinema heb wybod dim byd am y ffilm?

Yn bersonol, mae’n gas gen i drais yn y sinema – dyna pam osgois Kick Ass 2 fel y pla. Roedd ffilm gynta’r gyfres honno yn atgas i mi, a’i hagwedd gartwnaidd at ladd yn gyfoglyd o ddi-hid.

Ond mae na drais ac mae na drais. Dydy Only God Forgives ddim yn ffilm i’r gwan galon, ond mae’n cynnig myfyrdod ar ddialedd, sydd – ar adegau – yn drawiadol tu hwnt.

Rydw i’n edmygwraig fawr o ffilm ddwetha’r cyfarwyddwr o Ddenmarc, Nicolas Winding Refn, sef Drive, ei thrac sain gan Cliff Martinez, a’i seren Ryan Gosling.

Mae union yr un criw ′nol am ffilm gwbl wahanol, ond un peth sy’n sicr, nid cynhyrchiad cyffredin mo hwn.

Dyw Only God Forgives ddim i’w gweld yn yr un Multiplex yng Nghymru; mae hi’n bôs o ffilm sy’n dwyn delweddau Kubrickaidd a chymeriadau David Lynch i gof.

Gosodir y ffilm yn isfyd Bangkok, lle mae Americanwr o’r enw Julian (Ryan Gosling) yn byw. Mae ef a’i frawd Billy yn llywio ymerodraeth cyffuriau dan gochl clwb bocsio Thai.

Caiff Billy ei arestio ar gychwyn y ffilm am ladd putain dan oed mewn gwaed oer. Ymateb yr heddlu yw i alw am ddyn o’r enw Chang (Vithaya Pansringarm)  i benderfynu beth fydd ffawd y llofrudd. Ei ymateb ef yw gwahodd tad y ferch i wneud beth a fynnai â Billy, cyn ei gosbi yntau am adael i’w ferch fynd yn butain.

Mae’r ffilm yn dilyn y gadwyn anochel o ddigwyddiadau sy’n dilyn y drosedd wreiddiol,  a hyn ar ffurf breuddwyd neon-neon. Y ddau wrthwynebydd- sy’n cwrdd yn ail hanner y ffilm- yw’r angel dialgar, Chang, sy’n ddiafol mewn croen, a Julian, sy’n llawn rhwystredigaethau.

Mae’r ddau, yn eu ffyrdd eu hunain, wedi’u parlysu gan drais; yn dawel, yn fud ond yn farwol.

I darfu ar heddwch eu zen zone nhw, daw hunllef o’r enw Crystal (Kristin Scott Thomas) i greu helbul. Hi yw mam Julian a Billy, sy’n deall dim ond drygioni, ac sy’n mynnu tarfu ar drefn naturiol rhagluniaeth. Mae ei phresenoldeb gwenwynig yn arwain at sefyllfa sy’n saith gwaith gwaeth na’r drosedd erchyll wreiddiol.

I ychwanegu at y swrealaeth sylweddol, ceir haenau pellach i’r pôs; delweddau crefyddol, ffantasîau rhywiol – a chanu karaoke.

Er y bu’n rhaid gorchuddio fy llygaid a nghlustiau mewn ambell fan, mae’r ffilm ar ei mwyaf pwerus wrth fygwth, nid dangos, trais. Ro’n i’n ymwybodol iawn mod i’n dal fy anadl ar hyd y ffilm, a’m dyrnau’n dynn ar gau.

Cyniga’r cyfarwyddwr, Nicolas Winding Refn, ddosbarth meistr mewn codi arswyd. Chwareir yn barhaol â chonfensiynau cyfarwydd, fel seiniau sinistr camau traed Chang.

Er gwell neu er gwaeth, dyma ffilm sydd yn herio’r gwyliwr, a’i ddychymyg di-ben-draw.

Mae gwylio’r ffilm yn brofiad synhwyrus iawn; mae wedi’i goleuo’n hardd – gosodwyd rhan fwyaf o’r golygfeydd fin nos – ac mae’r cyffyrddiadau celfyddydol yn gyfareddol o dlos. Creir naws hypnotig ar hyd y ffilm, a gyfoethogir gan berfformiadau sy’n hawlio’r sylw.

Er nad yw cymeriad Gosling prin yn yngan ′run gair, mae ei fyd yn fud o raid. Does dim geiriau all fynegi ei ddolur na’i ddicter, heb sôn am sesiwn therapi. Mae ei agwedd oeraidd at y ferch sy’n tanio ei serch yn gwneud synnwyr pan gyfarfuwn â’i fam.

Mae Kristin Scott Thomas yn ardderchog fel y ffieiddbeth honno, Crystal, y gwrthododd yr actores ei phortreadu yn wreiddiol. Wedi gyrfa faith o chwarae boneddigesau bregus, gwyrdroir ei gallu i gyfathrebu balchder yn llwyr; yma, o’n blaenau ceir anghenfil anwaraidd, sy’n croesi  Tony Montana â  Donatella Versace.

Ond presenoldeb mwyaf trydanol y ffilm ryfedd – a rhyfeddol – hon yw’r actor o wlad Thai, Vithaya Pansringarm, sy’n dwyn pob golygfa dan drwynau’r Gorllewinwyr. Yr awgrym a geir yw mai heddwas yw Chang; ef yn sicr yw’r Duw di-drugaredd sy’n hawlio’r teitl eironig.

Ceir cysylltiad rhwng Chang â psycho sinemataidd arall, sy’n allwedd posib i ddeall breuddwydlun brydferth Only God Forgives .

In Dreams gan Roy Orbison oedd sawdl Achilles Frank (Dennis Hopper)  yn Blue Velvet gan David Lynch. Mae’n gwneud synnwyr swreal ein bod yn gadael y ffilm â pherfformiad Chang o’r hwiangerdd Thai, You’re My Dream.

Y Sgôr terfynol* cookie_law_eucookie_law_eucookie_law_eubite- 010

*Mae’r sgôr yn seiliedig ar y system sêr, gyda 5 Cookie yn cynrhychioli’r marc gorau ac 1 Cookie yn cynrhychioli’r gwaethaf. Mae 3 Cookie a hanner yn cyfateb i 7 allan o 10.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Adolygiad, Ffilm. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s