Adolygiad Ffilm: About Time (12)

About Time

Y Sêr: Domhnall Gleeson, Rachel McAdams, Bill Nighy, Lindsay Duncan

Y Cyfarwyddo: Richard Curtis

Y Sgrifennu: Richard Curtis

Hyd: 123 mun

Byddaf yn adolygu About Time ar raglen Prynhawn Da ar S4C heddiw, dydd Gwener y 6ed o Fedi, 2013. Cliciwch yma i wylio eto.

Back To The Future, Bill & Ted’s Excellent Adventure a Hot Tub Time Machine. Beth sy’n gyffredin am y ffilmiau hyn oll? Y dynion yn unig gaiff deithio trwy amser.

I bob Peggy Sue Got Married a 13 Going on 30, ceir dwsinau o John Connors a Marty McFlys ar y sgrîn fawr – heb sôn am Doctor Who ar y teledu.

I blith y rhestr faith o bictwrs peiriant-amser daw ffilm ddiweddara Richard Curtis, About Time, ac unwaith eto, y seren gwrywaidd gaiff ddianc rhag realaeth dros dro.

I rwbio’r halen yn y briw, dyma’r drydedd ffilm o’i bath i’r seren fenywaidd- Rachel McAdams- berfformio ynddi, yn dilyn Midnight in Paris (2011) a The Time Traveller’s Wife (2009)- a chafodd hi ′run wibdaith yn y rheiny chwaith!

Mae’r fath gastio diog yn anfaddeuol, heb sôn am gamddefnydd o actores cystal. Yma, mae hi’n chwarae ail fanana eto fyth,  gyda dim byd i wneud ond gwenu’n ddel ac edrych yn hardd mewn dillad vintage.

Mi fydden i’n ddiogon bodlon i ddod â’r adolygiad hwn i ben fan hyn pe bai’r ffilm yn wirioneddol ofnadwy. Ond rhaid bod yn onest; mae gan About Time rhyw swyn i’m denu i’w hailasesu.

Er fod yr hysbysebion yn pwysleisio’r rhamant uwch-naturiol rhwng Sais o’r enw Tim (Domhnall Gleeson) ac Americanes o’r enw Mary (Rachel McAdams), y gwir amdani yw fod i’r ffilm elfen lawer iawn cryfach, sy’n dathlu perthynas fwy fyth.

Trwy drugaredd i’r gwylwyr, cyflwynir y gimmick gwyddonias yn syth, wrth i ni ddod i nabod teulu clos o Gernyw. Ag yntau’n un ar hugain oed, caiff y prif gymeriad Tim (Domhnal Gleeson) glywed gan ei dad (Bill Nighy) fod modd i ddynion y teulu deithio trwy amser.

Pwysleisir o’r cychwyn fod na derfynau pendant ar gallu hwn; gall Tim ddim ond teithio ′nol i gyfnod y mae esioes wedi’i brofi, ac am resymau arbennig yn unig. Gosodai Tim ei fryd ar gwrdd â chariad, ac o fewn dim, gwireddir ei freuddwyd.

Chwareir â’r ddyfais wrth gyfarfod â Mary (Rachel McAdams), gan sicrhau ei serch. Ceir meet-cute gwahanol, mewn bwyty i ddeillion, cyn ddaw’r troeon trwstan anochel.

Mae’n flin gen i ddweud i mi ffeindio’r stelcio siwgwrllyd sy’n arwain at ‘lwyddiant’ yn ddi-chwaeth a dweud y lleia. Afraid dweud, nid myfyrdod fetaffisegol annisgwyl o ddwys yn null Bill Murray yn Groundhog Day a geir gan Tim, wrth ganfod ei gymar.

Ond y rhan o’r ffilm sydd yn cynnig yr union elfen honno yw’r berthynas dyner rhwng rhiant a phlentyn. Mae’r cemeg rhwng Domhnall Gleeson a Bill Nighy fel y tad a’r mab yn sicr yn taro deuddeg. Ac wrth i’r ffilm anwastad neshau at ei diwedd, ceir troad torcalonnus yn y gynffon.

Fel ym mhob cynhyrchiad o eiddo Richard Curtis- prun ai fel awdur sgript ac/neu gyfarwyddwr – ceir haenen gref o hiwmor cwyrci, sy’n gweithio – ar y cyfan. O’r cymeriadau cynorthwyol cartwnaidd dros ben, i’r eiliadau mwyaf dirdynnol, does dim dwywaith mai ffilm ganddo ef yw hon.

A bethbynag ddwedwch chi am ei or-ddibyniaeth ar Hugh Grant, trodd at Bill Nighy (a gipiodd Love Actually dan drwyn Mr Grant) ar gyfer ei ffilm olaf, mae’n debyg, fel cyfarwyddwr.

Os am weld Domhnall Gleeson fel carwr caristmataidd, trowch at Anna Karenina ar unwaith. Ac os am ramant go iawn gyda Rachel McAdams, does dim cystadlu â weepie The Notebook.

Ond os am arian byw o gymeriad, sy’n ychwanegu gwefr annisgwyl, rhowch gynnig ar Bill Nighy yn About Time. Mae’n werth gweld y ffilm ar gyfer yr actor diymhongar hwn- mae’n benthyg gravitas i bob un golygfa.

Y Sgôr terfynol* cookie_law_eucookie_law_eucookie_law_eubite- 010

*Mae’r sgôr yn seiliedig ar y system sêr, gyda 5 Cookie yn cynrhychioli’r marc gorau ac 1 Cookie yn cynrhychioli’r gwaethaf. Mae 3 Cookie a hanner yn cyfateb i 7 allan o 10.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Adolygiad, Ffilm. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Un Ymateb i Adolygiad Ffilm: About Time (12)

  1. Hysbysiad: Adolygiad Ffilm: Le Week-end (15) | Lowri Haf Cooke

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s